Os ydych yn ystyried ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil yn yr Alban, ac nad ydych wedi cyflwyno’r papurau hyd yma, gallwch lunio cytundeb gwahanu. Bydd hwn yn nodi pwy fydd yn talu’r rhent neu forgais a biliau, nes byddwch yn penderfynu a ydych am symud ymlaen i gael ysgariad neu ddiddymiad.
Beth yw cytundeb gwahanu?
Mae cytundeb gwahanu ffurfiol (a elwir hefyd yn ‘gofnod o gytundeb’) yn ddogfen gyfreithiol rwym sy’n egluro’r hyn a gytunwyd rhwng cwpl sy’n gwahanu.
Cyn belled â’i fod wedi ei gofrestru, mae gan y cytundeb yr un grym â gorchymyn llys a ddefnyddir gan y llysoedd i ddatgan sut ddylai cwpl rannu eu heiddo a’u hasedau a gellir ei orfodi yn yr un modd.
Mae hyn yn golygu y gellir ei ddefnyddio gan gyplau sy’n gwahanu ond nad ydynt eisiau ysgaru neu ddiddymu eu partneriaeth sifil.
Gall ymdrin ag ystod o feysydd, yn cynnwys:
- pwy sy’n talu’r morgais neu rent, a biliau’r teulu
- beth sy’n digwydd i unrhyw ddyledion, fel benthyciadau neu orddrafft
- beth sy’n digwydd i gynilion, buddsoddiadau ac asedau ariannol eraill
- pwy sy’n parhau i fyw yng nghartref y teulu a/neu beth sy’n digwydd os bydd yn cael ei werthu
- beth sy’n digwydd i unrhyw eitemau fel ceir neu ddodrefn, yn arbennig rhai a brynwyd ar y cyd
- a oes taliadau yn cael eu gwneud i gefnogi un ohonoch a/neu unrhyw blant
- trefniadau gofal plant - gyda phwy y bydd unrhyw blant yn byw a hawliau rhieni.
Datgelu ariannol: bod yn agored am eich arian
Os nad ydych eisiau i’ch cofnod o gytundeb gael ei herio – er enghraifft, oherwydd nad yw’n deg neu’n rhesymol - mae’n rhaid i chi a’ch cyn-bartner (gŵr, gwraig neu bartner sifil) fod yn gwbl agored a gonest am eich materion ariannol.
Y ffordd honno bydd pob un ohonoch yn gwybod beth sydd gan y llall o ran:
- dyledion
- cynilion
- eiddo
- buddsoddiadau.
Y ffordd hynny, gallwch ill dau gytuno ar yr hyn yr ydych yn gyfrifol am ei dalu.
A ddylwn i gymryd cyngor cyfreithiol?
Nid oes rhaid i chi gael cyngor cyfreithiol wrth lunio cytundeb gwahanu, ond mae'n syniad da gwneud hynny.
Mae hynny oherwydd bod unrhyw beth rydych yn penderfynu ei gynnwys ynddo yn gyfreithiol rwymol. Ac ni fyddwch yn gallu newid eich meddwl ar ôl i chi gytuno iddo.
Mae’n arbennig o bwysig cymryd cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr os:
- yw’r gwahanu yn chwerw
- yw un ohonoch yn llawer cyfoethocach na’r llall, neu
- yw’ch cyn-bartner yn bwlio neu’n fygythiol ac yn eich rhoi dan bwysau i lofnodi’r cytundeb.
Os ydych ill dau eisoes wedi cytuno yr hyn y byddech yn hoffi ei gynnwys yn eich cytundeb gwahanu, dylai’r ddau ohonoch ofyn i’ch cyfreithwyr ei wirio a’i lunio fel dogfen gyfreithiol.
Pa bryd y gallaf ddefnyddio cytundeb gwahanu?
Gallwch ddefnyddio cofnod o gytundeb os ydych chi a’ch cyn-bartner yn ystyried cael ysgariad neu ddiddymu’ch partneriaeth sifil a:
- eich bod eisiau rhoi trefn ar eich materion ariannol heb ofyn i’r llys wneud hynny
- nad ydych yn gallu ysgaru na ddiddymu’ch partneriaeth sifil – er enghraifft, am resymau crefyddol ond eisiau cytuno pwy sy’n talu am rai pethau.
- rydych am aros cyn i chi fynd ymlaen ag ysgariad neu ddiddymiad, ond rydych ddatrys eich trefniadau cyllid a/neu ofal plant ar y cyd nawr.
A yw cytundeb gwahanu yn un y gellir ei orfodi dan y gyfraith?
Mae cytundebau gwahanu’n gyfreithiol rwym yn yr Alban a gellir eu gorfodi yn yr un modd â gorchymyn llys os cofrestrir y cytundeb.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi feddwl yn ofalus am yr hyn yr ydych yn cytuno iddo.
Mae'n bwysig eich bod chi a'ch cyn partner yn dod i gytundeb teg ynghylch:
- pwy sy’n talu’r morgais neu’r rhent a biliau
- a sut y byddwch yn delio ag asedau ariannol eraill neu ddyledion.
Ond ni ddylech gytuno ag unrhyw beth na allwch gadw ato.
Deall gwahanu cyfreithiol neu farnwrol
Mewn achosion prin, mae pobl nad ydynt eisiau ysgaru neu ddiddymu eu partneriaeth sifil, er enghraifft am resymau crefyddol, yn defnyddio ‘gwahanu barnwrol’ (a elwir hefyd yn ‘wahaniad cyfreithiol’).
Byddai’n rhaid i chi ymgeisio i’r llys am ‘archddyfarniad gwahanu’.
Serch hynny, ychydig iawn o bobl sy’n defnyddio hyn gan fod cytundebau gwahanu yn gyfreithiol rwym yn yr Alban.