Wyth ffordd i ddechrau cynilo’n llwyddiannus
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
28 Mehefin 2021
Ydych chi erioed wedi wynebu argyfwng ariannol fel y boeler yn torri i lawr ond heb yr arian wrth law i'w drwsio? Neu ydych chi eisiau cynilo ar gyfer rhywbeth mawr ond wedi cael trafferth yn dechrau?
Mae help wrth law. Dyma wyth ffordd ar sut i ddechrau cynilo a mynd i'r arfer cynilo:
1. Talwch eich dyledion yn gyntaf
Rydych chi'n annhebygol o ennill mwy o log ar eich cynilion nag yr ydych yn talu ar eich benthyciadau, felly anelwch at dalu dyledion drud fel cardiau credyd, cardiau siop a gorddrafftiau cyn i chi ddechrau cynilo.
2. Dechreuwch yn fach
Mae hyd yn oed symiau bach yn gwneud gwahaniaeth os gallwch chi gynilo'n rheolaidd. Er enghraifft, mae cynilo £3 y dydd yn creu cyfanswm o £1,095 dros flwyddyn.
3. Gwahanwch eich cynilion
Os ydych chi'n gadael yr arian yn eich pwrs neu gyfrif banc, mae'n llawer mwy tebygol o gael ei wario. Mae'n helpu i gadw'ch cynilion ar wahân. Darganfyddwch sut i gynilo arian gan ddefnyddio'r dull pot jam.
4. Ennill llog ar eich arian
Agorwch gyfrif gyda'ch banc neu gymdeithas adeiladu ac enillwch log ar eich cynilion.
Os ydych chi'n sefydlu cronfa argyfwng, chwiliwch am gyfrifon lle gallwch gael mynediad at eich arian pan fo angen, yn hytrach na'i glymu am amser hir. Os oes gennych nod cynilo gyda therfyn amser cynilo hirach, gallech fynd am gyfrif cyfradd sefydlog sy'n talu uchaf.
Peidiwch ag anwybyddu cyfrifon cyfredol. Mae rhai yn talu cyfraddau llog uwch ar hyn o bryd, ar yr amod eich bod yn dilyn yr holl delerau ac amodau.
Os ydych chi'n defnyddio cyfrif cyfredol am eich cynilion, ystyriwch redeg ail gyfrif cyfredol ar gyfer eich biliau a'ch treuliau fel nad yw'r arian yn cael ei gymysgu.
5. Adeiladu clustog cynilo
Fel rheol, mae'n ddefnyddiol neilltuo cronfa argyfwng gyda digon o arian i dalu eich gwariant hanfodol am dri mis. Felly, os ydych chi'n gwario £1,000 y mis ar filiau fel eich rhent neu forgais, treth gyngor, biliau cyfleustodau, bwyd ac yn y blaen, bydd angen i chi gynilo hyd at £3,000.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynilion ar gyfer argyfwng -faint sy’n ddigon?
6. Sefydlu archeb sefydlog
Mae archeb sefydlog yn gyfarwyddyd i'ch banc i dalu arian o un cyfrif i'r llall yn rheolaidd. Os ydych chi'n sefydlu archeb sefydlog i dalu arian i'ch cyfrif cynilo bob mis, bydd eich cronfa yn dechrau tyfu ddigon cyflym.
7. Talu i mewn ar ôl diwrnod cyflog
Os ydych chi'n rhoi cynilion o'r neilltu yn syth ar ôl i chi gael eich talu, rydych chi'n llai tebygol o golli'r arian. Arhoswch tan ddiwedd y mis ac mae'r arian parod yn llawer mwy tebygol o ddiflannu mewn treuliau bob dydd.
8. Gosodwch nod cynilo
Ysgrifennwch beth rydych chi'n cynilo amdano a faint sydd angen i chi ei gynilo bob mis i gyrraedd eich targed. Yna gosodwch ddyddiad pan fyddwch chi'n anelu at fod wedi cynilo digon.