Hawlio Taliad Cymorth Profedigaeth a budd-daliadau eraill

Mae marwolaeth partner, ffrind agos neu berthynas yn anodd iawn. Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gall y cymorth y gallwch ei hawlio ddibynnu ar amgylchiadau eich teulu, megis a ydych yn dal i fagu plant. Mae budd-daliadau profedigaeth wedi cael eu hestynnu i gynnwys rhieni a gofalwyr a oedd yn byw gyda’i gilydd. 

Taliad Cymorth Profedigaeth

Taliad Cymorth Profedigaeth yw’r prif fudd-dal sydd ar gael i chi os yw’ch partner wedi marw. Mae wedi disodli'r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Profedigaeth,
  • Lwfans Rhiant Gweddw, a
  • Thaliad Profedigaeth.

Ydw i'n gymwys?

Pan fu farw eich partner, mae’n rhaid eich bod wedi bod:

Rhaid bod eich partner naill ai:

Mae’r budd-dal yn cael ei dalu ar un o ddwy gyfradd, yn dibynnu ar a ydych yn gyfrifol am blant.

Telir Taliad Cymorth Profedigaeth am ddim ond 18 mis ar ôl y dyddiad y bu farw’ch priod neu’ch partner sifil. Felly mae’n bwysig eich bod yn gwneud cais cyn gynted phosibl i osgoi colli arian.

Faint yw Taliad Cymorth Profedigaeth?

Telir Taliad Cymorth Profedigaeth ar naill ai gyfradd uwch neu gyfradd safonol: 

Cyfradd uwch

Fe’i telir i ferched beichiog neu os oes hawl gennych i Fudd-dal Plant. Yn 2023/24 byddwch chi’n derbyn:

  • taliad misol o £350 am 18 mis ar ôl y farwolaeth
  • un taliad o £3,500 yn ystod y mis cyntaf.

Cyfradd safonol

I bawb arall. Yn 2023/24 byddwch chi’n derbyn:

  • taliad misol o £100 am 18 mis
  • un taliad o £2,500 yn ystod y mis cyntaf.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio budd-daliadau incwm isel eraill i ychwanegu at eich incwm, fel credydau treth, Budd-dal Tai, Gostyngiad Treth Cyngor neu Gredyd Cynhwysol.

Os bu farw eich partner ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017 gallwch wneud cais am Daliad Cymorth Profedigaeth ar-lein neu drwy’r post.

Sut ydw i’n gwneud cais am Daliad Cymorth Profedigaeth?

Gallwch wneud cais o’r dyddiad pan fu farw’r person.

Gellir ôl-ddyddio ceisiadau am ddim ond hyd at dri mis felly, sicrhewch eich bod yn gwneud cais cyn gynted ag y gallwch neu gallech golli rhai o’ch taliadau.

Ffoniwch linell gymorth y Gwasanaeth Profedigaeth neu casglwch ffurflen o’ch Canolfan Byd Gwaith leol.

Sut i wneud cais am fudd-daliadau os ydych ar incwm isel

Mae rhai budd-daliadau’n amodol ar brawf modd. Golyga hyn y bydd unrhyw gynilion neu incwm sydd gennych yn effeithio ar p’un a oes gennych hawl i dderbyn budd-daliadau.

Mae hyn yn cynnwys etifeddiaeth sy’n mynd â’ch cynilion dros y trothwy £16,000.

Dywedwch Wrthym Unwaith

Os ydych yn byw yng Nghymru, yr Alban neu Loegr, gallwch gysylltu â gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith i ganslo budd-daliadau a hawliadau’r ymadawedig.

Gall y gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith hefyd hysbysu’r DVLA, CThEF, Y Swyddfa Basport a’r cyngor lleol ar eich rhan.  A gallant wirio os ydych chi’n gymwys am gymorth gyda chostau angladd neu fudd-daliadau eraill.

Ceisiwch roi gwybod am y farwolaeth cyn gynted ag y gallwch i'r Adran Gwaith a PhensiynauYn agor mewn ffenestr newydd

Bydd hyn yn eich helpu i gael y budd-daliadau y mae gennych hawl iddynt cyn gynted â phosibl.

Efallai y bydd angen i chi hefyd hysbysu yswirwyr a chredydwyr

Taliad Angladd

Beth yw Taliad Angladd?

Os ydych ar incwm isel ac yn cael anhawster talu am angladd eich partner, gallwch wneud cais am Daliad Angladd.

Os gwnaeth y person a fu farw adael arian, fel arfer bydd angen i chi dalu yn ôl unrhyw swm y gwnaethoch chi ei dderbyn trwy’r cynllun Taliadau Angladd. 

Faint gewch chi

Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau a’ch perthynas â’r person a fu farw. Ond gallai fod hyd at £1,000 tuag at gostau angladd, ynghyd â thaliadau i fynd tuag at gostau pethau fel ffioedd claddu neu amlosgi.

Sut mae eich budd-daliadau profedigaeth yn effeithio ar fudd-daliadau eraill

Os ydych chi’n cael Taliad Cymorth Profedigaeth ni fydd yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill am flwyddyn.

Wedi hynny, bydd yr incwm a gewch ohono yn cael ei ystyried ar gyfer budd-daliadau prawf modd yn cynnwys:

  • Credydau Treth
  • Credyd Cynhwysol
  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Lwfans Gofalwr
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Efallai y bydd y cyfandaliad y byddwch chi’n ei dderbyn fel rhan o Daliad Cymorth Profedigaeth yn cyfrif fel cynilion pan gyfrifir eich hawliad i rai budd-daliadau ar sail prawf modd.

Fydd hyn ddim ond os oes gennych chi unrhyw gyfandaliad yn weddill wedi 12 mis sy’n mynd â chi dros y terfyn cynilion o £6,000 ar gyfer budd-daliadau prawf modd.

Mae hyn yn golygu y gallech weld lleihad mewn unrhyw rai o’r budd-daliadau hyn y gallech fod yn eu cael:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Tai
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Credyd Cynhwysol.

Gwneud cais am fudd-daliadau profedigaeth wedi'u hôl-ddyddio os oeddech yn byw gyda’ch gilydd

Newidiodd y gyfraith ar 9 Chwefror 2023, ac nawr mae rhieni a gofalwyr nad ydynt yn briod neu mewn partneriaeth sifil, ond sy'n byw gyda'i gilydd ac sydd â phlant dibynnol yn gallu gwneud ceisiadau newydd am Daliad Cymorth Profedigaeth os bydd eu partner yn marw.

Fodd bynnag, os ydych eisoes mewn profedigaeth a'ch bod yn byw gyda'ch partner cyn iddynt farw, gallwch wneud cais wedi ei ôl-ddyddio am fudd-daliadau profedigaeth os oeddech yn gymwys i wneud hynny ar neu ar ôl 30 Awst 2018.

Rydych yn gymwys am fudd-daliadau profedigaeth os oeddech yn briod, yn cyd-fyw neu mewn partneriaeth sifil pan fu farw eich partner, ac roeddech yn feichiog neu’n gofalu am blant a oedd o dan 18 oed neu dros 18 oed ac mewn addysg llawn amser nad oedd yn addysg bellach. Mae hwn yn cynnwys ysgol, coleg neu hyfforddiant cymeradwy, ond nid prifysgol.

Mae pa fudd-dal rydych yn ei gwneud cais amdano yn dibynnu ar bryd bu farw eich partner.

  • Os bu farw eich partner ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, gallwch wneud cais am Daliad Cymorth Profedigaeth.
  • Os bu farw eich partner cyn 6 Ebrill 2017 efallai gallwch wneud cais am Lwfans Rhiant Gweddw yn lle.
  • Mae gennych hyd at 8 Chwefror 2024 i wneud cais. 

Os ydych yn cael budd-daliadau prawf modd fel Credyd Cynhwysol ac rydych yn gymwys i gael cyfandaliad wedi ei ôl-ddyddio, ni fydd yn cyfrif tuag at eich terfyn cynilion sy’n effeithio ar faint o fudd-dal rydych yn gymwys i’w cael am hyd at 52 wythnos.

Gallwch wneud cais am Lwfans Rhiant Gweddw os bu farw eich partner yr oeddech yn byw gyda chyn 6 Ebrill 2017 dros y ffôn neu gyda ffurflen bost sydd ar gael ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Os bu farw eich partner ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017 gallwch wneud cais am Daliad Cymorth Profedigaeth ar-lein, dros y ffôn neu gyda ffurflen bostYn agor mewn ffenestr newydd

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.