Erbyn saith ac wyth oed, mae llawer o blant yn barod i ddysgu am reoli arian. Felly mae’n amser da i ddangos iddynt sut i wneud penderfyniadau da.
Sut mae siarad am arian yn helpu?
Oeddech chi’n gwybod?
Mae ein hymchwil yn dangos mai dim ond pedwar o bob deg plentyn sy’n dweud iddynt gael eu dysgu am arian a chyllid yn yr ysgol
Mae cael sgyrsiau am arian yn adeiladu hyder plant am y pwnc ac yn helpu i ddatblygu eu sgiliau ariannol.
Mae ymchwil yn dangos bod oedolion sy’n gwneud yn well gydag arian:
- wedi cael sgyrsiau am arian pan yn blant
- wedi cael arian yn rheolaidd, fel arian poced neu daliad am wneud tasgau
- wedi cael cyfrifoldeb am wario a chynilo o oedran cynnar.
Mae sut rydych yn siarad â phlant am arian pan maent mor ifanc â hyn yn helpu i sicrhau eu bod yn gallu gwneud penderfyniadau da pan maent yn hŷn.
Ac nid oes rhaid i chi fod yn arbenigwr ariannol na rheoli eich arian eich hun yn berffaith er mwyn gallu rhoi cyngor da iddynt.
Beth mae llawer o blant saith ac wyth oed yn ei ddeall am arian
Erbyn saith neu wyth oed, mae llawer o blant yn deall:
- y gwahaniaeth rhwng anghenion a dymuniadau
- ffyrdd o dalu sydd ddim yn cynnwys arian parod, fel cardiau debyd a chredyd, a thaliadau ar-lein
- y pwysigrwydd o gadw golwg ar wariant a chynilo
- benthyca.
Nawr gallwch adeiladu ar y ddealltwriaeth hon trwy eu helpu i wneud penderfyniadau da. Er enghraifft:
- efallai eu bod yn dod yn fwy annibynnol gyda’u harian ac yn penderfynu ar beth maent yn ei wario, ond byddant angen help i ddatblygu arferion arian iach.
- efallai y byddant yn cynilo ar gyfer y pethau maent eu heisiau mewn gwirionedd, ond ni fyddant bob amser yn hapus â’u penderfyniadau. Efallai y byddant angen help i ddysgu o’r dewisiadau maent yn difaru eu gwneud.
Arian poced ac annog plant i gynilo
Nid yw faint o arian poced rydych yn ei roi yn bwysig. Mae rhoi hyd yn oed y swm lleiaf o arian i blant yn rheolaidd yn ffordd wych o’u helpu i ddysgu sut i reoli arian.
Gallai hyn fod yn arian poced neu’n eu talu am dasgau maent yn eu gwneud o amgylch y tŷ, neu’r ddau.
Mae hyn yn golygu y gallant gynilo a gwario eu harian eu hunain yn hytrach na’ch arian chi! Mae hyn yn eu helpu i ymarfer dysgu i gynilo ar gyfer y pethau maent eu heisiau mewn gwirionedd.
Defnyddio tri pot am arian
Mae rhai pobl yn annog plant i gael tri pot am eu harian:
- Un i wario, ac efallai cynilo am bethau arbennig (fel gemau).
- Un i gynilo ar gyfer nodau tymor hir, fel Xbox.
- Un ar gyfer rhoi - efallai i elusen neu achos mae’r plentyn yn credu ynddo.
Siarad am arian
Hyd yn hyn, mae plant yn tueddu i ddysgu am arian trwy wylio’r hyn rydych yn ei wneud ag ef. Mae o gwmpas nawr yn amser da i’w cael nhw i chwarae mwy o ran.
Mae yna ddigon o gyfleoedd i siarad am arian, yn y cartref a phan rydych allan.
Yn y cartref
Awgrym da
Mae’n werth sicrhau bod eich manylion talu wedi’u gwarchod gan gyfrinair - rhag ofn y bydd pobl ifanc yn ceisio prynu pethau ar-lein pan nad ydych yn edrych
- Gofalu am arian. Os yw plant yn cael arian poced, siaradwch am sut y byddant yn ei gadw’n ddiogel. A fyddant yn ei gadw mewn cadw mi gei gartref neu mewn cyfrif banc? Sut y byddant yn ei gario pan fyddant yn mynd allan?
- Cynilo. Mae’n dda i blant fod eisiau pethau i gynilo ar eu cyfer. Helpwch nhw i feddwl pa mor hir y bydd yn ei gymryd i gynilo ar ei gyfer. Eglurwch, pan fyddant yn rhoi arian yn y banc, y gallant ennill llog. Os oes ganddynt gyfrif banc, ewch ar-lein gyda nhw i’w ddangos iddynt. Gallwch drafod pwysigrwydd cyfrineiriau a chadw eu manylion bancio ar-lein yn ddiogel.
- Anghenion yn erbyn eisiau. Gyda’ch gilydd, fe allech wneud rhestr neu dynnu llun o’r hyn sydd ei angen ar bobl a’r hyn maent ei eisiau. Defnyddiwch ef i siarad am y gwahaniaeth rhwng y ddau.
- Prynu ar-lein. Efallai gadewch iddynt brynu rhywbeth ar-lein gyda’ch goruchwyliaeth. Eglurwch pa mor bwysig yw hi eich bod chi o gwmpas pan maent yn gwneud hyn tra maent mor ifanc â hyn. Siaradwch am sut y gall prynu ar-lein fod mor hawdd fel y gallwch golli trywydd faint rydych yn ei wario. A pha mor bwysig yw cymryd amser i feddwl cyn prynu ar-lein.
Pan yn mynd allan
Mae teithiau allan yn ffyrdd gwych o gael sgyrsiau am arian gyda phlant.
Yn y siopau:
- Gofynnwch iddynt eich helpu i gymharu prisiau. Edrychwch ar eitemau enw brand a’u cynhyrchion brand eu hunain. Siaradwch am ba rai sy’n costio mwy a pham. A sut y gallwch chi arbed arian.
- Siaradwch am hysbysebion a’u hannog i egluro sut maent yn annog pobl i’w prynu trwy wneud i’r cynnyrch edrych yn fwy deniadol. Trafodwch a yw pethau bob amser cystal ag y maent yn edrych. A ydynt erioed wedi prynu rhywbeth nad oedd cystal â’r disgwyl? Sut gwnaeth hyn iddynt deimlo?
- Siaradwch am ddewisiadau amgen i brynu a all arbed arian. Er enghraifft, a allant fenthyg DVD o’r llyfrgell neu gan ffrind yn lle ei brynu? Neu wneud lolïau iâ yn hytrach na’u prynu?
Ar y traeth:
- Gallwch fynd â phicnic a gemau i’r traeth - a chael popeth sydd ei angen arnoch chi am ddiwrnod allan llawn hwyl nad yw’n costio arian.
- Gweld pwy all gynnig y nifer fwyaf o syniadau ar gyfer gweithgareddau am ddim. A siaradwch am sut mae diwrnodau am ddim fel hyn yn eich helpu i gynilo.
Gêm ynys anial
Mae’r gêm hwyliog hon yn dysgu pwysigrwydd gwneud dewisiadau arian da:
- Lluniwch restr o bethau y gallech fod eu hangen neu eu heisiau ar ynys anial. Er enghraifft, bwyd, dŵr, matsis, rhaff, teganau, gemau, llyfrau, ffôn, ac ati.
- Gofynnwch i’r plentyn ddewis saith o’r rhain (does dim mwy yn dod!) i fynd gyda nhw i’r ynys i oroesi.
- Dewiswch eich saith eitem eich hun - ac yna cymharwch y dewisiadau a wnaethoch chi’ch dau.
- Rhowch gyfle iddynt newid eu dewisiadau - a siarad pam eu bod wedi gwneud y newidiadau hyn.
- Eglurwch, er nad ydych yn byw ar ynys anial, mae’n rhaid i chi wneud dewisiadau o hyd am yr hyn rydych yn ei brynu.
Datblygu grym ewyllys a dysgu aros
Rheswm mawr y gall plant (ac oedolion) ei chael hi’n anodd cynilo arian yw eu bod yn ei chael hi’n anodd aros am bethau maent eu heisiau. Os ydynt eisiau rhywbeth, maent ei eisiau nawr.
Yn saith neu wyth oed, mae plant yn dal i ddatblygu grym ewyllys a’r gallu i oedi cyn cael rhywbeth nawr (fel prynu losin) am rywbeth gwell yn nes ymlaen os ydynt yn cynilo (fel gêm gyfrifiadurol newydd).
Y prawf ‘marshmallow’ - gydag arian
Mae’r prawf ‘marshmallow’ yn astudiaeth seicolegol enwog lle gall plant ddewis cael un ‘marshmallow’ nawr neu ddau os gallant aros 15 munud.
Mae’r oedolyn yn gadael yr ystafell, gan adael y plentyn gydag un ‘marshmallow’. A fyddant yn ei fwyta neu’n dal allan am yr un ychwanegol hwnnw ymhen 15 munud?
Rhowch gynnig ar hyn gan ddefnyddio unrhyw ddanteithion. Eglurwch sut mae arian yn debyg ac y gall aros helpu arian i dyfu.
Rheoli pwysau cyfoedion
Mae plant saith i wyth oed yn tueddu i fod eisiau’r hyn sydd gan eu ffrindiau. Mae hyn oherwydd eu bod yn cyrraedd oedran lle mae pwysau gan gyfoedion yn chwarae rhan bwysig yn eu bywydau.
Dyma pam ei bod yn amser da i ddysgu hunanddisgyblaeth i blant a’u helpu i ddechrau adeiladu eu hunaniaeth.
Pan ymddengys eu bod eisiau pethau oherwydd bod gan eu ffrindiau nhw, efallai gofynnwch gwestiynau iddynt sy’n gwneud iddynt feddwl mwy am eu penderfyniadau. Er enghraifft:
- Beth mae’n ei olygu i gael yr un pethau â’u ffrindiau?
- Pam maent eisiau’r un pethau â’u ffrindiau?
- Beth sydd ganddynt nad oes gan eu ffrindiau?
Maent yn sicr o wneud penderfyniadau gwael ar hyd y ffordd. Er enghraifft, cynilo am rywbeth maent ei eisiau yna rhoi i mewn i bwysau cyfoedion a gwario eu harian ar yr un tegan newydd sydd gan eu ffrind ac yna difaru.
Mae hon yn ffordd wych o ddysgu am wneud penderfyniadau gofalus o ran arian.
Mwy o weithgareddau am reoli arian
Mae pob plentyn yn datgblygu ar amseroedd gwahanol. Er enghraifft, bydd rhai plant saith ac wyth oed yn ymateb yn llawer gwell i’r gweithgareddau rydym yn eu hargymell yn ein canllawiau Sut i siarad â phlant pump a chwech oed am arian neu Sut i siarad â phlant naw i 12 oed am arian. Dewiswch y rhai rydych yn teimlo sy’n fwyaf addas i chi.