Boed eich swydd eisoes mewn perygl neu’ch bod yn poeni am doriadau posibl, un o’r pethau pwysicaf y gallwch ei wneud ar hyn o bryd yw pwyso a mesur eich sefyllfa ariannol. Bydd hyn o gymorth i chi reoli’r sefyllfa a byddwch yn medru ymdopi’n llawer gwell os collwch eich swydd.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Cam 1 – Pwyso a mesur eich sefyllfa ariannol
Os nad oes gennych gyllideb yn barod sy’n rhestru’ch holl incwm a gwariant – nawr yw’r amser i chi lunio un.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn amcangyfrif yn rhy isel faint maent yn ei wario bob mis, felly cewch eich synnu gan y canlyniadau efallai.
Cam 2 – Darganfod ffyrdd o dorri’n ôl
Unwaith y bydd gennych syniad clir o faint rydych yn ei wario, dechreuwch ystyried y ffordd y byddai colli’ch swydd yn effeithio ar eich cyllideb.
Gallwch weithio allan pa wariant y bydd angen i chi dorri’n ôl er mwyn i chi fedru ymdopi ag incwm is.
Drwy dorri’n ôl nawr, gallech gronni digon o gynilion wrth gefn i’ch helpu petaech yn colli’ch swydd.
Edrychwch yn ofalus ar eich gwario a’u rhannu i eitemau hanfodol a rhai nad ydynt yn hanfodol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i arbed arian ar filiau cartref
Cam 3 – Cael rheolaeth ar eich dyledion
Pwysig
Sicrhewch eich bod yn talu’r dyledion o flaenoriaeth yn gyntaf. Dyledion yw’r rhain fel ôl-ddyledion morgais neu rent a biliau tanwydd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i flaenoriaethu’ch dyledion
Tra bydd gennych waith, bydd eich sgôr credyd yn well na phe byddech yn ddi-waith.
Felly nawr yw’r amser i edrych ar eich holl ddyledion. Newidiwch fenthycwyr i gael y cyfraddau gorau ac ystyriwch ad-dalu cymaint o’r ddyled ag y gallwch. Ond gwyliwch rhag taliadau ad-dalu cynnar.
- Darganfyddwch fwy am dorri cost eich benthyciadau ar wefan MoneySavingExpert
- Darganfyddwch y trosglwyddiadau balans gorau ar gardiau credyd ar wefan MoneySavingExpert
Cam 4 – Ystyried unrhyw yswiriant
Oherwydd sut y gwerthwyd polisïau diogelu taliadau yn y gorffennol, efallai na fyddwch wedi sylweddoli bod yr yswiriant hwn gennych. Gofynnwch i’ch darparwr benthyciadau a oes yswiriant yn diogelu’ch morgais, eich benthyciad neu’ch cerdyn credyd.
Gwiriwch i weld os eisoes gennych:
- yswiriant diogelu taliadau (PPI)
- yswiriant diogelu incwm tymor byr (STIP), neu
- unrhyw yswiriant diogelu taliadau morgais (MPPI).
Os byddwch yn colli’ch swydd neu os byddwch yn rhy sâl i weithio, mae’n bosibl y gallwch wneud hawliad.
Os ydych eisoes yn ymwybodol eich bod o dan risg diswyddiad, mae’n debygol ei bod yn rhy hwyr i gymryd yswiriant diogelu taliadau.
Mae gan y rhan fwyaf o bolisïau cymal a fydd yn gwrthod talu allan os:
- oeddech yn ymwybodol y byddwch yn cael eich diswyddo pan wnaethoch gais am yr yswiriant, neu
- ydych yn colli’ch swydd o fewn y misoedd cyntaf ar ôl dechrau’r polisi.
Os oes gennych yswiriant ac mae eich cais yn cael ei wrthod, mae’n bosibl bod y polisi wedi’i gam-werthu i chi a gallech fod yn gymwys i hawlio iawndal.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Hawlio iawndal os ydych wedi dioddef cam-werthu
Cam 5 – Ceisio cynyddu’ch cynilion er mwyn i chi ymdopi yn ystod y cyfnod tlotach
Yn ddelfrydol, dylech anelu at fod wedi cynilo rhwng tri a chwe mis o’ch costau byw mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu sy’n cynnig llog uchel ac sy’n hawdd cael ato.
Bydd hyd yn oed swm llai’n ddefnyddiol. Mae bob amser yn dda cael arian yn y banc, ac mi fydd hwn yn eich helpu i ymdopi nes eich bod yn dod o hyd i swydd newydd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfrifon banc i gadw a chynilo eich arian
Cam 6 – Ystyried ffyrdd o wneud arian
Meddyliwch am ffynonellau incwm eraill sydd ar gael i chi.
Er enghraifft, a wyddech os oes gennych ystafell sbâr yn eich cartref, y gallech ei rhentu â thalu treth ar y £7,500 o incwm rhent bob blwyddyn?
Byddwch ymwybodol bydd angen caniatâd eich landlord arnoch i gael lletywr. A dylech roi gwybod i’ch cwmnïau yswiriant adeiladau a chynnwys.