Ydych chi wedi methu taliad?
Defnyddiwch ein Teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gyngor ar ddyledion diduedd ac am ddim ar-lein, dros y ffon neu yn agos at le rydych yn byw.
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
22 Hydref 2024
Mae'r Taliad Tanwydd Gaeaf bellach yn gysylltiedig â Chredyd Pensiwn. Mae hyn yn golygu am y tro cyntaf na fydd rhai pobl dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn cael y lwfans di-dreth, gwerth hyd at £300. Os mai chi yw hwn - neu rywun rydych yn ei adnabod - a'ch bod yn debygol o gael trafferth gyda chost gwresogi, dyma'r help arall sydd ar gael.
Os dywedwyd wrthych yn y gorffennol na allwch gael Credyd Pensiwn, ond bod eich amgylchiadau wedi newid, – mae’n werth gwirio eto i weld a oes gennych hawl bellach ac efallai byddwch dal yn gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf. Gallai eich amgylchiadau fod wedi newid os ydych wedi cael gostyngiad mewn incwm, wedi dod yn sengl neu wedi symud i mewn gyda phartner newydd.
Bydd pawb a oedd yn gymwys i gael Credyd Pensiwn yn ystod yr ‘wythnos gymhwyso’ o 16 i 22 Medi 2024 yn cael taliad eleni. Gall Credyd Pensiwn gael ei ôl-ddyddio gan hyd at dri mis, felly os ydych chi’n gymwys ac yn gwneud cais ar neu cyn 21 Rhagfyr 2024 gallwch gael taliad eleni o hyd.
Y ffordd gyflymaf o wirio a ydych yn gymwys yw ffonio’r llinell hawlio Credyd Pensiwn ar 0800 99 1234 neu ddefnyddio’r gyfrifiannell Credyd PensiwnYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Os ydych yn byw yn yr Alban byddwch yn cael taliad cyfatebol y gaeaf hwn os ydych yn gymwys. Bydd y taliad yn awtomatig, sy'n golygu nad oes rhaid i chi wneud cais. Byddwch yn cael gwybod erbyn diwedd mis Tachwedd gyda llythyr yn cynnwys manylion eich taliad. Bydd hwn yn cael ei ddisodli yn y pen draw gan Daliad Gwresogi Gaeaf Oedran Pensiwn.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r Taliad Tanwydd Gaeaf, sy’n werth rhwng £250 a £600, yn parhau i fod ar gael i bawb dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Nid oes unrhyw gyhoeddiadau wedi bod yn dweud y bydd hyn yn newid. Am fanylion llawn gweler y dudalen Taliad Tanwydd Gaeaf ar nidirectYn agor mewn ffenestr newyddOpens in a new window
Os ydych chi eisoes yn poeni am gost gwresogi eich cartref, y peth cyntaf i’w wneud yw gwirio a allwch chi dorri eich costau gwresogi trwy newid tariffau. Bellach mae yna ychydig o fargeinion sefydlog ar gael am y cap pris neu ychydig yn is na hynny, felly cadwch lygad barcud ar brisiau. Ceisiwch ddefnyddio gwefannau cymharu a byddwch yn barod i newid pan fydd bargeinion gwell ar gael.
Gallwch gymharu bargeinion ynni gan ddefnyddio gwefannau cymharu, fel:
Os nad ydych yn siŵr beth yw’r ffordd orau o gael mynediad i wefannau cymharu neu os hoffech gael cymorth, gallwch gael cyngor diduedd os ydych yn ystyried newid. Dyma'r sefydliadau allweddol a all helpu.
Yng Nghymru neu Loegr ffoniwch Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth: 0808 223 1133
Yng Ngogledd Iwerddon ffoniwch y Consumer Council: 0800 121 6022
Yn yr Alban ffoniwch Home Energy Scotland: 0808 080 2282
Angen mwy o help? Dysgwch fwy yn ein canllaw Beth i'w wneud os yw’ch bil ynni’n uchel.
Gallwch. Os na allwch newid i fargen ratach, neu os ydych ar y fargen rataf sydd ar gael, gwiriwch â’ch cyflenwr a oes unrhyw gymorth arall y gallant ei roi.
Er enghraifft, os ydych yn gymwys, gallwch gofrestru ar gyfer y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth (PSR) am ddimYn agor mewn ffenestr newydd, gwasanaeth sy'n helpu cwmnïau cyfleustodau i ofalu am gwsmeriaid sydd angen cymorth ychwanegol.
Os ydych dros oedran pensiwn, â salwch neu anabledd neu'n gofalu am bobl agored i niwed sy'n byw yn eich cartref, rydych yn gymwys i ymuno. Drwy ymuno â'r PSR gallwch gael cymorth â blaenoriaeth os bydd toriad yn y pŵer, cysylltiad â'r gwasanaethau brys a chymorth os amharir ar eich cyflenwad ynni.
Mae Ofgem yn eich helpu i ddod o hyd i gynlluniau, grantiau a budd-daliadau a fydd yn helpu gyda chost biliau a mesurau arbed ynni. Os nad ydych yn siŵr â phwy i gysylltu, gallwch ddod o hyd i’ch cyflenwr ynni ar dudalen bwrpasol OfgemYn agor mewn ffenestr newydd
Mae gan yr elusen Turn2Us wiriwr grantiau defnyddiolYn agor mewn ffenestr newydd a all gyfateb eich gwybodaeth i grantiau y gallech fod yn gymwys i’w cael. Gallwch hefyd wirio Cyngor ar Bopeth, sydd â rhestr o grantiau a gynigir gan rai cyflenwyr mwyYn agor mewn ffenestr newydd
Mae amrywiaeth o grantiau ar gael i helpu pobl i wneud eu cartrefi yn fwy ynni effeithlon. Un o’r ffynonellau cymorth allweddol yw “Cynllun Cymorth i Gynhesu” y llywodraeth sydd â mesurau ar wahân sy’n cael eu darparu gan awdurdodau lleol, cyflenwyr ynni, a gosodwyr.
Mae hyn yn cynnwys uwchraddio boeler a chynllun inswleiddio, yn ogystal â chynlluniau uwchraddio cartref os nad oes gennych foeler nwy. Mae gan bob menter feini prawf cymhwysedd gwahanol yn dibynnu ar eich cartref a’ch amgylchiadau felly mae’n well gwirio pob un i weld a yw’n iawn i chi. Dewch o hyd i drosolwg o'r cymorth sydd ar gaelYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Os yw eich cartref yn defnyddio tanwydd oddi ar y grid, edrychwch ar ein tudalen am sut y gallwch leihau eich costau os ydych yn defnyddio nwy petrolewm hylifedig (LPG) neu olew gwresogi.
Gyda phrisiau ynni yn cynyddu, yr unig ffordd sicr o gadw eich costau i lawr yw defnyddio llai o ynni, a gallwch wneud hyn yn ddiogel drwy ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon Dyma rai syniadau cyflym i’ch helpu:
Am fwy o help ar sut i leihau eich bil ynni gallwch ymweld â'r Energy Saving TrustYn agor mewn ffenestr newydd sydd ag amrywiaeth o awgrymiadau ar arbed ynni.
Mae biliau ynni yn daliadau blaenoriaeth oherwydd mae’n bwysig i gadw’n ddiogel ac yn gynnes, felly dylech bob amser ganolbwyntio ar y biliau hyn cyn dyledion llai pwysig.
Mae gan y rheolydd sy'n gyfrifol am gwmnïau ynni reolau sy'n dweud bod yn rhaid i gyflenwyr weithio gyda chi i gytuno ar gynllun talu y gallwch ei fforddio.
Gallwch ofyn i'ch cyflenwr am adolygiad o'ch taliadau presennol a sut i ad-dalu unrhyw ôl-ddyledion, megis mwy o amser i dalu a mynediad at gronfeydd caledi. Gweler mwy am ofyn am help gan eich cyflenwr ar OfgemYn agor mewn ffenestr newydd Os ydych yn cael trafferth gyda biliau a thaliadau, mae ein Blaenoriaethwr biliau cyflym a hawdd ei ddefnyddio yn eich helpu i ddeall pa filiau a thaliadau i ddelio â nhw’n gyntaf a sut i osgoi methu unrhyw daliadau.
Os ydych chi eisoes wedi methu biliau neu daliadau hanfodol, neu os ydych ar ei hôl hi gyda dyledion eraill, mae’n bwysig cael cymorth cyn gynted ag y gallwch. Os ydych chi'n poeni, mae gennym ganllaw defnyddiol sy'n eich tywys trwy sut i fynd at eich cyflenwr ynni a chael yr help sydd ei angen arnoch.
Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac angen help gyda gofal personol oherwydd salwch neu anabledd efallai y byddwch yn gallu hawlio Lwfans Gweini. Gallwch wneud cais hyd yn oed os nad ydych eisoes yn cael unrhyw help, mae’n seiliedig ar a oes ei angen arnoch, felly gallwch wneud cais waeth beth fo’ch incwm, cynilion neu os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun.
Mae dwy gyfradd wythnosol ganddo: £72.65 a £108.55 yn seiliedig ar lefel eich angen. Gallwch wneud cais ar-lein ar Gov.uk. Gallwch ddefnyddio’r arian tuag at gostau gofal ychwanegol neu wresogi – beth bynnag sy’n helpu i wneud eich bywyd bob dydd yn fwy hylawYn agor mewn ffenestr newydd
Os oes angen boeler newydd arnoch ac rydych yn derbyn Lwfans Gweini yna mae siawns dda y gallech fod yn gymwys i gael grant i’ch helpu i uwchraddio boeler eich cartref am ddim drwy gynllun ECO y Llywodraeth. Gallwch ddarganfod mwy am y cynllun ac a ydych yn gymwysYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych ar incwm isel a'n byw yn Lloegr gallwch hefyd wneud cais am help gan y Gronfa Cymorth CartrefYn agor mewn ffenestr newydd, gwiriwch i weld a ydych yn gymwys. Mae’r gronfa ar gael tan 31 Mawrth 2025. Gweler hefyd Byw ar incwm gwasgedig am sut i arbed arian ar filiau’r cartref.
Chwiliwch am “Fannau Cynnes” am ddim
Mae cynghorau ar draws y wlad yn agor mannau cymunedol i bobl gadw'n gynnes am ddim yn ystod y dydd yn ystod y misoedd oerach. Dewch o hyd i'ch cyngor lleol ar GOV.UK am leoliadau ac oriau agorYn agor mewn ffenestr newydd Gallwch hefyd ddarganfod mwy am Fannau Croeso Cynnes am ddimYn agor mewn ffenestr newydd