Os codwyd tâl arnoch am fethu taliadau cerdyn credyd neu eu talu’n hwyr, neu am fynd dros derfyn eich cerdyn credyd, efallai y gallwch hawlio rhywfaint o arian yn ôl. Darganfyddwch sut.
Eich hawl i adennill
Gall gerdyn credyd fod yn ffordd ddefnyddiol i’ch helpu i reoli eich arian. Ond os wnewch gamgymeriad fel arfer byddwch yn wynebu ffioedd, a all fod yn ddrud.
Fel arfer gall cwmni cerdyn credyd godi ffi diffygdalu o hyd at £12 pob tro rydych yn:
- gwario mwy na’r terfyn credyd y cytunwyd iddo
- methu ad-daliad, neu’n talu’n hwyr
- ceisio gwneud ad-daliad ond nad oes digon o arian yn eich cyfrif.
Fodd bynnag, os ydych yn meddwl rydych wedi cael ffi ar gam, roedd y ffioedd yn rhy uchel neu os oeddech yn cael problemau arian, efallai gallwch adennill rhywfaint neu’r arian i gyd.
Sut i adennill
Dilynwch y tri cham hwn:
1. Cyfrifo faint a godwyd arnoch
Os ydych yn defnyddio bancio ar-lein efallai y gallwch edrych yn ôl dros eich datganiadau i weld beth a godwyd arnoch.
Os yw'r wybodaeth yn anghyflawn neu ni allwch ei chael fel hyn, cysylltwch â darparwr y cerdyn i ofyn am restr o'r holl daliadau a gymerwyd o'ch cyfrif yn ystod y chwe blynedd diwethaf. Mae'n bwysig peidio â gofyn am ddatganiadau cardiau credyd, oherwydd gallai gostio llawer mwy am y wybodaeth.
O dan delerau'r Ddeddf Diogelu Data, mae’n rhaid i ddarparwyr cardiau ymateb o fewn mis. Os na wnânt, gallwch gwyno i'r Comisiynydd GwybodaethYn agor mewn ffenestr newydd
2. Cwyno i'ch darparwr cerdyn
Pan fydd gennych restr o'r taliadau, cysylltwch â darparwr eich cerdyn i esbonio:
- faint rydych yn hawlio amdano
- unrhyw anawsterau roeddech yn eu cael a sut y cyfrannodd y taliadau at eich anawsterau
- pam rydych yn meddwl bod y taliadau'n rhy uchel neu’n anghywir.
3. Ystyried ymateb darparwr y cerdyn
Os yw'ch darparwr yn gwneud cynnig, penderfynwch a ydych yn meddwl ei fod yn deg yn seiliedig ar faint rydych yn teimlo y cyfrannodd y taliadau at eich anawsterau a'ch pryder. Gallwch naill ai dderbyn hwn neu ofyn am swm uwch.
Os ydynt yn ymateb gyda chwestiynau pellach, sicrhewch eich bod yn eu hateb mor llwyr a gonest â phosibl ac arhoswch am yr ymateb nesaf.
Os gwrthodant eich cais ar unrhyw adeg, gallwch gwyno i’r Gwasanaeth Ombwdsmon AriannolYn agor mewn ffenestr newydd am ddim. Os ydynt yn credu eich bod wedi cael eich trin yn annheg, byddant yn gofyn i’r darparwr cerdyn credyd rhoi ad-daliad rhannol neu llawn i chi.
Gwylio rhag cwmnïau sy'n dweud eu bod eisiau eich helpu
Osgowch ddefnyddio cwmnïau sy’n dweud y gallant eich helpu i adennill taliadau cerdyn credyd annheg. Fel arfer byddent yn cymryd canran uchel o unrhyw iawndal rydych yn ei gael a dim ond yn dilyn yr un broses y gallwch chi ei wneud yn hawdd eich hun. Mae gan MoneySavingExpert mwy o wybodaeth am sut i adennill ffioedd annhegYn agor mewn ffenestr newydd
Sut i osgoi taliadau cerdyn credyd
Os ydych yn rheoli cerdyn credyd yn dda na fyddwch yn talu unrhyw log neu ffioedd. Dyma sut i’w wneud:
- Sefydlwch Ddebyd Uniongyrchol, archeb sefydlog neu atgof dyddiadur i sicrhau eich bod yn talu’r ad-daliad misol ar amser pob tro.
- Ad-dalwch y swm llawn bob mis i osgoi llog, ond dylech wastad o leiaf talu’r uchafswm ad-daliad.
- Cadwch gofnod o’ch gwario i sicrhau nad ydych yn mynd heibio’ch terfyn credyd – gwiriwch eich balans cerdyn credyd yn aml i fod yn siŵr.
Gwelwch help llawn yn Rheoli credyd yn dda.