Deall a chymharu eich opsiynau llwybr buddsoddi (ar gyfer tynnu pensiwn i lawr) Beta

Beth yw llwybrau buddsoddi?

  • Mae llwybrau buddsoddi yn symleiddio'r penderfyniad o sut i fuddsoddi'ch pot pensiwn sy'n weddill ar ôl i chi gymryd eich cyfandaliad di-dreth.
  • Mae llwybr buddsoddi yn opsiwn buddsoddi parod sy'n gysylltiedig ag un o bedwar amcan ymddeol.
  • Maent yn seiliedig ar ba gynlluniau a allai fod gennych ar gyfer eich arian dros y pum mlynedd nesaf ac maent yn cael eu rheoli gan eich darparwr, felly nid oes angen i chi boeni am ddewis eich buddsoddiadau.
  • Rhaid i ddarparwyr pensiwn gynnig opsiynau llwybr buddsoddi os ydych am gymryd eich cyfandaliad di-dreth a / neu ddechrau cymryd incwm hyblyg (tynnu pensiwn i lawr ) nawr neu'n hwyrach heb gymryd cyngor ariannol.
  • Bydd yn rhaid iddyn nhw hefyd gynnig opsiynau llwybrau buddsoddi i chi os byddwch chi'n symud pensiwn presennol wrth dynnu i lawr o un darparwr i'r llall.

Gwyliwch y fideo fer hon (1 munud 30 eiliad) i ddarganfod mwy am lwybrau buddsoddi a sut y gallant helpu i symleiddio'r penderfyniad ynghylch ble i fuddsoddi pan fyddwch chi'n symud i mewn i gynnyrch tynnu pensiwn. (Dadlwythwch y trawsgrifiad fideo) link downloads a PDF

Beth ydych chi am ei wneud?

Mae angen i ni wybod faint o arian rydych chi am ei ddefnyddio o'ch pot pensiwn er mwyn i ni allu gweithio allan: - faint o arian parod di-dreth y mae gennych hawl i'w gymryd, a - pa daliadau y byddwch yn eu talu

Rhowch y swm o'ch cronfa (neu gronfeydd) pensiwn yr ydych chi eisiau ei roi mewn cynnyrch incwm hyblyg. Dylai hyn gynnwys unrhyw swm yr ydych yn dymuno ei gymryd fel cyfandaliad di-dreth £

(Byddwn yn didynnu 25% fel cyfandaliad di-dreth cyn dangos y canlyniadau cymhariaeth i chi.)

O sawl cronfa?

Gallwch ddefnyddio rhywfaint neu'r cyfan o'ch cynilion pensiwn o wahanol gronfeydd ar gyfer y dewis hwn. Mae rhai darparwyr yn codi tâl trosglwyddo i mewn neu sefydlu fesul cronfa. Gwiriwch faint fyddwch chi'n ei dalu gyda'ch darparwr neu gynghorydd ariannol.

Beth wy gwerth eich cynnyrch incwm hyblyg presennol? £

Pryd cawsoch chi eich geni?

Mae angen i ni wybod eich oedran gan fod rhai darparwyr yn cyfyngu ar yr opsiynau maen nhw'n eu cynnig yn seiliedig ar eich oedran. Byddwn ond yn dangos i chi gynhyrchion y gallwch eu sefydlu.

Arweiniad pensiynau am ddim

Mae help gan ein harbenigwyr pensiwn yn ddiduedd ac am ddim i'w ddefnyddio, p'un ai yw hynny ar-lein neu dros y ffôn.