Skip to content
Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol

      Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    • Budd-daliadau os oes gennych blant

      Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

      Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

      Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    • Budd-daliadau a gwaith

      Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

      Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    • Problemau gyda budd-daliadau

      Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    • Budd-daliadau

      Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau

      Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    • Cyllidebu

      Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    • Prynu a rhedeg car

      Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    • Credyd

      Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    • Yswiriant

      Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    • Arian bob dydd

      Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant

      Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    • Marwolaeth a phrofedigaeth

      Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    • Ysgariad a gwahanu

      Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    • Salwch ac anabledd

      Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    • Gofal tymor hir

      Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    • Arian myfyrwyr a graddedigion

      Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    • Siarad am arian

      Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    • Teulu a gofal

      Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref

      Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    • Rhentu

      Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    • Cartrefi

      Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw

      Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    • Delio â dyled

      Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    • Problemau a chwynion am arian

      Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    • Sgamiau

      Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    • Problemau ariannol

      Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Rheoli a chronni’ch pensiwn

      Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    • Esbonio pensiynau

      Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    • Problemau a newidiadau pensiwn

      Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    • Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

      Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    • Pensiwn y Wladwriaeth

      Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    • Cymryd eich pensiwn

      Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    • Treth a phensiynau

      Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    • Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn

      Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

    • Sut i gynilo

      Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    • Buddsoddi

      Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    • Math o gynilion

      Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    • Cynilion

      Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth

      Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    • Colli eich swydd

      Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    • Hunangyflogaeth

      Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    • Gwaith

      Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    • Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    • Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    • Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    • Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    • Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    • Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    • Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    • Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    • Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    • Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    • Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    • Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    • Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    • Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    • Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    • Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    • Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    • Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    • Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    • Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    • Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    • Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    • Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    • Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    • Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    • Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    • Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    • Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    • Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

    • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    • Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    • Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    • Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    • Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    • Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    • Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Cael help a chyngor
  3. Ymgynghorwyr ariannol
Cael help a chyngor Ymgynghorwyr ariannol

Sut i ddewis ymgynghorydd ariannol 

Gall ymgynghorydd ariannol argymell cynhyrchion a gwasanaethau a fydd yn helpu i ddiwallu eich anghenion a'ch nodau ariannol. Darganfyddwch sut i ddewis ymgynghorydd rheoledig sy'n iawn i chi, gan gynnwys y cwestiynau allweddol i'w gofyn.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Beth yw ymgynghorydd ariannol? 
  • Beth yw ymgynghorydd ariannol annibynnol? 
  • Gwiriwch a oes angen ymgynghorydd arbenigol arnoch 
  • Chwilio am ymgynghorwyr ariannol rheoledig 
  • Creu rhestr fer o ymgynghorwyr posibl 
  • Gofynnwch i'ch ymgynghorwyr ar y rhestr fer am ddyfynbrisiau 
  • Dewiswch ymgynghorydd a chael cyngor 
  • Os cewch gyngor gwael, cwynwch a gofynnwch am iawndal 

Beth yw ymgynghorydd ariannol? 

Mae ymgynghorydd ariannol rheoledig yn gymwys i:

  • ddweud wrthych beth sydd orau i chi a'ch arian

  • argymell cynhyrchion a gwasanaethau addas i'w defnyddio, gan gynnwys eu sefydlu ar eich rhan

  • gwneud yn siŵr eich bod yn manteisio ar gyfleoedd, fel lwfansau treth. 

Rhaid iddynt fod wedi'u cofrestru gyda'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) i ddarparu cyngor ariannol.

Nol i'r brig

Beth yw ymgynghorydd ariannol annibynnol? 

Mae dau brif fath o ymgynghorydd ariannol:

  • Gall ymgynghorwyr ariannol annibynnol (IFAs) ystyried cynhyrchion o bob rhan o'r farchnad gyfan. 

  • Gall ymgynghorwyr cyfyngedig argymell cynhyrchion gan nifer penodol o ddarparwyr a neu o fewn maes cynnyrch penodol. 

Er enghraifft, gall ymgynghorydd morgais sy'n gweithio i fanc y stryd fawr fel arfer argymell cynhyrchion a buddsoddiadau'r banc hwnnw yn unig. 

Bydd y ddau fath o gyngor yn cael eu teilwra i chi, felly ni ddylai fod effaith ar ansawdd y cyngor. Ond os ydych chi eisiau'r dewis gorau ar draws ystod o gynhyrchion, efallai y bydd IFA yn gallu dod o hyd i fwy o opsiynau i chi na chynghorydd cyfyngedig.

A oes angen cyngor ariannol arnaf? 

Gall talu am gyngor ariannol eich helpu i gyflawni eich nodau a'ch anghenion ariannol. Gall hefyd arbed amser ac arian i chi yn y tymor hir.

Fel arfer, gallwch gael cyngor ariannol fel un tro neu ofyn i ymgynghorydd helpu i reoli eich arian yn barhaus.

Gyda rhai cynhyrchion ariannol, mae cael cyngor ariannol yn gyntaf yn orfodol. Ond ar gyfer y rhan fwyaf o bethau, mae cyngor ariannol yn ddewisol a gall fod yn gostus, felly bydd angen i chi bwyso a yw'n iawn i chi.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw A oes angen ymgynghorydd ariannol arnaf?

Nol i'r brig

Gwiriwch a oes angen ymgynghorydd arbenigol arnoch 

Mae llawer o ymgynghorwyr ariannol yn gymwys i roi cyngor cyffredinol ar bob maes o gynllunio ariannol, tra gallai eraill arbenigo mewn maes penodol.

Gall y canllaw hwn eich helpu i ddod o hyd i ymgynghorydd sy'n gallu ymdrin â sawl pwnc. Gall ein canllawiau eraill eich helpu i ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol arbenigol. 

Yr hyn yr hoffech chi gael help ag ef Ble i ddod o hyd i ymgynghorydd

Pensiynau neu gynllunio ymddeoliad

Sut i ddod o hyd i gyngor cynllunio pensiwn neu ymddeoliad

Morgeisi neu ryddhau ecwiti

Prynu neu werthu eich cartref: dod o hyd i weithiwr proffesiynol

Yswiriant

Pryd i ddefnyddio brocer yswiriant

Nol i'r brig

Chwilio am ymgynghorwyr ariannol rheoledig 

Gallwch chwilio am gynghorwyr ariannol rheoledig gan ddefnyddio cyfeirlyfrau ar-lein. Mae'n werth rhoi cynnig ar nifer ohonynt gan eu bod i gyd yn gweithio ychydig yn wahanol.

Cyfeiriadur ar-lein Sut mae'n gweithio

VouchedForOpens in a new window neu UnbiasedOpens in a new window

Mae'r ddau yn gadael i chi chwilio yn ôl math o gyngor, dull cyswllt a lleoliad. Gallwch hefyd ddewis cael eich paru ag ymgynghorydd.

Society of Later Life Advisers (SOLLA)Opens in a new window

Yn arbenigo mewn ymgynghorwyr achrededig sy'n deall anghenion ariannol yn ddiweddarach mewn bywyd. Gallwch chwilio yn ôl lleoliad a math o gyngor, gan gynnwys talu am ofal a rhyddhau ecwiti.

Personal Finance Society (PFS)Opens in a new window

Yn cael ei redeg gan y corff proffesiynol ar gyfer cynllunio ariannol yn y DU, gallwch chwilio yn ôl lleoliad, meysydd arbenigedd a dull cyswllt.

Gallech hefyd:

  • ofyn i ffrindiau a theulu a fyddent yn argymell ymgynghorydd mae nhw wedi'i ddefnyddio

  • gwirio a allwch gael bargeinion arbennig gyda chwmnïau cynghori ariannol drwy fynd trwy'ch cyflogwr, undeb llafur neu sefydliad tebyg.

Nol i'r brig

Creu rhestr fer o ymgynghorwyr posibl 

Nesaf, gallwch greu rhestr o ymgynghorwyr ariannol yr hoffech gysylltu â nhw am ddyfynbris, yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i chi. Er enghraifft, ymgynghorwyr yn eich ardal leol sy'n arbenigo yn y math o gyngor yr hoffech chi.

Mae'n syniad da rhoi o leiaf tri ar y rhestr fer.

Gwiriwch fod yr ymgynghorydd wedi'i awdurdodi i roi cyngor 

Mae ymgynghorwyr ariannol yn weithwyr proffesiynol cymwys sy'n cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Mae hyn yn eich amddiffyn gan y gallwch gwyno a gofyn am iawndal os yw eu cyngor yn troi allan i fod yn anaddas.

I gadarnhau eich bod wedi dod o hyd i ymgynghorydd rheoledig ac osgoi sgamiau posibl, defnyddiwch Gofrestr Gwasanaethau AriannolYn agor mewn ffenestr newydd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) i wirio: 

  • fod yr ymgynghorydd (neu'r cwmni y maent yn gweithio iddo) wedi'i restru fel un sydd wedi'i awdurdodi i ddarparu cyngor

  • mae gennych eu manylion cyswllt dilys.

Os ydynt wedi'u rhestru fel 'cynrychiolydd penodedig', gallant ddarparu cyngor rheoledig ar ran cwmni arall.

Os nad yw'r cwmni yn ymddangos ar y gofrestr, peidiwch â'u defnyddio. Mae'n debygol mai twyllwyr ydynt sy'n ceisio dwyn eich arian. Gallwch gysylltu â'r FCA i roi gwybod am ymgynghorwyr ariannol anawdurdodedigYn agor mewn ffenestr newydd

Rhybudd sgamiau: peidiwch byth â chymryd cyngor oherwydd galwad, e-bost neu neges destun diwahoddiad 

Gallai twyllwr eich targedu trwy gynnig enillion ariannol cyflym neu uchel - yn aml yn rhoi pwysau arnoch i weithredu'n gyflym. Gallai hyn fod trwy hysbyseb ar gyfryngau cymdeithasol neu drwy ffonio, e-bostio neu anfon neges destun atoch.

Peidiwch byth â gwneud unrhyw daliadau na chael mynediad at unrhyw un o'ch buddsoddiadau neu bensiynau oherwydd y math hwn o gyswllt. Mae'n debygol o fod yn sgam a gallech golli'ch arian ac wynebu tâl treth mawr.

Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:

  • Sut i adnabod sgam pensiwn  

  • Sut i adnabod sgam buddsoddi.

Nol i'r brig

Gofynnwch i'ch ymgynghorwyr ar y rhestr fer am ddyfynbrisiau 

Nid yw llawer o ymgynghorwyr ariannol yn rhestru eu ffioedd ar-lein. Yn lle hynny, byddant yn aml yn cynnig cyfarfod am ddim i:

  • ddeall eich sefyllfa

  • gweithio allan a fydd cyngor yn eich helpu

  • esbonio faint y byddwch chi'n ei dalu 

  • ateb unrhyw gwestiynau.

Ceisiwch gysylltu ag o leiaf dri ymgynghorydd fel y gallwch gymharu eu costau a'u lefel gwasanaeth.

Cwestiynau allweddol i'w gofyn i'ch ymgynghorydd ariannol
Cwestiwn Yr hyn rydych chi am ei ddarganfod

A oes angen i mi gael isafswm mewn cynilion er mwyn i chi fy helpu?

Os ydynt yn gofyn i chi gael swm penodol o arian cyn byddant yn rhoi cyngor i chi, fel pensiwn gwerth dros £50,000 neu £100,000.

Ydych chi'n cynnig cyngor annibynnol neu gyfyngedig?

A allant chwilio'r farchnad gyfan i wneud argymhellion neu os ydynt wedi'u cyfyngu i nifer penodol o ddarparwyr neu fath o gyngor.

Pa gymwysterau sydd gennych chi a beth mae nhw'n ei olygu?

Os oes ganddynt y cymwysterau ar gyfer y math o gyngor rydych chi'n chwilio amdano, fel trosglwyddiadau pensiwn neu ryddhau ecwiti.

Ydych chi'n gynrychiolydd penodedig?

Os mai dim ond cwmni yr ymgynghorydd y gallech ddod o hyd iddo wedi'i restru ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol, nid yr ymgynghorydd, mae hyn yn eich helpu i wirio sut maen nhw'n cael eu hawdurdodi i ddarparu cyngor.

Faint fydd y cyngor yn ei gostio i mi?

Os ydynt yn codi ffi sefydlog, cyfradd fesul awr neu ffi yn seiliedig ar werth eich buddsoddiadau. Hefyd, faint y byddai unrhyw gyngor parhaus yn ei gostio..

Am ragor o wybodaeth am ffioedd ymgynghorydd ariannol, gweler ein canllaw Faint mae ymgynghorydd ariannol yn ei gostio?

Nol i'r brig

Dewiswch ymgynghorydd a chael cyngor 

Pan fyddwch wedi dod o hyd i ymgynghorydd rheoledig rydych chi'n fodlon ag ef, gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth fel y gallant:

  • ddeall eich sefyllfa a'ch cynlluniau

  • rhoi cyngor wedi'i deilwra i chi, i ddiwallu eich anghenion.

Dylai'r adroddiad cyngor ysgrifenedig ac unrhyw gamau gweithredu a argymhellir gael eu hegluro'n glir i chi. Os nad ydych chi'n deall unrhyw beth, gofynnwch i'r ymgynghorydd ei esbonio'n wahanol. 

Os hoffech fwrw ymlaen â'r argymhellion, gallwch ddewis fel arfer:

  • sefydlu pethau eich hun

  • gadael i'r ymgynghorydd wneud hynny ar eich rhan – ond gwiriwch a fydd hyn yn gost ychwanegol.

Gallwch ddewis dod â'r cyngor i ben ar y pwynt yma neu ofyn i'r ymgynghorydd barhau i fonitro eich cynllun yn barhaus. 

Peidiwch â pharhau os ydych chi'n teimlo'n anghyfforddus neu'n rhuthro 

Dylech bob amser ddisgwyl proffesiynoldeb gan eich ymgynghorydd, gyda gonestrwydd a pharch at eich hawl i benderfynu.

Os yw ymgynghorydd yn rhoi pwysau arnoch chi, ddim yn esbonio unrhyw argymhelliad yn glir neu ddim yn darparu adroddiad ysgrifenedig, mae'r rhain yn arwyddion rhybudd y gallai'r ymgynghorydd fod yn sgamiwr.

Peidiwch â pharhau a rhowch wybod am yr ymgynghorydd i'r FCAYn agor mewn ffenestr newydd

Gallwch hefyd rhoi gwybod am dwyllwr posibl i:

  • Report FraudOpens in a new windowYn agor mewn ffenestr newydd os ydych chi'n byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon 

  • Police ScotlandOpens in a new windowYn agor mewn ffenestr newydd drwy ffonio 101 os ydych chi'n byw yn yr Alban.

Nol i'r brig

Os cewch gyngor gwael, cwynwch a gofynnwch am iawndal 

Os yw'r cyngor rydych chi'n ei gael yn troi allan i fod yn anaddas, gallwch gwyno a gofyn am iawndal – yn enwedig os ydych wedi colli amser ac arian oherwydd hynny.

Er enghraifft, gallai cyngor anaddas gynnwys cael gwybod am wybodaeth anghywir neu gamarweiniol, neu gamgymeriadau yn cael eu gwneud. Ond ni allwch ofyn am iawndal os nad yw'ch arian buddsoddi yn perfformio fel yr oeddech chi'n gobeithio.

Sut i gwyno am gyngor ariannol anaddas

Bydd gan bob ymgynghorydd ariannol rheoledig broses gwyno y byddant yn ei ddilyn.

  1. Dywedwch wrth gwmni eich ymgynghorydd pam rydych chi'n anhapus â'r cyngor 
     
    Rhowch gymaint o dystiolaeth ag y gallwch ac esboniwch beth hoffech iddynt ei wneud i gywiro pethau. Er enghraifft, rhoi digon o iawndal i chi gan eich rhoi yn ôl i'r un sefyllfa yr oeddech chi ynddi cyn derbyn y cyngor.  
     
    Os yw cwmni eich ymgynghorydd wedi mynd i’r wal, gallwch gwyno i'r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS)Yn agor mewn ffenestr newydd yn lle hynny. 

  2. Arhoswch hyd at 8 wythnos iddyn nhw ymateb
     
    Mae gan y cwmni 8 wythnos i ymateb i'ch cwyn. Os ydych chi'n anhapus â'u penderfyniad, gallwch ofyn iddynt wneud mwy. 
     
    Yna bydd eich darparwr yn anfon ymateb terfynol atoch sy'n esbonio'r uchafswm mae nhw'n barod i'w wneud.

  3. Ewch â'ch cwyn i'r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol (FOS) am ddim  
     
    Os ydych chi'n anhapus â'r ymateb terfynol, neu nad ydynt wedi ymateb o fewn 8 wythnos, gallwch fynd â'ch cwyn i'r FOSYn agor mewn ffenestr newydd

Fel arfer mae gennych 6 mis o dderbyn ymateb terfynol y cwmni i wneud hyn. Mae hefyd angen iddo fod o fewn 6 blynedd i'r broblem ddigwydd gyntaf, oni bai nad oeddech chi'n ymwybodol pan ddechreuodd y mater.

Bydd eich achos yn cael ei ymchwilio i benderfynu a yw'ch ymgynghorydd wedi gweithredu mewn ffordd deg a rhesymol, neu a oes angen iddynt wneud mwy i gywiro pethau.

Os yw'r FOS yn ochri â'ch ymgynghorydd, dyma lle mae hawliad fel arfer yn dod i ben – gallech ddewis mynd i'r llys, ond mae hyn yn ddrud ac efallai na fyddwch chi'n ennill.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Hawlio iawndal os ydych wedi cael eich cam-werthu. 

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook X
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Ymgynghorwyr ariannol

Ymgynghorwyr ariannol

  • Faint mae ymgynghorydd ariannol yn ei gostio?
  • Sut i ddewis ymgynghorydd ariannol
  • Oes angen ymgynghorydd ariannol arnaf?
  • Cael cymorth gyda phenderfyniadau ariannol: esboniad o arweiniad, cymorth wedi'i dargedu a chyngor
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Ymgynghorwyr ariannol

  • Faint mae ymgynghorydd ariannol yn ei gostio?
  • Sut i ddewis ymgynghorydd ariannol
  • Oes angen ymgynghorydd ariannol arnaf?
  • Cael cymorth gyda phenderfyniadau ariannol: esboniad o arweiniad, cymorth wedi'i dargedu a chyngor
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Llywodraeth EF
Trustpilot
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Opsiynau cyswllt Cau

Cysylltwch â ni

Dechrau gwesgwrs

Dydd Llun i ddydd Gwener: 9am i 5pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Siaradwch â ni dros y ffôn

Dydd Llun i ddydd Gwener: 9am i 5pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Mae galwadau yn y DU am ddim ac efallai y cânt eu recordio er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Anfonwch e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymateb mewn 3 diwrnod gwaith

Os bydd gwell gennych ysgrifennu atom, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Atebwch ychydig o gwestiynau ac yna bydd gennych le i ysgrifennu gymaint o fanylion a hoffech.

Sgwrsiwch gyda ni’n fyw gan ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch yr ap: WhatsApp

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Byddwn yn ymateb rhwng dydd Llun i dydd Gwener, 9am i 5pm (heblaw am wyliau banc).

Opsiynau hygyrchedd

  • Relay UK

    Relay UK logo

    Defnyddiwch y gwasanaeth cyfrinachol i deipio negeseuon atom gan ddefnyddio ffôn testun neu ap.

    Ewch i Relay UK
  • BSL

    British Sign Language logo

    Gwell gennych ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain? Defnyddiwch y gwasanaeth am ddim hon i gyrchu dehonglydd BSL – dewiswch bwnc o’r rhestr ‘department’.

    Cysylltu â InterpretersLive!Yn agor mewn ffenestr newydd

  • Cyfieithydd

    Interpreter logo

    Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, gallwn ddod o hyd i gyfieithydd i helpu.

    Ffoniwch 0800 756 1012