Gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE) gael effaith ar eich treth a chyflogaeth. Darganfyddwch beth sydd angen i chi ei wneud os bydd unrhyw un o’r newidiadau hyn yn cael effaith arnoch chi.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Allwn i gael fy nhrethu ddwy waith ar fy incwm os ydw i’n gweithio dramor, naill ai fel gwladolyn o’r DU yn gweithio yn yr UE neu’n wladolyn o’r UE yn gweithio yn y DU?
Bydd cytundebau dwyochrog â holl aelod-wladwriaethau’r UE ar gyfer dileu Trethu dwbl yn parhau i fod yn gymwys fel y maen nhw yn awr.
Mae’r cytundebau hyn yn dyrannu hawliau trethu rhwng gwledydd ac yn dileu trethu dwbl trwy sicrhau bod naill ai:
- dim ond un wlad yn gallu trethu incwm cyflogaeth neu,
- lle mae gan y ddwy wlad hawliau trethu, y bydd y wlad rydych chi’n byw ynddi yn rhoi rhyddhad ar gyfer y dreth sy’n cael ei thalu yn y wlad lle rydych chi’n gweithio.
Ni fydd trefniadau trethu dwbl presennol y DU sydd ganddi gyda holl wledydd yr UE, yn newid.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw treth ar eich incwm yn y DU os ydych yn byw dramor ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Darllenwch ein canllaw Sut mae Treth Incwm, Yswiriant Gwladol a’r Lwfans Personol yn gweithio
Fydd fy rhwymedigaeth i dreth etifeddiaeth yn cael ei effeithio nawr bod y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd?
Na. Ni fydd treth etifeddiaeth yn cael ei heffeithio.
Mae Treth Etifeddiaeth yn cael ei chodi ar drosglwyddiadau asedau byd-eang gan bobl sy’n byw yn y DU, a throsglwyddiadau o asedau’r DU gan bobl sydd ddim yn byw yn y DU.