Yswiriant car wrth yrru dramor

Os ydych yn mynd â’ch car eich hunan dramor neu’n hurio car ar ôl cyrraedd, mae’n rhaid ichi gael yswiriant. Ond byddwch yn ofalus,  mae’n rhwydd gwario gormod ar sicrwydd hurio car diangen a gall y tâl dros ben fod yn uchel iawn. Darganfyddwch sut i osgoi'r peryglon a chael bargen addas.

A yw fy nghar wedi’i yswirio dramor?

Os ydych chi'n preswylio yn yr UE, byddai'ch yswiriant cerbyd arferol yn rhoi'r gofyniad cyfreithiol lleiaf i chi ym mhob gwlad yn awtomatig.

Ond nawr mae'r DU wedi gadael yr UE, ers 1 Ionawr 2021 bydd angen dogfennaeth ychwanegol arnoch i yrru dramor. I yrru yn yr UE a'r AEE (Ardal Economaidd Ewropeaidd) o'r dyddiad hwnnw, byddwch angen:

  • eich trwydded yrru a'ch dogfennau cofrestru cerbyd (V5C) os ydych yn mynd â’ch car eich hun
  • trwydded Yrru Ryngwladol (IDP) i yrru mewn rhai o wledydd yr UE a'r AEE - gellir prynu hwn gan Swyddfa'r Post am £5.50
  • prawf o yswiriant, fel ‘cerdyn gwyrdd’.

Mae ‘cerdyn gwyrdd’ yn dystysgrif sy’n profi bod gennych yswiriant modur wrth yrru dramor. 

Dylech wneud cais am un os ydych chi'n bwriadu gyrru yn yr UE a'r AEE, gan gynnwys yng Ngweriniaeth Iwerddon. 

I gael cerdyn gwyrdd, gofynnwch i'ch darparwr yswiriant - cyhyd â bod y polisi'n eich gwarchod chi i yrru yn y gwledydd rydych chi'n mynd iddyn nhw. Ond cynlluniwch ymlaen llaw, oherwydd gall gymryd sawl wythnos i ddod drwyddo. Efallai bydd tâl bychan hefyd. 

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon

Mae'r uchod yn dal i fod yn berthnasol - ers mis Ionawr 2021, mae angen i yrwyr yng Ngogledd Iwerddon bellach gario cerdyn gwyrdd yswiriant wrth yrru dros y ffin i Weriniaeth Iwerddon (yn ogystal â gweddill yr UE). Mae hyn oni bai bod cytundeb i'r gwrthwyneb.

Pa yswiriant byddaf ei angen pan yn hurio car dramor

Gwnewch yn siŵr bod y dogfennau cywir gennych

Ers mis Ionawr 2021, efallai y bydd angen Trwydded Yrru Ryngwladol (IDP) arnoch - yn ogystal â'ch trwydded yrru yn y DU - i yrru yn Ewrop. Mae'r drwydded sydd ei hangen arnoch yn dibynnu ar ba wlad rydych yn ymweld â hi a pha mor hir rydych yn aros.

Fodd bynnag, does dim angen cerdyn gwyrdd arnoch os ydych yn hurio car o fewn yr UE. 

Gwiriwch beth a gynhwysir wrth hurio’r car

Yn dibynnu ar y wlad rydych yn teithio iddi, efallai y bydd y gyfraith yn mynnu bod tri math o yswiriant sylfaenol gennych ac fel arfer fe’u cynhwysir yng nghostau a chontract hurio’r car:

  • sicrwydd ar gyfer lladrad y cerbyd – a elwir hefyd yn ‘ddiogeliad lladrad’ neu ‘ sicrwydd lladrad cerbyd’
  • sicrwydd ar gyfer difrod i’r cerbyd – a elwir hefyd yn ‘hawlildiad difrod trwy wrthdrawiad’, ‘hawlildiad tâl dros ben am ddifrod’ neu ‘sicrwydd difrod i gerbyd’
  • sicrwydd ar gyfer anaf neu ddifrod i eiddo a ddioddefir gan drydydd parti – a elwir hefyd yn ‘sicrwydd trydydd parti’ neu ‘atebolrwydd atodol’

Mynd i’r afael â rhag-awdurdodi cerdyn credyd

Pan lofnodwch gytundeb hurio car, fel arfer mae’n cynnwys awdurdodiad i’r cwmni hurio godi tâl ar eich cerdyn credyd ar gyfer eitemau ychwanegol.

Dyma pam bod rhaid ichi ddangos eich cerdyn credyd wrth y ddesg wrth gasglu’ch car fel arfer.

Gall y cwmni hurio gymryd taliad o’ch cerdyn heb ddweud wrthych na chael eich caniatâd.

Yn ddamcaniaethol, gallai cwmni hurio godi tâl arnoch am y sicrwydd ‘tâl dros ben’ llawn ar gyfer difrod bychan i’r car hyd yn oed.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r car yn drwyadl gan gofnodi pob crafiad a marc. Pan ewch â’r car yn ôl gwnewch yn siŵr bod y cwmni hurio’n llofnodi a chofnodi pob marc fel bod y ddau ohonoch yn cytuno ar gyflwr y car wrth ei ddychwelyd.

Darllenwch y print man

Darllenwch yr holl delerau ac amodau ar-lein cyn ichi brynu. Er mai dim ond wrth y ddesg y bydd y dogfennau i gyd ar gael ar brydiau wrth ichi fynd i gasglu’r car.

Gwiriwch fod gennych sicrwydd ar gyfer milltiroedd dyddiol diderfyn os ydych yn teithio am bellter hir - er enghraifft yn Awstralia.

Gwiriwch eich cyfriflen cerdyn credyd ar ddiwedd eich teithio i sicrhau nad oes taliadau twyllodrus. Os oes unrhyw daliadau rydych am eu herio rhowch wybod amdanynt i’r cwmni hurio a darparwr eich cerdyn credyd ill dau - a fydd yn helpu i ddatrys hyn ichi

Cadwch lygaid ar y tâl dros ben ar eich yswiriant hurio car

Mae’r mwyafrif o gwmnïau’n codi tâl dros ben uchel iawn - rhwng £500 a £1,500. O bosibl gallent godi symiau mawr iawn arnoch ar gyfer crafiadau bach hyd yn oed.

Ystyried prynu yswiriant tâl dros ben fel na fyddwch yn talu tâl dros ben

Fe allech chi eich diogelu’ch hunan trwy brynu yswiriant ad-dalu tâl dros ben Mae hyn yn eich  galluogi i hawlio’ch tâl dros ben yn ôl - os codwyd y tâl. Gelwir hyn hefyd yn yswiriant llogi ceir annibynnol.

Mae’r sicrwydd hwn yn cynnwys pethau nas cynhwysir fel arfer mewn unrhyw yswiriant atodol, er enghraifft difrod i’r teiars neu allweddau coll. Ond ni allwch ei gael ar gyfer cerbydau rhwysgfawr na faniau gwersylla.

Mae dau fath o sicrwydd:

  • polisi dyddiol, sy’n dechrau ar oddeutu £3
  • polisi blynyddol o oddeutu £39 - yn aml yn werth da am bythefnos neu fwy.

Peidiwch â phrynu ‘yswiriant atodol’ gan y cwmni hurio ceir

Bydd eich cwmni hurio ceir yn ceisio gwerthu yswiriant atodol ichi  – sy’n lleihau eich tâl dros ben i sero. Adnebir hyn hefyd fel ‘hawlildiad difrod gwrthdrawiad mawr’, ‘sicrwydd tynadwy’ neu ‘sicrwydd di-hawlildiad’

Mae’r yswiriant atodol hwn yn ddrud iawn  - oddeutu £10 y dydd.

Gall fod yn werth gwael am arian ond bydd yn osgoi unrhyw ddadleuon pan ddychwelwch y cerbyd gan y dylai unrhyw ddifrod gael ei warchod fel mater o drefn gan eu polisi eu hunain.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.