Os oes gennych chi gyflogwr, mae'n rhaid iddyn nhw gynnig cynllun pensiwn. Gelwir hwn yn bensiwn gweithle ac mae'n eich galluogi i gynilo ar gyfer ymddeoliad.
Mae'n rhaid i chi gael eich cofrestru'n awtomatig i mewn i bensiwn gweithle os ydych:
- fel arfer yn gweithio yn y Deyrnas Unedig
- yn ennill mwy na £10,000 y flwyddyn, £833 y mis neu £192 yr wythnos
- nid oes gennych bensiwn gweithle addas eisoes.
Rhaid i'ch cyflogwr hefyd gyfrannu o leiaf 3% o'ch cyflog i'ch pensiwn. Mae hwn yn arian ychwanegol y byddech yn ei golli pe baech yn penderfynu gadael y cynllun pensiwn, o'r enw optio allan.
Fel arfer, sefydlir pensiwn cyn gynted ag y byddwch yn bodloni'r meini prawf cofrestru awtomatig. Gall eich cyflogwr ddewis gohirio hyn am hyd at dri mis, ond rhaid iddynt ddweud wrthych os caiff ei ohirio.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut mae cofrestru awtomatig ar gyfer pensiwn yn gweithio.