Mae’r rhan fwyaf o breswylwyr y DU yn gallu cael gofal iechyd am ddim gan y GIG. Ond mae llawer o bobl hefyd yn cymryd yswiriant meddygol preifat, sy’n cwmpasu costau triniaeth gan ddarparwyr gofal meddygol preifat. Darganfyddwch sut mae cael yswiriant meddygol preifat yn gweithio, pan allai fod yn addas, y manteision a’r anfanteision, ac ychydig o bethau cyn i chi ei wneud.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth mae’n ei wneud
- Beth mae’n ei gynnwys?
- Beth sydd ddim yn cael ei gynnwys?
- Sut wyf yn dewis cynllun yswiriant meddygol preifat?
- A oes angen yswiriant meddygol preifat arnoch?
- Manteision ac anfanteision yswiriant meddygol preifat
- Dewisiadau eraill os ydych am fynd yn breifat
- Pum peth i feddwl amdanynt wrth brynu yswiriant meddygol preifat
- Mathau eraill o yswiriant i’w hystyried
Beth mae’n ei wneud
Mae yswiriant meddygol preifat - a elwir hefyd yn 'yswiriant iechyd preifat' – yn talu rhywfaint neu gyfan o'ch biliau meddygol os cewch eich trin yn breifat.
Mae’n rhoi i chi ddewis lefel y gofal a gewch a sut a phryd mae’n cael ei ddarparu.
Os nad ydych am ddefnyddio’r GIG, gall fod yn ddrud iawn i gael triniaeth breifat heb yswiriant - yn enwedig am gyflyrau difrifol.
Beth mae’n ei gynnwys?
Fel pob math o yswiriant, mae’r diogelwch a gewch gan yswiriant meddygol preifat yn dibynnu ar y polisi a brynwch a gan bwy y prynwch.
Mae’r polisïau mwy sylfaenol fel arfer yn talu am y rhan fwyaf o driniaethau cleifion mewnol – fel profion a llawfeddygaeth - a llawfeddygaeth gofal dydd.
Mae rhai polisïau yn estyn i driniaethau cleifion allanol – fel arbenigwyr ac ymgynghorwyr - ac efallai byddant yn talu swm sefydlog bach ichi am bob noson a dreuliwch mewn ysbyty GIG.
Beth sydd ddim yn cael ei gynnwys?
Ni fydd eich yswiriant fel arfer yn cynnwys triniaeth breifat ar gyfer:
- trawsblaniadau organ
- cyflyrau meddygol sydd gennych eisoes
- costau beichiogrwydd a geni arferol
- llawdriniaeth gosmetig i wella’ch golwg
- anafiadau mewn perthynas â chwaraeon peryglus neu sy’n deillio o ryfel neu elyniaeth sy’n debyg i ryfel
- afiechydon cronig fel afiechydon cysylltiedig â HIV/AIDS, diabetes, epilepsi, gorbwysedd ac afiechydon cysylltiedig
Efallai y byddwch yn gallu dewis polisi sy’n cynnwys iechyd meddwl, iselder ac anafiadau chwaraeon ond nid yw’r rhain yn cael eu cynnwys bob tro.
Sut wyf yn dewis cynllun yswiriant meddygol preifat?
Gall yswiriant meddygol preifat fod ar gael i gyflogai fel rhan o becyn buddion cwmni.
Mae rhai cyflogwyr yn sefydlu’r polisi ar eich cyfer ac yn talu’r holl bremiymau fel rhan o’u pecyn. Mae eraill yn cynnig mynediad at yswiriant meddygol preifat cost is nag y gallech ei brynu fel unigolyn.
Os nad oes gennych fynediad at yswiriant meddygol preifat trwy gyflogwr, gallwch ei brynu gan:
- yswiriwr
- brocer
- ymgynghorydd ariannol
- banc
- cymdeithas adeiladu
- manwerthwr – fel archfarchnad.
Gallwch edrych o gwmpas hefyd gan ddefnyddio gwefannau cymharu – lle elwir yn aml yswiriant iechyd.
Dewch o hyd i frocer yswiriant meddygol ar wefan AMII
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Sut i brynu yswiriant gan ddefnyddio safleoedd cymharu
Dewis cynghorydd ariannol
A oes angen yswiriant meddygol preifat arnoch?
Mae’n ddewis personol i raddau helaeth. Cewch driniaeth am ddim ar y GIG, felly nid oes gwir angen yswiriant meddygol preifat arnoch heblaw:
- Byddai’n well gennych beidio ag aros am driniaeth y GIG.
- Nad ydych eisiau defnyddio’r GIG ac y byddai’n well gennych ddefnyddio ysbytai preifat lle bo hynny’n bosibl.
- Eich bod am gael eich yswirio am gyffuriau a thriniaeth na allwch eu cael ar y GIG, megis llawdriniaeth arbenigol ar gyfer anafiadau chwaraeon - holwch a ydy’r driniaeth yn cael ei chynnwys yn eich polisi cyn ichi brynu.
Pwy sydd ddim angen yswiriant meddygol preifat?
Nid oes angen yswiriant meddygol preifat arnoch:
- Os ydych yn fodlon dibynnu ar y GIG am eich gofal.
- Os oes gennych yswiriant meddygol eisoes drwy’ch pecyn buddion cyflogai.
- Os ydych yn poeni y bydd eich plentyn yn mynd yn sâl – mae plant yn cael triniaeth â blaenoriaeth ar unwaith ar y GIG.
- Os nad oes gennych arian sbâr heblaw am yswiriant sylfaenol, fel yswiriant car a chartref - ac yswiriant bywyd os oes dibynyddion gennych.
- Os oes gennych ddyledion i’w had-dalu a dim cynilion – dylech roi’ch arian tuag at y rheini, yn lle yswiriant meddygol preifat.
- Os gallwch dalu am driniaethau unigol – os oes gennych ddigon o gynilion, gall fod yn fwy cost-effeithiol talu am unrhyw driniaeth y bydd ei hangen arnoch yn breifat yn lle talu premiymau yswiriant rheolaidd.
Manteision ac anfanteision yswiriant meddygol preifat
Manteision
-
Atgyfeiriadau arbenigol. Gallwch ofyn i’ch meddyg teulu eich cyfeirio at arbenigwr sy’n gweithio’n breifat i gael ail farn neu driniaeth arbenigol.
-
Cael y sganiau rydych eu hangen. Os bydd y GIG yn oedi sgan, neu’n gwrthod rhoi un ichi, gallwch ddefnyddio’ch yswiriant i dalu amdano.
-
Lleihau’r amser aros. Gallwch ddefnyddio eich yswiriant i leihau’r amser a dreuliwch yn aros am driniaeth GIG, os oes rhaid i chi aros mwy na chwe wythnos.
-
Dewis eich llawfeddyg a’ch ysbyty. Gallwch (mewn egwyddor) ddewis llawfeddyg ac ysbyty sy’n addas i’ch amser a’ch lle – nid yw hynny’n bosibl ar y GIG.
-
Cael ystafell breifat. Rydych yn fwy tebygol i gael ystafell breifat, yn hytrach nag aros mewn ward agored a allai gynnwys dynion a menywod.
-
Efallai bydd cyffuriau a thriniaethau arbenigol ar gael. Nid yw rhai cyffuriau a thriniaethau arbenigol ar gael ar y GIG am eu bod yn rhy ddrud neu am nad yw’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) yng Nghymru a Lloegr neu Scottish Medicines Consortium (SMC) wedi’u cymeradwyo.
-
Ffisiotherapi. Gallwch gael at sesiynau ffisiotherapi yn gyflymach os oes gennych yswiriant nag y byddech drwy driniaeth y GIG.
Anfanteision
-
Mae’n bosibl y cewch well ofal ar y GIG. Os oes gennych salwch difrifol fel canser, clefyd y galon neu strôc, cewch driniaeth â blaenoriaeth ar y GIG. Gall ysbytai’r GIG fod cystal ag ysbytai preifat neu’n well.
-
Mae’n ddrud – a bydd y pris yn codi. Gall premiwm teulu nodweddiadol (dau oedolyn yn eu 40au a dau o blant dan 10) amrywio o £700 i £1,800 y flwyddyn. Bydd premiymau’n codi bob blwyddyn, a chydag oed – felly erbyn i chi heneiddio, a’i bod yn fwy tebygol y bydd angen triniaeth arnoch, mae’n bosibl na fyddwch yn medru fforddio’r premiymau.
-
Nid yw afiechydon cronig yn cael eu cynnwys fel arfer. Nid yw’r rhan fwyaf o bolisïau’n cynnwys afiechydon cronig nad oes modd eu gwella, fel diabetes a rhai mathau o ganser
-
Nid yw cyflyrau iechyd sydd eisoes gennych yn cael eu cynnwys fel arfer. Efallai gallwch eu hychwanegu at y polisi, ond mae hyn yn debygol o wthio’r pris i fyny
-
Efallai na fydd unrhyw ddewisiadau triniaeth yn lleol. Os dewiswch bolisi gyda rhestr gymeradwy o ymgynghorwyr ac ysbytai, efallai na fydd hynny’n cynnwys yr ymgynghorydd arbenigol yr ydych am ei weld neu leoliad cyfleus am driniaeth.
Yswiriant meddygol preifat a choronafeirws
Ad-dalodd llawer o yswirwyr meddygol preifat bolisïau ar ôl i driniaeth feddygol ddod yn anodd cael gafael arni oherwydd coronafeirws. Gyda’r GIG yn defnyddio cyfleusterau meddygol preifat i gynyddu capasiti yn ystod cyfnodau prysurach,stopiywd bron pob gwaith preifat am amser.
O ganlyniad, ad-dalodd neu ataliodd llawer o yswirwyr bremiymau. Dywedodd y rhai nad oeddent yn ei wneud y byddent yn adolygu’r sefyllfa yn 2021, pan ddaw effaith y pandemig yn gliriach.
Dewisiadau eraill os ydych am fynd yn breifat
- Defnyddio cynilion ar gyfer y cyfan neu ran o’ch costau meddygol – mae rhyw un o bob pum claf preifat yn gwneud hyn. Mae llawdriniaeth i gael clun neu ben-glin newydd yn costio £10,000 yr un ar gyfartaledd, ac mae sganiau MRI yn costio o £500. Gallwch chwilio am y fargen orau o ran prisiau sgan – gall eich meddyg teulu eich helpu i wneud hyn.
- Talu am ymgynghoriad preifat yn unig os ydych am gael barn arbenigwr neu ail farn. Wedyn, os oes angen, bydd eich ymgynghorydd yn eich cyfeirio’n ôl at y GIG am driniaeth.
Pum peth i feddwl amdanynt wrth brynu yswiriant meddygol preifat
1. Cael cyngor
Mae yna lawer o ddewis yn y farchnad, a gall diogelu amrwyio’n sylweddol rhwng gwahanol ddarparwyr. Felly mae’n werth siarad ag ymgynghorydd ariannol neu frocer i’ch helpu gael yr hyn sydd ei angen arnoch.
2. Sut allwch chi leihau cost yswiriant meddygol preifat?
Mae yna sawl ffordd i docio’r gost. Er enghraifft, mae rhai polisïau’n cynnig diogelwch gostyngedig sydd ond yn cychwyn pan na all y GIG ddarparu’r driniaeth rydych ei heisiau o fewn cyfnod penodol o amser. Efallai gallwch ostwng y pris trwy gael gwared ar elfennau – a elwir yn aml yn ‘fodiwlau’ – nid oes eu hangen arnoch chi.
3. A yw’n werth newid?
Yn yr un modd â’r mwyafrif o bolisïau yswiriant, mae’n werth edrych o gwmpas am fargen well. Ond cymerwch ofal cyn gwneud unrhyw benderfyniadau. Bydd eich lefel risg yn cynyddu gyda’ch oedran ac efallai eich bod wedi datblygu cyflyrau meddygol ers cymryd eich polisi cyfredol. Felly gallai fod yn anodd cael yr un diogelwch rhywle arall.
4. Byddwch yn onest am eich hanes meddygol
Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd yr yswiriwr yn gwirio’ch hanes meddygol. Os nad ydych wedi ateb yn wir neu’n gywir yn eich cais, neu os nad ydych wedi datgelu rhywbeth, efallai bydd eich cais yn cael ei wrthod neu eich polisi ei ganslo.
5. Darllenwch y print mân
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod yn union beth sy’n cael ei ddiogelu ac nad yw’n cael ei ddiogelu, a oes cyfyngiadau ar gostau triniaeth neu driniaethau cyffuriau a ddefnyddir a gwiriwch a oes opsiwn gormodol a gostyngiad dim hawliad. Os ydych chi’n gweld rhywbeth nad ydy chi’n ei ddeall, gofynnwch i’r yswiriwr, brocer yswiriant neu gynghorydd ariannol.
Mathau eraill o yswiriant i’w hystyried
Os byddwch yn mynd yn sâl neu’n cael damwain ac yn methu gweithio, gall fod yn anodd ichi gadw i fyny â’ch taliadau morgais neu ymdopi â’r biliau – yn enwedig os nad oes gennych ddigon o gynilion neu dâl salwch gan eich cyflogwr.
Dylech roi blaenoriaeth i yswiriant sy’n eich cadw allan o anhawster ariannol fel yswiriant diogelu incwm.