A fydd yn rhaid i mi dalu ‘treth prosiect pres poced’ pan fyddaf yn gwerthu eitemau ar-lein?
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
02 Chwefror 2024
Mae newid yn y rheolau ar gyfer platfformau digidol fel Vinted, eBay a Depop yn golygu y byddant yn dechrau rhoi gwybod am eich enillion i Gyllid a Thollau EF (CThEF) os byddwch yn gwerthu mwy na swm penodol. Felly a fydd angen i chi dalu treth? Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Beth yw'r newid yn y gyfraith gwerthu ar-lein?
Mae’r gyfraith yr un fath, ond mae’n ataliad ar bobl a ddylai fod yn talu treth yn barod. Mae'r cwmnïau hyn newydd gael gwybod bod yn rhaid iddynt bellach rannu gwybodaeth â CThEF.
Er ei fod wedi cael ei llysenw yn “dreth busnes ar yr ochr”, nid yw’n dreth newydd. Mae’n union yr un dreth incwm ag y byddech chi’n ei thalu ar unrhyw swydd arall.
Felly os nad oedd unrhyw dreth yn ddyledus gennych ar yr incwm hwn o’r blaen, a’ch bod yn parhau i ddefnyddio platfformau ar-lein yn yr un ffordd, ni fydd yn rhaid i chi ddechrau talu treth arnynt nawr.
Mae’r newid yn rhan o reolau newydd a ddaeth i rym ar ddechrau 2024 y cytunodd y DU i’w dilyn fel rhan o’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).
Gall CThEF eisoes ofyn am y wybodaeth hon gan gwmnïau yn y DU os ydynt yn meddwl nad ydych yn talu’r dreth y dylech. Ond nawr mae hyn yn berthnasol i blatfformau digidol sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r DU hefyd.
Mae'n rhaid i blatfformau gydymffurfio erbyn Ionawr 2025, ond gallent ddechrau rhannu'r wybodaeth hon o hyn ymlaen.
A fydd yr apiau a’r gwefannau hyn yn anfon gwybodaeth pawb i CThEF?
Na, mae’r rheol rhoi gwybod dim ond yn berthnasol i gyfrifon sy'n gwerthu mwy na 30 eitem y flwyddyn neu sy'n ennill mwy na 2,000 ewro (tua £1,735 ar hyn o bryd).
A oes angen i mi dalu treth o hyd os wyf yn gwerthu fy hen bethau?
Os ydych yn gwerthu eich eiddo eich hun, mae’n annhebygol y bydd angen i chi ddatgan eich enillion a thalu treth.
Os ydych yn prynu pethau er mwyn eu gwerthu am elw, yna mae’n debygol eich bod yn ‘masnachu’ ac efallai y bydd angen i chi dalu treth ar yr hyn a wnewch.
Bydd angen i chi roi gwybod i CThEF os:
- rydych yn gwerthu mwy na’r ‘Lwfans Masnachu’ o £1,000 (cyn didynnu treuliau).
- gwerthu eitem bersonol am £6,000 neu fwy, ac os felly efallai y byddwch yn agored i dreth enillion cyfalafYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn ansicr, gallwch wirio cyfrifiannell ar-lein CThEFYn agor mewn ffenestr newydd i weld a oes angen i chi ddweud wrthynt am incwm a wneir o werthiannau ar-lein.
Beth yw'r Lwfans Masnachu?
Rhoddir lwfans di-dreth o £1,000 i bob gwerthwr ar gyfer ‘incwm masnachu’. Felly os yw eich holl incwm masnachu yn is na’r trothwy hwn, ni fydd angen i chi roi gwybod i CThEF a llenwi ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Er enghraifft, os ydych chi wedi gwerthu pâr o esgidiau am £50 ac wedi prynu rhai gemau o sêl cist car ac wedi’u hailwerthu am elw o £100, yna cyfanswm eich incwm masnachu ac achlysurol yw £150.
Dim ond £100 o’r arian hwn fyddai’n cyfrif tuag at eich terfyn Lwfans Masnachu o £1,000, felly ni fyddai angen i chi ddweud wrth CThEM. Fodd bynnag, os byddwch yn gwerthu eitemau gwerth mwy na £1,000 dros y flwyddyn, bydd angen i chi ddweud wrth CThEF drwy gofrestru ar gyfer Hunanasesiad. Felly mae’n syniad da cadw golwg ar faint rydych chi’n ei ennill, ac os ydych chi’n meddwl bod eich incwm dros £1,000, cysylltwch â CThEF am gyngor.
A pheidiwch â phoeni –, nid yw o reidrwydd yn golygu y bydd arnoch chi dreth i CThEF dim on oherwydd eich bod yn cofrestru ar gyfer Hunanasesiad. Mae’r hyn a elwir yn eich lwfans treth personol yn golygu y gallwch enill £12,570 y flwyddyn cyn bod yn rhaid i chi dalu unrhyw dreth.
Beth yw eich lwfans treth bersonol?
Eich lwfans treth bersonol yw swm yr incwm di-dreth y gallwch ei gael mewn blwyddyn. Mae’n £12,570 ar hyn o bryd. Byddwch ond yn talu treth ar unrhyw incwm a gewch dros y swm hwn.
Efallai y bydd eich lwfans yn fwy os ydych yn gymwys ar gyfer y Lwfans Person DallYn agor mewn ffenestr newydd neu’n briod. Mae’r Lwfans PriodasolYn agor mewn ffenestr newydd yn caniatáu i chi drosglwyddo £1,260 o’ch lwfans personol i’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil. Gallwch ddarganfod mwy am sut mae'n gweithio ar wefan y llywodraeth.
A oes angen i mi dalu treth ar enillion o blatfformau eiddo fel Airbnb a VRBO?
Mae’n bwysig gwybod y gallwch gael hyd at £1,000 bob blwyddyn dreth mewn lwfansau di-dreth ar gyfer incwm eiddo ac incwm masnachu. Os oes gennych y ddau fath o incwm, byddwch yn cael lwfans o £1,000 yr un.
Felly os yw’r eiddo rydych chi’n ei gynnal ar blatfform ar-lein fel Airbnb yn ail eiddo neu’n eiddo nad ydych chi’n byw ynddo, gallwch chi ennill hyd at £1,000 yn ddi-dreth bob blwyddyn. Ond yn union fel gwerthu ar-lein, os yw eich incwm o osod eich eiddo yn fwy na £1,000, rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.
Gallai unrhyw incwm o rent dros y swm hwnnw fod yn incwm rhent trethadwy ac yn destun treth incwm. Mae swm y dreth incwm rydych yn ei dalu yn seiledig ar eich band incwm. Felly os nad ydych yn ennill unrhyw incwm arall, ni fyddwch yn talu treth ar y £12,570 cyntaf.
Nid yw’r rheolau newydd hyn yn effeithio ar y lwfans Rhentu Ystafell os ydych yn gosod ystafell sy’n rhan o’ch prif gartref. Gallwch ddarganfod mwy am Rent ac Ystafell a sut mae’n gweithio ar wefan y llywodraeth.
Beth yw Hunanasesiad?
Mae Hunanasesiad yn system y mae CThEF yn ei defnyddio i gasglu Treth Incwm.
Fel arfer didynnir treth yn awtomatig gan gyflogau a phensiynau. Rhaid i bobl a busnesau sydd ag incwm a thaliadau cymorth eraill roi gwybod amdano ar ffurflen dreth. Os ydych yn derbyn incwm o fwy na £1,000 y flwyddyn mae angen i chi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Erbyn pryd dylwn i wneud cais am Hunanasesiad?
Os oes angen i chi ffeilio Ffurflen Dreth Hunanasesiad gallwch wneud hynny ar-lein neu drwy'r post.
Dylech gofrestru erbyn 5 Hydref ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y gwnaethoch ddechrau ennill incwm hunangyflogedig.
Y dyddiad cau ar gyfer ffeilio ffurflen bapur yw 31 Hydref neu 31 Ionawr nesaf os ydych yn ei wneud ar-lein.
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer HunanasesiadYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan CThEF, fel bod modd anfon eich cyfeirnod trethdalwr unigryw (UTR) atoch. Os ydych wedi ffeilio datganiad o'r blaen, dylech fod wedi'ch cofrestru eisoes.
Os mai dyma'r tro cyntaf i chi gyflwyno'ch ffurflen dreth ar-lein, bydd angen i chi hefyd sefydlu cyfrif ar-lein ac anfon cod actifadu atoch.
Gall hyn gymryd peth amser i’w dderbyn, felly os mai dyma’r tro cyntaf i chi gwblhau hunanasesiad, gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru ar-lein ar unwaith a gofynnwch i CThEF am gyngor.
Dyddiadau cau ar gyfer talu treth sy'n ddyledus gennych
Mae angen i chi dalu’r dreth sy’n ddyledusYn agor mewn ffenestr newydd erbyn canol nos 31 Ionawr 2024. Fel arfer mae ail ddyddiad cau ar gyfer talu, sef 31 Gorffennaf os byddwch yn gwneud taliadau ymlaen llaw tuag at eich bil (a elwir yn ‘daliadau ar gyfrifYn agor mewn ffenestr newydd’). Fel arfer byddwch yn talu cosbYn agor mewn ffenestr newydd os ydych yn hwyr. Gallwch apelio yn erbyn cosbYn agor mewn ffenestr newydd
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n hwyr yn gwneud cais am Hunanasesiad neu’n llenwi fy Ffurflen Dreth?
Byddwch yn cael cosb os bydd angen i chi anfon ffurflen drethYn agor mewn ffenestr newydd a’ch bod yn methu’r dyddiad cau ar gyfer ei chyflwyno neu dalu’ch bil.
Byddwch yn talu cosb ffeilio hwyr o £100 os yw eich Ffurflen Dreth hyd at 3 mis yn hwyr. Bydd yn rhaid i chi dalu mwy os yw’n hwyrach, neu os byddwch yn talu eich bil trethYn agor mewn ffenestr newydd yn hwyr. Codir llog arnoch ar daliadau hwyr. Gallwch apelio yn erbyn cosbYn agor mewn ffenestr newydd os oes gennych esgus rhesymol.
Darganfyddwch fwy am Hunanasesiad yn ein canllaw.