Bydd angen i chi gyllidebu ar gyfer archwiliadau, ymweliadau hylendid a thriniaeth annisgwyl, hyd yn oed gyda gofal deintyddol da. Mae deintyddion y GIG yn rhatach ond yn anodd eu cyrchu mewn llawer o ardaloedd. Mae'r canllaw hwn yn esbonio pryd y gallai yswiriant deintyddol neu gynllun talu helpu, beth maen nhw'n ei gwmpasu, a beth i'w wirio cyn i chi brynu.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth mae yswiriant deintyddol yn ei gynnig?
- Pryd bydd angen yswiriant deintyddol arnaf?
- Beth sydd angen i chi ei wybod am yswiriant deintyddol
- Faint mae yswiriant deintyddol yn ei gostio?
- Sut i gael yswiriant deintyddol
- Beth sydd angen i chi ei wybod am gynlluniau talu deintydd
- Faint mae cynllun talu deintydd yn ei gostio?
Beth mae yswiriant deintyddol yn ei gynnig?
Os gallwch gofrestru gyda deintydd y GIG, byddwch yn gallu cael mynediad at rai triniaethau am gost is, neu hyd yn oed am ddim. Ond gan fod lleoedd cleifion y GIG yn gyfyngedig, efallai y cewch eich gorfodi i fynd yn breifat tra byddwch ar restr aros.
Mae talu'n breifat yn aml yn ddrud. Mae yswiriant deintyddol yn un ffordd o ledaenu'r gost i'w gwneud yn fwy fforddiadwy.
Mae yna dwy ffordd o wneud hyn:
| Polisïau yswiriant deintyddol | Taliad deintyddol neu gynlluniau ‘capitation’ |
|---|---|
|
Rydych chi'n talu'ch deintydd am y driniaeth rydych chi'n ei dderbyn ac yna'n hawlio'r gost yn ôl gan yr yswiriwr. |
Rydych chi'n lledaenu cost y driniaeth dros gyfnod penodol o amser, fel arfer yn talu swm misol rheolaidd. |
Pryd bydd angen yswiriant deintyddol arnaf?
Os yw eich dannedd chi’n iach a’ch bod ond wir yn ymweld â’r deintydd ar gyfer gwiriadau blynyddol, gallech chi fod yn talu am yswiriant nad ydych yn ei ddefnyddio’n aml.
Fodd bynnag, efallai y byddwch am gymryd yswiriant o hyd – efallai oherwydd bod yr opsiwn o ofal brys yn rhoi tawelwch meddwl i chi.
Os na allwch ddod o hyd i ddeintydd y GIG, neu os ydych chi eisiau defnyddio deintydd preifat, gallai yswiriant deintyddol helpu.
Yn yr un modd, os nad yw'ch iechyd deintyddol yn wych ac mae angen triniaeth rheolaidd arnoch, gallai yswiriant fod yn ffordd gost-effeithiol o dalu amdano.
Dau beth pwysig i'w gwybod:
- Efallai na fydd unrhyw gyflyrau sy'n bodoli eisoes – fel gwaith deintyddol sydd angen ei wneud neu broblem barhaus – yn cael eu cynnwys yn yr yswiriant; felly, gwiriwch yn gyntaf a siopwch o gwmpas.
- Yn aml, mae gan gwmnïau yswiriant gyfnodau aros penodol cyn y gallwch wneud eich hawliad cyntaf. Felly, os ydych chi'n penderfynu cael yswiriant, peidiwch ag aros nes bod eich dannedd yn brifo; cynlluniwch ymlaen llaw.
Mae rhai pobl yn dewis 'hunan-yswirio' trwy roi cynilion o'r neilltu i dalu costau deintyddol. Mae hyn yn gweithio dim ond os oes gennych ddannedd da ac nad oes angen mynd i fewn i'ch cynilion yn aml. Meddyliwch a allwch chi gynilo digon i dalu biliau os oeddech mewn damwain ac angen llawer o waith wedi'i wneud yn gyflym. Gweler ein canllaw ar sut i fynd i mewn i'r arfer o gynilo.
Cyngor y GIG yw gwneud popeth y gallwch i ofalu am eich dannedd a'ch deintgigYn agor mewn ffenestr newydd a lleihau costau deintyddol dros eich oes. Er bod triniaeth y GIG wedi'i gapio ac fel arfer yn llawer rhatach na mynd yn breifat, fel arfer mae'n rhaid i chi dalu amdano.
Efallai y bydd yn rhaid i chi aros yn hirach nag y byddech chi am driniaeth breifat.
Mae costau’r GIG yn amrywio ledled y DU:
- Darganfyddwch am gostau a thriniaeth ddeintyddol am ddim yng NghymruYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan 111 y GIG Cymru.
- Darganfyddwch a oes hawl gennych i ofal deintyddol am ddim yn LloegrYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan y GIG.
- Darganfyddwch beth allech ei dalu am driniaeth ddeintyddol yn yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Llywodraeth yr Alban.
- Darganfyddwch am gostau triniaeth ddeintyddol yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Business Services Organisation.
Dod o hyd i ddeintydd y GIG:
- Darganfod deintydd y GIG yng NghymruYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan 111 y GIG Cymru.
- Darganfod deintydd y GIG yn LloegrYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan y GIG.
- Darganfod deintydd yn yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan NHS Inform.
- Darganfod deintydd y Gwasanaeth Iechyd yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Business Services Organisation.
Beth sydd angen i chi ei wybod am yswiriant deintyddol
- Mae polisïau yswiriant deintyddol yn yswirio archwiliadau cyffredin, yn ogystal â chostau pob gwaith deintyddol. Mae hyn yn cynnwys damweiniau ac argyfyngau deintyddol.
- Yn aml, gallwch gael y gwaith wedi’i wneud mewn clinig y GIG neu glinig preifat.
- Os ydych yn defnyddio deintydd y GIG, rydych yn fwy tebygol o gael 100% o gost eich triniaeth yn ôl.
- Os na allwch weld deintydd y GIG, dim ond canran o gostau eich triniaeth y byddwch yn cael yn ôl.
- Byddwch chi fel arfer yn talu’r deintydd yn gyntaf, yna’n hawlo’ch arian yn ôl. Os brynoch chi’r yswiriant gan eich deintydd, efallai eu bod yn ei hawlio’n uniongyrchol fel na fydd angen i chi dalu o flaen llaw. Cofiwch, gallwch fel arfer ond dechrau hawlio rhwng un a phedwar mis ar ôl i chi brynu’r yswiriant.
- Gallai fod tâl dros ben gennych i’w dalu o hyd ar gyfer triniaethau drud, gwiriwch eich polisi.
- Fel arfer, mae yna derfynau blynyddol am faint y gallwch ei hawlio am driniaethau penodol.
- Os nad ydych wedi bod at y deintydd yn y 12 mis diwethaf, efallai na fydd eich polisi’n talu am driniaeth a nodir yn eich archwiliad cyntaf.
- Ar y cyfan, nid yw gwaith deintyddol cosmetig, fel gwynnu dannedd, yn cael ei gynnwys..
- Mae gan y rhan fwyaf o bolisïau ofyniad oedran sy’n dechrau o 18 oed - er bod rhai’n dechrau yn 6 oed.
- Mae rhai polisïau yn cynnig disgownt os na wnewch gais ar yr yswiriant. Felly bydd cost eich premiwm yn cynyddu os byddwch yn gwneud cais am unrhyw beth oni bai am archwiliad safonol.
Faint mae yswiriant deintyddol yn ei gostio?
Gall yswiriant deintyddol gostio rhwng £70 a £300 y flwyddyn, gyda’r swm yn amrywio rhwng yswirwyr a pholisïau gwahanol.
Mae llawer yn cynnig lefelau gwahanol o yswiriant - o ofal rheolaidd sylfaenol hyd at gynlluniau triniaeth helaeth. Felly gallwch ddewis faint rydych am ei wario a’r math o yswiriant sydd ei angen arnoch.
Er enghraifft, gallai polisi rhatach dalu allan 50% o’r driniaeth a gewch a/neu fod â therfyn buddion is i bob cyflwr y flwyddyn. Er enghraifft hyd at £500 am waith sianel y gwreiddyn mewn un flwyddyn
Hyd yn oed os oes gennych yswiriant bydd yn rhaid i chi dalu am ran o’r driniaeth, ac mae terfyn ar faint o arian y cewch ei hawlio’n ôl ar gyfer pob cynllun triniaeth. Er enghraifft, efallai y telir i chi ganran - o 50 i 70% - o’r ffi a godir gan eich deintydd am driniaeth ddeintyddol gywirol. Er bod rhai polisïau’n ad-dalu 100% o’r ffi am driniaeth y GIG.
Sut i gael yswiriant deintyddol
Mae cwmnïau'n aml yn cynnig cynlluniau deintyddol fel rhan o'u pecynnau buddion gweithwyr, fel trwy eu hyswiriant meddygol preifat.
Mae rhai cyflogwyr yn sefydlu'r polisi i chi ac yn talu'r holl bremiymau fel rhan o'u pecyn, gan gynnig lefelau amrywiol o yswiriant.
Mae eraill yn cynnig gostyngiadau i weithwyr sy'n defnyddio deintydd sy'n dod o dan eu cynllun.
Os nad oes gennych fynediad at yswiriant meddygol preifat trwy gyflogwr, gallwch ei brynu gan:
- yswiriwr
- eich deintydd
- brocer
- ymgynghorydd ariannol
- banc
- cymdeithas adeiladu
- manwerthwr, fel archfarchnad.
Gallwch hefyd siopa o gwmpas am yswiriant gan ddefnyddio gwefannau cymharu - lle cyfeirir ato'n aml fel yswiriant iechyd.
- Mae gan Which tabl cymharu defnyddiolYn agor mewn ffenestr newydd
- Mae Money Saving Expert yn rhestru ystod o gynlluniau gofal iechydYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy gweler:
Beth sydd angen i chi ei wybod am gynlluniau talu deintydd
Mae’r cynlluniau hyn yn lledaenu cost eich gofal deintyddol dros flwyddyn. Gelwir nhw weithiau’n cynlluniau ‘capitation’.
Gallwch gofrestru am driniaeth ar wahanol lefelau. Er enghraifft:
- Mae lefel un yn cynnwys gofal cyffredin fel archwiliadau, digennu a llathru, pelydrau X a llenwadau.
- Bydd lefel dau hefyd yn cynnwys triniaeth adfer – fel coronau a llenwadau sianel y gwreiddyn.
Ceir hefyd gynlluniau hyblyg yn arbennig i blant a chynlluniau sy’n cynnwys yswiriant am anafiadau deintyddol ac argyfyngau deintyddol dros y byd i gyd.
Mae'r cyfartaledd cost misol yr un faint â'r polisïau yswiriant deintyddol drytach. Os yw'ch dannedd mewn cyflwr da, mae'n debyg eich bod yn well eich byd ar y GIG.
Gyda chynllun deintydd, rydych ynghlwm i ddeintydd penodol. Ni fydd cyfeirio at arbenigwr , fel orthodeintydd, yn cael ei gynnwys.
Os ydych yn newid deintydd – pan rydych yn symud i ardal newydd, er enghraifft – efallai byddwch angen dechrau’r broses eto. Mae hyn yn golygu efallai bydd y swm rydych yn ei dalu yn cynyddu.
Faint mae cynllun talu deintydd yn ei gostio?
Mae hynny’n dibynnu ar y cynllun a ddewiswch ac ar iechyd eich ceg.
Mae’ch deintydd yn archwilio’ch dannedd ac yn gosod eich ffi fisol yn briodol.
Os byddwch yn dewis cynllun cynhwysfawr, bydd eich deintydd yn eich archwilio. Yn dibynnu ar yr amser, y gofal a’r driniaeth y bydd eu hangen arnoch dros y flwyddyn – bydd yn eich rhoi mewn band gyda ffi osodedig.
Gallech symud i fyny neu i lawr rhwng bandiau ffi os bydd iechyd eich ceg yn gwella neu’n gwaethygu. Efallai y byddwch hefyd yn gorfod talu ffi ymuno.
Am eich bod yn talu’r deintydd yn uniongyrchol, cofiwch y gallai prisiau amrywio’n helaeth rhwng y deintyddion.