Help gyda chostau byw
Poeni am arian oherwydd rhenti cynyddol, biliau ynni uchel neu ddyled? Os felly, rydym yma i helpu.
Cymerwch y camau cyntaf i ddod o hyd i’ch ffordd ymlaen gyda’n canllawiau i’ch helpu gyda chostau byw.
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
15 Mawrth 2024
Gyda chostau byw uchel a mwy o angen am gymorth gyda dyled, mae rheswm da pam ein bod yn sôn am ddyled.
Mae’r blog hwn wedi’i ysgrifennu fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Dyled 2024, sy’n rhedeg o ddydd Llun 18 Mawrth i ddydd Gwener 22 Mawrth.
Mae tua 8 miliwn o bobl angen cyngor ar ddyledion yn y DU, ac mae 12 miliwn arall yn byw ar y ffîn. Ac eto, mae mwy na hanner y rhai sydd angen cyngor ar ddyledion heb ei gael, yn ôl arolwg a gynhaliwyd y llynedd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS).
Mae’r un ymchwil hefyd yn dangos bod un o bob pedwar oedolyn bellach mewn perygl ariannol, sy’n golygu eu bod yn cael trafferth cadw i fyny â biliau ac ymrwymiadau benthyca, yn defnyddio credyd cost uchel, neu’n methu â fforddio bwyd neu hanfodion eraill
Gall bod â dyled na ellir ei rheoli effeithio ar ansawdd eich bywyd bob dydd mewn sawl ffordd, yn enwedig os ydych ar ei hôl hi o ran talu’ch dyledion â blaenoriaeth, fel rhent, morgais, Treth Cyngor, a chyfleustodau fel nwy, dŵr a thrydan.
Pan fyddwch mewn dyled efallai y byddwch yn oedi cyn chwilio am gymorth oherwydd eich bod wedi eich gorlethu am eich sefyllfa, neu eich bod yn teimlo embaras neu ofn. Efallai hefyd nad ydych yn siŵr sut y gallwch gael mynediad at gyngor ar ddyledion, neu a fyddwch hyd yn oed yn gymwys i’w gael.
Gall unrhyw un gael cyngor ar ddyledion am ddim, ond efallai na fydd pawb yn gymwys i gael cymorth dyled am ddim. Mae’n bwysig gwirio’r math o gymorth dyled rydych yn gymwys i’w gael yn seiliedig ar eich amgylchiadau. Mae hyn oherwydd bod gan rai datrysiadau dyled ofynion penodol o ran faint o ddyled y mae’n rhaid i chi ei chael i fod yn gymwys.
I weld pa fath o gyngor ar ddyledion y gallech ei gael, ewch i’n tudalen Ffyrdd Gorau o ad-dalu’ch dyledion i gychwyn arni.
Ni fydd cynghorwyr dyled yn eich barnu am eich problemau ariannol. Hyd yn oed os ydych chi’n teimlo cywilydd am faint o ddyled sydd gennych chi, bydd eich cynghorydd dyled wedi clywed straeon tebyg o’r blaen ac wedi’i hyfforddi i’ch helpu i ddod drwyddi.
Mae llawer o bryderon cyffredin ynghylch cael cyngor ar ddyledion, gan gynnwys a fydd yn niweidio eich sgôr credyd.
Ni fydd cysylltu i ddarganfod eich opsiynau yn effeithio ar eich statws credyd, ond yn hytrach bydd yn gam cyntaf i gael trefn ar bethau.
Dyma rai awgrymiadau ar gyfer mynd i’r afael â’ch pryderon ariannol:
Ceisio cymorth proffesiynol os ydych chi’n cael trafferth gyda dyled yw un o’r pethau gorau y gallwch chi ei wneud.
Mae yna ffyrdd eraill y gallech chi leihau eich pryderon am ddyledion tra byddwch chi’n darganfod sut i roi’ch biliau mewn trefn. Gallai pethau fel gofyn i’ch credydwyr ohirio eich cyfrif am gyfnod penodol o amser (30 diwrnod fel arfer), gwyliau talu morgais, neu Le i Anadlu fod yn opsiynau i’w hystyried.
Efallai na fydd llawer yn ymwybodol o’r pethau a sonnir amdanynt uchod a allai eu helpu gyda’u hymrwymiadau credyd.
Gall sut rydych chi’n rheoli’ch arian wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’ch lles. Felly os ydych yn cael trafferth gyda’ch arian, gallai hyn effeithio’n negyddol ar eich iechyd meddwl. Gweler yr hyn sydd gennym i’w ddweud am broblemau ariannol a lles meddwl.
Dylai cyngor ar ddyledion fod am ddim bob amser, ac mae HelpwrArian yn gweithio ochr yn ochr ag elusennau dyled mwyaf y DU i helpu i gael pobl ar gynllun ad-dalu dyled a fydd yn gweithio ar gyfer eu sefyllfa bersonol.
Gwiriwch ein tudalen cysylltu â ni i ddod o hyd i’n holl rifau ffôn ac oriau agor. Gall ein canolfan gyswllt eich helpu i weithio allan beth sy’n iawn i chi, neu eich cyfeirio at y cyfeiriad cywir fel man cychwyn, fel eich cyfeirio at elusen dyled. Rydyn ni hefyd ar gael i siarad dros WhatsappYn agor mewn ffenestr newydd neu Wesgwrs fyw am ddimYn agor mewn ffenestr newydd. Gallwch hefyd sgwrsio â ni trwy glicio ar yr eicon ‘Siarad â ni’ ar ochr dde’r dudalen cysylltu â ni.