Mae Credyd Pensiwn bellach yn allweddol i gadw’ch Taliad Tanwydd Gaeaf
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
02 Medi 2024
Mae newid mawr i Daliad Tanwydd Gaeaf eleni yn golygu bod yn rhaid i chi hefyd dderbyn Credyd Pensiwn er mwyn cael y lwfans sy’n werth hyd at £300. Os nad ydych yn cael Credyd Pensiwn ar hyn o bryd, ond yn meddwl y gallech fod yn gymwys, mae’n hanfodol gwirio nawr a gwneud cais, fel arall gallech golli allan.
Mae cymhwysedd am Daliad Tanwydd Gaeaf yn newid yng Nghymru a Lloegr
Mae’r Taliad Tanwydd Gaeaf yn gyfandaliad di-dreth blynyddol sy’n werth hyd at £300 i helpu pobl dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth gyda chostau gwresogi. Tan eleni roedd gan bawb dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth hawl i’r taliad beth bynnag oedd eu hamgylchiadau, ond nawr mae angen i chi hawlio Credyd Pensiwn, budd-dal cymwys arall, neu gredydau treth i gael y taliad ar gyfer gaeaf 2024/25..
Ddim yn siŵr os gallwch gael Credyd Pensiwn? Os ydych ar incwm isel, gwiriwch y cyfrifiannell Credyd PensiwnYn agor mewn ffenestr newydd i weld a allech gael hwb hanfodol i’ch incwm, gall fod yn werth £3,900 y flwyddyn ar gyfartaledd. Gallech fod yn gymwys o hyd, hyd yn oed os oes gennych gynilion. Os ydych yn byw ar incwm isel, defnyddiwch ein Cyfrifiannell budd-daliadau i ddarganfod yn gyflym beth y gallech fod â hawl iddo.
Cadwch eich Taliad Tanwydd Gaeaf drwy hawlio Credyd Pensiwn
Mae’r lwfans bellach yn gysylltiedig â rhai budd-daliadau prawf modd gan gynnwys Credyd Pensiwn. Mae Credyd Pensiwn yn helpu’r rhai dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth sy’n byw ar incwm isel. Mae’n gweithio drwy ychwanegu incwm at isafswm a gall fod yn werth mwy na £3,900 y flwyddyn.
Er mwyn parhau i gael eich Taliad Tanwydd Gaeaf mae’n rhaid i chi fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn neu un o’r budd-daliadau canlynol eraill yn ystod yr ‘wythnos gymhwyso’ 16 i 22 Medi 2024.
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar (JSA)
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Treth Plant
- Credyd Treth Gwaith.
Faint yw Taliad Tanwydd Gaeaf?
Bydd gennych hawl i daliad o naill ai £200 neu £300 yn dibynnu ar eich oedran chi neu eich partner os oes gennych un
- Bydd aelwyd gyda rhywun rhwng 66 a 79 oed yn derbyn £200.
- Bydd aelwyd gyda rhywun 80 oed neu drosodd yn derbyn £300.
Darganfyddwch fanylion llawn am y Taliad Tanwydd GaeafYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Mae’r Alban yn cyflwyno’r Taliad Gwresogi Gaeaf Oedran Pensiwn
Yn yr Alban, bydd y Taliad Tanwydd Gaeaf yn cael ei ddisodli gan Daliad Gwresogi Gaeaf Oedran Pensiwn, sy’n werth hyd at £300. Bydd hyn hefyd yn gysylltiedig â Chredyd Pensiwn a rhai budd-daliadau prawf modd.
Beth am Ogledd Iwerddon?
Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r Taliad Tanwydd Gaeaf, sy’n werth rhwng £250 a £600 yn parhau i fod ar gael i bawb dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Does dim cyhoeddiadau wedi bod yn dweud y bydd hyn yn newid. Am fanylion llawn gweler dudalen Taliad Tanwydd Gaeaf ar NI DirectYn agor mewn ffenestr newydd
A allaf gael Taliad Tanwydd Gaeaf yn 65?
Os ydych chi’n 65 oed, rydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac ni fydd gennych hawl i’r taliad os ydych yn byw ar eich pen eich hun. Fodd bynnag, os ydych yn byw gyda’ch partner sydd dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac mae gennych gais ar y cyd am Gredyd Cynhwysol fel cwpl o oedran gweithio, bydd eich partner yn gymwys ac yn cael Taliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer eich aelwyd.
Ar hyn o bryd rwy’n cael Credyd Pensiwn, sut wyf yn gwneud cais am y Taliad Tanwydd Gaeaf?
Nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth. Gan fod gennych hawl i Gredyd Pensiwn eisoes, rydych yn gymwys i gael y taliad. Byddwch yn cael llythyr ym mis Hydref neu fis Tachwedd yn dweud wrthych faint fyddwch chi’n ei gael. Yna byddwch yn cael y taliad naill ai ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr i’r un cyfrif banc â’ch budd-daliadau eraill.
Rwy’n cael credydau treth ar hyn o bryd, sut ydw i’n hawlio’r Taliad Tanwydd Gaeaf?
Os ydych dros oedran pensiwn y wladwriaeth ac yn cael Credydau Treth Gwaith neu Gredydau Treth Plant gallech fod yn gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf o hyd. Rhaid i'ch dyfarniad blynyddol fod o leiaf £26 a chynnwys un diwrnod yn yr wythnos gymhwyso (16-21 Medi).
Fodd bynnag, mae Credydau Treth yn cau a gofynnir i bobl dros oedran pensiwn y wladwriaeth symud i Gredyd Cynhwysol neu Gredyd Pensiwn yn lle. Efallai eich bod eisoes wedi derbyn hysbysiad mudo yn gofyn i chi newid.
Os nad ydych wedi derbyn hysbysiad mudo eto peidiwch â gwneud cais am y naill fudd-dal na'r llall er mwyn ceisio bod yn gymwys am daliad tanwydd gaeaf.
Gallai gwneud cais am Gredyd Cynhwysol neu Gredyd Pensiwn cyn i chi gael eich hysbysiad mudo effeithio ar eich cais a faint o arian a gewch yn y dyfodol. Os ydych yn cael Credydau Treth ac rydych yn gymwys i gael taliad tanwydd gaeaf, bydd yn cael ei dalu i chi’n awtomatig.
Ar hyn o bryd rwy’n cael Credyd Pensiwn, a fydd y taliad yn effeithio ar fy mudd-daliadau?
Na. Mae’r Taliad Tanwydd Gaeaf yn ddi-dreth ac ni fydd yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill.
Nid wyf yn cael Credyd Pensiwn ar hyn o bryd, sut alla i gael y Taliad Tanwydd Gaeaf?
Rhaid i chi fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn (neu un o’r budd-daliadau cymwys eraill) yn ystod ‘wythnos gymhwyso’ 16 i 22 Medi. Gan y gellir ôl-ddyddio Credyd Pensiwn am dri mis, y dyddiad olaf y gallwch wneud cais am Gredyd Pensiwn a dal i gael Taliad Tanwydd Gaeaf yw 21 Rhagfyr 2024.
Mae’n cymryd rhwng chwech ac wyth wythnos i brosesu ceisiadau Credyd Pensiwn newydd, oherwydd y nifer uchel o geisiadau. Ond cyn belled â’ch bod yn gwneud cais erbyn 21 Rhagfyr a bod eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael Taliad Tanwydd Gaeaf.
Beth sy’n gymwys fel incwm isel ar gyfer Credyd Pensiwn?
Fel arfer byddwch yn gymwys i gael Credyd Pensiwn os oes gennych incwm wythnosol isel. Rydych yn debygol o fod yn gymwys os ydych yn byw ar eich pen eich hun a bod eich incwm wythnosol yn is na £218.15 – neu os ydych yn gwpl a bod eich incwm cyfunol o dan £332.95.
Efallai y gallwch gael Credyd Pensiwn os yw eich incwm yn uwch na hyn os ydych:
- ag anabledd difrifol
- yn ofalwr
- yn gyfrifol am blentyn o dan 20 oed
- neu'n gymwys i gael cymorth gyda chostau tai.
Os oes gennych fwy na £10,000 mewn cynilion, mae’r llywodraeth yn cymryd eich bod yn “ennill” incwm o’ch cynilion ac yn lleihau swm y Credyd Pensiwn a gewch.
Mae Credyd Pensiwn ar gael i bobl sy’n hawlio eu Pensiwn y Wladwriaeth, a phobl nad ydynt yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth. Y ffordd hawsaf o ddarganfod beth allwch chi ei gael yw defnyddio'r gyfrifiannell Credyd PensiwnYn agor mewn ffenestr newydd
Gallwch gael cynilion a pharhau i gael Credyd Pensiwn
Hyd yn oed os oes gennych gynilion sylweddol, gallech barhau i fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn os yw’ch incwm arall yn ddigon isel. Os oes gennych £10,000 neu lai, ni fydd hyn yn effeithio ar eich cymhwysedd o gwbl. Os oes gennych fwy na £10,000 mewn cynilion, gallech fod yn gymwys o hyd, felly mae’n werth gwirio bob amser.
Sut mae cynilion yn effeithio ar eich incwm?
Am bob £500 (neu ran o £500) rydych wedi’i gynilo neu fuddsoddi, mae’r llywodraeth yn trin hyn fel incwm o £1. Felly os oes gennych £15,000 mewn cynilion a buddsoddiadau, nid yw £10,000 yn cyfrif, ond mae’r £5,000 sy’n weddill yn cael ei drin fel £10 yr wythnos mewn incwm wythnosol. Os oes gennych bartner, ychwanegir eu cynilion at eich un chi.
Os bydd eich cynilion yn gostwng, rhowch wybod i’r Gwasanaeth PensiwnYn agor mewn ffenestr newydd a gofynnwch iddynt a ydych bellach yn gymwys. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein herthygl ar sut y gall cynilion effeithio ar eich budd-daliadau i ddarganfod beth sy’n cyfrif fel cynilion, a beth sydd ddim.
Gall perchnogion tai hawlio Credyd Pensiwn
Hyd yn oed os ydych yn berchen ar eich cartref, gallwch barhau i wneud cais am Gredyd Pensiwn. Mae bron i hanner y bobl sydd eisoes yn cael Credyd Pensiwn yn berchnogion tai. Mae bob amser yn werth darganfod beth mae gennych hawl iddo.
Gall Credyd Pensiwn roi hwb i’ch cyllideb drwy ddatgloi ystod o bethau ychwanegol
Hyd yn oed os ydych ond yn gymwys i gael swm bach o Gredyd Pensiwn, mae’r ffaith eich bod yn ei gael yn datgloi ystod o gymorth ychwanegol a all wneud i’ch arian fynd ymhellach.
Mae Credyd Pensiwn yn ‘borth’ i amrywiaeth o gymorth arall gan gynnwys:
- help gyda thaliadau rhent neu forgais
- gofal deintyddol a sbectol y GIG
- trwydded deledu am ddim (os ydych dros 75 oed)
- gostwng tariffau ar ffonau symudol, band eang a chyfleustodau
- gostyngiadau Treth Gyngor.
Darganfyddwch fwy am Gredyd Pensiwn
Sut i wirio a ydych yn gymwys i gael Credyd Pensiwn
Mae’n gyflym ac am ddim i wirio a allech gael Credyd Pensiwn. Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac mae eich incwm wythnosol yn is na £218.15 os ydych yn byw ar eich pen eich hun, neu £332.95 os ydych yn byw gyda phartner – hyd yn oed os ydych yn berchen ar eich cartref neu os oes gennych gynilion.
Y ffordd gyflymaf yw ffonio’r llinell gais Credyd Pensiwn ar 0800 99 1234 neu ddefnyddio’r cyfrifiannell Credyd PensiwnYn agor mewn ffenestr newydd
Ydych chi’n adnabod rhywun a allai fod yn colli allan ar Gredyd Pensiwn?
Mae Credyd Pensiwn yn helpu i gefnogi pobl dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth i fyw gydag isafswm o lefel incwm. Ond nid yw un o bob tri o bobl sydd â hawl i’r hwb incwm hanfodol hwn yn ei hawlio. Mae amcangyfrifon diweddar yn awgrymu y gallai fod dros 800,000 o aelwydydd cymwys yn colli allan. Byddant hefyd yn colli allan ar y Taliad Tanwydd Gaeaf os na fyddant yn gwneud cais yn fuan.
Os ydych yn adnabod rhywun sy’n byw ar incwm isel a allai fod â hawl i Gredyd Pensiwn mae’n hanfodol eu hannog i wirio a allent gael help. Darganfyddwch fwy am Gredyd Pensiwn.
Os ydych yn cael trafferth gyda biliau gwresogi mae mwy o help ar gael
Os ydych yn hawlio Credyd Pensiwn neu fudd-dal cymwys arall, fel Credyd Cynhwysol, dim ond un math o gymorth y gallech ei gael os ydych yn cael trafferth gyda chostau gwresogi yw Taliad Tanwydd Gaeaf. Gallwch hefyd gael:
- Taliad Tywydd Oer - os ydych yn cael budd-daliadau penodol a bod y tymheredd yn gostwng i sero gradd Celsiws neu is am saith diwrnod yn olynol, gallwch gael £25 am bob cyfnod o saith diwrnod. Gweler fwy yn Pwy sydd â hawl i Daliadau Tywydd Oer?
- Gostyngiad Cartrefi Cynnes - gostyngiad o £150 ar eich biliau os ydych yn cael Credyd Pensiwn neu’n byw mewn cartref incwm isel. Gweler Beth yw’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes a sut alla i wneud cais?
Mwy o help os ydych yn cael trafferth
Os ydych ar incwm isel, gallwch hefyd wneud cais i’r Gronfa Cymorth i Aelwydydd os ydych yn gymwys. Gwiriwch wefan eich cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd ar gyfer y rheolau ar bwy all wneud cais. Dywedwyd wrth gynghorau ar ddechrau mis Medi bod y gronfa hon wedi’i hymestyn hyd at 31 Mawrth 2025. Gweler hefyd Byw ar incwm gwasgedig am sut i arbed arian ar filiau’r cartref.