Os ydych chi’n teithio yn y DU neu dramor, un o’ch pryderon fydd pa mor ddiogel yw’ch arian wrth archebu a beth allwch ei wneud os bydd eich gwyliau’n cael ei ganslo. Mae’r canllaw hwn yn ymdrin â’ch opsiynau.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Sut allwch chi amddiffyn eich hun wrth archebu gwyliau?
- Allai gael arian yn ôl gan fy narparwr teithio os ydynt yn canslo fy nhaith?
- Allai gael ad-daliad gan fy narparwr cerdyn credyd am wyliau sydd wedi’i ganslo?
- Gwneud cais ar eich yswiriant teithio
- Beth sy’n digwydd os yw fy narparwr gwyliau yn mynd i’r wal?
Sut allwch chi amddiffyn eich hun wrth archebu gwyliau?
Fel y gwelsom gyda'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol, neu'r toriadau pŵer yn Sbaen a Phortiwgal, gall teithio gael ei amharu am resymau y tu hwnt i reolaeth gweithredwyr gwyliau.
Cofiwch gyllidebu ar gyfer yswiriant
Trefnwch eich yswiriant teithio cyn gynted ag y byddwch yn archebu eich gwyliau fel eich bod wedi'ch diogelu ar unwaith os caiff eich hedfaniadau eu canslo neu os bydd eich sefyllfa'n newid.
Sut rydych chi'n prynu eich gwyliau
Cynlluniwch sut rydych chi'n mynd i dalu am eich gwyliau i elwa o amddiffyniad cyfreithiol y DU. Os ydych chi'n gwario rhwng £100 a £30,000 ac yn defnyddio'ch cerdyn credyd, dylech chi fod wedi'ch diogelu o dan Adran 75 o Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974. Mae hyn yn golygu, os bydd unrhyw beth yn mynd o'i le, bod gan eich darparwr cerdyn a'r manwerthwr gwyliau gyfrifoldeb am y pryniant, felly gallwch hawlio'ch arian yn ôl gan y naill neu'r llall.
Mae'r amddiffyniad hwn hefyd yn berthnasol i daliadau cerdyn credyd a wneir trwy Apple Pay neu Google Pay, (lle maen nhw wedi'u cysylltu â'ch cerdyn credyd) ac i bryniannau a wneir gyda Chredyd PayPal. Ond yn gyffredinol, ni fydd yn berthnasol os ydych chi'n talu trwy gyfrif PayPal sydd wedi mewngofnodi (hyd yn oed gan ddefnyddio cerdyn credyd), neu drwy waledi trydydd parti eraill sy'n torri'r cysylltiad uniongyrchol rhyngoch chi, cyhoeddwr y cerdyn a'r cyflenwr.
Ar gyfer taliadau cerdyn debyd, mae angen i chi ddefnyddio 'chargeback', rheol cynllun cerdyn yn hytrach na hawl gyfreithiol.
A allai bargen fod yn sgam?
Oedwch cyn i chi archebu rhywbeth sy'n edrych fel bargen anhygoel, mae sgamwyr yn targedu arian gwyliau hefyd. Mae gan Stop Fraud awgrymiadau ar sut i amddiffyn eich hunYn agor mewn ffenestr newydd Os ydych chi'n poeni eich bod chi eisoes wedi cael eich twyllo, dilynwch ein canllaw ar Beth i'w wneud os ydych chi wedi cael eich twyllo.
A yw'r cwmni wedi cofrestru ar gyfer amddiffyniad diwydiant?
Gwiriwch i weld a yw'r cwmni rydych chi'n archebu gydag ef wedi'i amddiffyn gan ABTAYn agor mewn ffenestr newydd neu ATOLYn agor mewn ffenestr newydd Sefydlwyd y cynlluniau hyn fel nad ydych chi'n colli arian nac yn methu dychwelyd o dramor os yw cwmni teithio yn mynd i’r wal. Mae ATOL yn cwmpasu gwyliau pecyn sy'n cynnwys hedfaniadau. Rhaid i gwmnïau yn y DU sy'n gwerthu'r rhain fod wedi'u hamddiffyn gan ATOL yn ôl y gyfraith. Mae ABTA ar gyfer gwyliau pecyn lle rydych chi'n teithio ar dir neu fôr ac nid ar awyrennau, e.e. teithiau coets, trên a mordaith.
Byddwch yn ofalus gyda'r hyn y mae'r diwydiant yn ei alw'n 'drefniadau teithio cysylltiedig' lle rydych chi'n prynu gwasanaeth gan un trefnydd teithiau ac yna'n cael eich annog i brynu un arall, ond nid yw eich gwybodaeth a'ch manylion talu yn cael eu trosglwyddo ymlaen. Mae gan Which? ganllaw i'ch gwahanol hawliau gyda gwyliau pecyn neu drefniant cysylltiedigYn agor mewn ffenestr newydd
Diogelwch, iechyd, pasbortau a fisâu
Mae'r llywodraeth yn darparu cyngor ar y risgiau y gallech eu hwynebu wrth deithio dramor i'ch helpu i benderfynu a yw'n ddiogel i chi fynd i le penodol. Mae'n bwysig gwirio hyn gan na fydd eich yswiriant teithio fel arfer yn eich cwmpasu os byddwch chi'n ymweld â rhywle y mae'r llywodraeth yn cynghori yn ei erbyn. Daliwch ati i wirio gan fod y wybodaeth yn cael ei diweddaru'n rheolaidd a gall y sefyllfa newid rhwng eich archeb a'ch ymadawiad.
Gweler y canllawiau diweddaraf ar gyfer lleoliadau ledled y bydYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK. Gallwch hefyd wirio a oes angen fisa neu frechiadauYn agor mewn ffenestr newydd arnoch.
Gwnewch gais am Gerdyn Yswiriant Iechyd Byd-eang (GHIC) am ddim i gael mynediad at ofal iechyd sy'n angenrheidiol yn feddygol dramor. Os oes gennych chi un eisoes, gwiriwch ei fod yn gyfredol o hyd. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y rheolau a sut i wneud caisYn agor mewn ffenestr newydd, drwy'r GIG.
Mae angen i'ch pasbort gyd-fynd â rheolau'r lle yr ydych chi'n ei ymweld. Mae gan Swyddfa'r Post ganllaw ar faint o amser y mae gwahanol wledydd yn dweud y dylid ei adael ar eich pasbortYn agor mewn ffenestr newydd er mwyn i chi allu mynd i mewn.
Mae System Mynediad/Allanfa (EES) yr Undeb Ewropeaidd (UE) wedi newid ac efallai y bydd angen i chi ganiatáu mwy o amser i groesi ffiniau nawr. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am deithio i wledydd yr UE a SchengenYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Allai gael arian yn ôl gan fy narparwr teithio os ydynt yn canslo fy nhaith?
Fel arfer, os caiff yr hedfaniad a archebwyd gennych ei ganslo, rhaid i'r cwmni hedfan eich cael i'ch pen siwrnai ar awyren arall neu roi ad-daliad i chi. Ar gyfer gwyliau pecyn, rhaid i chi hawlio'r ad-daliad hwn o fewn 14 diwrnod.
Os cewch eich oedi, efallai y bydd angen i'r cwmni hedfan ddarparu bwyd a llety mewn gwesty a elwir yn eich 'hawl i ofal'. Hyd yr oedi sy'n penderfynu a ydych chi'n gymwys. Cadwch dderbynebau os byddwch chi'n archebu rhywle eich hun. Mae rheoleiddiwr cwmnïau hedfan y DU, yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA), yn nodi eich hawliau pan fydd hedfaniadau'n cael eu gohirio.
Mewn rhai sefyllfaoedd sydd y tu hwnt i reolaeth cwmnïau hedfan, fel tywydd eithafol neu ddechrau rhyfel, nid oes rhaid iddynt gynnig iawndal. Gwiriwch eich yswiriant teithio am amodau fel hyn hefyd.
Cyn i chi hawlio ar eich yswiriant neu gysylltu â'ch cwmni cerdyn credyd ynghylch eich hawliau cyfreithiol, byddant yn disgwyl eich bod wedi ceisio cael ad-daliad gan eich darparwr teithio, felly cysylltwch â nhw yn gyntaf. Fel arfer dyma'r ffordd gyflymaf o gael ad-daliad a dylai ddigwydd heb yr un faint o ymdrech a phrawf ag y mae hawliadau eraill yn gofyn amdanynt.
Efallai y cynigir talebau neu nodyn credyd i chi a’r opsiwn i archebu hedfaniad neu wyliau arall. Ond gallai cymryd talebau neu nodyn credyd fod yn risg, gan eich bod yn annhebygol o allu eu defnyddio os bydd eich darparwr teithio yn mynd i’r wal.
Gall cymryd talebau hefyd effeithio ar ffyrdd eraill o hawlio os aiff pethau o chwith, megis trwy eich darparwr cerdyn credyd neu eich yswiriant teithio.
Mae'r aflonyddwch ar hedfaniadau yn 2026 ac ansicrwydd ynghylch effaith prisiau tanwydd ar wyliau yn golygu ei bod hi'n ddefnyddiol gwybod eich hawliau pan fydd cynlluniau teithio'n mynd o chwith. Gallwch ddilyn y diweddariadau diweddaraf ar Money Saving Expert
Os gwnaethoch chi archebu gyda chwmni teithio yn y DU, mae gennych chi hawl i ad-daliad arian parod fel arfer pan fyddan nhw'n canslo — does dim rhaid i chi dderbyn taleb na hail-archebu. I gwmnïau sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r DU, gallai eich hawliau fod yn wahanol, ac nid oes gwarant y byddwch chi'n cael ad-daliad arian parod.
Os yw’ch darparwr gwyliau yn gwrthod rhoi ad-daliad ac yn dweud wrthych am wneud cais ar eich yswiriant teithio neu gyda’ch cerdyn credyd yn lle, gwnewch yn siwr eich bod yn cael hyn yn ysgrifenedig. Bydd angen y cadarnhad hwn arnoch fel tystiolaeth i ddangos i’ch yswiriwr neu’ch darparwr cerdyn credyd.
Os na allwch gael ad-daliad gan eich darparwr teithio, efallai y byddwch chi’n gallu gwneud hawliad ar eich cerdyn credyd neu yswiriant teithio
Beth fydd yn digwydd os mai dim ond rhan o fy ngwyliau sydd wedi’i ganslo?
Os caiff rhan o’ch gwyliau ei ganslo ac ni chafodd ei archebu fel pecyn gwyliau, mae’n bosibl mai dim ond darparwr y rhan o’ch arhosiad sydd wedi’i ganslo fydd yn cynnig ad-daliad i chi.
Er enghraifft, os yw’ch cwmni hedfan wedi canslo’ch hedfaniad, ond bod eich trefniant gyda’r gwesty ar gael o hyd, dim ond ad-daliad o’r hedfaniad sydd wedi’i ganslo y bydd gennych hawl iddo.
Fodd bynnag, mae’n werth cysylltu â’r darparwr gwyliau ar gyfer y rhannau sydd heb eu canslo i weld a fyddant yn cynnig ad-daliad i chi cyn gwneud cais ar eich polisi yswiriant teithio.
Os yw’r darparwr teithio yn dal i gynnig eu gwasanaeth (er enghraifft, mae’r gwesty yn dal i gynnig llety i chi er gwaethaf y ffaith bod eich hedfaniad wedi’i ganslo), yna ni fydd gennych hawl i gael ad-daliad ac mae’n annhebygol y bydd gennych hawl i wneud cais ar eich cerdyn credyd [gweler isod].
Darganfyddwch ragor o help ynghylch gwneud cais am wyliau wedi'i ganslo os gwnaethoch ei archebu fel pecyn gwyliau
Allai gael ad-daliad gan fy narparwr cerdyn credyd am wyliau sydd wedi’i ganslo?
Os gwnaethoch archebu gwyliau neu hedfaniadau a gostiodd rhwng £100 a £30,000 a thalu naill ai blaendal neu’r pris llawn ar eich cerdyn credyd, efallai y gallwch wneud cais o dan ‘Adran 75’ o’r Ddeddf Credyd Defnyddiwr 1974. Mae hyn yn hawl gyfreithiol a’n berthnasol os bydd y cwmni hedfan neu’r cwmni gwyliau yn mynd i’r wal neu os yw’r gwyliau’n cael ei ganslo. Os na fydd neu na allai eich darparwr teithio roi ad-daliad i chi, rhowch gynnig ar hwn nesaf.
Beth sy’n cael ei gwmpasu:
- Cost eich hediadau os ydynt wedi’u canslo neu os yw’r cwmni hedfan yn mynd i’r wal.
- Cost eich gwyliau os yw wedi’i ganslo neu os bydd y cwmni gwyliau’n mynd i’r wal.
- Treuliau ychwanegol neu golled ganlyniadol - er enghraifft, pe bai’n rhaid i chi brynu hediadau drytach i gyrraedd adref ar ôl i gwmni hedfan fynd i’r wal.
Beth nad yw'n cael ei gwmpasu:
- Mewn rhai achosion, os ydych yn prynu taith ‘hedfaniad yn unig’ gan drydydd parti, fel asiant teithio, efallai na fyddwch yn gallu gwneud cais oherwydd bod y trydydd parti wedi’i gontractio i ddarparu’r tocynnau yn unig ac nid yr hedfaniad.
- Os na wnaethoch dalu’r darparwr teithio yn uniongyrchol gan ddefnyddio’ch cerdyn credyd - ond yn hytrach eu talu trwy drydydd parti fel gwefan cymharu teithio neu brosesydd talu trydydd parti fel PayPal, efallai na fydd gennych amddiffyniad Adran 75.
- Efallai na fydd pryniannau a wneir gan ddeiliaid cardiau ychwanegol yn cael eu cwmpasu, oni bai bod y tocyn wedi’i prynu ar ran prif ddeiliad y cerdyn
- Mae’n anhebygol y byddwch chi’n cael unrhyw gostau nad oedd yn rhaid i chi eu hysgwyddo - er enghraifft, pe byddech wedi penderfynu estyn eich arhosiad ar ôl i’r cwmni hedfan fynd i’r wal (yn hirach nag yr oedd angen i chi ei wneud).
- Os oes unrhyw ran o'ch gwyliau rydych chi'n gwneud cais amdani nad yw amgylchiadau eithriadol fel pandemig yn effeithio'n uniongyrchol arno, er enghraifft, os gwnaethoch chi dalu am eich hedfaniadau a'ch gwesty ar wahân, a bod yr hedfaniad wedi'i ganslo (gan eich atal rhag cyrraedd y gwesty), yna efallai y bydd hawliad adran 75 yn bosibl am yr hedfaniad. Ond os yw'r archeb gwesty ar gael o hyd, hyd yn oed pe byddech chi'n cael anhawster yn teithio iddo, yna mae'n annhebygol y cewch eich cwmpasu gan adran 75 am gost y gwesty.
- Hyd yn oed os yw’r aflonyddwch y tu allan i reolaeth y cwmni hedfan, fel tywydd eithafol, dylech gael cynnig ad-daliad neu hedfaniad arall o hyd – ond efallai na fyddwch chi’n cael iawndal.
- Os gwnaethoch chi archebu'r daith drwy ddefnyddio taleb gan eich darparwr teithio ar gyfer archeb a ganslwyd yn gynharach, mae'n annhebygol y byddwch chi’n gallu hawlio o dan Adran 75.
Beth os wyf wedi archebu ar gerdyn debyd neu nid oes gennyf gais dilys o dan Adran 75?
Os gwnaethoch dalu gyda’ch cerdyn debyd (neu gerdyn rhagdaledig) neu os oedd yn archeb cerdyn credyd nad oedd wedi’i gwmpasu gan reolau Adran 75 yna efallai y byddwch yn dal i allu cael ad-daliad o dan y cynllun ‘chargeback’.
I gael help i wneud eich cais, gweler ein canllaw Sut mae chargeback a diogelwch adran 75 yn gweithio ar gyfer eich cerdyn credyd a debyd
Gwneud cais ar eich yswiriant teithio
Mae polisïau yswiriant teithio yn amrywio ac mae faint y bydden nhw’n ei dalu yn dibynnu ar eich polisi. Ond bydd y mwyafrif yn eich gwarchod os ydych wedi colli arian ar ôl i’ch gwyliau gael ei ganslo, gan gynnwys oherwydd amgylchiadau eithafol fel pandemig. Fel yswiriant car neu gartref efallai bydd gennych tâl-dros-ben. Er enghraifft, os yw’ch gwyliau’n costio £500 ac rydych wedi cytuno i dâl-dros-ben o £100, byddwch yn cael £400 fel ad-daliad.
Os ydych yn gwneud cais oherwydd bod eich gwyliau wedi’i ganslo yna bydd eich yswiriwr teithio fel arfer yn disgwyl i chi fod wedi ceisio cael ad-daliad yn gyntaf gan eich cwmni hedfan, darparwr llety neu gwmni gwyliau.
Siopwch o gwmpas, pan fyddwch yn archebu eich yswiriant teithio gan fod polisïau’n cynnig amddiffyniadau gwahanol. Gweler ein canllawiau ar beth mae yswiriant teithio fel arfer yn cwmpasu a pha olwg sydd ar bolisi da. Gwiriwch unrhyw ‘atodiadau’ yn ofalus - mae’r manylion yn wirioneddol bwysig pan fydd angen i chi wneud cais.
Gweler yr adran uchod am fwy o wybodaeth ar gael ad-daliad gan eich gwmni gwyliau.
Os gwnaethoch dalu am eich gwyliau gyda cherdyn credyd neu ddebyd, gallai rhai yswirwyr teithio ofyn i chi wneud cais am ad-daliad gyda’ch darparwr cerdyn cyn gwneud cais yswiriant.
Gallai gwneud cais gyda’ch darparwr cerdyn credyd olygu eich bod chi’n cael mwy o’ch arian yn ôl. Yn wahanol i yswiriant, ni fydd cais gyda’ch darparwr cerdyn credyd o dan Adran 75 yn gofyn am daliad ‘gormodol’ (lle mae’n rhaid i chi dalu rhan gyntaf unrhyw gais) na chyfyngu’ch cais (cyhyd â bod y swm a daloch yn is na £30,000).
Byddwch chi’n gallu cael arian yn ôl ar gyfer unrhyw un rydych hefyd wedi archebu drostynt ar eich cerdyn nad oes yswiriant teithio eu hun ganddynt neu nad yw’n cael eu cwmpasu gan eich polisi.
Gweler uchod am fwy o wybodaeth ar wneud cais am ad-daliad gyda’ch darparwr cerdyn.
Beth sy’n digwydd os yw fy narparwr gwyliau yn mynd i’r wal?
Os ydych yn archebu pecyn gwyliau gyda cwmni o’r DU (ble rydych yn prynu sawl rhan o wyliau, er enghraifft, hedfaniadau a gwesty, gan un cwmni neu wefan, mewn un tro) yna ni fyddwch yn colli arian cyn belled bod y cwmni wedi cael ei amddiffyn gan ATOL.
Mae ATOL yn gynllun sy’n cael ei redeg gan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA). Mae’r amddiffyniad hwn yn cwmpasu’r arian rydych wedi ei dalu i gwmni teithio am unrhyw becyn gwyliau sy’n cynnwys hedfan. Nid yw pecynnau heb hedfaniadau fel arfer wedi’u cwmpasu gan y cynllun ATOL.
Yn gyffredinol, ni fydd hedfaniadau a archebir yn uniongyrchol gyda chwmni hedfan a rhai archebion hedfan yn unig gyda’ch trefnydd teithiau yn cael eu hamddiffyn oni bai eich bod wedi derbyn tystysgrif amddiffyniad ATOL gyda’ch archeb.
Darganfyddwch fwy am wneud cais gan y CAAYn agor mewn ffenestr newydd
Beth os nad oedd fy ngwyliau wedi’i amddiffyn gan ATOL?
Os gwnaethoch archebu gwyliau ‘DIY’, neu os nad yw’n cwmni sydd wedi’i leoli yn y DU, mae’n debyg na fydd gennych amddiffyniad ATOL.
Yn anffodus, efallai na fydd eich polisi yswiriant teithio yn eich gwarchod os bydd eich darparwr gwyliau yn mynd i’r wal, ond mae’n werth gwirio telerau eich yswiriant o hyd.
Fodd bynnag, os gwnaethoch dalu am eich gwyliau gyda cherdyn credyd yna efallai y gallwch gael eich arian yn ôl gan ddarparwr eich cerdyn.