Mae buddsoddiadau sy'n addo enillion mawr i chi yn tueddu dod â risgiau mawr hefyd. Mae'r canllaw hwn yn cwmpasu'r prif fathau o fuddsoddiadau risg uchel. Nid ydynt yn anghyfreithlon nac yn sgamiau (er bod gan rai sgamiau yn gysylltiedig â nhw). Ond os ydych yn buddsoddi, mae'n rhaid i chi dderbyn, yn y pen draw gallech golli popeth, neu gydag arian yn ddyledus.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth yw buddsoddiadau risg uchel?
Diogelu eich hun
Dylech osgoi cynigion buddsoddi digymell.
Cyn buddsoddi gwiriwch gofrestr yr FCA a’r ScamSmart ar wefan yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn ystyried cynnig buddsoddi, ceisiwch gyngor diduedd
Mae llawer o gynhyrchion buddsoddi yr ystyrir eu bod yn gynhyrchion risg uchel .
Nid yw'r ffaith bod cynnyrch yn risg uchel yn golygu y dylech ei osgoi ar bob cyfrif. Ond mae'n golygu bod angen i chi sicrhau bod y cynnyrch yn addas i chi a'i fod yn unol â'ch amcanion a'ch awydd am risg.
Gall buddsoddi mewn cynnyrch risg uchel nad yw'n addas i chi fod yn gamgymeriad drud iawn.
Mae rhai pwyntiau cyffredinol i'w cofio wrth feddwl am fuddsoddi mewn cynnyrch risg uchel:
- Po uchaf yw'r potensial ar gyfer enillion uchel, yr uchaf yw'r potensial ar gyfer risg.
- Efallai na chewch eich cwmpasu o dan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS), oni bai bod ymgynghorydd awdurdodedig neu drefnydd wedi camymddwyn (Er enghraifft, os cafodd y cynnyrch ei gam-werthu).
- Ystyriwch faint y gallwch fforddio ei golli cyn i chi fuddsoddi.
Buddsoddiadau risg uchel cyffredin
Mae hwn yn drosolwg byr iawn o ychydig o'r cynhyrchion risg uchel y gallech fod angen bod yn ymwybodol ohonynt.
Cyn buddsoddi mewn un o'r cynhyrchion buddsoddi hyn, mae'n debygol y bydd yn syniad da i gael cyngor ariannol proffesiynol. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Dewis ymgynghorydd ariannol
Bondiau mini
Fe’u gelwir weithiau’n fondiau sy’n ennill llog uchel, maent yn eich galluogi i fuddsoddi mewn cwmni a derbyn cyfradd llog sefydlog dros gyfnod penodol o amser. Mae’ch buddsoddiad gwreiddiol yn cael ei ddychwelyd i chi ar ddiwedd y tymor a gytunwyd arno. Mae'r enillion uchel a gynigir yn adlewyrchu'r risgiau uwch.
Yn nodweddiadol cwmnïau bach, mentrau newydd neu gwmnïau sy’n cael trafferth codi arian gan fuddsoddwyr traddodiadol sy’n eu cyflwyno. Mae hyn yn golygu eu bod yn fuddsoddiadau gyda risg uchel, gan fod mwy o risg o oedi o ran eich taliadau llog ac, os yw’r cwmni’n methu, efallai byddwch yn colli’ch buddsoddiad gwreiddiol.
Gan eich bod wedi eich cloi i mewn i’r buddsoddiad am gyfnod penodol o amser, nid ydynt yn addas i fuddsoddwyr a allai fod angen mynediad at yr arian arnynt. Ers 1 Ionawr 2020, mae'r FCA wedi gwahardd unrhyw gwmnïau rhag hysbysu 'bondiau mini tybiannol' i'r rhan fwyaf o bobl.
Darganfyddwch fwy o wybodaeth am y bondiau hyn o wefan FCAYn agor mewn ffenestr newydd
Cynlluniau buddsoddiar y cyd heb eu rheoleiddio (UCIS)
- Mae cynlluniau buddsoddi ar y cyd yn cronni cyfraniadau gan lawer o bobl mewn cronfa fuddsoddi. Mae rhai yn cael eu rheoleiddio gan yr FCA – ond nid yw eraill.
Dysgwch fwy am fuddsoddiadau ar y cyd heb eu rheoleiddio ar wefan yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd
Betio trwy ymledu
- Mae betio trwy ymledu yn debycach i osod bet na buddsoddi. Rydych yn betio a fydd rhywbeth – fel gwerth cyfranddaliad – yn codi neu’n gostwng. Po fwyaf y bydd yn newid, y mwyaf y gallech ei ennill neu ei golli.
- Yn wreiddiol, roedd betio trwy ymledu’n gysylltiedig â pherfformiad y Farchnad Stoc. Ond nawr gallwch fetio ar fwy neu lai unrhyw beth, fel chwaraeon, teledu realaeth a gwleidyddiaeth.
Os yw gamblo wedi effeithio arnoch yn ariannol, gall fod yn anodd siarad amdano. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Taclo gamblo problemus a dyled
Contractau Talu’r Gwahaniaeth (CFD)
- Mae contractau talu’r gwahaniaeth (CFD) yn debyg iawn i fetio trw ymledu – rydych yn ceiso rhagweld a fydd gwerth ased penodol yn codi neu’n gostwng. Ond gyda chontractau talu’r gwahaniaeth (CFD) rydych yn prynu buddiant yn symudiad y pris, yn hytrach na gosod bet arno.
- Fel gyda betio trwy ymledu, gyda chontractau talu’r gwahaniaeth, mae’n bosibl colli mwy na’ch buddsoddiad gwreiddiol.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y risgiau cyn i chi brynu contractau talu’r gwahaniaeth.
- Mae cynlluniau buddsoddi ar y cyd yn cronni cyfraniadau gan lawer o bobl mewn cronfa fuddsoddi. Mae rhai yn cael eu rheoleiddio gan yr FCA – ond nid yw eraill.
Cryptoarian
Mae cryptoarian yn fath o ased digidol. Nid oes unrhyw arian corfforol ynghlwm â cryptoarian, felly nid oes darnau arian nac arian papur, dim ond cofnod digidol o'r trafodiad.
Daw cryptoarian ar sawl ffurf, yn cynnwys:
- Bitcoin a thocynnau hirsefydlog eraill
- ‘Stable-coins’ y mae eu gwerth ynghlwm wrth arian cyfred fiat, er enghraifft Tether
- yn ogystal â llu o ddarnau arian mwy cyfnewidiol.
Pethau i edrych allan amdanynt
- Mae prisiau rhai cryptoarian yn tueddu i fod yn ansefydlog iawn; os ydych yn buddsoddi gyda'r gobaith o wneud arian, mae'n hawdd iawn colli rhywfaint neu'r cyfan o'ch buddsoddiad gwreiddiol.
- Mae buddsoddwyr cryptoarian yn cael eu targedu'n gynyddol gan dwyllwyr
- Gall cymhlethdod rhai cynhyrchion cryptoarian ei gwneud hi'n anodd i fuddsoddwyr ddeall y risgiau.
- Nid oes unrhyw sicrwydd y gellir trosi crypto-asedau yn arian parod. Mae’n rhaid i ‘Crypto-ATMs’ fod wedi eu cofrestru gyda’r FCA. Ar hyn o bryd, nid oes ‘crypto-ATMs’ wedi'u cofrestru i weithredu'n gyfreithlon yn y DU.
Darganfyddwch fwy am y risgiau sy'n gysylltiedig â cryptoarian a beth i wylio amdano yn ein blog Risgiau buddsoddi a sgam gyda chryptoarian.
Tocynnau anghyfnewidadwy (NFTs)
Mae tocynnau anghyfnewidadwy (NFTs) yn dystiolaeth ddigidol o berchnogaeth ar gyfer asedau penodol. Maent yn aml yn gysylltiedig ag eitemau digidol fel lluniau, cardiau masnachu digidol, parthau gwe, neu bostiadau cyfryngau cymdeithasol gan bobl enwog, a gallant hefyd gynrychioli asedau ffisegol fel gwin, gyda'r NFT yn dangos pwy sy'n berchen ar y gwin sy'n cael ei storio'n ganolog.
Fel cryptoarian, mae NFTs yn defnyddio technoleg gymhleth ar gyfer diogelwch, ond gall fod risgiau sylweddol os bydd y diogelwch hwn yn methu.
Mae risgiau buddsoddi NFTs yn dibynnu ar yr ased y maent yn ei gynrychioli, ond mae llawer ohonynt yn risg uchel iawn neu'n hapfasnachol, felly dylech fod yn ofalus wrth fuddsoddi.
Bancio tir
- Mae bancio tir yn fuddsoddiad lle y byddwch yn prynu llai o dir nad oes caniatâd cynllunio wedi’i roi ar ei gyfer – yn y gobaith y rhoddir caniatâd cynllunio ac y bydd gwerth y tir yn cynyddu’n sylweddol.
- Yn gyffredinol, nid yw cynlluniau bancio tir wedi’u hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).
Mae rhai buddsoddiadau bancio tir yn sgamiau. Darganfyddwch fwy ar wefan yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd
Sut i ddiogelu eich hun
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth rydych yn ymrwymo iddo – yn enwedig y risgiau a’r taliadau. Os yw’r ddêl yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debygol ei bod.
- Peidiwch ag ymrwymo i’r cynnyrch cyntaf a welwch na chynnyrch lle y bydd cwmni yn cysylltu â chi’n annisgwyl. Dylech bob amser gymharu cynhyrchion er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn dewis y cynnyrch cywir.
- Darllenwch y gwaith papur a gewch a sicrhewch eich bod yn ei ddeall - cofiwch ofyn a bydd unrhyw beth yn aneglur.
- Caiff rhai cynhyrchion buddsoddi eu darparu gan gwmnïau na chânt eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Os nad yw’r cwmni wedi’i reoleiddio, yna ni fyddwch yn gallu defnyddio Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol na Chynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol.
Gwiriwch a yw cwmni wedi'i reoleiddio ar y Gofrestr FCA
Cael cyngor ariannol
Gall buddsoddiadau risg uchel fod yn gymhleth. Gall ymgynghorwyr ariannol eich helpu i ddod o hyd i'r cynhyrchion buddsoddi cywir ac osgoi'r rhai sy'n anaddas i chi.