Bwriadu gwerthu’ch car? Yma cewch wybod am y dulliau a’r llefydd gwahanol y gallwch wneud hynny a sut y gallai bob un effeithio ar y pris a gewch. A pheidiwch â cholli’n hawgrymau ar yr adeg orau i werthu’ch car a beth i’w wneud os oes taliadau ar ôl i’w gwneud ar eich cynllun cyllid.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Faint yw gwerth eich car?
- Dewis y ffordd orau o werthu’ch car
- Alla i werthu car os oes dyled yn weddil ar gynllun cyllid?
- Ydw i’n gallu rhan gyfnewid fy nghar gyda chyllid i’w dalu?
- Canslo treth eich cerbyd a chael ad-daliad
- Trafod wrth werthu eich car
- Peidiwch â chael eich twyllo gan brynwyr twyllodrus
- Ar ôl i chi werthu’ch car
- Sut i gael gwared ar hen gar
Faint yw gwerth eich car?
Y cam cyntaf o werthu eich car yw gweithio allan beth yw gwerth posib eich car.
Gallwch gael syniad am werth posibl eich car o'r gwefannau canlynol
Parkers
What Car?
HPI Valuations
Autotrader
Mae'n bwysig cofio mai amcangyfrifon yn unig yw'r rhain ac mae sawl ffactor arall a allai effeithio ar y gwerth. Er enghraifft, unrhyw ddifrod, ansawdd y teiars, cofnod gwasanaeth a pha mor hir sydd ar ôl ar y MOT.
Ond mae yna bethau eraill y mae'n rhaid i chi eu hystyried wrth brisio'ch car.
Er enghraifft, gallai gymryd mwy o amser i gael y pris gorau posibl ar gyfer eich car. Felly, os oes angen arian arnoch yn gyflym, efallai yr hoffech ystyried gwerthu am bris is.
Dewis y ffordd orau o werthu’ch car
Mae yna nifer o wahanol opsiynau ar gyfer gwerthu'ch car. Mae'r un gorau i chi yn dibynnu ar faint rydych am ei gael am y car, faint o amser rydych chi'n barod i'w dreulio arno ac os ydych chi am gael car arall.
Mae gwerthu’n breifat yn golygu y gallech gael mwy am eich car nag y byddech chi gan ddeliwr. Ond gallai gymryd llawer o amser.
Os ydych chi eisiau car arall ar unwaith, gallai cyfnewid yn rhannol â deliwr fod yn opsiwn gwell.
Mae hyn yn golygu pe byddai’ch car werth £5,500 o’i werthu’n breifat, y byddech yn colli o leiaf £500 trwy ei werthu i ddeliwr.
Gwerthu car i ddeliwr
Os ydych chi eisiau car arall ar unwaith, yna gall cyfnewid rhan gyda deliwr ymddangos fel yr opsiwn hawsaf.
Byddwch yn debygol o gael llai amdano na thrwy werthiant preifat, ond y fantais yw y byddwch yn osgoi’r gwaith a chost o hysbysebu a delio ag ymholiadau, pobl eisiau ei weld a’i yrru i’w brofi.
Bydd gwerth rhan-gyfnewid eich car ychydig yn fwy na’r pris masnachol pe byddech yn gwerthu’ch car yn uniongyrchol i ddeliwr.
Fodd bynnag, efallai na fydd y deliwr yn barod i drafod pris rhan-gyfnewid.
Os nad ydych chi eisiau car arall ar unwaith, efallai y byddwch chi'n dal i allu gwerthu'n uniongyrchol i'r deliwr. Er y gallai hyn fod yn gyflym, mae'n annhebygol y cewch y pris gorau
Gwerthu car yn breifat
Gall gwerthu car yn breifat gymryd amser, ond mae’n debyg y cewch well pris.
Dyma beth sydd angen i chi ei wneud:
- Hysbysebu eich car i brynwyr posibl – er enghraifft, arwydd ‘Ar Werth’ ar ffenestri eich car ac/neu mewn siop, hysbyseb mewn papurau lleol, neu hysbysebion ar safleoedd megis Gumtree, PistonHeads, AutoTrader a Motors. Neu efallai y gallech ddod o hyd i brynwr ymysg ffrindiau neu eu ffrindiau nhw trwy gyfryngau cymdeithasol fel Facebook, neu yn y gwaith.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn disgrifio’ch car yn gywir yn eich hysbyseb ac y gallwch brofi mai chi yw ei berchennog cyfreithlon.
- Deliwch yn brydlon ag unrhyw alwadau neu negeseuon e-bost gan brynwyr posibl.
- Trefnwch a byddwch yn bresennol pan fydd pobl yn dod i’w weld a’i yrru.
- Trefnwch ffordd ddiogel o gael eich talu am y gwerthiant.
Gwefannau prynu ceir ar-lein
Mae yna lawer o safleoedd prynu ceir ar-lein fydd yn cynnig gwneud y gwaith o werthu car ar eich rhan. Byddwch yn nodi manylion eich car ar wefan y cwmni fel oed a milltiredd, yn derbyn prisiad, wedyn yn mynd â’r car i ddepo lleol i gael ei asesu.
Fodd bynnag, dywed Which? "Rydych chi bron yn sicr o gael pris gwell yn gwerthu’r car, neu hyd yn oed ei anfon yn syth i arwerthiant, eich hun. Yn ein hymchwil cudd, fe ganfuom y byddai pump allan o chwech o’n siopwyr cudd wedi bod yn gyfoethocach yn gwerthu i werthwr – mewn un achos, o dros £2,000.”
Os byddwch chi’n dewis gwerthu eich car ar-lein, dylech fod yn ymwybodol bod y prisiad ar-lein fel arfer yn amodol ar archwiliad yn y fan a’r lle o’ch car. Os bydd yr archwiliad yn datgelu rhai gwallau, efallai y bydd swm y prisiad terfynol yn sylweddol is. Efallai y bydd hefyd rhaid i chi dalu ffi weinyddol am y gwasanaeth.
Gwerthu car mewn arwerthiant
Mae mynd â char i arwerthiant yn gyflym a chymharol ddidrafferth.
Ond nid oes sicrwydd bydd eich car yn cyrraedd ei bris cadw, ac efallai y byddwch yn cael llai amdano na thrwy ddulliau eraill o werthu. Ac os nad yw’n cyrraedd eich pris cadw, bydd rhaid i chi fynd ag ef adref a rhoi cynnig arall arni mewn arwerthiant arall.
Mae’r rhan fwyaf o brynwyr arwerthiannau yn y diwydiant moduro. Os ydych chi’n ddigon ffodus i ddenu prynwr preifat, yna efallai y bydd yn barod i dalu mwy am eich car nag y byddai deliwr.
Mae gan gwmnïau arwerthiannau car mawr megis British Car Auctions a Manheim ganghennau ledled y wlad, ond efallai y byddai’n haws i chi ddefnyddio cwmni annibynnol sy’n lleol i chi.
Gallwch hefyd edrych ar wefannau ocsiwn ar-lein fel eBay, ond bydd yn rhaid i chi wneud llawer mwy o'r gwaith o amgylch creu'r hysbyseb ac ateb cwestiynau. Os yw'ch car yn gwerthu, mae'r cynigydd buddugol yn talu amdano ar unwaith ac yna mae'r cwmni ocsiwn yn rhoi'r pris gwerthu i chi llai eu comisiwn. Gall hyn fod hyd at 10% o'r pris gwerthu.
Alla i werthu car os oes dyled yn weddil ar gynllun cyllid?
Oeddech chi’n gwybod?
Mae’n anghyfreithlon i werthu car i rywun os oes dyled yn weddill ar y car a dydych chi ddim yn eu hysbysu o’r sefyllfa.
Os ydych chi’n gwerthu car gyda dyled yn weddill ar gynllun cyllid, mae dau beth y mae’n rhaid i chi eu gwneud cyn y gallwch ei werthu’n gyfreithlon:
- Hysbysu’r cwmni cyllid a gofyn iddynt am “swm y setliad” fyddant ei angen gennych i dalu’ch benthyciad yn llawn.
- Talu swm y setliad, ac unrhyw ffi ad-dalu cynnar a ffi gweinyddu a godir gan y benthyciwr.
Er gwaetha’r costau hyn, dylai talu’ch benthyciad yn gynnar gostio llai i chi nag y byddai gwneud unrhyw daliadau sy’n weddill.
Cofiwch ei bod fel arfer yn anodd iawn gwerthu car sydd â dyled i’w thalu arno.
Bydd y cwmni cyllid wedi cofrestru eich car gronfeydd data HPI ac Experian wrth i chi dderbyn eich cynllun talu.
Cyn prynu car ail law, mae’r rhan fwyaf o ddelwyr a phrynwyr preifat synhwyrol yn gwirio’r cronfeydd data hyn i sicrhau nad oes unrhyw ddyled i’w thalu arno.
Gallwch drefnu gwiriad hanes neu ddata car gan yr AA, RAC, HPI Check a chwmnïau eraill am tua £20.
Darganfyddwch fwy am derfynu cyllid car yn gynnar yn ein canllaw Cwtogi costau cyllid car.
Ydw i’n gallu rhan gyfnewid fy nghar gyda chyllid i’w dalu?
Mae’r un egwyddorion yn weithredol â phan fyddwch chi’n gwerthu car gyda chyllid yn weddill.
Rhaid i chi gysylltu â’r cwmni cyllid i gael “swm setlo” a thalu hyn ynghyd ag unrhyw ffioedd a thaliadau gweinyddol cyn rhan gyfnewid.
Cofiwch y bydd y rhan fwyaf o ddelwyr yn awyddus i wneud elw pan fyddant yn ailwerthu eich car, felly mae’n debygol y bydd y pris rhan gyfnewid yn is na’r pris y gallech ei gael wrth werthu’r car yn breifat. Ond, mae’n llawer mwy syml a chyflym i ran gyfnewid nag yw hi i restru, trefnu i bobl ei weld a’i brofi er mwyn gwerthu’r car eich hun.
Canslo treth eich cerbyd a chael ad-daliad
Ni all gwerthwyr a phrynwyr drosglwyddo treth gyfredol mwyach pan werthir car.
Yn hytrach bydd rhaid i chi drethu’r car eich hun a gall y cyn berchennog ymgeisio am ad-daliad.
Fodd bynnag, bellach mae treth newydd yn cael ei ddyddio’n ôl i ddechrau’r mis ac ad-daliadau o ddechrau’r mis canlynol.
Golyga hynny os gwerthwch gar ac yna prynu car yn gynnar yn y mis, byddwch yn talu treth ddwywaith.
Os ydych chi’n gwneud cais am HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol) cyn diwedd y mis gallwch osgoi talu treth ar eich car presennol.
Fodd bynnag, fe wynebwch ddirwy os gyrrwch ar y ffordd heb dreth ar ôl gwneud hynny. Gallai hyn beri anhawster os bydd prynwr yn dymuno profi’ch car.
Cael gwared ar eich car
Os yw’ch car yn dod i ddiwedd ei oes ac yn dod yn llai economaidd i’w gynnal, ystyriwch ei roi i elusen neu ei sgrapio.
Trafod wrth werthu eich car
Os ydych yn gwerthu'ch car yn breifat neu i ddeliwr, mae'n debyg y bydd y prynwr eisiau bargeinio am y pris. Felly, peidiwch â chael eich dal allan - darllenwch ein hawgrymiadau trafod isod fel eich bod yn gwybod sut i gynyddu gwerth eich car heb golli'r gwerthiant.
Am awgrymiadau ar drafod wrth brynu car, darllenwch wefan Which?
Peidiwch â chael eich twyllo gan brynwyr twyllodrus
Gall gwerthu eich car yn breifat ddod â chi i gysylltiad â lladron sy'n ymddangos fel prynwyr posibl.
Dyma rai sgamiau diweddar i fod yn wyliadwrus amdanynt:
- Rhywun yn cymryd arnynt bod yn allforiwr ceir, sy’n gofyn i chi drosglwyddo ‘ffioedd cludo’ i ‘brynwyr’ tramor.
- E-byst gwe-rwydo o wefannau prynu a gwerthu ceir fel y'u gelwir yn gofyn am fanylion mewngofnodi a thalu ar gyfer eich cerdyn.
- Negeseuon testun yn mynegi diddordeb yn eich car dim ond i dâl gael ei godi ar gyfradd premiwm os ydych yn ymateb dros y ffôn neu drwy neges destun.
- Prynwr sy'n talu â siec ac yn mynd â'r car cyn i'r siec glirio, ond mae'r siec yn bownsio ychydig ddyddiau'n ddiweddarach oherwydd ei fod yn ffugiad neu'n ffug
- Prynwr sy'n cynnig prynu'ch car heb ei weld sy'n talu'r swm llawn trwy PayPal. Yna cewch eich hysbysu eich bod wedi cael gordaliad a gofynnir ichi ddychwelyd y gwahaniaeth trwy ddull talu ar-lein gwahanol. Wrth i chi wneud hyn, mae’r twyllwr yn trefnu bod ei drafodiad PayPal gwreiddiol yn cael ei wrthdroi ac rydych yn colli’r arian rydych wedi’i ‘ddychwelyd’.
I gael mwy o awgrymiadau ar osgoi twyll wrth werthu a phrynu car, ewch i wefan Get Safe Online
Ar ôl i chi werthu’ch car
Ar ôl i chi werthu'ch car mae angen i chi roi gwybod i'r DVLA nad chi yw'r perchennog mwyach.
Mae rhaid i chi a'r person rydych yn gwerthu iddo, lofnodi a dyddio'r rhan berthnasol o'r V5C a'i hanfon i’r DVLA.
Peidiwch ag anghofio hysbysu’r DVLA eich bod wedi gwerthu’ch cerbyd
Peidiwch ag anghofio talu unrhyw gyllid sy'n dal i fod heb ei dalu ar eich car, a rhoi gwybod i'ch yswiriwr eich bod wedi gwerthu'r car.
Am awgrymiadau ar sut i baratoi eich car ar gyfer ei werthu darllenwch Which?
Sut i gael gwared ar hen gar
Daw pwynt gyda phob car pan nad yw bellach yn ymarferol nac yn ddiogel i ymestyn ei oes. Yn fwy na hynny, os nad yw'n addas ar gyfer y ffordd fawr, efallai y cewch bwyntiau ar eich trwydded yrru neu ddirwy. Felly, os yw'ch car yn cyrraedd pen y ffordd, darllenwch ymlaen i ddarganfod sut y gallwch gael gwared arno.
Oeddech chi’n gwybod?
Mae’r Ddeddf Delwyr y Sgrap Metel yn golygu ei bod yn erbyn y gyfraith i dalu am geir sgrap mewn arian parod yng Nghymru a Lloegr - felly peidiwch ag ymddiried yn unrhyw un sy’n ceisio talu mewn arian parod.
Os penderfynwch sgrapio'ch car, mae ychydig o bwyntiau i'w cofio cyn i chi ddechrau arni
- Trefnwch y dogfennau. Pan fydd car yn cael ei sgrapio mae angen hysbysu'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) gan ddefnyddio Tystysgrif Dinistrio (CoD). Dim ond canolfannau ailgylchu ceir sgrap y gellir eu cyhoeddi, o'r enw Cyfleusterau Triniaeth Awdurdodedig (ATFs). Os na wnewch, rydych yn dal i fod yn gyfrifol am y cerbyd a gallech gael dirwy.
- Cadwch eich manylion personol yn ddiogel. Mae rhaid i gwsmeriaid yng Nghymru a Lloegr brofi pwy ydynt wrth werthu eu car fel sgrap. Gofynnir i chi ddangos ID llun a phrawf cyfeiriad, fel bil cyfleustodau. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei storio am dair blynedd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ei rhannu â sefydliad ag enw da. .
- Adennill yswiriant a threth. Pan fyddwch wedi scrapio eich cerbyd mewn ATF a bod CoD wedi'i gyhoeddi, bydd y DVLA yn ad-dalu unrhyw fisoedd llawn o dreth car sy'n weddill (a elwir yn swyddogol yn VED ond y cyfeirir ati weithiau fel treth ffordd). Dylech hefyd ddweud wrth gyflenwr yswiriant eich car a gofyn am ad-daliad, neu roi unrhyw gredyd tuag at bolisi yswiriant arall.
Darganfyddwch fwy o wybodaeth ar wefan GOV.UK
Scrapio car
Mae pobl fel arfer yn sgrapio eu ceir os ydynt yn torri i lawr, yn methu MoT, angen atgyweiriadau drud, neu os nad ydynt yn gallu dod o hyd i brynwr.
Dylai sgrapio'ch car fod yn ddewis olaf y gallech ddewis ei wneud os yw wedi'i ddifrodi y tu hwnt i'w atgyweirio neu os na allwch ddod o hyd i unrhyw un sy'n barod i'w brynu.
Cofiwch, oni bai bod eich car wedi malurio’n llwyr, gallai fod yn werth rhywbeth o hyd, felly ni ddylai fod rhaid i chi dalu i gael ei halio i ffwrdd.
Cofiwch, gallai ailgylchwr y cerbyd (a elwir hefyd yn iard sgrap, torrwr neu ddatgymalwr) wneud cannoedd o bunnoedd dim ond trwy werthu rhai o'i rannau, hyd yn oed os gallai'ch car fod werth y metel sgrap yn unig.
Os penderfynwch wneud hyn, mae rhaid mynd â'ch car i ATF i'w sgrapio.
Yna anfonir CoD atoch.
Mae'n anghyfreithlon sgrapio'ch cerbyd yn unrhyw le arall.
Bydd sgrapio'ch car yn sicrhau ei fod wedi'i ailgylchu'n iawn heb niweidio'r amgylchedd.
Mae prisiau ceir sgrap yn amrywio gan ddibynnu ar y model car, y rhanbarth y mae wedi'i gasglu ynddo, p'un a oes ganddo unrhyw rannau y gellir eu hail-werthu a chyfraddau'r farchnad gyfredol.
Gallwch ddod o hyd i ddeliwr ATF, mwy o wybodaeth am sgrapio'ch car a chysylltu â DVLA ar GOV.UK
Rewarding Recycling a CarTakeBack yw'r partneriaid ailgylchu swyddogol ar gyfer detholiad o wneuthurwyr moduron.
Mae gan eu holl ganolfannau ailgylchu ceir sgrap drwyddedau ATF.
Gallwch hefyd ei ddanfon yn uniongyrchol i ATF os yw'n well gennych
Sicrhewch ddyfynbris ar unwaith am werth sgrap eich car ar CarTakeBack neu Rewarding Recycling
Cyfrannwch eich hen gar i elusen
Os nad yw’ch car werth llawer neu os nad oes gennych amser i drefnu ei werthu, beth am ei roi i Charitycar
Byddant yn ei gasglu am ddim a bydd gennych y boddhad o wybod fod gwerth eich car yn mynd i’r elusen o’ch dewis.
Gallech hefyd ystyried rhoi eich car drwy Giveacar
Os ydych yn rhoi’ch hen gar yn rhodd, bydd naill ai’n cael ei werthu mewn arwerthiant neu ei sgrapio.