Skip to content
Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol

      Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    • Budd-daliadau os oes gennych blant

      Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

      Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

      Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    • Budd-daliadau a gwaith

      Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

      Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    • Problemau gyda budd-daliadau

      Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    • Budd-daliadau

      Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau

      Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    • Cyllidebu

      Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    • Prynu a rhedeg car

      Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    • Credyd

      Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    • Yswiriant

      Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    • Arian bob dydd

      Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant

      Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    • Marwolaeth a phrofedigaeth

      Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    • Ysgariad a gwahanu

      Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    • Salwch ac anabledd

      Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    • Gofal tymor hir

      Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    • Arian myfyrwyr a graddedigion

      Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    • Siarad am arian

      Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    • Teulu a gofal

      Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref

      Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    • Rhentu

      Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    • Cartrefi

      Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw

      Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    • Delio â dyled

      Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    • Problemau a chwynion am arian

      Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    • Sgamiau

      Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    • Problemau ariannol

      Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Rheoli a chronni’ch pensiwn

      Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    • Esbonio pensiynau

      Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    • Problemau a newidiadau pensiwn

      Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    • Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

      Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    • Pensiwn y Wladwriaeth

      Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    • Cymryd eich pensiwn

      Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    • Treth a phensiynau

      Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    • Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn

      Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

    • Sut i gynilo

      Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    • Buddsoddi

      Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    • Math o gynilion

      Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    • Cynilion

      Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth

      Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    • Colli eich swydd

      Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    • Hunangyflogaeth

      Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    • Gwaith

      Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    • Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    • Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    • Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    • Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    • Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    • Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    • Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    • Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    • Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    • Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    • Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    • Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    • Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    • Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    • Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    • Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    • Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    • Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    • Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    • Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    • Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    • Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    • Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    • Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    • Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    • Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    • Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    • Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    • Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

    • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    • Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    • Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    • Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    • Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    • Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    • Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Budd-daliadau
  3. Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd
Budd-daliadau Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

Sut i hawlio Taliad Anabledd Oedran Pensiwn

Os ydych chi’n byw yn yr Alban, dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth (66 oed neu’n hŷn ar hyn o bryd) a’ch bod angen help gyda bywyd bob dydd oherwydd salwch neu anabledd hirdymor, gallech hawlio’r Taliad Anabledd Oedran Pensiwn. Gallai fod werth bron i £6,000 y flwyddyn ac nid yw’n cael ei effeithio gan eich incwm. Darganfyddwch a allech chi ei gael a sut i wneud cais.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Beth yw’r Taliad Anabledd Oedran Pensiwn?
  • Faint yw’r Taliad Anabledd Oedran Pensiwn?
  • Pwy all gael y Taliad Anabledd Oedran Pensiwn?
  • Nid oes angen i chi fod ar incwm isel i fod yn gymwys
  • Gallwch wneud cais ar-lein, neu dros y ffôn ac ar bapur
  • Angen help gyda’ch cais?
  • Beth sy’n digwydd os bydd fy amgylchiadau’n newid?
  • Beth sy’n digwydd os nad ydw i’n cytuno â phenderfyniad?
  • Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n hawlio Lwfans Gweini?
  • Rwy’n cael trafferthion, oes unrhyw help ychwanegol y gallaf ei gael?

Beth yw’r Taliad Anabledd Oedran Pensiwn?

Mae Taliad Anabledd Oedran Pensiwn (PADP) yn fudd-dal i bobl sy’n byw yn yr Alban sy’n rhoi arian ychwanegol i chi os oes angen help arnoch gyda’ch anghenion gofal oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor, neu os ydych yn derfynol wael ac wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Gallwch hefyd wneud cais os nad ydych bellach yn byw yn yr Alban ond bod gennych gyswllt cryf, er enghraifft am eich bod wedi treulio rhan sylweddol o’ch bywyd yno. Darganfyddwch fwy am yr hyn sy'n cael ei ystyried yn gyswllt cryfYn agor mewn ffenestr newydd ar Mygov.scot.

PADP wedi disodli’r Lwfans Gweini yn yr Alban i gyd. Os ydych chi’n byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, gallwch hawlio Lwfans Gweini o hyd.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ar wneud cais am Lwfans Gweini os ydych chi’n byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon.
Nol i’r brig

Faint yw’r Taliad Anabledd Oedran Pensiwn?

Mae’r Taliad Anabledd Oedran Pensiwn yn cael ei dalu bob pedair wythnos a gall fod werth hyd at bron i £6,000 y flwyddyn. Mae ganddo ddwy gyfradd: is ac uwch. Mae’r swm a gewch yn 2026/27 yn dibynnu ar eich anghenion gofal.

Mae’r taliad yn ddi-dreth, nid yw’n effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill y gallech eu hawlio, a gallwch ei wario fel y dymunwch.

  • Y gyfradd is yw £76.70 yr wythnos. Mae ar eich cyfer chi os oes angen help neu oruchwyliaeth arnoch yn ystod y dydd neu’r nos.

  • Y gyfradd uwch yw £114.60 yr wythnos. Mae ar eich cyfer chi os oes angen help neu oruchwyliaeth arnoch yn ystod y dydd a’r nos.

  • Os yw meddyg neu nyrs cofrestredig wedi dweud eich bod chi’n derfynol wael, byddwch yn cael y gyfradd uwch yn awtomatig ac yn cael eich talu’n wythnosol ymlaen llaw.   

Fel arfer, ni allwch gael y Taliad Anabledd Oedran Pensiwn os ydych chi’n byw mewn cartref gofal ac mae’r awdurdod lleol yn talu am eich gofal.

Ond gallwch hawlio PADP o hyd os ydych chi’n byw mewn cartref gofal ac yn talu amdano eich hun.

Y prawf allweddol yw os oes angen help arnoch – nid yw’n hanfodol eich bod chi’n cael neu’n talu am help ychwanegol

Mae’r taliad yn cyfrannu tuag at unrhyw anghenion gofal neu anghenion eraill sydd gennych. Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli nad oes angen i chi fod eisoes yn cael help i wneud cais am y taliad. Yr hyn sy’n bwysig yw bod angen help arnoch oherwydd difrifoldeb eich cyflwr.

Mae hyn yn golygu eich bod yn ei chael hi’n anodd neu’n amhosibl gwneud rhai tasgau bob dydd heb gymorth – er enghraifft, mynd i mewn i’r bath, mynd i fyny neu i lawr y grisiau, mynd i mewn i’r gwely neu allan ohono, neu wisgo eich hun.

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys os ydych mewn perygl o gwympo, neu os nad ydych yn ymwybodol o sefyllfaoedd peryglus. Fel rhan o’ch cais, bydd angen i chi ddangos y gallech fod wedi elwa o’r cymorth hwn am o leiaf chwe mis.

Nid oes angen i chi aros chwe mis i gasglu tystiolaeth, ac nid oes angen i chi fod wedi cael diagnosis – mae’n ymwneud â’r help sydd ei angen arnoch. Yn hytrach, bydd angen i chi ddisgrifio eich sefyllfa dros y chwe mis diwethaf, gan ddangos eich bod wedi bod angen help yn gyson

Nol i’r brig

Pwy all gael y Taliad Anabledd Oedran Pensiwn?

  • Mae angen i chi fod wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Yn yr Alban, mae hyn ar hyn o bryd yn 66 oed neu’n hŷn, ond mae’n cynyddu yn ystod 2026/27. Ewch i GOV.UK i wirio eich oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd
  • Nid yw eich cyllid yn cael ei ystyried. Os yw eich cyflwr yn golygu eich bod yn gymwys i gael help, byddwch yn ei gael waeth beth fo’ch incwm neu’ch cynilion.
  • Nid oes angen i chi fod yn byw ar eich pen eich hun na bod â gofalwr. Mewn rhai cyplau, bydd y ddau ohonoch yn gymwys. 
  • Mae angen i chi fod â salwch neu anabledd sy’n golygu bod angen ‘help’ neu ‘oruchwyliaeth’ arnoch gyda gweithgareddau dyddiol. Nid oes rhestr swyddogol o gyflyrau cymhwysol – ond mae arthritis, problemau’r galon neu’r frest, anymataliaeth, symudedd neu gydbwysedd gwael, dallineb a dementia ymhlith y cyflyrau a allai gael eu derbyn
Nol i’r brig

Nid oes angen i chi fod ar incwm isel i fod yn gymwys

Mae Taliad Anabledd Oedran Pensiwn yn ddi-dreth ac nid yw’n seiliedig ar brawf modd. Mae hyn yn golygu nad yw faint o incwm rydych chi’n ei gael o Bensiwn preifat neu Bensiwn y Wladwriaeth, cyflogaeth, cynilion neu fuddsoddiadau yn berthnasol i benderfynu a allwch chi gael y taliad neu faint y byddwch yn ei gael.  

Angen mwy o wybodaeth? Gallwch ymweld â mygov.scot i weld y manylion llawn am sut mae’r taliad yn gweithio

Gwiriwch a allech fod yn gymwys i gael Taliad Anabledd Oedran Pensiwn

Os ydych chi’n meddwl y byddwch chi’n gallu cael y taliad ond eich bod yn ansicr o hyd –defnyddiwch y gwiriwr cymhwysedd am ddim ar mygov.scot. Mewn ychydig funudau byddwch yn gallu gweld a yw’n debygol y bydd eich cais yn llwyddiannus.

Cymerwch ychydig funudau i wirio pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio a faint y gallech ei gael bob mis gyda’n Cyfrifiannell Budd-daliadau
Nol i’r brig

Gallwch wneud cais ar-lein, neu dros y ffôn ac ar bapur

  • Ar-lein: Mae hawlio Taliad Anabledd Oedran Pensiwn yn golygu cofrestru trwy myaccountYn agor mewn ffenestr newydd a chyflwyno dwy ran ar wahân o gais ar-lein.  

  • Ffôn a phapur: Gallwch ffonio Social Security Scotland am ddim ar 0800 182 2222. Maen nhw ar agor rhwng 8am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Byddant yn eich helpu i ddechrau eich cais a byddant yn anfon ffurflen bapur atoch i chi ei chwblhau a’i dychwelyd.

  • Os ydych chi’n ddefnyddiwr iaith arwyddion: Os ydych chi’n ddefnyddiwr Iaith Arwyddion Prydain, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth Contact ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd i gysylltu â Social Security Scotland.

Nol i’r brig

Angen help gyda’ch cais?

Gall y broses ymgeisio deimlo’n frawychus yn enwedig os mai dyma’r tro cyntaf i chi wneud cais am fudd-dal neu os yw eich salwch neu anabledd yn ei gwneud hyd yn oed yn anoddach i chi gwblhau gwaith papur.

Mae’n gwbl ddealladwy os byddai’n well gennych bod rhywun yn eich helpu chi i wneud cais.  Dyna pam y caniateir i chi gael rhywun i wneud cais am Daliad Anabledd Oedran Pensiwn ar eich rhan.

Gallai hyn fod yn:

  • aelod o’r teulu

  • ffrind

  • rhywun arall sy’n eich helpu, fel gofalwr neu weithiwr cymorth. Darganfyddwch fwy ar mygov.scot am sut i ddewis y person cywir

Gall gweithio allan pa fudd-daliadau sydd gennych hawl iddynt fod yn anodd. Darganfyddwch ble i gael cyngor arbenigol am ddim ar-lein, wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. Gweler ein canllaw Ble alla i gael help a chyngor am fudd-daliadau.

Cymorth pellach

  • Gallwch hefyd  ffonio llinell gymorth Independent Age ar 0800 319 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am i 5.30pm) am gymorth os ydych chi’n cael anawsterau wrth wneud cais, fel darllen ffurflenni neu ddeall gwybodaeth gymhleth.

  • Os ydych chi’n anabl, gallwch gael help gan VoiceAbility, gwasanaeth eiriolaeth budd-daliadau nawdd cymdeithasol yn yr Alban. Mae dwy ffordd o gael help ganddynt: naill ai trwy gysylltu â Social Security Scotland a chael atgyfeiriad neu drwy gysylltu â VoiceAbility yn uniongyrchol.

Nol i’r brig

Beth sy’n digwydd os bydd fy amgylchiadau’n newid?

Os bydd eich iechyd yn gwella neu’n gwaethygu neu os bydd eich angen am help oherwydd eich anabledd yn newid, dylech roi gwybod i Social Security Scotland. Mae hyn er mwyn iddynt newid faint o arian rydych chi’n ei dderbyn ar gyfer y lefel o help sydd ei angen arnoch.

Gallwch gael help ychwanegol ar hyn trwy Gyngor ar Bopeth. Os nad ydych chi’n rhoi gwybod i Socital Security Scotland, rydych chi’n peryglu colli cymorth ychwanegol neu bydd angen ad-dalu arian nad oes gennych hawl iddo mwyach. Gweler ‘Sut i roi gwybod am newid mewn amgylchiadau’ yn ein canllaw Help i reoli eich arian os ydych chi’n derbyn budd-daliadau.   

Nol i’r brig

Beth sy’n digwydd os nad ydw i’n cytuno â phenderfyniad?

Os ydych chi’n anhapus â phenderfyniad am eich budd-daliadau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Social Security Scotland neu CThEF, mae’n bwysig dilyn y broses gywir – gweler ein canllaw Sut i apelio yn erbyn penderfyniad budd-daliadau.

Nol i’r brig

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n hawlio Lwfans Gweini?

Os ydych yn byw yn yr Alban ac wedi bod yn cael Lwfans Gweini, dylai Social Security Scotland fod wedi trosglwyddo eich budd-dal yn awtomatig i Daliad Anabledd Oedran Pensiwn, heb i chi orfod gwneud dim.

Os nad ydych wedi cael eich symud, dylech gysylltu â Social Security ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd

Os ydych yn byw yng Nghymru neu’n Lloegr ac yn symud yn barhaol i’r Alban, ni fydd eich cais am Lwfans Gweini yn symud gyda chi.

Bydd angen i chi gysylltu â Social Security Scotland i wneud cais newydd am Daliad Anabledd Oedran Pensiwn. Bydd angen i chi hefyd gysylltu â ’r Adran Gwaith a Phensiynau i roi gwybod iddynt na fyddwch bellach yn hawlio Lwfans Gweini,

Byddwch yn cael yr un swm pan fydd eich budd-dal yn symud i Daliad Anabledd Oedran Pensiwn. I gael rhagor o wybodaeth am symud o Lwfans Gweini i PADP Yn agor mewn ffenestr newydd, ewch i mygov.scot. 

Darganfyddwch fwy am symud i'r Alban o Gymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon a sut mae'n effeithio ar eich ceisiadau am fudd-daliadauYn agor mewn ffenestr newydd ar mygov.scot.

Nol i’r brig

Rwy’n cael trafferthion, oes unrhyw help ychwanegol y gallaf ei gael?

Os ydych chi tua neu dros oedran ymddeol, mae nifer o fudd-daliadau y gallech eu hawlio.

Yn ogystal â’ch Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y bydd gennych hawl i arian ychwanegol i helpu gyda’ch gwresogi yn y gaeaf, tocynnau trafnidiaeth am ddim a budd-daliadau eraill. Ewch i’n canllaw Budd-daliadau ar ôl ymddeol i weld mwy. 

Mae’n arbennig o bwysig ystyried Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai neu Gostyngiad Treth Gyngor, gan fod elfen ychwanegol yn y budd-daliadau hynny sy’n cael ei thalu i bobl sy’n cael PADP, sy’n byw ar eu pen eu hunain ac nad oes ganddynt ofalwr. Gall hyn olygu eich bod bellach yn gymwys i gael y budd-daliadau hynny pan nad oeddech o’r blaen. 

Defnyddiwch ein Cyfrifiannell budd-daliadau am ddim i weld pa gefnogaeth ychwanegol y gallech ei gael.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook X
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

  • Budd-daliadau mewn ymddeoliad
  • Sut i hawlio Taliad Anabledd Oedran Pensiwn
  • Sut i wneud cais am Lwfans Gweini

Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

  • Budd-daliadau mewn ymddeoliad
  • Sut i hawlio Taliad Anabledd Oedran Pensiwn
  • Sut i wneud cais am Lwfans Gweini
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Llywodraeth EF
Trustpilot
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Opsiynau cyswllt Cau

Cysylltwch â ni

Dechrau gwesgwrs

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Siaradwch â ni dros y ffôn

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Mae galwadau yn y DU am ddim ac efallai y cânt eu recordio er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Anfonwch e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymateb mewn 3 diwrnod gwaith

Os bydd gwell gennych ysgrifennu atom, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Atebwch ychydig o gwestiynau ac yna bydd gennych le i ysgrifennu gymaint o fanylion a hoffech.

Sgwrsiwch gyda ni’n fyw gan ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch yr ap: WhatsApp

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Byddwn yn ymateb rhwng dydd Llun – dydd Gwener, 9am i 5pm (heblaw am wyliau banc). 

Opsiynau hygyrchedd

  • Relay UK

    Relay UK logo

    Defnyddiwch y gwasanaeth cyfrinachol i deipio negeseuon atom gan ddefnyddio ffôn testun neu ap.

    Ewch i Relay UK
  • BSL

    British Sign Language logo

    Gwell gennych ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain? Defnyddiwch y gwasanaeth am ddim hon i gyrchu dehonglydd BSL – dewiswch bwnc o’r rhestr ‘department’.

    Cysylltu â InterpretersLive!Yn agor mewn ffenestr newydd

  • Cyfieithydd

    Interpreter logo

    Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, gallwn ddod o hyd i gyfieithydd i helpu.

    Ffoniwch 0800 756 1012