Sut i adnabod ac adrodd wefannau ffug a sgamiau gwe-gorlannu
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
06 Mehefin 2021
Mae sgamwyr bob amser wedi bod allan i wagio’ch pocedi, ond gyda chyfnod y rhyngrwyd, maen nhw wedi llwyddo i ddod yn fwy clyfar fyth i’ch twyllo chi allan o’ch arian. Mae gwe-gorlannu a gwefannau ffug yn ffordd boblogaidd o wneud hyn, felly darllenwch ymlaen i wybod sut y gallwch eu hadnabod, a sut i adrodd gwefannau ffug a gwe-gorlannu.
Sut i adnabod gwe-gorlannu a gwefannau ffug
Mae gwe-gorlannau yn dechneg sgamio ble mae ymosodwyr yn ailgyfeirio traffig o wefan cyfreithus i wefan twyllodrus gyda’r pwrpas o ymledu maleiswedd neu ddwyn data sensitif wrth ei dioddefwyr
Mae’n edruch ychydig fel hyn. Gadewch i ni ddweud eich bod chi’n teipio Facebook yn y bar URL. Rydych yn meddwl y byddwch yn glanio ar dudalen swyddogol Facebook, ond mewn gwirionedd mae sgamwyr wedi darganfod ffordd clyfar i’ch anfon chi i wefan ffug.
Bydd y wefan ffug hon yn edrych yn union fel Facebook. Oni bai eich bod chi yn edrych amdano, bydd adnabod wefan ffug yn anhygoel o galed.
Bydd y sgamwyr yn gallu gweld POPETH rydych chi’n ei wneud ar y dudalen wefan ffug hon. Pan fyddwch chi’n nodi’ch e-bost a’ch cyfrinair, gallant ei weld a gwneud nodyn ohono. Bydd ganddynt y wybodaeth honno amdanoch. Dychmygwch nawr faint o ddifrod y gallent ei wneud os byddant yn eich twyllo i ‘arwyddo’ mewn i’ch banc, gan ddefnyddio tudalen ffug.
Bydd eich enw, a manylion banc gyda’r sgamwr. Yn llythrennol gallent lofnodi i mewn i’ch cyfrif go iawn fel chi a gwagio’ch cyfrif.
Mae sut maen nhw’n wneud hyn yn eithaf technegol a byddant yn defnyddio llawer o dechnegau i wneud yn bosib, fel ‘DNS Cache Poisoning’ neu gyfaddawdu gwesteiwr.
Y ffordd orau i osgoi cael gwe-gorlannu yw gwneud yn siŵr bod gennych gwrthfeirysau neu wrthfaleiswedd da wedi’u gosod sydd yn cael i ddiweddaru’n aml. Dylen nhw allu canfod golygiad i ffeil storfa cyfeiriad eich cyfrifiadur a’ch rhybuddio cyn i unrhyw ddifrod cael ei wneud.
Hyd yn oed heb gwrthfeirysau (neu os nad yw’ch gwrthfeirysau yn ei adnabod) Gallwch osgoi ymosod gwe-gorlannu trwy wybod beth i edrych amdano.
Pan fyddwch yn mynd ar wefan poblogaidd, yn yr URL, dylech weld clo clap yn far y cyfeiriad a ‘HTTPS’ ar ddechrau’r URL. Mae hyn yn golygu bod y wefan wedi’i ddilysu gan drydydd parti awdurdodol i fod yr hyn mae’n honni ei fod. Dylech fel arfer osgoi ymrwymo manylion personol, neu brynu rhywbeth ar wefan heb y clo clap hon.
Os ydych chi wedi cael i ailgyfeirio i gyfrif ffug, ni ddylai’r clo hwn fod yno, ac wrth fewngofnodi i wefan boblogaidd, gwnewch yn siŵr bod y dystysgrif HTTPS yn bresennol. Os ydych yn sylwi bod y dystysgrif wedi mynd ar goll yn sydyn wrth bori gwefan – Rhedwch Filltir!
Mae cwpl o bethau arall gallwch gadw lygad allan am. Falle bydd camgymeriad sillafu, llythrennau neu rifau ar hap cyn ac ar ôl y URL. Hefyd, tra bod sgamwyr yn wneud swydd dda o greu gwefan ffug edrych yn ddilys, efallai na fydd y graffigwaith yn eglur iawn ac efallai na fydd y gosodiad yn edrych yn gwbl gywir.
Sut i adrodd sgam gwe-gorlannu a wefan ffug
Os ydych wedi dioddef o sgâm gwe-gorlannu, neu wedi adnabod gwefan ffug, mae yna ychydig o gamau y dylech eu cymryd. Yn gyntaf, dylech roi gwybod i’r cwmni mae’r sgamwyr yn esgus bod beth maen nhw’n ei wneud. Boed yn fanc, yn adran o’r llywodraeth, neu’n wefan boblogaidd yn gyffredinol – os rowch wybod i’r cwmni, gallant gymryd camau i rybuddio pobl eraill am y sgâm.
Yn aml bydd y cwmnïau hyn yn rhybuddio ei chwsmeriaid bod sgâm gwe-gorlannu yn mynd o gwmopas trwy ddiweddaru ei wefannau, neu anfon e-bost i’w cwsmeriaid yn gadael iddynt wybod bod sgâm a sut y gallant ei osgoi.
Yna dylech ei adrodd i ‘Action Fraud’, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer adrodd ar dwyll a throseddau. Gallwch adrodd sgâm gwe-gorlannu a gwefan ffug i Action Fraud, gan ddefnyddio ei declyn adrodd twyll ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd neu, gallwch siarad â chynghorydd twyll yn uniongyrchol trwy ffonio 0300 123 2040.
Mae’r rhifau ffôn 03 yn costio’r un faint â galwad i rifau ffôn llinell dir lleol, hyd yn oed o ffôn symudol – felly pan fyddwch ch’n ffonio Action Fraud ni fyddwch yn talu mwy na’r disgwyl. Ond wrth gwrs, mae adrodd ar-lein yn hollol am ddim.
Ar ôl adrodd sgâm, byddwch yn cael rhif cyfeirnod trosedd yr heddlu a bydd yr achos yn cael i gyfeirio i’r National Fraud Intelligence Bureau am ddadansoddiad gan Heddlu Dinas Llundain.
Nid yw pob adroddiad yn arwain at ymchwiliad, ond mae pob adroddiad o dwyll yn helpu'r llywodraeth i adeiladu darlun mwy o’r sgamiau hyn ac fel maent yn gweithio.
Mae’n bwysig i gofio gallwch adrodd sgamiau gwe-gorlannu a gwefan ffug hyd yn oed os nad ydych wedi colli unrhyw arian neu roi eich manylion personol.
Maen werth edrych ar ein canllaw sgamiau i ddechreuwyr yn gyffredinol, oherwydd er ein bod yn dod yn fwy gwybodus am y twyllwyr hyn, mae mathau newydd o sgamiau’n cael eu dyfeisio trwy’r amser. Felly diogelwch eich hun a’ch arian.