Dewis ysgutor eich ewyllys

Gelwir y person sydd yn ymdrin â’ch eiddo pan fyddwch chi’n marw ac yn dilyn y cyfarwyddiadau yn eich ewyllys yn ysgutor. Gallwch ddewis unrhyw un i wneud y dasg hon, ond mae ffactorau i’w hystyried i’ch helpu i wneud y dewis cywir.

Beth mae ysgutor yn ei wneud?

Pan fyddwch chi’n marw, bydd yr ysgutor yn cymryd cyfrifoldeb dros gwblhau’r cyfarwyddiadau a roddwyd gennych yn eich ewyllys.

Gall fod yn dasg gymhleth hyd yn oed os yw eich cyfarwyddiadau yn eithaf syml – nid yw’n beth anghyffredin i’r broses gymryd rhai misoedd.

Gall gwaith yr ysgutor fod yn anodd weithiau. Er enghraifft fe allent orfod:

  • dewis pa bryd i werthu eich eiddo er mwyn i’r bobl sy’n etifeddu buddion gael y mwyaf o arian
  • sicrhau bod y cyfanswm cywir o Dreth Etifeddiaeth neu Dreth ar Enillion Cyfalaf neu Dreth Incwm yn cael ei dalu.

Pwy all fod yn ysgutor ewyllys?

Mae nifer o bobl yn dewis eu priod neu bartner sifil, neu eu plant, i fod yn ysgutor. Bydd rhaid i o leiaf un o’ch ysgutorion fod dros 18 oed pan fyddant yn gwneud cais am brofiant – dogfen gyfreithiol sydd yn rhoi’r hawl i chi ddelio â materion y person a fu farw.

Does dim rheol yn erbyn cael pobl sydd wedi’u henwi yn eich ewyllys fel buddiolwr i fod yn ysgutorion i chi. Mae hwn yn gyffredin iawn.

Gall person o dan 18 oed gael eu henwi fel ysgutor mewn ewyllys ond ni fydd ganddo hawl i wneud cais am brofiant nes eu pen-blwydd yn 18 oed.

Os yw’r person ifanc (o dan 18) hefyd yn fuddiolwr neu os oes ganddo fuddiant oes yn yr asedau yn yr ewyllys, bydd angen dau ysgutor.

Gall hyd at bedwar ysgutor weithredu ar yr un pryd, ond bydd rhaid iddynt weithredu ar y cyd. Felly gall fod yn anymarferol i benodi'r nifer yna o bobl.

Er hyn, mae’n syniad da i ddewis dau ysgutor rhag ofn bod un ohonynt yn marw cyn i chi farw neu’n ‘ildio profiant’ os nad ydynt eisiau’r swydd. Os bydd ysgutor yn marw, gall unrhyw ysgutor(ion) sydd yn goroesi ddelio â’r ystâd. Mae’n bosib benodi ysgutor arall rhag ofn na all un o’r ysgutorion weithredu.

Mae nifer o bobl yn dewis ysgutor proffesiynol fel cyfreithiwr i weithredu ar eu cyfer ond gall hwn fod yn ddrud. Mae’n ddefnyddiol i gael rhywun sydd gyda gwybodaeth arbenigol ond gall eich ysgutorion benodi pobl broffesiynol i’w helpu ar yr adeg maent ei angen – sydd yn gallu bod yn llai costus.

Gallech benodi ysgutorion arall i ddelio â’r sefyllfa os bydd eich dewis cyntaf yn marw cyn i chi farw.

Beth sy’n gwneud ysgutor da?

Yn fwy na dim, rhaid i chi ddewis rhywun y gallwch ymddiried ynddynt.

Eu cyfrifoldeb nhw fydd dilyn y cyfarwyddiadau yn eich ewyllys ac i ddatrys unrhyw anghydweld mewn ffordd deg.

Bydd o gymorth os yw eich ysgutor yn dda gyda gwaith papur a rheoli materion cyfreithiol., ond ddim yn angenrheidiol. Gallant benodi gweithwyr proffesiynol ar y pryd i'w helpu os ydynt ei angen.

Aelodau o’r teulu fel ysgutorion

Os oes aelod o’ch teulu rydych yn credu all wneud y gwaith yn effeithiol, gall fod yn syniad da eu cael fel ysgutor.

Er enghraifft, peth cyffredin yw enwi un o’ch plant, nai neu nith neu un o’ch wyrion sydd bellach yn oedolyn.

Sicrhewch eich bod yn gofyn am eu sêl bendith i wneud y gwaith cyn i chi ysgrifennu eich ewyllys, – os ydynt yn gwrthod, byddwch angen newid eich ewyllys.

Meddyliwch yn ofalus cyn dewis eich gwr, gwraig neu bartner fel eich unig ysgutor.

Byddant yn ymdrin â’ch marwolaeth, ac wrth enwi rhywun arall heblaw eich priod neu bartner i fod yn ysgutor, gallwch o leiaf dynnu baich y gwaith papur oddi arnynt.

Cyfreithwyr, banciau a chyfrifwyr fel ysgutorion

Mae llawer o bobl yn dewis cyfreithiwr neu hyd yn oed eu banc fel un o'r ysgutorion. Yr ochr gadarnhaol i hyn yw eu bod yn brofiadol ac yn gwybod eu ffordd o gwmpas materion cyfreithiol, treth ac eiddo.

Fodd bynnag, mae'n llawer mwy costus i gael ysgutorion proffesiynol weithredu ar eich rhan. Mae dwy ffordd y gallai ysgutor proffesiynol godi tâl:

  • trwy anfon bil am eu hamser pan fydd eich pethau i gyd wedi'u datrys
  • trwy gymryd cyfran o gyfanswm gwerth eich ystâd - bydd hyn yn cael ei ysgrifennu yn eich ewyllys.

Sicrhewch eich bod yn deall sut y bydd eich cyfreithiwr, banc neu gyfrifydd yn codi tâl am fod yn ysgutor a faint fydd cost pob opsiwn cyn i chi ymrwymo.

Y dewis arall yw penodi aelodau o'r teulu neu ffrindiau fel ysgutorion na fyddant yn codi tâl am eu hamser ond a all benodi gweithwyr proffesiynol ar y pryd i helpu os ydynt ei angen.

Os nad oes gennych chi unrhyw un i fod yn ysgutor

Fel dewis olaf, mae yna swyddog o’r llywodraeth a elwir yn Ymddiriedolwr Cyhoeddus all fod yn ysgutor i chi os nad oes neb arall all ei wneud.

Y sefyllfa fwyaf gyffredin ar gyfer yr angen am Ymddiredolwr Cyhoeddus yw os yw eich ewyllys yn gadael popeth i un person ac ni all y person hwnnw weithredu fel ysgutor ei hunan. Er enghraifft, plentyn neu oedolyn sydd ag anabledd sydd yn eu hatal rhag rheoli materion ariannol.

Pan fyddwch wedi dewis eich ysgutor

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadarnhau enw a chyfeiriad llawn eich ysgutor yn eich ewyllys fel y gellir dod o hyd iddynt.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.