Sgamiau Facebook Marketplace: sut i adnabod negeseuon, eitemau a gwerthwyr ffug

Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
22 Rhagfyr 2024
Gall marchnadoedd ar-lein fel Facebook Marketplace fod yn wych ar gyfer cael bargen ail-law. Ond gydag unrhyw le ar-lein, mae perygl y bydd twyllwyr yn ceisio eich twyllo allan o'ch arian.
Er bod Facebook yn gweithio'n galed i gadw eu safle yn ddiogel, nid yw'n bosibl iddynt dynnu pob hysbyseb ffug i lawr na nodi sgamwyr yn syth. Felly gall bod yn ymwybodol o beth i edrych allan amdano helpu i gadw arian yn eich cyfrif.
Sut mae sgamiau Facebook Marketplace yn gweithio?
Yn anffodus, nid dim ond un dull y mae sgamwyr yn ei ddefnyddio. Os ydych yn prynu neu'n gwerthu, neu hyd yn oed dim ond gyda chyfrif ‘marketplace’ ar-lein, gallech gael eich targedu.
Mae gennym ganllaw i'r gwahanol fathau o sgamiau, y gallai llawer o dwyllwyr geisio ar Facebook Marketplace.
Beth ddylwn i edrych allan amdano wrth brynu eitemau?
Rhywun yn gofyn am daliad ymlaen llaw
Sgam cyffredin yw lle mae'r gwerthwr yn gwneud iddo ymddangos fel bod ganddynt sawl person â diddordeb, a byddant yn cadw'r eitem i chi os ydych yn talu blaendal. Yn aml, bydd yr eitem yn rhywbeth o werth uchel, fel car neu ffôn symudol.
Yna bydd y gwerthwr yn diflannu neu'n dileu eu cyfrif, gan eich gadael heb unrhyw beth i'w ddangos am yr arian rydych wedi'i dalu.
Mae'n well peidio â thalu unrhyw beth i'r gwerthwr nes eich bod wedi cael cyfle i weld yr eitem.
Dulliau talu anarferol
Bydd sgamwyr yn aml yn chwilio am ffyrdd y gellir eu talu sy'n anodd eu holrhain. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anoddach i arian gael ei hawlio yn ôl.
Yn aml byddant yn gofyn am gael eu talu:
- drwy ddefnyddio ap talu trydydd parti (fel PayPal)
- drwy drosglwyddiad banc
- gyda chardiau rhodd.
Dylech osgoi unrhyw werthwyr sy’n gofyn am gael eu talu mewn ffordd anarferol.
Eitemau ffug
Efallai y bydd gwerthwyr yn hysbysebu eitem nad yw ganddynt. Yna, gallant:
- ddweud wrthych ei fod wedi'i werthu a'ch gwthio i brynu rhywbeth drutach
- anfon rywbeth gwahanol i'r hyn rydych wedi talu amdano
- anfon eitem a ddefnyddiwyd i chi a werthwyd fel newydd
- honni eu bod wedi anfon rhywbeth atoch pan nad oeddent wedi.
Er mwyn osgoi hyn, mae'n syniad da pigo i fyny’r eitem yn bersonol - er gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hyn yn ddiogel. Yna dylech archwilio'r eitem yn ofalus i sicrhau ei fod mewn cyflwr da.
Digwyddiadau ffug
Yn ogystal ag eitemau ffug, bydd rhai sgamwyr yn ceisio gwerthu tocynnau neu fynediad i ddigwyddiadau sydd ddim yn bodoli.
Byddant yn aml yn dynwared busnes lleol, gan ddefnyddio eu henw da yn y gymuned i ddal pobl allan.
Mae'n syniad da gwirio proffil y gwerthwr a sicrhau ei fod yn ddilys ac yn gysylltiedig â'r busnes. Gallwch hefyd chwilio am dudalen Facebook neu wefan swyddogol y busnes i weld a yw'r digwyddiad yn bodoli mewn gwirionedd.
Cyfathrebu y tu allan i Facebook
Efallai y bydd sgamwyr yn ceisio symud y sgwrs oddi ar Facebook Marketplace i orffen y fargen. Gall hyn fod yn ffordd o ddwyn eich gwybodaeth, a'i gwneud hi'n anoddach i Facebook weithredu yn eu herbyn.
Efallai y byddant hefyd yn gofyn i chi gysylltu â phobl eraill yn hytrach na'r sawl sy'n rhedeg y cyfrif Facebook. Mae hon yn dacteg arall i'w gwneud hi'n anoddach i Facebook eu gwahardd.
Mae'n well ond siarad â'r person a restrir fel y gwerthwr, a defnyddio Facebook yn unig.
Gwerthwyr sy’n rhoi pwysau
Bydd sgamwyr yn aml yn ceisio eich rhuthro a gwneud y gwerthiant yn gyflym. Byddant yn ceisio gwneud iddo ymddangos fel mai dim ond amser byr sydd gennych i gael bargen dda.
Os yw gwerthwr yn rhoi llawer o bwysau arnoch, gallai hyn fod oherwydd eu bod yn ceisio cyflawni'r fargen cyn i chi sylweddoli mai sgam ydyw. Gwyliwch rhag i unrhyw un eich rhuthro i brynu.
Beth ddylwn i edrych allan amdano wrth werthu eitemau?
Mae'n bosibl cael eich targedu wrth werthu eitemau. Dyma beth i fod yn wyliadwrus amdano.
Cadarnhad ffug o daliadau
Ar ôl cysylltu â chi i brynu eitem, gallai sgamiwr anfon cadarnhad ffug o daliad atoch. Gallai hyn fod yn e-bost neu'n sgrinlun o dudalen gadarnhau.
Dylech wirio bod unrhyw arian rydych yn disgwyl ei dderbyn yn eich cyfrif cyn parhau â'r broses.
Taliadau ffug yn bersonol
Ffordd arall y gallai twyllwyr gael eich eitem heb dalu yw trwy ddod i brynu'ch eitem a'ch argyhoeddi eu bod wedi cadarnhau'r taliad.
Efallai y bydd sgamwyr yn gofyn i chi roi eich manylion banc mewn ap ffug a dangos cadarnhad talu i chi. Yna byddant yn ceisio:
- argyhoeddi bod y trafodiad wedi mynd trwyddo neu
- hawlio y gall gymryd ychydig oriau i ymddangos yn eich cyfrif banc, o bosibl gan ddefnyddio gwybodaeth o'u gwefan bancio ffug.
Mae'n well peidio â gadael i brynwr mynd a’ch eitem i ffwrdd nes bod gennych yr arian yn eich cyfrif banc, neu ofyn am daliad mewn arian parod yn lle hynny.
Gordaliadau
Gordaliad 'damweiniol' yw tric arall a ddefnyddir i gael arian allan o'ch cyfrif. Bydd sgamwyr yn gwneud gordaliad ac yna'n gofyn i chi anfon y gwahaniaeth yn ôl.
Fodd bynnag, gwneir eu taliad fel arfer gyda siec na fydd yn clirio, sy'n golygu y cewch eich gadael allan o boced.
Os ydych yn derbyn gordaliad, mae'n well siarad â'ch banc a gofyn a yw'r taliad wedi'i gadarnhau. Os nad ydych wedi gwneud hynny, nid ydych wedi derbyn unrhyw arian eto.
Sgamiau sy'n digwydd ar ôl gwerthu
Ar ôl i chi werthu eitem a'i hanfon i ffwrdd, mae siawns o hyd y cewch eich targedu. Efallai y bydd sgamiwr yn ceisio:
- adrodd am y trafodiad fel twyll neu geisio hawlio taliad yn ôl
- honni nad oeddent erioed wedi derbyn yr eitem.
Mae'n syniad da i gadw rhyw fath o dystiolaeth eich bod wedi cyflwyno neu drosglwyddo'r eitem.
Tacteg gyffredin yw i'r prynwr ofyn a all negesydd gasglu'r eitem gennych chi ar ôl iddynt dalu drwy PayPal. Unwaith y bydd yr eitem yn cael ei chasglu, bydd y sgamiwr yn dweud wrth PayPal na chafodd ei ddanfon, felly byddant yn cael ad-daliad ac yn cadw'ch eitem.
Sgamiau sy'n ceisio dwyn eich gwybodaeth bersonol
Yn ogystal â cheisio eich twyllo allan o arian, bydd rhai twyllwyr yn chwilio am eich gwybodaeth bersonol fel y gallant ddwyn eich hunaniaeth. Efallai eu bod yn edrych i hacio eich cyfrif Facebook, e-bost neu gyfrif banc.
Gelwir hyn yn sgam 'gwe-rwydo'.
Gallwch ddysgu mwy yn ein canllaw Dwyn hunaniaeth a sgamiau. Os ydych angen cymorth ar unwaith, gallwch hefyd ffonio ein huned troseddau a sgamiau ariannol ar 0800 015 4402.
Sut ydw i'n osgoi twyll gwe-rwydo?
Byddwch yn ofalus iawn pan fyddwch yn derbyn negeseuon e-bost yn gofyn am:
- unrhyw wybodaeth am y cyfrif, fel eich cyfeiriad e-bost
- eich cyfrinair (ni fydd Facebook byth yn anfon e-bost atoch yn gofyn am hyn)
- unrhyw godau gwirio a anfonir at eich e-bost neu ffôn, megis codau dilysu dau ffactor
Dylech hefyd fod yn ofalus i beidio â chlicio unrhyw ddolenni nad ydynt yn edrych yn iawn. Bydd sgamwyr yn eich anfon i wefan ffug sy'n gofyn am eich gwybodaeth mewngofnodi, gan ei rhoi yn uniongyrchol iddynt.
Sut alla i osgoi sgamiau ar Facebook Marketplace?
Dyma ein hawgrymiadau gorau ar gyfer cadw'n ddiogel ar Facebook Marketplace:
- Defnyddiwch y dulliau talu mwyaf diogel yn unig.
- Gwnewch yn siŵr bod taliad yn eich cyfrif banc cyn trosglwyddo eitem.
- Cadwch y sgwrs ar Facebook.
- Peidiwch byth â rhoi gwybodaeth bersonol i werthwr.
- Peidiwch byth â rhoi allan gyfrineiriau neu godau dilysu.
- Gwiriwch e-byst yn ofalus i sicrhau eu bod yn gywir.
- Gofynnwch am weld eitemau gwerthfawr cyn i chi eu prynu ac archwiliwch nhw’n ofalus.
- Wrth pigo eitem i fyny yn bersonol, trefnwch gyfarfod mewn man cyhoeddus wedi'i oleuo'n dda.
- Byddwch yn ofalus o unrhyw fargeinion sy'n edrych yn rhy dda i fod yn wir.
- Gwyliwch rhag unrhyw un sy'n ceisio rhoi pwysau arnoch neu eich rhuthro.
- Gwiriwch broffil y prynwr neu'r gwerthwr i weld a yw'n edrych yn un iawn.
Sut ydw i'n hysbysu sgam ar Facebook Marketplace?
Gallwch weld cyfarwyddiadau ar sut i hysbysu am sgam Facebook MarketplaceYn agor mewn ffenestr newydd Unwaith y byddwch yn sylweddoli ei fod yn sgam, dylech roi gwybod amdano ar unwaith.
Yna dylech roi'r gorau i gyfathrebu â'r person ar unwaith.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n cael fy sgamio ar Facebook Marketplace?
Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi cael eich sgamio, dylech gysylltu â'ch banc neu ddarparwr cerdyn ar unwaith os ydych wedi talu arian iddynt.
Os ydych wedi defnyddio cerdyn credyd neu ddebyd, dysgwch fwy am sut y gallwch hawlio'ch arian yn ôl gydag adran 75 a diogelwch 'chargeback'.
Mae gennym fwy o wybodaeth am beth i'w wneud os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich sgamio.
Sgamiau Facebook Marketplace gan ddefnyddio trosglwyddiadau banc
Mae rheolau newydd yn golygu bod yn rhaid i fanciau eich ad-dalu os ydych yn cael eich sgamio i wneud trosglwyddiad banc. Fodd bynnag:
- gall y banc ddewis tynnu hyd at £100 o'ch ad-daliad
- ni chewch unrhyw arian yn ôl os canfyddir eich bod wedi bod yn hynod o ddiofal.
Bydd angen i chi gysylltu â'ch banc i roi gwybod iddynt, a dylent allu darparu ad-daliad o fewn pum diwrnod gwaith oni bai bod angen iddynt ymchwilio ymhellach iddo.
Mae mwy yn ein blog am Sut i gael ad-daliad am sgamiau trosglwyddiadau banc.
Sgamiau Facebook Marketplace sy’n defnyddio PayPal
Os ydych wedi cael eich sgamio allan o arian gan ddefnyddio PayPal, fel arfer ni fyddwch yn cael Adran 75 na diogelwch ‘chargeback’. Fodd bynnag, mae PayPal yn cynnig ei ddiogelwch prynwr a thwyll ei hunYn agor mewn ffenestr newydd, ac efallai y byddant yn gallu eich helpu os byddwch yn hysbysu’r sgam iddynt.
Gallwch ddysgu mwy am Canllaw MoneySavingExpert ar ddiogelwch PayPalYn agor mewn ffenestr newydd
Beth ddylwn i ei wneud os oes ganddynt fy ngwybodaeth bersonol?
Os oes gan sgamwyr unrhyw un o'ch gwybodaeth bersonol, bydd angen i chi fod yn ofalus rhag ofn eu bod yn dwyn eich hunaniaeth.
Mae'n syniad da newid eich cyfrineiriau ar eich e-bost, cyfrif Facebook ac unrhyw gyfrifon eraill y gallai sgamwyr fod wedi cael mynediad atynt. Dylech hefyd fonitro'ch cyfrif banc yn agos am unrhyw drafodion nad ydych yn eu hadnabod.
Mae gennym gyngor ar beth i'w wneud os caiff eich hunaniaeth ei ddwyn.
Pa fathau eraill o sgamiau ddylwn i edrych allan amdanynt?
Mae gennym ganllaw i'r nifer o wahanol fathau o sgamiau, y gallech eu gweld mewn mannau eraill ar Facebook a gwefannau cyfryngau cymdeithasol eraill.
Mae gennym hefyd wybodaeth am sut i ddweud os ydych wedi cael eich targedu gan sgam.