Byddwch yn barod i newid
Mae prisiau ynni yn uchel iawn. O 1 Hydref 2024 ymlaen, bydd Cap ar Brisiau Ynni Ofgem wedi’i osod ar £1,717 ar gyfer cartref arferol. Bydd hyn yn newid i £1,738 y flwyddyn ar 1 Ionawr 2025. Yng Ngogledd Iwerddon, mae'r Rheoleiddiwr Cyfleustodau yn gwirio bod y prisiau a godir yn deg.
Erbyn hyn mae ychydig o fargeinion sefydlog ar gael am y cap pris neu ychydig yn is nag ef, felly cadwch lygad ar brisiau. Ceisiwch ddefnyddio gwefannau cymharu a byddwch yn barod i newid pan fydd bargeinion gwell ar gael.