Sut i ddysgu plant yn eu harddegau am arian

Gall blynyddoedd yr arddegau fod yn anodd, a gall materion ariannol ymddangos yn ddibwys. Ond mae rheoli arian yn dda yn bwysig iddynt ddysgu annibyniaeth ariannol wrth iddynt heneiddio.

Rhoi cyfrifoldeb ariannol iddynt

Mae’n bwysig bod plant yn eu harddegau yn cydnabod gwerth arian ac yn deall nad yw’n adnodd diderfyn.

Bydd rhoi rhyddid iddynt reoli eu cyllideb eu hunain yn dysgu dwy wers werthfawr iddynt:

  1. Dim ond i wario beth gallwch ei fforddio.
  2. Osgoi peryglon treuliau heb eu cynllunio.

Arian poced

Nid yw faint o arian poced rydych yn ei roi yn bwysig. Mae rhoi hyd yn oed y swm lleiaf o arian yn rheolaidd yn ffordd wych i’w helpu i ddysgu sut i reoli arian.

I lawer o bobl, arian poced yw eu blas cyntaf ar gyfrifoldeb ariannol. Mae rhoi swm rheolaidd, penodol o arian i blentyn yn ei arddegau - a’r cyfrifoldeb o dalu am rywbeth maent ei eisiau - yn rhoi cyfle iddynt ymarfer rheoli arian yn dda.

Gwell fyth, beth am roi tasgau iddynt ennill eu harian poced i’w paratoi ar gyfer eu swydd gyntaf?

Ffyrdd o ennill arian poced

Gallai plant yn eu harddegau ennill arian poced mewn sawl ffordd, fel:

  • gwneud tasgau o amgylch y tŷ
  • torri’r lawnt i chi, ffrindiau, teulu neu gymdogion
  • gofalu am anifeiliaid anwes neu fynd ag anifeiliaid anwes cymdogion am dro
  • glanhau ceir
  • rownd bapur
  • gwarchod plant
  • gwerthu eitemau nad ydynt eu heisiau ar eBay, neu eich helpu chi i werthu eitemau ar eBay ac ennill comisiwn
  • gwneud gwaith i bobl rydych yn ymddiried ynddynt.

Cyllidebu

Un ffordd i helpu plant yn eu harddegau i gymryd cyfrifoldeb am eu harian yw siarad â hwy am eich cyfrifoldebau ariannol.

Siaradwch â hwy am eich incwm a beth mae angen i chi gyllidebu ar ei gyfer. Mae hyn yn cynnwys biliau, siopa, ac unrhyw beth rydych yn ei wario, fel cinio ysgol neu deithiau.

Gyda goruchwyliaeth, helpwch hwy i gymryd drosodd y cyllidebu am wythnos.

Ar ddiwedd yr wythnos, cynhaliwch drafodaeth. Gofynnwch iddynt efallai:

  • sut oeddent yn teimlo am wneud hyn?
  • beth oeddent yn ei chael yn anodd?
  • a oedd yn anos na’r disgwyl?
  • beth gwnaethant ei ddysgu?

Ffyrdd y gall plant yn eu harddegau gyllidebu

Dyma rai syniadau i’w helpu i fynd i’r arfer o gyllidebu:

  • Helpwch hwy i ddod o hyd i ap cyllidebu am ddim - mae llawer o’r apiau hyn yn gwneud cyllidebu yn hwyl trwy olrhain nodau a chynnydd. Gall ‘Gamification’ (defnyddio elfennau hapchwarae ar gyfer tasgau yn y byd go iawn) weithio’n dda iawn.
  • Sefydlwch her cynilo - mae angen iddi fod yn gysylltiedig â rhywbeth maent ei eisiau mewn gwirionedd, a bydd rhaid iddynt gyllidebu i lwyddo yn yr her.
  • Rhowch dri pot iddynt - pan maent yn cael eu harian poced wythnosol neu eu lwfans, helpwch hwy i rannu eu harian yn dri chategori: anghenion (er enghraifft cinio yn yr ysgol); eisiau (fel gwersi gyrru); a chronfa diwrnod glawog. (Gwelwch ‘Ganlyniadau’ isod am ragor o wybodaeth am gostau annisgwyl).

Ystyriwch pa strategaethau fydd yn gweithio orau. Bydd y sawl sy’n hoffi gemau cyfrifiadurol wrth eu bodd â’r dull ap, tra bydd rhywun cystadleuol yn fwy tebygol o fod yn barod am her arbedion.

Canlyniadau

Mae plant yn eu harddegau sy’n gyfrifol am dalu treuliau annisgwyl eu hunain (yn hytrach na gofyn i’w rhieni am yr arian) yn llawer mwy tebygol o gadw golwg ar eu harian.

Mae rhan o ddysgu plant yn eu harddegau sut i reoli eu cyllid yn dibynnu ar osod ffiniau gyda’r arian rydych yn ei roi iddynt a pheidio â’u helpu allan os ydynt yn gorwario.

Mae’n well dysgu’r ffordd galed nawr, tra bod y symiau’n fach, yn hytrach nag yn hwyrach pan all gorwario arwain at broblem dyled.

Gosod yr enghraifft gywir

O ran rheoli cyllid, mae llawer o blant yn eu harddegau yn dynwared ymddygiad eu rhieni. Dyma rai awgrymiadau ar gyfer eich helpu i osod yr enghraifft gywir.

Ymarfer yr hyn rydych yn ei bregethu

Os ydych y math o berson sy’n cynilo i brynu rhywbeth, mae’n fwy tebygol y bydd plant yn eu harddegau sy’n gweld hyn yn gwneud yr un peth.

Fodd bynnag, os ydych yn gyflym i droi at gredyd i ariannu pryniannau nad ydynt yn hanfodol, maent yn debygol o ddilyn yr enghraifft hon.

Os oes rhywbeth rydych wir ei eisiau ond na allwch ei fforddio, fel gwyliau teulu neu egwyl sba gyda ffrind, siaradwch am hyn yn agored gyda hwy. Trafodwch:

  • faint sydd angen i chi ei gynilo.
  • pa gamau y byddwch yn eu cymryd i gyrraedd eich nodau cynilo?
  • a fydd angen i chi dorri’n ôl ar wariant arall neu geisio ennill mwy?
  • oes ganddynt unrhyw syniadau i’ch helpu?

Byddwch yn onest

Nid oes rhaid i chi fod yn arbenigwr ar reoli arian i helpu plentyn yn eu harddegau i fod yn un.

Mae rhai pobl yn poeni y bydd eu sgiliau arian gwael eu hunain yn ddylanwad gwael. Peidiwch â phoeni – byddwch yn onest â hwy.

Byddwch yn agored am rai o’r camgymeriadau ariannol rydych wedi’u gwneud - yn eich arddegau ac fel oedolyn. Siaradwch am:

  • beth oedd yr effaith arnoch
  • beth oedd yr effaith ar bobl eraill
  • beth a wnaethoch ddysgu o’r camgymeriad.

Gall rhannu’r enghreifftiau hyn fod yn ffordd dda o dynnu sylw at beryglon rheoli arian yn wael.

Eu helpu i reoli eu cyflog cyntaf

Gall cael swydd fod yn gam cyntaf i blant yn eu harddegau tuag at wir annibyniaeth ariannol a gall chwarae rhan bwysig wrth eu paratoi ar gyfer y dyfodol.

Tra bod llawer o blant yn eu harddegau yn ymgymryd â chyflogaeth anffurfiol fel gwarchod plant ar gyfer ffrindiau teulu, gall unrhyw un dros 13 oed gael swydd ran-amser.

Mae sicrhau swydd yn dod â lefel newydd o ddealltwriaeth ariannol. Ac mae ffyrdd y gallwch eu helpu i adeiladu’r ddealltwriaeth hon.

Deall slipiau cyflog

Bydd angen i blant ifanc yn eu harddegau ddysgu sut i ddehongli eu slip cyflog a beth mae gwahanol derminoleg arian yn ei olygu.

Trafodwch eu slipiau cyflog cyntaf â hwy, gan ofyn:

  • beth yw eu rhif cyflogres?
  • beth yw eu cyfradd fesul awr ac a yw hyn yn newid â goramser?
  • beth yw’r gwahaniaeth rhwng cyflog gros a chyflog net?
  • beth yw’r didyniadau Yswiriant Gwladol a threth?

Sut i gynilo fel plentyn yn ei arddegau

Bydd swydd yn cynyddu faint o arian parod sydd ar gael i blant yn eu harddegau. Dyma gyfle gwych i siarad am bwysigrwydd cynilo.

Gall cynilo fod mor syml â phenderfynu rhoi swm penodol o’r neilltu bob mis am ddiwrnod glawog. Neu, os ydynt wedi gosod nod cynilo penodol, eu helpu i sicrhau eu bod hwy’n ei gyrraedd.

Er enghraifft, os ydynt am brynu car, gallech ddangos iddynt sut i sefydlu archeb sefydlog i’w cyfrif cynilo bob diwrnod cyflog. Bydd hyn yn gwneud cynilo yn awtomatig ac yn haws iddynt gadw at eu cyllideb.

Os ydynt yn ei chael yn anodd i gynilo, ystyriwch ap am ddim sy’n trosglwyddo swm penodol yn awtomatig i gyfrif cynilo.

Faint ddylent ei gynilo o’u cyflog?

Nid oes unrhyw swm cywir nac anghywir y dylent fod yn ei gynilo o’u cyflogau. Bydd yn wahanol i bob plentyn yn ei arddegau a’u hamgylchiadau unigol.

Wrth eu helpu i benderfynu faint i’w gynilo o’u cyflogau, ystyriwch y canlynol:

  • Faint yw eu treuliau wythnosol (angenrheidiol)?
  • Faint mae eu bywyd cymdeithasol yn ei gostio?
  • A ydynt yn cynilo ar gyfer unrhyw beth yn benodol, fel car neu brifysgol?
  • Beth yw eu cronfa ‘diwrnod glawog’ delfrydol?
  • Faint yw eu hincwm?

Bydd y swm cynilo cywir ar eu cyfer yn dibynnu ar atebion i’r cwestiynau hyn. Felly mae’n werth neilltuo peth amser i drafod y rhain â hwy.

Beth bynnag yw’r swm cynilo, mae’n syniad da ei adolygu bob mis neu bob chwarter i sicrhau ei fod yn gweithio. Hefyd, efallai eu bod wedi derbyn codiad cyflog neu wedi dechrau gweithio mwy o oriau ac angen newid eu cynllun cynilo.   

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.