Budd-daliadau marwolaeth Pensiwn y Wladwriaeth

Efallai y bydd yn bosibl etifeddu neu gynyddu Pensiwn y Wladwriaeth os yw'ch priod neu'ch partner sifil yn marw neu wedi marw. Bydd yr hyn y gallai fod yn bosibl ei hawlio yn dibynnu ar eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth a dyddiad eich priodas/partneriaeth sifil. 

Wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016

Mae unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar yr hen reolau os gwnaethoch chi neu'ch partner gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016.

Byddwch chi neu'ch partner wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016 os:

  • rydych chi neu’ch partner yn ddyn a chawsoch eich geni cyn 6 Ebrill 1951
  • rydych chi neu’ch partner yn fenyw a chawsoch eich geni cyn 6 Ebrill 1953.

Mae dwy ran i’r hen Bensiwn y Wladwriaeth – Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Yn flaenorol, gelwir Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn Ail Bensiwn y Wladwriaeth (S2P), Cynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar Sail Enillion (SERPS) a Budd-dal Ymddeol Graddedig (GRB).

Mae Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn gweithio ychydig yn wahanol, ac efallai bod hawl wedi'i chasglu o dan Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth neu Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn unig. Bydd yr hyn y gellir ei dalu adeg farwolaeth yn dibynnu ar pryd y cyrhaeddodd yr unigolyn sy'n marw gyntaf ei oedran Pensiwn y Wladwriaeth a phryd yr oeddech yn briod.

I gael mwy o fanylion am sut mae Pensiwn y Wladwriaeth yn gweithio, gweler ein canllaw ar Bensiwn y Wladwriaeth.

Cynyddu eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth

Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil a'ch bod chi'ch dau wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016 yna, pan fydd un ohonoch yn marw, efallai y bydd gan y goroeswr hawl i dderbyn Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth uwch yn seiliedig ar gofnod Yswiriant Gwladol ei bartner. Mae hyn yn wir yn unig os nad yw'r partner sy'n goroesi eisoes wedi cronni Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn o'i gofnod cyfraniad Yswiriant Gwladol ei hun.

Os yw'ch priod neu'ch partner sifil o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch yn marw, byddant yn colli'r hawl hon os byddant yn ailbriodi neu'n ymrwymo i bartneriaeth sifil newydd cyn iddynt gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os bydd eich priod neu'ch partner sifil yn marw efallai y gallwch gynyddu eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth hyd at £141.85 yr wythnos (yn 2022/2023) os:

  • yw eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth eich hun yn llai na £141.85 yr wythnos
  • roedd gan eich diweddar briod neu bartner sifil ddigon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Efallai y bydd yn bosibl i'ch ystâd hawlio hyd at dri mis o'ch Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol os nad ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil pan fyddwch yn marw. Gallent ond gwneud hyn os nad oeddech wedi ei hawlio yn barod.

Cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn i wirio'r hyn y gallwch ei hawlio.

Etifeddu Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth

Os ydych chi'n briod neu mewn partneriaeth sifil a bod un ohonoch chi'n marw, yna efallai y bydd gan y goroeswr hawl i gael rhywfaint o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn seiliedig ar gofnod Yswiriant Gwladol ei bartner.

Etifeddu Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth ychwanegol neu gyfandaliad

Os oeddech chi'n briod neu mewn partneriaeth sifil a bod eich partner wedi cyrraedd oedran pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016 a'u bod wedi gohirio neu roi'r gorau i gymryd eu Pensiwn y Wladwriaeth am gyfnod, a elwir yn 'ohirio', efallai y gallwch etifeddu rhan neu'r cyfan o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth neu gyfandaliad yr oeddent wedi'i gronni. 

Cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2016 neu ar ôl hynny

Efallai y gallwch etifeddu neu gynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth os yw'ch priod neu'ch partner sifil wedi marw.

Ni fyddwch yn gallu etifeddu unrhyw beth os byddwch yn ailbriodi neu'n ffurfio partneriaeth sifil newydd cyn ichi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Etifeddu Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth neu daliadau gwarchodedig

Os oeddech chi’n briod neu mewn partneriaeth sifil, a gwnaeth eich partner gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016 ac fe wnaethant ohirio neu roi’r gorau i gymryd eu Pensiwn y Wladwriaeth am gyfnod, a elwir yn ‘gohirio’, efallai y gallwch etifeddu rhan neu’r cyfan o’r Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth neu gyfandaliad a oedd wedi’i gronni.

Etifeddu Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth neu gyfandaliad

Os oeddech chi'n briod neu mewn partneriaeth sifil a bod eich partner wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016 a'u bod wedi gohirio neu roi'r gorau i gymryd eu Pensiwn y Wladwriaeth am gyfnod, a elwir yn 'ohirio', efallai y gallwch etifeddu rhan neu'r cyfan Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth neu gyfandaliad yr oeddent wedi'i gronni.

Nid oes unrhyw etifeddiaeth o unrhyw Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth y gallai eich priod neu'ch partner sifil fod wedi bod yn ei dderbyn neu ei gronni pe baent wedi cyrraedd Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl 6 Ebrill 2016 ac wedi oedi neu roi'r gorau i hawlio eu Pensiwn y Wladwriaeth am gyfnod.

Cynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth gan briod neu bartner sifil

Os gwnaethoch chi a’ch partner gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016, bydd y ddau ohonoch yn hawlio Pensiwn ‘newydd’ y Wladwriaeth.  Bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth fel arfer yn seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol eich hun yn unig.

Er mwyn helpu pobl i ddeall yr hyn y gallent fod â hawl iddo, mae yna teclyn defnyddiol ar y wefan GOV.UK

Mwy o wybodaeth

Yn ogystal ag unrhyw Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth, efallai y bydd eich gŵr, gwraig neu bartner sifil gweddw hefyd yn gallu gwneud cais am fudd-daliadau profedigaeth eraill.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.

This website is partially compliant with the Web Content Accessibility Guidelines version 2.1 AA standard, due to the non-compliances and exemptions listed below. 

Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.