Faint yw costau deintyddol y GIG?
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
05 Ebrill 2024
Gall taith i'r deintydd deimlo ychydig fel taith i'r anhysbys. Nid ydych yn siŵr beth allai fod o'i le, hyd yn oed os yw popeth yn teimlo'n iawn, ac yna nid ydych yn gwybod y costau chwaith, sy'n ddannoedd ychwanegol!
Wel, gallwn ni helpu gyda’r rhan prisiau, felly dyma faint fyddwch chi’n ei dalu i’r GIG am y triniaethau deintyddol mwyaf poblogaidd.
Sut mae costau deintyddion y GIG yn gweithio: Bandio
Pan fyddwch yn cael triniaeth gan eich deintydd GIG, bydd yn perthyn i un o dri band. Y pethau symlaf, fel archwiliad, fydd Band 1. Bydd gwaith deintyddol cymedrol fel llenwadau yn perthyn i Fand 2. Mae'r band olaf, Band 3, wedi'i gadw ar gyfer y gwaith mwyaf cymhleth, fel pontydd. Dyma gost bandiau GIG:
Band GIG | Pris |
---|---|
Band 1 |
£26.80 |
Band 2 |
£73.50 |
Band 3 |
£319.10 |
Yng Nghymru mae’r costau’n llai – Mae Band 1 yn £.20, Band 2 yn £60 a Band 3 yn £260.
Cael gwerth eich arian gyda bandio
driniaeth, er enghraifft, tri llenwad, dim ond unwaith y byddwch yn talu ffi Band 2Yn agor mewn ffenestr newydd
Hefyd, byddwch dim ond yn talu am y band uchaf mae'r gwaith yn cael ei wneud o danYn agor mewn ffenestr newydd Felly, os oes gennych archwiliad ac mae’ch deintydd yn dweud bod angen llenwad arnoch chi ond ni ellir ei wneud tan yr wythnos nesaf, ni fyddwch yn talu ar gyfer triniaeth Band 1 a Band 2 – byddwch yn talu am archwiliad Band 1 ar £26.80 ac yna byddwch yn talu £46.70 ar ôl eich llenwad.
Y cyfanswm fydd £73.50, yr un peth â thâl Band 2, oherwydd bod y gwaith yn cael ei gwblhau o dan ‘un cwrs o driniaeth’.
Efallai y cewch gynnig gwasanaeth hefyd lle gallwch gael rhywfaint o waith y GIG, ac yna talu ychydig yn ychwanegol i gael rhywfaint o waith preifat.
Felly, os ydych chi'n cael archwiliad gan y GIG, a bod angen llenwad arnoch chi. Mae'n dant cefn felly gallwch gael llenwad metel ar y GIG, ond fe allech chi uwchraddio i lenwad gwyn. Byddwch yn talu ychydig yn fwy na Band 2, ond mae cost y llenwad gwyn a’r archwiliad yn cael eu cyfuno i mewn i un – ni fyddech yn talu am archwiliad yn ogystal â llenwad gwyn.
Gwarant GIG
Os aiff rhywbeth o'i le gyda rhywfaint o waith deintyddol a wneir gan y GIG o fewn 12 mis, dylai gael ei gynnwys gan warant y GIG.
Mae hynny'n golygu y gallwch fynd yn ôl a chael un newydd yn ei le am ddim, heb dalu eto. Er, sicrhewch eich bod yn mynd yn ôl at yr un deintydd.
Nid yw llawer o bobl yn gwybod hyn. Felly, peidiwch â bod ofn mynd yn ôl at eich deintydd os nad yw rhywbeth yn teimlo'n iawn neu os yw wedi torri neu gracio. Efallai y bydd yn cael ei drwsio neu ei ddisodli am ddim.
Darganfyddwch fwy am yr hyn sydd wedi’i gynnwys yn Warant y GIGYn agor mewn ffenestr newydd
Faint mae mewnblaniadau deintyddol yn ei gostio?
Mae mewnblaniad deintyddol yn ddant ffug sy'n cael ei sgriwio i'r ên. Mae'n disodli dannedd sydd wedi'u difrodi'n ddrwg neu ar goll.
Mae mewnblaniadau deintyddol ar gael ar y GIG dim ond os oes angen meddygol am y driniaeth.
Os na allwch wisgo dannedd gosod neu ddannedd ffug, efallai oherwydd bod eich wyneb neu ddannedd wedi’u difrodi, er enghraifft gan ganser y geg neu ddamwain, efallai y byddwch yn gallu cael mewnblaniad ar y GIG.
Mae'n bosibl y bydd pobl sy'n cael eu geni â gwefus neu daflod hollt neu ddannedd coll hefyd yn gallu cael mewnblaniadau deintyddol gan y GIG.
Darganfyddwch a yw mewnblaniadau deintyddol yn cael eu hystyried yn feddygol angenrheidiolYn agor mewn ffenestr newydd ac a fyddant am ddim.
Faint mae coronau deintyddol yn ei gostio?
Mae coronau deintyddol yn weithdrefn eithaf cymhleth. Bydd eu hangen arnoch os yw'r dant wedi'i ddifrodi'n eithaf gwael ac yn aml ar ôl gweithdrefnau fel sianel y gwreiddyn. Mae’r dant yn cael ei siapio ac mae gorchudd siâp dant caled yn cael ei smentio’n barhaol i’r dant.
Band 3 yw coron deintyddol ar y GIG, felly mae'n costio £319.10. Bydd y math o goron y byddwch chi’n gallu ei chael yn dibynnu ar ba ddant sy’n cael ei drin a beth sydd orau ym marn eich deintydd.
Os yw'n dant blaen, byddwch chi'n gallu cael coron wen, wedi'i gwneud o resin neu borslen yn ôl pob tebyg.
Os yw'n goron dant cefn, dim ond dant metel y byddwch chi'n gallu ei gael ar y GIG, na fydd yn wyn. Bydd coronau deintyddol gwyn ar gyfer dannedd cefn yn dechrau ar tua £450 ac i fyny yn breifat.
Faint mae triniaeth sianel y gwreiddyn yn ei gostio?
Mae angen sianel y gwreiddyn pan fydd eich dant yn pydru'n ddwfn iawn y tu mewn iddo. Mae’n weithdrefn eithaf technegol ond mae’n dod o dan Band 2 gwaith deintyddol y GIG, sef £73.50.
Pe baech yn mynd yn breifat, byddai sianel y greiddyn yn aml yn costio rhwng £250 a £320Yn agor mewn ffenestr newydd ond byddai'n dibynnu ar ba ddant y mae angen gweithio arno.
Faint mae llenwad GIG yn ei gostio?
Mae’r llenwadau yn £73.50 oherwydd eu bod yn dod o dan ffioedd Band 2 y GIG.
Yn debyg i goronau, fe gewch chi lenwadau gwyn ar gyfer dannedd blaen, ond dim ond llenwadau amalgam (metel) ar gyfer eich dannedd cefn.
Os ydych chi eisiau llenwad gwyn (cyfansawdd) ar gyfer dannedd cefn yn breifat, bydd yn costio rhwng £100 a £180Yn agor mewn ffenestr newydd yn dibynnu ar ba ddannedd sydd angen eu llenwi.
Faint mae tynnu dant yn ei gostio?
Mae tynnu dant yn costio ffi Band 2 o £73.50 i chi ar y GIG.
Wedi'i wneud yn breifat, byddech chi'n edrych ar rhwng £120 a £280Yn agor mewn ffenestr newydd i gael tynnu dant gyda thynnu dannedd cefn a dannedd doethineb y drutaf.
Faint yw archwiliad deintyddol?
Bydd eich ymweliad deintyddol GIG bob amser yn cynnwys y ffi archwiliad, sef ffi Band 1 o £26.80.
Mae archwiliadau preifat yn amrywio o £40-£75Yn agor mewn ffenestr newydd
Cost cyfartalog dannedd gosod
Mae dannedd gosod – neu ddannedd ffug – yn eithaf cymhleth, felly mae’r gwaith wedi’i gynnwys yn ychydig o fandiau gwahanol.
Mae cael dannedd gosod wedi'u creu a'u gosod yn driniaeth Band 3, felly mae'n costio £319.10.
Os mai dim ond addasiad i ddannedd gosod sydd eisoes yn bodoli sydd ei angen arnoch, mae wedi’i gynnwys ym Mand 1 ac mae’n £26.80.
Os oes angen ychwanegu rhywbeth at eich dannedd gosod, fel dant newydd neu glasp, mae hynny’n ffi Band 2 o £73.50.
Mae ail-leinio neu ailosod dannedd gosod hefyd yn £70.70 (Band 2).
Pe baech yn cael dannedd gosod yn breifat, byddai'n costio rhwng £400 a £1,050Yn agor mewn ffenestr newydd yn dibynnu ar y deunyddiau a ddefnyddir, nifer y dannedd sydd ar goll ac iechyd eich dannedd presennol.
Faint mae pont ddeintyddol yn ei gostio?
Defnyddir pontydd yn aml ar gyfer disodli nifer o ddannedd coll ond gellir eu defnyddio hefyd i ddisodli un dant. Maent yn dod o dan driniaeth Band 3, felly ar y GIG maent yn costio £319.10.
Yn breifat, mae pont ddeintyddol yn ddrud iawn. Fel dannedd gosod, gallant gostio rhwng £400 a £1,050Yn agor mewn ffenestr newydd
Opens in a new window
Faint mae dannedd ffug yn ei gostio?
Cyfeirir at ddannedd ffug yn gyffredinol fel dannedd gosod. Mae cael dannedd gosod wedi'i restru uchod, a'r gwaith cychwynnol fydd £319.10 (Band 3). Fel arfer bydd ychwanegiadau dilynol neu ailweithio yn waith Band 2 (£73.50).
Costau hylenydd deintyddol a gwynnu dannedd
Mae gwaith hylenydd deintyddol fel digennu a llathru yn bwysig iawn i gadw deintgig a dannedd yn iach.
Mae glanhau safonol wedi’i gynnwys ym Mand 1 am £26.80. Mae glanhau dwfn mwy trylwyr yn cael ei symud i Fand 2 (£73.50).
Yn breifat bydd digennu a llathru yn costio rhywle rhwng £90 a £130Yn agor mewn ffenestr newydd
Ni chynigir gwynnu dannedd ar y GIG.
Faint mae argaenau'n ei gostio?
Dim ond os oes angen clinigol y mae argaenau deintyddol ar gael ar y GIG. Mae hyn yn golygu y byddai angen iddynt wella iechyd eich ceg, nid dim ond gwella edrychiad eich dannedd.
Gan fod argaenau yn orchudd ar gyfer blaen neu gefn dant, mae'n eithaf prin eu cael ar y GIG.
Os oes angen argaenau arnoch, byddai'r GIG yn gwneud y gwaith o dan ffi triniaeth Band 3 sef £319.10.
Cymhwysedd ar gyfer triniaeth ddeintyddol am ddim
Gallwch gael gofal deintyddol am ddim os ydych:
- dan 18 oed
- dan 19 oed mewn addysg amser llawn
- yn feichiog neu wedi rhoi genedigaeth o fewn y 12 mis diwethaf
- aros mewn ysbyty GIG ac mae deintydd ysbyty yn cynnal eich triniaeth
- claf allanol deintyddol y GIG – er efallai y bydd angen talu ffi am rywfaint o waith.
Os byddwch chi neu’ch priod neu bartner sifil yn derbyn un o’r canlynol, byddwch hefyd yn cael triniaeth ddeintyddol GIG am ddim. Os ydych o dan 20 oed ac yn ddibynnydd i rywun sy’n cael un o’r isod, byddwch hefyd yn cael triniaeth am ddim:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Credyd Gwarant Credyd Pensiwn
- Credyd Cynhwysol a’n cwrdd â'r cymhwyster gofynnolYn agor mewn ffenestr newydd
Yng Nghymru, mae archwiliadau deintyddol hefyd am ddim os:
- Rydych chi o dan 25 oed
- Rydych chi'n 60 oed neu'n hŷn
Darganfyddwch fwy ar wefan NHS.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Tystysgrifau eithrio'r GIG
Efallai y byddwch yn gymwys i gael amrywiaeth o dystysgrifau GIG, ond dim ond rhai fydd yn rhoi triniaeth ddeintyddol GIG am ddim i chi. Dyna yw:
Tystysgrif eithrio credyd treth y GIG
Mae tystysgrif eithrio credyd treth y GIG yn eich gwneud yn gymwys i gael gwaith deintyddol GIG am ddim. I fod yn gymwys mae angen i incwm eich cartref fod yn £15,276 neu lai, ac mae'n rhaid i chi fod yn derbyn Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant wedi'i dalu gyda'i gilydd, neu Gredyd Treth Gwaith gan gynnwys yr elfen anabledd neu anabledd difrifol.
Darganfyddwch fwy a gwiriwch eich cymhwysedd ar gyfer tystysgrif eithrio credyd treth y GIGYn agor mewn ffenestr newydd
Tystysgrif eithrio mamolaeth
Os ydych wedi rhoi genedigaeth yn y 12 mis diwethaf, neu’n feichiog ar hyn o bryd, gallwch gael tystysgrif eithrio Mamolaeth. Mae hyn yn rhoi triniaeth am ddim i chi gan ddeintydd y GIG.
Ni fydd eich eithriad yn dod i ben tan flwyddyn ar ôl eich dyddiad geni, neu enedigaeth eich babi, yn dibynnu ar ba un sydd hwyraf.
Darganfyddwch fwy am y dystysgrif eithrio MamolaethYn agor mewn ffenestr newydd
Cynllun Incwm Isel y GIG: Tystysgrifau HC2 a HC3
Mae Cynllun Incwm Isel y GIG (LIS) yn cynnig help i dalu am ffioedd deintyddion y GIG. Mae union faint o gymorth rydych yn gymwys i’w gael yn dibynnu ar incwm eich cartref. Bydd gan eich partner hawl i help hefyd os ydych yn gymwys.
I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, mae angen i chi gael llai na £16,000 mewn cynilion, buddsoddiadau neu eiddo, nad yw’n cynnwys y lle rydych yn byw ynddo ar hyn o bryd. Neu, os ydych yn byw mewn cartref gofal, dim mwy na £23,250 (£24,000 os ydych yn byw yng Nghymru).
Yn dibynnu ar eich sefyllfa ariannol, byddwch yn cael un o ddwy dystysgrif:
- Os cewch dystysgrif HC2Yn agor mewn ffenestr newydd, byddwch yn cael cymorth llawn gyda chost unrhyw waith deintyddol sydd ei angen arnoch.
- Os cewch dystysgrif HC3Yn agor mewn ffenestr newydd, ychydig o help a gewch gyda chost eich triniaeth ddeintyddol.
Darganfyddwch fwy am Gynllun Incwm Isel y GIGYn agor mewn ffenestr newydd
Hawlio costau deintyddol yn ôl
talu taliadau deintyddol y GIG o fewn y tri mis diwethaf, gallwch hawlio ad-daliadYn agor mewn ffenestr newydd am y swm a dalwyd gennych.
I hawlio taliadau deintyddol y GIG yn ôl, bydd angen i chi gwblhau:
- Ffurflen HC5(D)Yn agor mewn ffenestr newydd os ydych yn byw yn Lloegr
- Ffurflen HC5Yn agor mewn ffenestr newydd os ydych yn byw yn yr Alban
- Ffurflen HC5W(DYn agor mewn ffenestr newydd) os ydych yn byw yng Nghymru.
Taliadau cosb y GIG
Os byddwch yn hawlio triniaeth ddeintyddol am ddim neu am gost is ond nad ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd a amlinellir uchod, anfonir Hysbysiad Tâl Cosb y GIG atoch. Mae'r rhain yn gofyn i chi ad-dalu cost y driniaeth yn ogystal â thâl cosb o hyd at £100.
Darganfyddwch fwy am daliadau cosb y GIGYn agor mewn ffenestr newydd
Ydy pensiynwyr yn cael triniaeth ddeintyddol am ddim?
Mae angen i bobl dros 60 oed, neu’r rhai dros oedran pensiwn, fodloni’r meini prawf uchod i fod yn gymwys i gael triniaeth ddeintyddol am ddim gan y GIG, oni bai eich bod yn byw yng Nghymru. Yng Nghymru, mae pobl dros 60 oed yn cael archwiliadau deintyddol am ddim. Nid oes triniaeth ddeintyddol am ddim yn benodol ar gyfer pobl dros 60 oed neu’r rhai sydd wedi ymddeol ac yn cymryd pensiwn.
Ydy myfyrwyr yn cael gofal deintyddol am ddim?
Yn dibynnu ar eich oedran, efallai y cewch ofal deintyddol am ddim.
Os ydych o dan 18 oed, byddwch yn cael triniaeth ddeintyddol GIG am ddim. Os ydych o dan 19 oed ac mewn addysg amser llawn, byddwch hefyd yn cael triniaeth am ddim gan ddeintydd y GIG.
Os ydych chi’n hŷn, dim ond os ydych chi’n bodloni un o’r meini prawf uchod y byddwch chi’n gymwys i gael triniaeth ddeintyddol a delir gan y GIG.
Help gyda chostau deintyddol
Os ydych chi’n cael trafferth talu am gostau deintyddol ac nad ydych chi’n gymwys i gael triniaeth am ddim neu gostau is, mae rhai pethau eraill y gallwch chi eu gwneud.
Gofynnwch i’ch deintydd GIG a fydd yn caniatáu i chi dalu mewn rhandaliadauYn agor mewn ffenestr newydd Bydd rhai yn gallu sefydlu cynllun talu i’ch galluogi i ledaenu’r gost dros nifer o fisoedd.
Gallwch hefyd gael rhyw fath o fenthyciad deintyddol a elwir yn ‘gynllun y pen’. Mae cynlluniau fel Denplan, DPAS neu Practice Plan ar gael a gallant eich helpu i fforddio triniaeth trwy adael i chi dalu'r costau yn ôl dros amser.
Gallwch hefyd feddwl am gael yswiriant deintyddol os ydych yn gwybod y gallai eich dannedd fod yn broblem yn y dyfodol neu os ydych yn poeni am sut y byddwch yn talu am waith deintyddol helaeth.
Gall polisïau dalu am eich holl waith, ond yn aml mae terfyn blynyddol, ac fel arfer mae'n rhaid i chi dalu'r deintydd ac yna hawlio'r gost yn ôl ar eich polisi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Oes angen yswiriant deintyddol arnoch chi?
Sut alla i ddod o hyd i ddeintydd GIG?
Os nad ydych eisoes wedi cofrestru gyda deintydd GIG, dylech wirio rhestr y GIG o ddeintyddion ar eu gwefanYn agor mewn ffenestr newydd Dylai nodi o dan bob rhestr a yw'r practis yn derbyn cleifion GIG newydd. Mae rhai deintyddion ond yn derbyn plant fel cleifion GIG newydd.
Dylech gysylltu’n uniongyrchol â’r deintydd rydych yn ei ddewis i sicrhau ei fod yn derbyn cleifion y GIG. Pan fyddant yn eich cofrestru fel claf newydd, byddant yn eich gwahodd i ddod i mewn am archwiliad, sef triniaeth Band 1.
Cyhoeddwyd gyntaf: 29 Mehefin 2021