Siarad am arian

Mae eisiau diogelwch ariannol yn angen dynol sylfaenol. Po fwyaf y byddwch yn siarad am arian – hyd yn oed y sgyrsiau anodd – po orau fydd eich bywyd a'ch perthnasoedd.

Pam dylem siarad am arian?

Gall peidio â chyfathrebu am arian brifo'r rhai o'ch cwmpas. Er enghraifft, a oes gennych chi a'ch partner gyfrifon ar y cyd neu a yw'r ddau enw ar filiau'r cartref? Yna gallai eich camgymeriadau arian effeithio ar eu statws credyd a'u dyfodol ariannol, ac i'r gwrthwyneb.

Mae'n hanfodol gwybod ble rydych yn sefyll os ydych am ddiogelu’ch cyllid - yn ystod perthynas ac wrth ddod allan o un.

Gall peidio â siarad am arian ag aelodau eraill o'r teulu hefyd achosi problemau. Gyda phobl hŷn, er enghraifft. Os nad ydych wedi siarad am eu dyfodol ariannol ac mae mater brys yn codi – efallai na fyddwch yn gwybod sut yr hoffent i chi ddelio â'r sefyllfa.

Weithiau gall fod yn haws o lawer cyfrif pethau a'u cael mewn persbectif os oes gennych ychydig o help. Gall fod gan arbenigwr neu'r bobl sydd agosaf atoch.

Pam nad ydym yn hoffi siarad am arian?

Mae llawer o resymau pam nad ydym yn hoffi siarad am arian. I lawer ohonom, mae'n bwnc tabŵ. Ac yn aml gellir ei ystyried yn anghwrtais i’w godi.

Dyma rai o'r prif resymau y mae pobl yn eu rhoi dros beidio â siarad am arian. Os ydych yn adnabod eich hun yma, efallai ei bod yn bryd edrych o'r newydd ar pam rydych yn teimlo'r ffordd rydych yn gwneud:

“Mae pawb yn gwybod fy mod yn anobeithiol ag arian”

Nid yw’r ffordd rydych wedi ymdri ag arian yn y gorffennol yn golygu byddwch yn ymdrin ag ef yn yr un ffordd yn y dyfodol. Wrth i chi dyfu fel person, mae blaenoriaethau'n newid a bydd y rhai o'ch cwmpas yn deall hynny.

Y cam cyntaf i ddod yn rhywun sy'n gwybod yn union am beth maent yn siarad, yw rhoi trefn ar eich cyllideb.

“Mae bywyd yn rhy fyr, felly pam delio ag ef? Bydd yn gofalu amdano ei hun”

Mae bywyd yn fyr ac mae'n bwysig ei fwynhau. Ond nid yw'n mynd i ofalu amdano'i hun. Fodd bynnag, nid oes angen i roi ychydig i ffwrdd nawr fod yn anodd.

Efallai ystyried cychwyn pensiwn, os nad ydych eisoes wedi gwneud. Ac os ymunwch â phensiwn gweithle, efallai y bydd eich cyflogwr yn cyfrannu hefyd.

“Rwy’n gwybod dylwn siarad am fy arian, ond nid wyf yn gwybod at bwy i droi”

Gall gwybod ble i ddechrau ymddangos yn llethol. Gallwch siarad â ni – rydym yn ddiduedd ac am ddim. Ac os oes angen mwy o help arnoch gallwn eich trosglwyddo i sefydliadau eraill y gallwch ymddiried ynddynt. Darganfyddwch sut y gallwn helpu ar ein tudalen Cysylltu â ni.

“Byddaf yn edrych yn dwp”

Os ydych wedi gwneud camgymeriadau, gorau po gyntaf y byddwch yn delio ag ef. Nid yw teimlo’n dwp yn waeth na cholli eich cartref neu boeni am sut i roi bwyd ar y bwrdd.

“Bydd pobl yn meddwl yn isel ohonof”

Ychydig iawn ohonom sy'n hoffi'r syniad o rannu ein harferion gwario ag eraill, ac weithiau gall pobl fod yn feirniadol.

Ond peidiwch â gadael iddynt eich atal rhag symud ymlaen â'ch cyllid. Gall hwn fod yn fater cyfathrebu â rhywun rydych yn ei garu.

“Yn ffodus, mae fy mhartner yn dda ag arian, felly nid oes rhaid i mi ddelio ag ef”

Mae gan bob un ohonom gryfderau gwahanol, ond mae bod yn dda ag arian yn dod ag ymarfer. Felly mae caniatáu i rywun arall edrych ar ôl popeth sy'n ymwneud ag arian yn golygu nad ydych yn mynd i fod yn y sefyllfa orau os byddwch yn cael eich hun ar eich pen eich hun a bod rhaid i chi ei wneud.

“Nid yw fy mhartner yn gadael i mi ddelio ag arian”

Un peth yw caniatáu i rywun ofalu am y cyllid yn ymwybodol oherwydd mae'n well gennych y ffordd honno. Ond os yw rhywun wedi cymryd eich annibyniaeth ariannol yn erbyn eich dymuniadau yn fwriadol, gallai hyn fod yn gam-drin ariannol. Mae'n bwysig gwybod bod pethau y gallwch eu gwneud i atal hyn.

“Nid wyf am boeni fy nheulu”

Mae pobl y gallwch siarad â hwy'n gyntaf cyn siarad â'ch teulu. Byddant yn gallu eich cynghori ar eich sefyllfa benodol.

Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gall cael eich teulu i helpu fod yn gam positif iawn oherwydd gallwch weithio â'ch gilydd i ddatrys y broblem.

“Mae'r sefyllfa'n rhy ddrwg. Nid oes ffordd i droi hyn o gwmpas”

Mae'r holl gynghorwyr dyledion rydym yn eu hargymell wedi siarad â phobl sydd wedi bod mewn sefyllfaoedd heriol. Mae rhai wedi teimlo'n well trwy siarad. Yna maent wedi gallu cael help. Siarad yw'r cam cyntaf tuag at newid eich amgylchiadau ariannol.

“Ni allaf fforddio cyngor proffesiynol”

Mae llawer o leoedd y gallwch gael arweiniad am ddim gan weithwyr proffesiynol. Os ydych am gael cyngor ar ddyledion am ddim, edrychwch ar ein canfyddwr cyngor ar ddyledion.

Os ydych eisiau arweiniad pensiynau am ddim, darllenwch ein canllaw Deall beth yw Pension Wise a sut i’w ddefnyddio.

Beth bynnag yw'r rheswm rydych wedi bod yn oedi cyn siarad am arian, y rhan anhawsaf am fynd i'r afael â sgwrs anodd yn aml yw dod o hyd i ffordd i'w gychwyn. Mae'n dod yn haws oddi yno.

Sut i siarad am arian

Os oes angen i chi siarad â rhywun am arian ond nad ydych yn siŵr sut y bydd yn mynd, lawrlwythwch ein canllaw Sut i siarad am (Opens in a new window) (PDF/A, 481KB) arian i’ch helpu i ddechrau. Mae’n cynnwys awgrymiadau ar sut i gael canlyniad da, rhannu amcanion ariannol a beth i’w wneud os ydych yn meddwl gallai’r sgwrs fod yn anodd neu os nad ydynt yn mynd fel gwnaethoch obeithio.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.