Gall deall sut mae Treth Incwm yn gweithio fod yn ddryslyd, yn enwedig pan fyddwch yn cychwyn yn y gweithle. Bydd gwybod sut bydd Treth Incwm a’r Lwfans Personol yn gweithio yn caniatáu i chi weithio allan os ydych yn cael eich talu y swm cywir ac i’ch helpu i gyllido.
A ddylwn dalu Treth Incwm?
Codir Treth Incwm ar y rhan fwyaf o fathau o incwm. Y ffordd fwyaf cyffredin yw ar eich enillion a chyflog o’r gwaith.
Ond mae rhaid i chi dalu Treth Incwm ar:
- elw, os ydych yn rhedeg busnes
- llog a difidendau o gynilion a buddsoddiadau
- Rhent a gewch os ydych yn landlord.
Nid ydych fel arfer yn talu Treth Incwm ar y cyfan o’ch incwm trethadwy. Y rheswm am hyn yw bod y rhan fwyaf o bobl yn gymwys ar gyfer un neu ragor o lwfansau.
Lwfans yw swm a fyddai’n incwm trethadwy fel arall y cewch ei ennill bob blwyddyn, heb dalu treth arno.
Lwfans Personol |
£12,570 |
£12,570 |
Trothwy Incwm ar gyfer Lwfans Personol |
£100,000 |
£100,000 |
Lwfans Priodas |
£1,260 |
£1,260 |
Lwfans Cynilion Personol |
£1,000 / £500 / £0 |
£1,000 / £500 / £0 |
Lwfans Treth Difidend |
£500 |
£1,000 |
Os byddwch yn ennill uwch y trothwy, caiff eich Lwfans Personol ei leihau £1 am bob £2 byddwch yn ennill uwchlaw’r trothwy, hyd nes iddo gyrraedd £0.
Rhoddir 20% o’r lwfans hwn fel gostyngiad yn eich bil treth. Mae hyn yn wahanol i’r Lwfans Personol a’r Lwfans Oedran, a ddidynnir o’ch incwm trethadwy cyn cyfrifo’r dreth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Lwfans Pâr Priod a Phriodas
Beth yw Lwfans Personol?
Mae gan bawb, gan gynnwys myfyrwyr, rhywbeth o’r enw Lwfans Personol – y swm o arian y cewch ennill pob blwyddyn dreth cyn i chi dalu Treth Incwm.
Ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25, y Lwfans Personol yw £12,570. Os byddwch yn ennill llai na hyn, ni fydd rhaid i chi dalu unrhyw dreth incwm.
Gallai’ch Lwfans Personol fod yn fwy os hawliwch Lwfans Priodas neu Lwfans Unigolyn Dall. Neu gallai fod yn llai os ydych yn ennill yn uchel neu os oes treth yn ddyledus gennych o’r flwyddyn dreth flaenorol.
Gwiriwch y ffigurau Lwfans Personol diweddaraf ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Y Lwfans Personol os ydych yn ennill dros £100,000
Os ydych yn ennill dros £100,000, ceir gostyngiad o £1 oddi ar £12,570 am bob £2 a enillir dros y terfyn £100,000. Os ydych yn ennill £125,140, byddwch yn talu Treth Incwm ar bopeth ac nid oes lwfans di-dreth.
Ar gyfer beth y defnyddir Treth Incwm?
Oeddech chi’n gwybod?
Cymerir eich Lwfans Personol o’ch enillion cyn eich bod yn dechrau talu Treth Incwm.
Cesglir Treth Incwm gan HMRC ar ran y llywodraeth. Fe’i defnyddir i helpu darparu cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Er enghraifft y GIG, y system lles, yn ogystal â buddsoddi mewn prosiectau cyhoeddus, fel ffyrdd, rheilffyrdd a thai.
Faint o Dreth Incwm fyddaf yn ei dalu?
Mae Treth Incwm yn cynnwys sawl band gwahanol. Mae hyn yn golygu wrth i’ch lwfans gynyddu, felly hefyd mae’r swm o Dreth Incwm fyddwch yn ei dalu.
Mae’r tabl isod yn dangos y cyfraddau o Dreth Incwm yn ddibynnol ar eich enillion.
£0 i £12,570 |
0% |
£12,571 i £50,270 |
Cyfradd sylfaenol: 20% |
£50,271 i £125,140 |
Cyfradd uwch: 40% |
Dros £125,140 |
Cyfradd ychwanegol: 45% |
Cofiwch, nad ydych yn talu Treth Incwm ar yr un cyfradd ar eich holl incwm. Rydych ond yn talu’r cyfradd o Dreth Incwm ar eich incwm yn y dosbarth incwm. Er enghraifft, os ydych yn ennill £52,000 y flwyddyn, mae’r Dreth Incwm byddwch yn ei thalu’n gweithio allan fel hyn:
Incwm | Band Treth Incwm | Treth byddwch yn ei thalu |
---|---|---|
Hyd at £12,570 |
0% |
Dim treth incwm ar y £12,570 cyntaf |
Rhwng £12,571 a £50,270 |
20% |
20% treth incwm ar eich incwm £37,500 nesaf. (£50,270 - £12,570 = £37,700) |
Rhwng £50,271 a £125,140 |
40% |
40% ar y £1,730 olaf o incwm (£52,000 - £50,270 = £1,730) |
Dros £125,140 |
45% |
Dim treth incwm ar y gyfradd hon |
Os ydych yn byw yng Nghymru, mae eich cyfraddau Treth Incwm bellach yn cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd mae’r rhain yr un peth â Lloegr a Gogledd Iwerddon ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25.
Os ydych yn byw yn yr Alban, mae eich cyfraddau Treth Incwm yn cael eu gosod gan Llywodraeth yr Alban ac yn wahanol.
Darganfyddwch am y cyfraddau Treth Incwm gwahanol byddwch yn eu talu os ydych yn byw yn yr Alban yn ein canllaw Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol yr Alban
Os ydych chi’n credu y didynnwyd Treth Incwm ar gam o’ch enillion, cwblhewch y ffurflen R38 gan CThEM er mwyn iddi gael ei dalu’n ôl i chi.
Yswiriant Gwladol
Nid yw Treth Incwm yr unig didyniad a wneir i’ch incwm.
Efallai byddwch hefyd yn gwneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mae’r rhain yn helpu adeiladu’ch hawl i fudd-daliadau penodol, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth a Lwfans Mamolaeth.
Darganfyddwch fwy am gyfraniadau Yswiriant Gwladol, a faint y byddwch chi'n ei dalu, yn ein canllaw Yswiriant Gwladol - yr hyn y mae angen i chi ei wybod
Treth os ydych yn hunangyflogedig
Os ydych yn hunangyflogedig, telir Treth Incwm ar yr un cyfradd â phawb arall. Ond byddwch yn ei dalu’n ôl dyledion ar ôl blwyddyn trwy Hunanasesiad.