Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i geir sy’n fwy na thair blwydd oed basio prawf MOT blynyddol i ddangos eu bod yn addas i’r ffordd. Yma fe gewch ragor o wybodaeth am y prawf MOT, gan gynnwys y pum rheswm syml mwyaf cyffredin pam mae ceir yn ei fethu. Yn ogystal, mae rhestr wirio i’ch helpu i roi’r cyfle gorau i’ch car basio, ac felly osgoi’r gost a thrafferth o gael ail brawf.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Ffeithiau allweddol am y prawf MOT
- Faint o amser mae prawf MOT yn ei gymryd?
- Faint mae prawf MOT yn ei gostio?
- Y pump prif reswm syml pam fod ceir yn methu’r prawf MOT
- Rhestr wirio i helpu’ch car i basio ei brawf MOT
- Os yw’ch car yn methu ei brawf MOT
- Ail brofion MOT
- Os yw eich MOT wedi dod i ben
- Os ydych wedi colli’ch tystysgrif MOT
Ffeithiau allweddol am y prawf MOT
Oeddech chi’n gwybod?
Gallwch hefyd gael MOT wedi'i wneud mewn canolfan brawf cynghorau lleol.
Nid yw'r canolfannau prawf hyn fel rheol yn gwneud atgyweiriadau yn ogystal â MOT.
Mae hyn yn eu gwneud yn ddiduedd wrth archwilio'ch car - does dim cymhelliant masnachol i ddod o hyd i broblemau ag ef .
Am restr o ganolfannau prawf MOT cyngor lleol sydd ddim yn gwneud atgyweiriadau, ewch i MoneySavingExpert
Unwaith y bydd car yn dair blwydd oed (pedair oed yng Ngogledd Iwerddon) mae’n rhaid ei brofi bob blwyddyn er mwyn gwirio ei fod yn cwrdd â safonau amgylcheddol.
Yn gyffredinol, gelwir y prawf hwn gan y Weinyddiaeth Trafnidiaeth yn ‘MOT’.
Gwneir profion MOT mewn canolfannau profi awdurdodedig o gwmpas y wlad, ac mae pob un ohonynt yn arddangos arwydd glas yn cynnwys tri thriongl gwyn.
Mae prawf MOT yn cynnwys dwsinau o wiriadau ar eich car, yn amrywio o’r brêcs a’r system danwydd i oleuadau, drychau, gwregysau sedd, sychwyr ffenestri a system y bibell wacáu.
Nid yw’n cynnwys cyflwr y peiriant, y cydiwr a’r gerflwch.
I ddod o hyd i’ch canolfan brofi MOT awdurdodedig agosaf, ewch i’r gwefannau hyn:
- Cymru, Lloegr a’r Alban – UK MOT
- Gogledd Iwerddon – NIDirect ac archebu prawf ar-lein
Faint o amser mae prawf MOT yn ei gymryd?
Ar gyfartaledd, mae’n cymryd rhwng 45 a 60 munud i gynnal prawf MOT, ond mae rhai pethau ychwanegol i’w hystyried.
Yn gyntaf, os yw eich cerbyd yn methu’r prawf a bod angen trwsio’r cerbyd, bydd hynny’n cymryd fwy o amser.
Nid yw canolfan brofi yn cael gadael i chi yrru i ffwrdd mewn car sydd wedi methu MOT hyd nes bod y problemau wedi’u datrys, oni bai bod eich tystysgrif MOT bresennol yn dal yn ddilys neu os ydych yn mynd â’r car i rywle i’w drwsio.
Yn ail, efallai bod y prawf yn cymryd llai nag awr heb orfod gwneud atgyweiriadau, ond nid yw hynny’n golygu y bydd ond angen i’ch cerbyd fod yn y modurdy am 60 munud.
Bydd rhai canolfannau profi yn gofyn i chi ollwng eich car gyda nhw yn y bore a’i gasglu pan fydd yn barod.
Mae hyn yn golygu y dylech fod yn barod i fod heb eich cerbyd am y diwrnod cyfan.
Faint mae prawf MOT yn ei gostio?
Yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) sy’n pennu’r swm uchaf y gall canolfannau profi swyddogol eu codi am brawf MOT.
Ar hyn y bryd y swm yw £54.85 ar gyfer ceir a charafanau modur a £29.65 i feiciau modur, ond mae llawer o garejys yn codi llai na hyn - weithiau hyd at 50% yn llai.
Chwiliwch ar-lein am “cheap MOT” neu “MOT discount” i weld sut gallwch arbed arian ar MOT nesaf eich car.
Efallai y bydd MOT hefyd yn cael ei gynnwys yng nghost gwasanaeth llawn i'ch car. Er bod gwasanaethu'ch car yn rheolaidd yn syniad da, mae gwasanaeth, hyd yn oed os yw'n cynnwys MOT, yn debygol o fod yn ddrytach na MOT ar ei ben ei hun.
Y pump prif reswm syml pam fod ceir yn methu’r prawf MOT
Mae bron i ddau o bob pump o brofion MOT yn methu’r tro cyntaf.
Eto, yn aml mae hyn oherwydd diffygion bach y gallai’r perchennog fod wedi’u trwsio’n hawdd o flaen llaw cyn iddynt dalu am brawf.
Dyma rai o’r ffyrdd y gallai eich car fethu MOT.
- Dŵr sgrin heb ei lenwi. Mae’r dasg syml hon yn cymryd ychydig funudau, felly peidiwch cael eich dal allan.
- Roedd y car yn fudr neu’n llawn llanast. Cliriwch y llanast o’r gist a’r caban a rhoi rhwbiad cyflym i’r ffenestri a’r drychau.
- Problem â’r plât cofrestru. Er enghraifft, roedd y plât yn dangos y math anghywir o ffurfdeip/bylchau, neu roedd yn fudr neu ar goll yn gyfan gwbl. Os oes gennych blât personol, gwnewch yn siŵr ei fod yn dilyn rheolau DVLA.
- Sticeri ar y ffenestr blaen yn rhwystro golwg y gyrrwr. Gwnewch yn siŵr fod unrhyw beth sydd wedi’i lynu ar y ffenestr, fel trwyddedau parcio, y tu hwnt i ardal ysgubo’r sychwyr.
- Golau rhybudd ar y dangosfwrdd wedi’i oleuo. Ers 2012, mae’r MOT wedi cynnwys goleuadau rhybudd wedi’u goleuo. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw ystyr goleuadau rhybudd sydd wedi’u goleuo ac os oes un wedi’i oleuo, datryswch y broblem sylfaenol cyn y prawf MOT.
Rhestr wirio i helpu’ch car i basio ei brawf MOT
Cofiwch
Mae tystysgrif MOT yn cadarnhau bod eich car yn cwrdd â’r isafswm safonau ffordd ofynnol ynghylch diogelwch a’r amgylchedd yn ôl y gyfraith ar adeg y prawf.
Nid yw’n golygu y bydd eich car yn dal yn addas i’r ffordd am y 12 mis dilynol. Mae angen i chi ddal gwneud yn siŵr eich bod yn cynnal a chadw eich car, gan gynnwys rhoi gwasanaeth rheolaidd iddo.
Gwnewch yn siŵr nad ydych yn cael eich dal gan unrhyw un o’r pum rheswm syml uchod am fethu’r prawf, yna archwiliwch eich car gan ddilyn ein rhestr wirio 11-pwynt isod.
Os ddewch o hyd i unrhyw broblemau yn y meysydd hyn, mae rhai y gallwch eu trwsio eich hunan er mwyn cadw costau garej i lawr.
Prif oleuadau a chyfeirwyr: goleuadau blaen, cefn, prif oleuadau (prif belydryn ac wedi’u gostwng), goleuadau rhybudd a chyfeirwyr. Os oes unrhyw rai nad ydynt yn gweithio, gwiriwch yn gyntaf am fylbiau sydd wedi torri a’u newid.
Goleuadau brêcs: gofynnwch i rywun arall wirio bod y goleuadau brêcs cefn yn gweithio pan wasgwch y pedal brêcs.
Teiars: gwiriwch fod gan yr holl deiars o leiaf y dyfnder gwadn isaf o 1.6mm, neu byddant yn cael eu marcio fel “methiant” yn yr MOT.
Gellir gwneud hyn yn hawdd gyda darn 20c – edrychwch ar ddiagram ar Tyre Safe
Gwiriwch am unrhyw ddifrod fel holltau yn y gwadn, chwyddau neu doriadau yn y waliau ochrol.
Yn ogystal, gwiriwch fod pwysedd y teiars yn gywir – bydd llawlyfr y car yn rhestru’r pwysedd cywir a gallai’r pwysedd cywir fod wedi ei nodi ar wal ochr y teiar hefyd - a rhowch aer yn y teiars mewn gorsaf betrol os bydd angen.
Y brêc llaw: gwiriwch y tyniant yn eich brêc llaw. Os bydd yn llithro i fyny ac i lawr yn rhy hawdd ac na ellir glicied i lefel benodol, mae’n debygol y bydd problem i’w datrys gan fecanig broffesiynol.
Seddau a gwregysau diogelwch: gwiriwch fod sedd y gyrrwr yn addasu ymlaen a thuag yn ôl ac archwiliwch hyd lawn y gwregys diogelwch am unrhyw niwed.
Gwiriwch fod yr holl wregysau diogelwch yn cau a chlymu’n dynn, ac yn cloi pan dynnwch yn gadarn arnynt.
Ffenestr blaen: bydd unrhyw ddifrod yn lletach na 10mm yng ngolwg ganolog y gyrrwr yn achosi methiant MOT, fel y bydd unrhyw ddifrod yn fwy na 40mm yn yr holl ardal a welir drwyddo.
Sychwyr y ffenestr blaen: gwnewch yn siŵr bod eich sychwyr yn glanhau’ch ffenestr blaen yn effeithiol ar y cyd â’r golchwyr.
Cofiwch y gall unrhyw doriadau neu dyllau yn rwber y sychwr olygu methiant MOT.
Gwirio’r syspension: gwiriwch y siocleddfwyr trwy roi eich pwysau ar bob cornel y car ac yna eu rhyddhau’n gyflym.
Dylai cornel y car ddychwelyd yn gyflym i’w safle gwreiddiol.
Os yw’n bownsio’n fwy na dwywaith, gallai hyn olygu bod y siocleddfwyr yn ddiffygiol a bod angen eu gwirio.
Corn: seiniwch y corn yn fyr - os nad yw’n gweithio neu os nad yw’n ddigon uchel i ddenu sylw cerddwyr neu fodurwyr eraill, trefnwch ei drwsio.
Pibell wacáu: gwiriwch am ollyngiadau yn y bibell wacáu trwy gychwyn y peiriant mewn gofod a awyrir yn dda ar dymheredd arferol, yna gwrandewch o gefn y car am unrhyw synau anarferol neu fwg annormal.
Tanwydd ac olew peiriant: sicrhewch fod eich car wedi’i lenwi gyda digon o danwydd ac olew peiriant - gallant wrthod cynnal prawf MOT os nad oes digon i brofi allyriadau’ch car yn iawn.
Os yw’ch car yn methu ei brawf MOT
Os yw eich car yn methu ei MOT, bydd y ganolfan brawf yn rhoi Tystysgrif VT30 yn dangos rhesymau dros fethu.
Ar 20 Mai 2018, newidiwyd y categorïau MOT ar gyfer methu a phasio.
Os bydd nam peryglus ar eich car, ni chaniateir i chi ei yrru i ffwrdd. Mynnwch ddyfynbris gan y garej a gwblhaodd yr MOT os ydynt yn trwsio ceir, ac yna ffoniwch ambell i garej arall lleol am ddyfynbrisiau eraill. Gallech gael pris rhatach am y gwaith trwsio hyd yn oed os bydd angen iddynt dynnu eich car i’w garej.
Os bydd nam mawr ar eich car, efallai y caniateir i chi ei yrru i ffwrdd os yw’n parhau i fod yn addas i’r fforddYn agor mewn ffenestr newydd ac os nad yw’ch MOT blaenorol wedi dod i ben eto.
Os yw’ch MOT wedi dod i ben a bod y car yn addas i’r ffordd caniateir i chi ei yrru i gael trwsio’r diffygion ac i deithio i gael MOT a archebwyd eisoes.
Os gyrrwch gar heb MOT dan unrhyw amodau ar wahân i hynny, neu yrru car sydd â diffygion peryglus, gallech wynebu dirwy o £2,500, cael eich gwahardd rhag gyrru a chael tri phwynt ar eich trwydded.
Darllenwch fwy am y categorïau MOT newydd ar GOV.UK
Ail brofion MOT
Mae angen i chi drwsio’r holl ddiffygion mawr a pheryglus i sicrhau bod eich car yn addas i’r ffordd ac yna trefnu ail brawf MOT rhannol y bydd yn rhaid i’ch car ei basio cyn y gallwch ei yrru ar y ffyrdd eto.
Os gadewch eich car yn y ganolfan brofi i gael ei drwsio, fe gewch yr ail brawf rhannol am ddim, cyn belled â’ch bod yn gwneud hynny o fewn 10 diwrnod gwaith ers methu’r MOT.
Os ewch â’ch cerbyd i ffwrdd i gael ei drwsio, a’i ddychwelyd cyn diwedd y diwrnod gwaith canlynol, mae’r prawf ar gael am ddim fel arfer. Mae’n dibynnu pa ddarnau o’ch cerbyd sy’n cael eu hail brofi wrth bennu a gewch yr ail brawf am ddim neu beidio.
Os dychwelwch o fewn 10 diwrnod gwaith i’r un ganolfan brawf am ail brawf rhannol, fe godir ffi is arnoch ond ni chewch y prawf am ddim.
Darganfyddwch fwy o wybodaeth am ail brofion ar GOV.UK
Os yw eich MOT wedi dod i ben
Os yw’ch MOT wedi dod i ben, mae’n anghyfreithlon i yrru’ch car ar y ffordd a gellid eich erlyn am wneud hynny.
Hefyd mae gyrru’ch car heb dystysgrif MOT cyfredol yn golygu bod eich yswiriant car yn annilys. Felly efallai na fyddwch wedi eich diogelu os byddech yn cael damwain.
Yr unig eithriad fyddai os oeddech wedi archebu prawf MOT eisoes ac roeddech yn gyrru’ch car i’r prawf.
Os ydych wedi colli’ch tystysgrif MOT
Mae dwy ffordd o gael tystysgrif prawf MOT newydd yn lle’r un a gollwyd.
Mae’r ffordd gyntaf am ddim. Ewch ar GOV.UK ble gallwch weld, argraffu a chadw unrhyw dystysgrif MOT a gyhoeddwyd ar ôl 20 Mai 2018. Y cwbl sydd ei angen arnoch yw rhif cofrestru’r cerbyd a’r rhif cyfeirnod 11-digid, heb fylchau, o V5C y cerbyd, a elwir hefyd yn llyfr log.
Mae’r ail ffordd yn costio £10. Gallwch fynd i unrhyw ganolfan brawf MOT a rhoi rhif cofrestru eich cerbyd iddynt ynghyd â’ch rhif cyfeirnod V5C.
Nid oes angen tystysgrif MOT arnoch i werthu cerbyd, ond bydd llawer o brynwyr yn dymuno ei gweld.
Bydd angen tystysgrif MOT arnoch hefyd i drethu’ch cerbyd ac i newid dosbarth treth eich cerbyd, er mwyn osgoi gorfod talu treth fel gyrrwr anabl er enghraifft.