Cyhoeddwyd ar:
01 Medi 2021
Rydyn ni wedi ymdrin â sgamiau Trwyddedu Teledu, PayPal, HMRC a vishing ond sgam arall sy’n dwyn eich arian yw sgam DVLA.
Yma, mae sgamwyr yn esgus eu bod o’r Asiantaeth Trwyddedu Cerbydau Gyrwyr (DVLA) ac yn anfon negeseuon testun ffug i yrwyr, gan honni bod ganddynt hawl i gael ad-daliad ond NID yw hynny'n wir.
Mae angen i chi fod yn ofalus iawn o unrhyw e-bost neu neges destun sy'n nodi eich bod yn ddyledus i gael ad-daliad. Mae'n anghyffredin i gwmni gysylltu â chi gan ddweud ei fod yn mynd i roi arian i chi, yn enwedig dros neges destun.
Bydd y neges destun yn dweud rhywbeth tebyg i 'Rydym wedi ailgyfrifo'ch treth cerbyd, mae swm XXX yn ddyledus i chi oherwydd gordaliad'. Yna bydd yn dweud wrthych am glicio ar y ddolen sydd wedi'i chynnwys i hawlio'ch ad-daliad.
Mae hon yn ddolen ffug sydd yno yn unig i dwyllo chi o'ch arian.
Mae'r DVLA ei hunain wedi cynghori nad ydynt yn anfon negeseuon e-bost na negeseuon testun am ad-daliadau treth cerbydau, ac mae wedi dweud na fyddent byth yn anfon neges atoch fel hyn i gadarnhau manylion personol neu wybodaeth dalu.
Os ydych chi'n cael e-bost neu neges destun fel hyn, maent yn nodi: 'peidiwch ag agor unrhyw ddolenni a dileuwch yr e-bost neu'r neges destun ar unwaith'.
Os oes gennych unrhyw amheuaeth, mae bob amser yn werth cysylltu â'r DVLA yn uniongyrchol neu drwy'r cyfryngau cymdeithasol, a gofyn iddynt gadarnhau a yw'r hyn rydych wedi'i dderbyn yn ddilys.
Os ydych eisoes wedi clicio ar y ddolen yna peidiwch â rhoi unrhyw wybodaeth bersonol. Efallai y bydd y wefan yn edrych yn real ond mae sgamwyr yn glyfar wrth ddyblygu safle dilys.
Unwaith eto, ar hyn o bryd mae'n werth gysylltu’n uniongyrchol â’r DVLA i wirio beth sy'n digwydd. Os ydynt yn cadarnhau nad oedd y neges destun ganddynt ac nad oes ad-daliad i'w gael, yna cliciwch oddi ar y wefan a dileu'r neges destun.
Fodd bynnag, os ydych chi'n dysgu ei fod yn ffug ar ôl i chi nodi manylion eich cerdyn, yna ffoniwch eich banc ar unwaith. Stopiwch unrhyw daliadau yn y dyfodol a rhowch wybod am y sgam i Action Fraud.
Ffoniwch 0300 123 2040, neu defnyddiwch ffurflen rhoi gwybod gwe-rwydo Action Fraud Yn agor mewn ffenestr newydd
Mae'n dod yn fwyfwy anodd adnabod neges destun ffug neu wefan. Fodd bynnag, efallai y bydd ychydig o bethau i edrych amdanynt a allai eich helpu i benderfynu ar ei ddilysrwydd.
Efallai ei fod yn swnio'n amlwg, ond mae bod yn ymwybodol yn allweddol. Bydd gwybod nad yw pob neges destun ac e-bost a dderbyniwch yn ddilys yn eich helpu i osgoi cael eich twyllo.
Mae'n anffodus bod angen i ni gwestiynu ein negeseuon testun a'n e-byst, ac mae angen bod yn wyliadwrus o bob un, ond mae nifer fawr y sgamiau y dyddiau hyn yn golygu bod angen i ni i gyd fod yn ofalus.
Ymgyfarwyddwch â'r gwahanol fathau o sgamiau sydd ar gael, felly pan fyddwch yn derbyn neges destun, e-bost neu alwad ffôn nesaf, rydych chi'n gwybod pryd i gwestiynu a yw'n real ai peidio.
Darganfyddwch fwy am rai mathau eraill o sgamiau yn ein blogiau: