Ar ôl i chi amcangyfrif faint y gallai fod ei angen arnoch i dalu eich costau, gallwch wirio faint rydych chi ar y trywydd i'w gael i weld a fydd gennych chi ddigon - neu a oes angen i chi gynilo mwy.
Gallwch ddefnyddio ein Cyfrifiannell pensiwn i weld:
- faint y mae'ch holl bensiynau'n debygol o'i dalu i chi, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth
- beth fyddai'n digwydd pe baech chi'n cynilo mwy bob mis.
Gall hyn eich helpu i amcangyfrif faint sydd angen i chi ei gynilo ar gyfer y ffordd o fyw ymddeol yr hoffech chi.
Bydd angen i chi wybod eich amcangyfrifon incwm pensiwn diweddaraf, y gallwch fel arfer eu cael trwy fewngofnodi i gyfrif ar-lein eich cynllun.
Cofiwch y byddwch fel arfer yn talu Treth Incwm i dderbyn eich pensiwn, felly mae angen i'ch incwm allu talu eich costau ar ôl treth.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i gyfrifo eich pensiwn amcangyfrifedig ac incwm ymddeol.