Ydych chi'n gweithio ac yn hawlio Credyd Cynhwysol? Mae Cymorth i Gynilo yn golygu, am bob £1 rydych chi'n ei roi i mewn, eich bod yn cael 50c ychwanegol ar ben hynny.
Pan fyddwch yn agor cyfrif Cymorth i Gynilo, gallwch dalu hyd at £50 y mis i mewn iddo, a bydd y llywodraeth yn rhoi bonws di-dreth o 50% i chi ar ôl dwy flynedd, a bonws arall ar ôl pedair blynedd.
Os ydych yn talu'r swm uchaf i mewn, gallech hawlio bonws o fil a dau gant o bunnoedd.
Gallwch gael mynediad at eich cynilion ar unrhyw adeg drwy eich cyfrif ar-lein neu gydag ap CThEF.
Mae'n werth gwybod y gall tynnu arian allan gymryd hyd at dri diwrnod gwaith.
Ar ôl i chi agor eich cyfrif Cymorth i Gynilo, gallwch ei gadw am bedair blynedd, hyd yn oed os nad ydych yn gweithio nac yn hawlio Credyd Cynhwysol mwyach.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i MoneyHelper.org.uk/cymorth-i-gynilo.