Prynu tŷ? Sut y gallai gwneud cais am gredyd arall niweidio’ch cais
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
01 Medi 2021
Pan fyddwch yn gwneud cais am forgais, yn ogystal â gwirio a allwch fforddio ad-daliadau, un o’r ystyriaethau allweddol ar gyfer benthycwyr fydd eich hanes credyd.
Mae adroddiad credyd yn rhoi syniad i fenthycwyr a ydych yn debygol o ad-dalu benthyciad ai peidio. Os nad ydynt yn hapus gyda’r hyn maent yn ei weld, ni fyddant yn benthyca’r arian i chi. Felly mae’n syniad da gwneud popeth o fewn eich gallu i’w warchod.
Mae yna lawer o wahanol ffyrdd o wella eich statws credyd ond y ffordd hawsaf o sicrhau nad ydych yn niweidio'ch sgôr yw osgoi gwneud cais am fwy o gredyd.
Pam dylech fod yn ofalus pa gredyd rydych yn gwneud cais amdano
Bob tro y byddwch yn gwneud cais am gredyd, gadewir “ôl troed” ar eich adroddiad i gwmnïau eraill ei weld pan fyddwch yn gofyn iddynt am gredyd yn ddiweddarach. Hyd yn oed os byddwch yn llwyddiannus, gall gormod o'r olion traed hyn mewn cyfnod byr awgrymu anobaith neu eich bod yn benthyg gormod. Gall y rhain fod yn faner goch i fenthycwyr.
Gallai hyn wneud iddynt eich ystyried yn risg a gwrthod eich cais am forgais. Yn ei dro, byddai’r gwrthodiad hwnnw’n ei gwneud yn anoddach cael morgais yn rhywle arall.
Nid oes rheol galed a chyflym sy’n dweud faint o geisiadau sy’n ormod, a pha mor hir y dylech adael cyn gwneud cais am gredyd eto. Ond mae pob gwiriad yn diflannu o'ch adroddiad ar ôl 12 mis. Mae hefyd yn debygol na fydd benthycwyr yn talu gormod o sylw i chwiliadau dros chwe mis oed.
Wrth gwrs, ni fydd yr un o'r gwiriadau credyd a restrir isod o reidrwydd yn golygu y cewch eich gwrthod, ac mae rhai yn cael llai o effaith nag eraill. Fel rheol, gallai bod yn ofalus ynghylch pa geisiadau credyd a wnewch helpu eich cyfle o gael morgais.
Lle gallech gael gwiriad credyd
Mae yna rai achlysuron llai amlwg pan fyddwch yn debygol o gael gwiriad credyd. Dyma rai pethau a allai effeithio arnoch pan fyddwch yn gwneud cais am forgais.
1. Agor cyfrif cyfredol
Os cewch eich temtio gan newid bonws, daliwch yn ôl am y tro. Mae banciau yn ymwybodol efallai y bydd angen i chi ddefnyddio cyfleusterau gorddrafft neu wneud cais am wasanaethau eraill y maent yn eu cynnig, felly maent yn gwirio'ch adroddiad credyd.
2. Gwneud cais am gardiau credyd newydd
Fel gyda chyfrifon banc newydd, mae pob cais cerdyn credyd newydd yn cynhyrchu gwiriad credyd.
3. Cofrestru ar gyfer cardiau siop
Mae’n syndod i lawer mai dim ond cardiau credyd brand yw cardiau siop y gellir eu defnyddio mewn un gadwyn o siopau yn unig. Bydd gwiriad yn mynd ar eich ffeil pan fyddwch yn gwneud cais. Byddwch yn hynod ofalus gyda rhai manwerthwyr ar-lein a gwerthwyr catalogau oherwydd fe allech chi fod yn cofrestru ar gyfer cyfrif credyd yn hawdd heb sylweddoli.
4. Gwneud cais am fenthyciad personol
Gan nad ydych yn sicrhau’r arian yn erbyn rhywbeth fel eich tŷ neu feddiant gwerthfawr arall, bydd benthycwyr yn gwirio os ydych yn gallu, yn eu barn nhw, ei ad-dalu.
5. Newid i gyflenwr ynni newydd
Os ydych wedi sefydlu’ch tariff a’i fod yn dod i ben, byddai newid i gyflenwr newydd yn golygu gwiriad credyd newydd, felly mae’n well ei osgoi yn agos at gais am forgais.
Yn lle, edrychwch ar ddewis tariff sefydlog newydd gyda'ch cwmni presennol a gwiriwch a allwch fynd ag ef gyda chi i'ch eiddo newydd.
6. Dechrau contract ffôn symudol newydd
Gan fod llawer o gontractau ffôn yn cynnwys ffôn a’u bod am 18 neu 24 mis, rydych chi mewn gwirionedd yn benthyca’r arian ar gyfer y ffôn. Mae’n debyg y byddai hyn yn cael effaith isel iawn ar eich cais, ond yn hytrach nag uwchraddio pan ddaw eich contract i ben, efallai y byddai’n well i chi gadw’r un ffôn a chymryd contract treigl. Neu hyd yn oed newid i dalu-wrth-fynd nes eich bod wedi prynu eich cartref.
7. Cysylltu â band eang newydd a gwasanaeth teledu y telir amdano
Fel gyda ffonau symudol, bydd y rhan fwyaf o ddarparwyr yn gwirio’ch credyd. Unwaith eto, mae’n debyg ei bod yn well cymryd contract treigl gyda’ch gwasanaeth presennol ac aros nes eich bod yn eich cartref newydd i gael darparwr newydd. Hefyd mae'n golygu na fyddwch yn rhan o gontract newydd ac yn gorfod talu unrhyw ffioedd gadael.