Wyth cwestiwn am bensiynau gweithle wedi’u hateb
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
15 Tachwedd 2020
Cyflwynwyd ymrestru awtomatig pensiynau yn y gweithle yn ôl yn 2012, sy'n golygu y gall gweithwyr cymwys gael bonws gan y llywodraeth a'u cyflogwr i'w roi tuag at ymddeoliad.
Ond mae llawer o ddryswch o hyd ynghylch sut mae pensiynau gweithle yn gweithio a manteision ymuno. Yma rydym yn ateb wyth cwestiwn am ymrestru awtomatig, er mwyn i chi allu gwneud penderfyniad gwybodus am gynilo ar gyfer eich pensiwn.
Beth yw buddion y pensiwn gweithle?
Mae talu i mewn i bensiwn gweithle yn un o’r ffyrdd hawsaf o ddechrau cynilo ar gyfer eich ymddeoliad.
Yn y gorffennol, bu'n rhaid i weithwyr gymryd camau i ymuno â phensiwn gweithle. Gydag ymrestriad awtomatig, mae’r rhan fwyaf yn ymrestru ar unwaith ac yn gorfod gwneud yr ymdrech i optio allan os nad ydynt am dalu i mewn mwyach.
Un o'r prif fanteision yw nad chi'n unig sy'n talu i mewn i'r gronfa bensiwn. Mae eich cyflogwr yn talu i mewn iddo hefyd a chewch ryddhad treth gan y llywodraeth.
Mantais ychwanegol yw bod yr arian yn dod allan o'ch cyflog, felly mae eisoes wedi cymryd gofal pan fydd eich cyflog yn mynd i mewn i’r banc. Mae hyn yn golygu bod talu i mewn i’ch pensiwn yn dod yn draul reolaidd, fel treth, Yswiriant Gwladol neu ad-daliadau benthyciad myfyriwr.
Dysgwch fwy yn ein canllaw Cwestiynau cyffredin am ymrestru awtomatig
A fyddaf yn cael fy ymrestru’n awtomatig?
Os ydych yn gweithio'n llawn amser neu'n rhan-amser yn y DU, yn ennill mwy na £10,000 y flwyddyn, dros 22, ond yn iau nag oedran pensiwn y wladwriaeth ac nad ydych eisoes yn talu i mewn i bensiwn gweithle, byddwch yn cael eich ymrestru'n awtomatig.
Os ydych yn ennill llai na £10,000, gallwch optio i mewn i bensiwn gweithle o hyd, ond ni fyddwch yn cael eich ymrestru'n awtomatig.
Dysgwch fwy yn ein canllaw Ymrestru awtomatig os ydych yn ennill £10,000 y flwyddyn neu lai
Oes rhaid i fy nghyflogwr gynnig pensiwn gweithle?
Mae'n rhaid i bob cyflogwr ymrestru eu gweithwyr cymwys yn awtomatig i mewn i bensiwn gweithle.
Dechreuodd y broses ymrestru awtomatig yn 2012 gyda'r cwmnïau mwyaf. Fodd bynnag, cafodd ei gyflwyno i bob cwmni yn 2018, felly mae pob gweithiwr yn gymwys.
A yw’r pensiwn gweithle yn iawn i mi?
Ateb byr, ydy yn ôl pob tebyg.
Dyma’r ffordd hawsaf a mwyaf effeithlon o ddechrau cynilo ar gyfer eich ymddeoliad. Efallai y bydd yn caniatáu i chi newid faint rydych yn ei dalu i mewn yn dibynnu ar eich cyllideb, er bod isafswm cyfraniad penodol. Os ydych eisoes yn talu i mewn i bensiwn preifat, efallai y byddai’n werth talu i mewn i bensiwn gweithle yn lle hynny (neu hefyd) wrth i chi gael buddion ychwanegol cyfraniadau cyflogwr a gostyngiad treth.
Fodd bynnag, efallai na fydd talu i mewn i bensiwn gweithle yn syniad da os ydych:
- Yn cael trafferth gyda dyledion. Dylech feddwl am ad-dalu'r rhain cyn cynilo ar gyfer ymddeoliad.
- Yn agos at oedran ymddeol. Mae’r buddion a’r effaith debygol ar eich cronfa ymddeoliad yn mynd yn llai os ydych i fod i ymddeol yn fuan, ond fe allai barhau i ddarparu cyfandaliad bach ar gyfer ychydig o ddanteithion braf.
Dysgwch fwy yn ein canllaw Ymrestru awtomatig – beth i'w ddisgwyl gan eich cyflogwr
Sut gallaf ddechrau talu i mewn i bensiwn gweithle?
Dylai eich adran AD allu eich helpu i ymrestru os nad yw eisoes wedi digwydd yn awtomatig.
Os cewch eich ymrestru'n awtomatig, byddwch yn dechrau talu i mewn i'ch pensiwn gweithle ar unwaith. Bydd hyn ar y lefel isaf, sef 4% o’ch enillion ar hyn o bryd (5% os ydych yn cynnwys rhyddhad treth).
Mae’n bosibl y gallwch gynyddu’r swm hwn drwy gysylltu ag AD neu’r gweinyddwr pensiynau yn eich cwmni.
Faint allaf ei dalu i mewn i bensiwn gweithle?
Darganfyddwch beth allwch ei dalu i mewn i'ch cynllun pensiwn gweithle i gael y bonws mwyaf gan eich cyflogwr a'r llywodraeth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Faint sydd raid i mi a fy nghyflogwr ei gyfrannu?
Beth sy’n digwydd pan fyddaf yn newid swydd?
Bydd y rhan fwyaf ohonom yn gweithio sawl swydd wahanol yn ystod ein hoes, felly mae’n bwysig gwybod beth sy’n digwydd i’ch pensiwn gweithle pan fyddwch yn newid cyflogwr.
Os byddwch yn gadael cwmni mae dau ddewis. Gadael y pensiwn lle mae a gwneud cais amdano pan fyddwch yn ymddeol, neu ei symud i gynllun newydd.
Siaradwch ag AD neu eich gweinyddwyr pensiynau i ddarganfod beth yw eich opsiynau ac am unrhyw ffioedd a chostau sy’n gysylltiedig.
Beth osy dw i’n hunangyflogedig?
Os ydych yn hunangyflogedig, neu os ydych yn gweithio i rywun arall ar sail hunangyflogedig, nid oes unrhyw gyfrifoldebau pensiwn gweithle.
Fodd bynnag, mae cynilo ar gyfer eich ymddeoliad yn bwysig iawn, felly dylech ystyried talu i mewn i bensiwn personol.