Cynyddu’ch morgais – cael benthyciad ychwanegol ar y morgais

Os yw gwerth eich cartref wedi cynyddu ers ichi ei brynu, gallech fenthyg rhagor gan eich benthyciwr morgais. Mae yna resymau pam y gallai hyn fod yn syniad da, ond dylech ddarganfod beth allai ei olygu i'ch ad-daliadau.

Cynyddu fy morgais - beth yw benthyciad ychwanegol?

Benthyciad ychwangeol yw pan fyddwch yn cael mwy o fenthyciad gan eich benthyciwr morgais cyfredol.

Mae hyn fel arfer ar gyfradd wahanol i'ch prif forgais.

Gall y llwybr hwn wneud synnwyr os:

  • bydd cynnydd pellach eich benthyciwr yn gystadleuol
  • nad ydych am ailforgeisio neu newid benthycwyr.

Gallwch ledaenu'ch taliad dros yr hirdymor a dylai eich cyfradd llog fod yn is na benthyciad personol.

Ond gwiriwch y farchnad bob amser i weld a allwch chi gael bargen well cyn ymrwymo.

Pryd allai benthyciad ychwanegol ar y morgais wneud synnwyr

Mae dwy sefyllfa benodol pan all benthyciad ychwanegol fod yn addas:

  • i ariannu gwelliannau i’r cartref.
  • i godi blaendal ar gyfer ail eiddo, fel buddsoddiad prynu i osod efallai.

Ydy benthyciadau ychwanegol ar y morgais yn syniad da ar gyfer talu dyledion?

Gallai cynyddu eich morgais ar gyfer gwelliannau i'r cartref ychwanegu gwerth i'ch eiddo ond anaml y byddai defnyddio blaenswm pellach i dalu dyledion yn syniad da.

Ystyriwch y dewisiadau amgen yn gyntaf.

Byddai'r benthyciad ychwanegol yn gysylltiedig â'ch eiddo, y gallech ei golli pe na fyddech yn gallu cadw'ch taliadau benthyciad ychwanegol i fyny.

Er bod cyfraddau llog ar forgeisiau fel arfer yn is na'r cyfraddau ar fenthyciadau personol - ac yn llawer is na chardiau credyd - fe allech chi dalu mwy yn y tymor hwy.

Cyn ceisio benthyca yn erbyn eich eiddo, ceisiwch flaenoriaethu a chlirio'ch benthyciadau.

Cyn i chi wneud cais am fenthyciad ychwanegol ar eich morgais

Cyn i chi ystyried gwneud cais am fenthyciad ychwanegol ar eich morgais, dylech chi wneud yn siŵr fod y canlynol i gyd yn berthnasol:

  • mae gennych gofnod credyd da
  • rydych yn gyfforddus gyda’r taliadau misol ychwanegol ac wedi gwneud yn siŵr eich bod yn gallu fforddio’r rheini, ac
  • mae gwerth eich cartref wedi cynyddu’n sylweddol uwchlaw swm y morgais y gwnaethoch ei fenthyg ar y cychwyn – y term am hyn yw bod ag ecwiti yn eich eiddo.

Ystyriwch faint y gallwch ei fforddio

I ddarganfod mwy am faint y gallwch fforddio ei fenthyg, defnyddiwch ein Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais.

Fel man cychwyn, rhaid ichi ganfod a allwch chi fforddio benthyca rhagor.

Defnyddiwch ein Cynllunydd cyllideb i weld a allwch chi fforddio’r ad-daliadau.

Os credwch y gallwch chi fforddio’r llwybr hwn, dilynwch y camau hyn:

  1. Cysylltwch â’ch benthyciwr morgais a gofyn iddo esbonio’i broses a’i amserlen. Bydd benthycwyr yn eich tywys trwy’ch cyllideb gan edrych yn agos ar eich incwm ac alldaliadau er mwyn gwneud yn siŵr y gallwch ei fforddio. Mae alldaliadau’n cynnwys ad-daliadau dyled eraill, biliau’r cartref a chostau byw. Hefyd byddant yn rhoi ‘prawf pwysau’ i’r cynnydd yn eich morgais er mwyn sicrhau y gallech ymdopi os bydd cyfraddau llog yn codi neu os bydd eich amgylchiadau’n newid. Bydd benthycwyr yn argymell cynnyrch os yw’n addas ar eich cyfer chi yn unig. Gofynnwch a oes yn rhaid ichi fenthyca dros gyfnod llawn y morgais, neu a allwch chi fenthyca dros gyfnod byrrach. Gofynnwch am y gost derfynol.
  2. Holwch i weld a oes unrhyw ffioedd i’w talu ar gyfer cynyddu’ch morgais.
  3. Cyfrifwch gost unrhyw fenthyca ychwanegol gan ddefnyddio’n Cyfrifiannell morgeisi – cofiwch ystyried effaith cynnydd yn y gyfradd llog.

Benthyca ar gyfer pryniannau mawr eraill

Os ydych yn ystyried talu am rywbeth drud heblaw am welliannau i'r cartref neu eiddo buddsoddi, dechreuwch trwy edrych ar eich opsiynau lle nad yw'r benthyciad wedi'i sicrhau yn erbyn eich cartref.

Er enghraifft, gallech:

  • cymryd benthyciad personol heb ei warantu neu fenthyca heb ei warantu arall, sy'n golygu nad yw'ch cartref mewn perygl
  • gwneud gais am gyllid ceir, os ydych chi eisiau prynu car - darllenwch ein canllaw cyllid car
  • cynilo nes y gallwch fforddio talu am beth bynnag yr ydych ei eisiau heb fenthyca arian.

Er mewn rhai achosion (yn dibynnu ar dymor y benthyciad a chyfradd llog) efallai na fydd yr opsiynau hyn mor rhad â chael blaenswm pellach, ni fyddant yn cael eu sicrhau yn erbyn eich cartref.

Mae'n bwysig deall gwir gost benthyca - a chanlyniadau peidio â chadw i fyny â'ch ad-daliadau.

Pan allai ail-forgeisio fod yn opsiwn

Gallech chi hefyd newid i fenthyciwr morgeisi arall a chynyddu’r swm yr ydych yn ei fenthyca.

Ond dim ond os gallwch arbed mwy o arian nag y byddwch yn ei dalu mewn ffioedd cais i’r benthyciwr newydd a ffioedd ad-dalu cynnar am adael eich benthyciwr presennol mae hyn yn addas.

Cofiwch y gallech chi gael gwell bargen gan rywun arall ac, yn aml, mae benthycwyr yn cynnig y bargeinion gorau i gwsmeriaid newydd, felly ystyriwch sawl cynnig

Byddwch yn dal i orfod mynd trwy’r un gwiriadau fforddiadwyedd llym sy’n edrych ar incwm ac alldaliadau pan ewch at fenthyciwr newydd.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.