Mae unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth rydych yn ei gael yn atebol i Dreth Incwm, ond bydd yn cael ei dalu cyn i unrhyw dreth gael ei didynnu.
Pensiwn y Wladwriaeth a Threth Incwm
Mae unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth a gewch yn cael ei drin fel incwm a enillir am resymau Treth, er nad ydych bellach yn gorfod talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Sut gallaf weithio allan fy oedran Pensi
I weithio eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth allan, defnyddiwch y cyfrifiannell Pensiwn y Wladwriaeth ar wefan GOV.UK
Mae faint o dreth incwm rydych yn ei thalu yn dibynnu ar gyfanswm eich incwm blynyddol o bob ffynhonnell. Er enghraifft:
- enillion (gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth)
- elw o hunangyflogaeth
- incwm rhent
- pensiynau eraill rydych yn eu cael
- llog banc neu gymdeithas adeiladu
- incwm o'ch buddsoddiadau.
Rydych ond yn talu Treth Incwm unwaith bod eich cyfanswm incwm blynyddol yn uwch nag eich Lwfans Personol. Y Lwfans Personol safonol ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25 yw £12,570.
Gall eich Lwfans Personol fod yn fwy neu'n llai na'r ffigwr safonol oherwydd nifer o ffactorau eraill.
Dylai Cyllid a Thollau EM ddweud wrthych faint yw eich Lwfans Personol bob tro y mae'n newid.
Os yw cyfanswm eich incwm blynyddol yn fwy na'ch Lwfans Personol, rydych yn atebol i dalu treth incwm ar y swm sy'n fwy na'r Lwfans Personol.
Mae gwahanol gyfraddau o Dreth Incwm yn weithredol, gan ddibynnu ar y math o incwm a faint o incwm sy’n berthnasol.
Er nad yw treth yn cael ei ddidynnu o’ch Pensiwn y Wladwriaeth, bydd felly dal yn defnyddio rhywfaint o’r Lwfans Personol sy’n rhydd o dreth. Yn 2024/25 y Lwfans Personol di-dreth safonol yw £12,570 sy’n golygu os ydych yn derbyn y Pensiwn y Wladwriaeth newydd yn llawn, bydd gennych £1,067.60 (£12,570 llai £11,502.40) o’ch Lwfans Personol yn weddill ar gyfer ffrydiau incwm trethadwy eraill megis cyflogaeth neu bensiwn preifat neu alwedigaethol.
Darfanfyddwch fwy yn ein canllaw Pensiwn y Wladwriaeth: trosolwg
Pensiwn y Wladwriaeth ac incymau eraill
Os ydych yn gyflogedig neu os oes gennych incwm o bensiwn arall yn ogystal â Phensiwn y Wladwriaeth, bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn i'ch cyflogwr a/neu'ch darparwr pensiwn gymhwyso cod treth addas.
Mae hyn er mwyn gwneud iawn am y ffaith nad yw treth wedi'i didynnu o'ch Pensiwn y Wladwriaeth. Y canlyniad fydd eich bod wedi talu'r dreth gywir yn gyffredinol.
Bydd eich cyflogwr a/neu'ch darparwr pensiwn yn talu hwn i Gyllid a Thollau EM ar eich rhan.
Os ydych yn hunangyflogedig ac yn cael eich Pensiwn y Wladwriaeth, neu os oes gennych incwm arall - fel incwm o rentu eiddo - mae'n debygol y bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesiad ar ddiwedd y flwyddyn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Treth ar ôl Ymddeol
Pethau y dylech eu wirio
Mae'n bwysig gwirio bob blwyddyn eich bod wedi talu'r swm cywir o dreth ar yr incwm a gewch.
Mae hyn yn arbennig o bwysig os oes gennych ychydig o wahanol ffynonellau incwm, fel:
- swydd ran-amser neu llawn amser
- llog banc neu gymdeithas adeiladu
- incwm neu ddifidendau o fuddsoddiadau.
Mae angen i chi wirio hefyd a oes gennych newid mewn amgylchiadau sy'n effeithio ar yr incwm rydych yn ei gael, er enghraifft, rydych yn ymddeol o'r gwaith ac yn cael incwm is.
Os ydych wedi cael mwy o dreth wedi'i didynnu nag y dylech fod wedi'i thalu, gallwch adhawlio'r gwahaniaeth oddi wrth Gyllid a Thollau EM gan ddefnyddio un o'u ffurflenni hawlio ad-daliad.
Yn yr un modd, efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd dalu unrhyw dreth sydd heb ei thalu'n ddigonol.
Os nad oes gennych ffynonellau incwm eraill, megis pensiynau eraill neu incwm o swydd, a'ch bod wedi dechrau cael eich Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, bydd yn rhaid i chi gwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad bob blwyddyn.
Yna mae angen i chi dalu'r dreth hon i Gyllid a Thollau EM. Felly mae'n syniad da sicrhau eich bod yn rhoi digon i un ochr i gwrdd â'r bil treth.
Darganfyddwch fwy yn GOV.UK am ffurflenni treth HunanasesiadYn agor mewn ffenestr newydd
Mae mwy o wybodaeth yn GOV.UK am dreth pan fyddwch yn cael pensiwnYn agor mewn ffenestr newydd
Os gwnaethoch ddechrau cael eich Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016, bydd Cyllid a Thollau EM yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi faint sy'n ddyledus gennych. Nid oes angen cwblhau ffurflen dreth.
Gohirio neu roi'r gorau i gymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth a threth
Os ydych wedi oedi cyn gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth, neu wedi stopio ei gael am ychydig, ni fyddwch yn talu treth ar Bensiwn y Wladwriaeth yn ystod yr amser nad ydych yn ei gael.
Bydd y dreth rydych yn ei thalu pan fyddwch yn dechrau cael y Pensiwn y Wladwriaeth rydych wedi gohirio ei dderbyn yn dibynnu ar sut mae'r arian yn cael ei dalu i chi.
Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl 6 Ebrill 2016, byddwch yn cael Pensiwn y Wladwriaeth na chawsoch eich talu ar ffurf incwm uwch. Bydd hyn yn drethadwy fel incwm a enillir yn y ffordd arferol.
Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, mae gennych ddewis.
Os dewiswch gael Pensiwn y Wladwriaeth na chawsoch eich talu fel incwm uwch, bydd hyn yn drethadwy fel incwm a enillir yn y ffordd arferol.
Os dewiswch gael Pensiwn y Wladwriaeth na chawsoch eich talu fel cyfandaliad, trethir hyn ar eich cyfradd gyfredol ar eich cyfandaliad. Er enghraifft, os ydych yn drethdalwr cyfradd sylfaenol, bydd eich cyfandaliad yn cael ei drethu ar 20%.