Beth yw sgam llais-rwydo neu ffôn?
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
29 Mehefin 2021
Bydd sgamiwr yn eich ffonio ar eich llinell dir neu ffôn symudol yn esgus ei fod yn dod o'ch banc, cymdeithas adeiladu neu asiantaeth y llywodraeth a bydd yn pysgota am wybodaeth gennych chi, fel y gallant ddwyn eich arian neu gasglu gwybodaeth fel y gallant ddefnyddio'ch hunaniaeth i gynnal twyll rhywle arall.
Mae llais-rwydo yn fath o sgam gwe-rwydo sy'n digwydd dros y ffôn. Mae’r gair llais-rwydo yn gyfuniad o ‘lais’ a ‘gwe-rwydo’.
I wneud hyn, maent yn chwilio am eich manylion personol, fel eich cerdyn, PIN, cyfrineiriau neu godau darllenydd cerdyn.
Efallai nad ydynt yn argyhoeddiadol iawn ac yn gwybod dim amdanoch chi, neu gallent fod yn hynod soffistigedig, a bod ganddynt rywfaint o wybodaeth amdanoch eisoes fel eich enw, cyfeiriad neu rif ffôn, ond mae angen ychydig mwy arnynt. Yn aml gallant ymddangos yn ddilys iawn.
Pan fyddant yn eich ffonio, byddant am i chi ddweud eich manylion wrthynt yn gyflym iawn (nid yw troseddwyr eisiau treulio oesoedd yn cyflawni trosedd, ni waeth beth ydyw). Efallai y byddant yn ceisio eich panicio a'ch dychryn i ymddiried ynddynt fel eich bod yn trosglwyddo'ch gwybodaeth heb allu meddwl gormod.
Efallai y bydd sgamiwr yn dweud wrthych mai ef yw eich rheolwr banc, a’i fod yn ffonio oherwydd ar hyn o bryd mae rhywun yn ceisio gwagio’ch holl gynilion, ac maen nhw’n gwirio i wneud yn siŵr mai chi sydd yno. Byddwch wedyn yn mynd i banig oherwydd nad ydych chi, a bydd y sgamiwr yn eich sicrhau y gallant atal y taliad, y cyfan sydd angen iddynt ei wneud yw cadarnhau pwy ydych chi trwy roi rhai manylion iddynt (fel eich manylion banc, cyfeiriad ac ati. ), ac rydych chi'n meddwl eich bod chi wedi gwneud y peth call, ond mewn gwirionedd nid oedd unrhyw drosedd gychwynnol, ond bydd un nawr.
Yr hyn sy’n wirioneddol gas am lais-rwydo yw y bydd y troseddwyr hyn yn aml yn targedu’r rhai sy’n agored i niwed, yn enwedig pobl hŷn sydd â llawer o gynilion oes. Sicrhewch eich bod yn dweud wrth aelodau hŷn eich teulu a’ch ffrindiau am y posibilrwydd y bydd rhywun yn eu galw a’u twyllo, fel eu bod yn gwybod i amddiffyn eu hunain.
Yn ôl yr Ombwdsmon Ariannol (FO), mae llawer o bobl dros 75 oed wedi dioddef gwe-rwydo ac wedi colli symiau sylweddol o arian - ac mewn rhai achosion, eu cynilion oes. Ac, oherwydd y ffordd y caiff y twyll ei gyflawni, ni fydd y rhan fwyaf yn cael eu harian yn ôl.
Sut i roi gwybod am sgam llais-rwydo neu ffôn
Mae sgamiau llais-rwydo a ffôn yn arbennig o ddinistriol oherwydd mae'n annhebygol y cewch eich arian yn ôl. Er hynny, dylech bob amser rhoi gwybod am sgam, oherwydd o leiaf gallai helpu i atal eraill rhag cael eu twyllo yn yr un modd a bydd yr heddlu yn gallu lansio ymchwiliad i geisio atal y troseddwyr hyn.
Gallwch rhoi gwybod i Action FraudYn agor mewn ffenestr newydd am amheuaeth o sgam llais-rwydo neu ffôn dros y ffôn gan ddefnyddio'r rhif 0300 123 2040, neu ar-lein os byddai'n well gennych.
Mae’r rhif 0300 yn golygu ei fod yn costio’r un faint â galwad i rif ffôn llinell dir lleol, hyd yn oed o ffôn symudol, felly ni fydd yn costio’r byd i roi gwybod am y sgam llais-rwydo i Action Fraud.
Y gwir yw, os rhowch eich manylion banc i sgamiwr, mae’n annhebygol y byddwch yn cael eich arian yn ôl. Fodd bynnag, gallech ystyried cysylltu â’r Ombwdsmon Ariannol os ydych yn credu bod ymateb eich banc i’r twyll wedi methu.
Edrychodd yr ombwdsmon ar weithredoedd banciau o ran llais-rwydo a gwnaethant ddarganfod bod y rhan fwyaf o fanciau yn credu ei bod yn arfer da i gwestiynu trafodion mawr ac anarferol a wneir yn y gangen, yn enwedig y rhai a wneir gan gwsmeriaid hŷn.
Fodd bynnag, mewn 4 o bob 10 achos, canfu’r ombwdsmon fod ymateb y banc i’r twyll yn brin felly cafodd y cwsmeriaid iawndal.
Gwnaethant ddarganfod fod banciau fel arfer yn gweithredu'n gyflym pan fydd cwsmeriaid yn cael gwybod eu bod wedi cael eu twyllo, ond gwelwyd rhai achosion lle'r oedd y banc 'anfon' - yr un y rhoddwyd cyfarwyddiadau iddo i drosglwyddo arian - wedi cymryd amser hir i gysylltu â'r banc 'derbyn' i geisio adennill arian y cwsmer wedi'i ddwyn, felly cadarnhawyd y gŵyn.
Sut i osgoi sgamiau vishing a ffôn
Fel y gallwch weld, nid yw'n hawdd cael eich arian yn ôl ar ôl i chi gael eich llais-rwydo - felly eich amddiffyniad gorau yw osgoi cael eich twyllo yn y lle cyntaf.
Yr allwedd yma yw sylwi pan mae sgamiwr ar y ffôn yn hytrach na rhywun cyfreithlon o'ch banc er enghraifft. Y cliw mawr yw os ydyn nhw'n eich rhuthro ac yn ceisio'n daer i'ch cael chi i ddatgelu eich gwybodaeth, rhywbeth na fyddai unrhyw alwr cyfreithlon yn gofyn i chi ei wneud.
Os ydych chi’n ansicr o gwbl, dywedwch wrthyn nhw, am resymau diogelwch, eich bod chi’n mynd i roi’r ffôn i lawr a’u ffonio’n ôl gan ddefnyddio’r rhif ffôn swyddogol ar wefan y banc ac ati. Os ydych chi’n siarad â rhywun cyfreithlon o fanc, byddan nhw’n fwy na pharod i chi wneud hynny.