Cyhoeddwyd ar:
05 Mai 2021
Mae'n ymddangos nad yw sgamiau PayPal yn diflannu unrhyw bryd yn fuan, ac mae rhybuddion newydd amdanynt bob amser wrth i e-byst sgam newydd ymddangos ym mlychau e-byst pobl, yn rheolaidd.
Gallwn ddweud wrthych sut i adnabod sgam PayPal o e-bost yn dweud bod gweithgaredd rhyfedd ar eich cyfrif i e-bost yn dweud bod angen gwirio'ch cyfrinair, gallwn ddweud beth i'w wneud os ydych wedi cael eich sgamio.
Gyda'r rhan fwyaf o negeseuon e-bost sgam yr arwyddion amlwg yw'r cymeriadau od neu'r rhifau ar hap yng nghyfeiriad e-bost yr anfonwr, yn dechrau gydag 'Annwyl Gwsmer' a'r ymdeimlad o frys y mae'n ei greu.
Os gallwch weld llythrennau a rhifau ar hap yng nghyfeiriad yr anfonwr, yna dylai hyn wneud i chi amau yr e-bost. Yn yr un modd, mae e-byst yn dweud: 'bu gweithgaredd amheus ar eich cyfrif' neu 'gwnaethoch anfon taliad at XXX, os na wnaethoch chi wneud y taliad hwn cliciwch yma' mae rhain yn cael eu hysgrifennu i achosi panig.
Mae twyllwyr yn manteisio ar gwsmeriaid sy'n gweithredu mewn panig. Bydd yr ofn bod rhywun wedi hacio'ch cyfrif yn seiliedig ar yr hyn y mae'r e-bost yn ei ddweud yn achosi i bobl glicio ar y ddolen ffug honno heb feddwl.
Gallwch hefyd weld lle bydd y ddolen yn mynd â chi os ydych yn cadw’r lygoden dros y ddolen, ond peidiwch â'i glicio ar ddamwain!
Mae PayPal eu hunain yn dweud, os oes problem gyda'ch cyfrif, yna byddent yn rhoi gwybod i chi drwy'r wefan/ap yn y ganolfan negeseuon. Byddai e-bost dilys gan PayPal hefyd yn eich cyfeirio yn ôl enw ac nid yn dechrau gyda 'Annwyl Gwsmer'.
Mewngofnodi i'ch cyfrif yn uniongyrchol a pheidio â chlicio ar unrhyw ddolen yn yr e-bost yw’r ffordd fwyaf diogel o wirio beth sy'n digwydd (os yw rhywbeth). Peidiwch ag ateb nac agor unrhyw atodiadau, ac os oes amheuaeth, cysylltwch â PayPal i fod yn 100% yn sicr.
Mae gan PayPal restr hir o'r mathau o sgamiauYn agor mewn ffenestr newydd y maent yn ymwybodol ohonynt ac yn cynghori ar sut i'w hosgoi.
Dyma rai y gallech fod wedi'u derbyn eich hun:
Mae gan PayPal e-bost pwrpasol lle gallwch anfon unrhyw negeseuon e-bost ffug a byddant yn ymchwilio iddo - spoof@paypal.com.
Os ydych wedi darparu unrhyw wybodaeth bersonol ar ôl derbyn e-bost sgam yna mewngofnodwch i PayPal a newidiwch eich cyfrinair a'ch cwestiynau diogelwch ar unwaith.
Gallwch hefyd roi gwybod i Action Fraud ar 0300 123 2040 neu ddefnyddio eu teclyn rhoi gwybodYn agor mewn ffenestr newydd ar-lein
Gall eich darparwr e-bost helpu hefyd. Mae gan y rhan fwyaf o ddarparwyr swyddogaeth i roi gwybod lle y gallwch farcio'r e-bost fel sothach, yna unwaith yn eich ffolderi sothach, gallwch ei farcio fel sgam gwe-rwydo, a fydd wedyn yn rhoi gwybod am yr anfonwr.
Mae'n fwyfwy anodd adnabod y gwahaniaeth rhwng e-bost/gwefan ffug a dilys ond bydd gwybod pa ragofalon y gallwch eu cymryd yn sicrhau bod eich cyfrif PayPal a'ch gwybodaeth bersonol yn parhau i fod yn ddiogel.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw cofnod o'ch cyfrif PayPal, hyd yn oed os nad ydych yn ei ddefnyddio'n aml mae'n well mewngofnodi ar adegau i wirio bod popeth yn iawn. Gwiriwch hanes eich taliadau a gwnewch yn siŵr eich bod yn creu cyfrinair cryf i helpu i sicrhau eich cyfrif.