A ydych erioed wedi ystyried sut byddech yn talu’ch morgais neu’ch ad-daliadau gerdyn credyd petaech yn colli’ch swydd? Tra nad oes y fath beth ag yswiriant diswyddo di-ffael, ond mae rhai polisïau ‘yswiriant diswyddo’ allai eich helpu. Ond, byddwch yn ofalus beth fyddwch yn ei brynu - efallai y byddant yn eich helpu trwy gyfnod anodd, ond efallai y byddwch yn prynu cynnyrch anaddas.
Pa bolisïau yswiriant sydd ar gael?
Mae tri math o yswiriant ar gael os byddwch yn colli’ch swydd:
- Yswiriant diogelu taliadau morgais (MPPI). Gallech fod wedi cymryd y math hwn o yswiriant â’ch morgais. Fel rheol, mae’n dechrau talu’ch ad-daliadau morgais dri mis ar ôl i’ch enillion ddod i ben ac mae’n parhau i’w talu am hyd at 12 mis.
- Yswiriant diogelu taliadau (PPI). Fe’i gelwir weithiau’n yswiriant Damweiniau, Salwch a Diweithdra (ASU). Gallech fod wedi cymryd yr yswiriant hwn â benthyciad personol neu gerdyn credyd. Mae’n eich helpu i barhau i ad-dalu’ch benthyciad drwy dalu allan swm penodol am hyd at 12 neu 24 mis. Fel rheol, mae’r taliadau’n dechrau dri mis ar ôl i’ch enillion ddod i ben.
- Yswiriant diogelu incwm tymor byr (STIP). Mae’r yswiriant hwn yn rhoi cyfran o’ch incwm i chi am gyfnod penodol (12 neu 24 mis fel arfer). Ni ddylid drysu rhwng hwn a pholisïau diogelu incwm eraill, na fyddant fel arfer yn talu os byddwch yn colli eich swydd.
Oherwydd y ffordd y byddai polisïau diogelu taliadau’n cael eu gwerthu yn y gorffennol, efallai na fyddwch wedi sylweddoli bod gennych yr yswiriant hwn eisoes.
Holwch eich benthyciwr a oes yswiriant yn diogelu’ch morgais, eich benthyciad neu’ch cerdyn credyd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw yswiriant diogelu incwm?
Ar gyfer beth fyddech wedi eich diogelu?
Efallai y byddwch wedi talu’r premiymau am lawer o flynyddoedd, os byddwch angen hawlio, dim ond am gyfnod byr y bydd rhai polisïau yn talu allan – am flwyddyn yn unig, fel rheol.
- Yn gyffredinol, dim ond eich ad-daliadau benthyciad neu forgais, nid eich incwm, sy’n cael eu diogelu gan yswiriant diogelu taliadau (neu yswiriant diogelu taliadau morgais). Fodd bynna, mae rhai polisïau diogelu taliadau morgais yn talu swm ychwanegol i helpu â biliau eraill.
- Mae yswiriant diogelu incwm tymor byr yn talu cyfran o’ch incwm (50% neu 60% fel arfer), yn hytrach na bod ynghlwm wrth ad-daliadau dyled.
Nid yw llawer o bolisïau’n talu allan ar unwaith – bron bob amser bydd bwlch o ryw dri mis cyn i’r taliadau ddechrau.
Fodd bynnag, dylech wneud cais cyn gynted ag y byddwch yn colli’ch swydd.
Pryd i beidio prynu’r math hwn o yswiriant
Os yw diswyddo eisoes yn debygol
A yw eich cwmni eisoes wedi cyhoeddi diswyddiadau, neu oes son am golli swyddi? Yna nid yw’n werth cymryd polisi oherwydd ni fyddwch yn gallu hawlio.
Mae’r un peth yn wir os cymerwch ddiswyddiad gwirfoddol – fel arfer, ni fydd yr yswiriwr yn talu.
Darllenwch y telerau ac amodau’n ofalus i sicrhau y byddech yn gymwys am daliad cyn i chi brynu polisi.
Rydych yn gweithio’n rhan-amser, rydych yn hunangyflogedig neu rydych ar gontract dros dro
Os yw hyn yn berthnasol i chi, gwiriwch yn ofalus oherwydd ni fydd llawer o bolisïau diogelu taliadau’n eich diogelu.
Pan ddylech ystyried prynu
- Os ydych mewn swydd lle mae tebygolrwydd canolig i uchel o ddiswyddiadau ond bod hynny’n fwy na thri i chwe mis i ffwrdd
- Os nad ydych yn credu y byddwch yn dod o hyd i swydd arall ymhen tri mis o ddiswyddiad
- Os ydych yn gwybod bod y polisi’n mynd i ddiogelu’ch taliadau am 12 mis yn unig ar ôl cyfnod aros rhwng 1 a 3 mis a’ch bod yn fodlon ar hynny
- Os ydych yn deall yr holl eithriadau
- Os ydych yn fodlon chwilio am y fargen orau – peidiwch byth â’i brynu’n awtomatig gan ddarparwr eich morgais neu fenthyciad