Mae bancio ar-lein a symudol yn gwneud rheoli eich cyfrif yn hawdd ac yn ddiogel, ble bynnag rydych yn y byd. Gyda mynediad sydyn i’ch balans, taliadau a nodweddion eraill fel hysbysiadau gwario, bydd gennych y teclynnau i aros mewn rheolaeth o’ch cyllid a stopio ffioedd y gallwch eu hosgoi.
Cael mynediad i’ch cyfrifon ar-lein
Mae bancio ar-lein a symudol fel arfer yn eich galluogi i:
- weld eich cyfrifon, gan gynnwys cynilo, cardiau credyd, morgeisi, benthyciadau a buddsoddiadau
- talu biliau a throsglwyddo arian i gyfrifon eraill
- sefydlu neu ganslo taliadau rheolaidd, fel Debyd Uniongyrchol ac archebion sefydlog
- gweld pryniannau a datganiadau banc
- agor neu gau cyfrifon, neu wneud cais am newidiadau - fel addasu eich terfyn gorddrafft neu gredyd
- sefydlu hysbysiadau gwario sydyn pryd bynnag mae’ch cerdyn yn cael ei ddefnyddio
- rhewi ac archebu cardiau newydd, a gosod uchafswm gwario a therfyn tynnu arian parod.
Sut i sefydlu bancio ar-lein a symudol
Bydd angen i chi wneud cais am fynediad, gallwch fel arfer gwneud cais ar-lein. Y ffordd hawsaf yw mynd i dudalen hafan eich banc a chwilio am ‘register’, yna dilynwch y camau sydd ar y sgrin. Ar gyfer bancio symudol, gallwch lawrlwytho ap eich banc o’r siop ap ar eich ffôn symudol.
Mae’r broses cofrestru yn amrywio fesul banc ond fel arfer mae’n cynnwys cwblhau sawl cam diogelwch. Gallai hyn gynnwys:
- anfon côd sefydlu i’ch ffôn symudol
- postio cyfrinair a rhif cofrestru atoch
- anfon darllenwr cerdyn neu ddyfais diogelu atoch, y bydd angen arnoch i allu mewngofnodi.
Ar ôl cofrestru, gallwch fewngofnodi pryd bynnag rydych angen.
Os nad ydych yn hyderus yn gwneud hwn eich hun, gwiriwch os gall eich banc eich helpu - mae nifer yn cynnig gwersi digidol am ddim dros y ffôn neu drwy alwad fideo.
Cadw eich cyfrif ar-lein yn ddiogel
Mae banciau’n cymryd llawer o ofal i sicrhau bod eich cyfrif ar-lein yn ddiogel, gan gynnwys defnyddio gwefannau wedi’u hamgryptio, allgofnodi’n amserol a phrosesau dilysu gyda sawl cam. Mae hwn yn gweithio gan ddefnyddio rhywbeth rydych yn eu gwybod, fel cyfrinair, a rhywbeth sydd gennych, fel eich ffôn symudol a’ch ôl bys.
Er enghraifft, cyn eich galluogi i fewngofnodi i’ch cyfrifon neu wneud taliad, gallwch gael eich gofyn i:
- roi’ch enw defnyddiwr a chyfrinair
- cadarnhau cod a anfonwyd i’ch dyfais
- defnyddio cydnabyddwr wyneb neu ddarllenwr ôl bys.
Gall cael mynediad sydyn i’ch cyfrifon hefyd eich helpu i adnabod unrhyw weithgareddau anarferol yn gyflym, yn enwedig os ydych wedi sefydlu hysbysiadau gwario sy’n rhoi gwybod i chi pan mae’ch cerdyn yn cael ei ddefnyddio.
Mae nifer o blatfformau bancio ar-lein hefyd yn eich galluogi i rewi eich cerdyn - er enghraifft, os ydych yn sylweddoli ei fod ar goll neu wedi cael ei ddwyn - a sefydlu terfynau gwario a thynnu arian parod dyddiol.
Sut i amddiffyn eich hun rhag sgamiau
Tra bod amddiffyniadau gan y dechnoleg, mae yna nifer o sgamiau ar-lein a ffôn i gadw llygad allan amdanynt. Yn cael eu cynnal gan dwyllwyr, y bwriad yw eich twyllo i rannu eich manylion mewngofnodi neu fanylion sensitif eraill fel y gallant gael mynediad.
Dyma rai rheolau i’w dilyn i gadw’n ddiogel:
- Peidiwch fyth â rhannu gwybodaeth bersonol, cyfrineiriau neu fanylion mewngofnodi bancio ar-lein gydag unrhyw un – ni fydd eich banc byth yn ffonio, e-bostio neu’n anfon neges testun yn gofyn am y wybodaeth yma.
- Os ydych yn derbyn galwad ffôn gan rywun sy’n honni ei fod o’ch banc, stopiwch yr alwad a ffoniwch 159 – llinell gymorth Stop Scams UKYn agor mewn ffenestr newydd – neu’r rhif ffôn sydd wedi’i argraffu ar gefn eich cerdyn er mwyn sicrhau bod yr alwad yn un gwirioneddol.
- Peidiwch ag ymateb i e-byst sy’n honni eu bod o’ch banc yn gofyn am fanylion personol neu gyfrineiriau, a pheidiwch byth â chlicio ar ddolenni. Yn lle hynny, anfonwch yr e-bost ymlaen at [email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd fel y gall y National Cyber Security Centre (NCSC) ymchwilio iddo.
- Os ydych yn derbyn neges testun amheus, peidiwch ag ymateb. Gallwch ei anfon ymlaen at 7726 am ddim, sy’n rhoi gwybod am y neges i’ch darparwr ffôn symudol.
- Gwiriwch eich datganiad yn rheolaidd a rhowch wybod am unrhyw weithgareddau anarferol i’ch banc cyn gynted ag y gallwch.
- Defnyddiwch gysylltiad wi-fi diogel neu ddata ffôn symudol wrth gael mynediad i’ch cyfrifon – gall twyllwyr ddefnyddio wi-fi cyhoeddus i ddwyn gwybodaeth.
- Cofiwch allgofnodi o’ch sesiwn bancio ar-lein bob tro.
Darllenwch fwy yn ein canllaw i sgamiau i ddechreuwyr a dewch o hyd i fwy o wybodaeth am siopa a thalu yn ddiogel ar-lein
Gweld eich holl gyfrifon mewn un lle – sut mae Open Banking yn gweithio
Mae gan bob banc blatfform bancio ar-lein a symudol ei hun, felly bydd angen i chi ddefnyddio apiau neu fanylion mewngofnodi gwahanol i weld pob un o’ch cyfrifon – oni bai eu bod i gyd gyda’r un darparwr.
Bydd dal angen i chi gofrestru am fancio ar-lein neu symudol ar gyfer pob cyfrif, ond mae rhannu eich gwybodaeth bancio yn ddiogel gydag Open Banking yn eich galluogi i weld y rhan fwyaf – os nad pob un – o’ch cyfrifon mewn un ap neu gyfrif ar-lein.
Byddwch yn ofalus cyn rhannu eich data
Mae yna sawl cwmni sy’n darparu gwasanaethau dangosfwrdd cyfrif, gan gynnwys rhai banciau’r stryd fawr. Sicrhewch bob tro eich bod yn hyderus bod unrhyw sefydliad rydych yn rhannu gwybodaeth â nhw’n ddilys – gwiriwch a yw’r ap neu’r wefan rydych am ei ddefnyddio wedi’i gofrestru gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)Yn agor mewn ffenestr newydd a’i fod ar wefan Open BankingYn agor mewn ffenestr newydd cyn i chi ei ddefnyddio.
Gallwch benderfynu pa ddata i’w rannu
Fel rhan o’r broses cofrestru, byddwch fel arfer yn cael eich gofyn am fanylion y cyfrifon yr hoffech eu cysylltu, a’r wybodaeth rydych yn hapus iddynt allu ei weld. Gallai hyn gynnwys:
- data cyfrif, gan gynnwys y balans a’r enw sydd ar y cyfrif
- manylion taliadau rheolaidd, fel archebion sefydlog a Debydau Uniongyrchol
- pryniannau, fel taliadau sy’n dod i mewn ac yn mynd allan
- nodweddion a buddion y cyfrif, fel ffioedd, taliadau gorddrafft a gwobrau.
Fel arfer rydych yn cael eich anfon i’ch ap bancio neu borth ar-lein i fewngofnodi a chadarnhau eich bod am rannu’r wybodaeth hyn. Gallwch dynnu caniatâd unrhyw bryd, er y bydd yn dod i ben yn awtomatig ar ôl 90 diwrnod oni bai eich bod yn ei adnewyddu.
Beth i’w wneudos aiff rhywbeth o’i le
Os ydych yn sylwi ar daliad allan o’ch cyfrif na wnaethoch ei awdurdodi, cysylltwch â’ch banc neu gymdeithas adeiladu cyn gynted â phosibl i ofyn am ad-daliad.
Mae hefyd gennych yr hawl i gwyno yn uniongyrchol i gwmni ac mae’n rhaid iddynt ymateb o fewn 15 diwrnod gwaith. Os yw’ch data wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer rhywbeth na wnaethoch gytuno iddo, mae’n rhaid iddynt esbonio sut a pham maent yn prosesu’ch gwybodaeth.
Os nad ydych yn hapus gyda sut mae’ch gwybodaeth yn cael ei ddefnyddio, cysylltwch â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).Yn agor mewn ffenestr newydd Os ydych yn meddwl eich bod wedi dioddef o sgam, rhowch wybod i Action Fraud ar 0300 123 2040 neu defnyddiwch eu teclyn rhoi gwybod ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd Dylech hefyd roi gwybod i’r FCAYn agor mewn ffenestr newydd
Opsiynau amgen i fancio ar-lein
Er bod nifer o gyfrifon dim ond ar gael ar-lein neu drwy ap, mae llawer o opsiynau o hyd sy’n eich galluogi i agor a rheoli cyfrif mewn cangen, trwy Swyddfa Bost, neu drwy’r post a thros y ffôn.
Gyda’r cyfrifon hyn, mae bancio ar-lein a symudol yn ddewisol - felly gallwch, yn syml, ddewis i beidio â chofrestru.
I gymharu nodweddion cyfrifon cyfredol, gan gynnwys y rhai sy’n cynnig bancio cangen a Swyddfa Bost, defnyddiwch ein teclyn cymharu.