Oes gennych chi gwestiwn pensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Amodau a Thelerau

Amodau a Thelerau'r Gwasanaeth Blwydd-dal a ddarperir gan HelpwrArian

Mae'r amodau a thelerau canlynol a materion yn ymwneud â phreifatrwydd yn ychwanegol at y rhai sydd ar y wefan MoneyHelper.org.uk ("Gwefan MoneyHelper"). Ble ceir gwrthdaro rhwng yr amodau hynny ar y Wefan MAS a'r rhai isod, bydd y rhai isod yn cael blaenoriaeth.

Gwasanaeth Arian a Phensiynau ("ni", "neu", "MaPS")) yw perchennog y wefan hon ac sy'n ei chynnal. Mae'n gorff corfforaethol a sefydlwyd yn unol ag Adran 1, Rhan 1 o Ddeddf Canllawiau a Hawliadau Ariannol 2018.

Trwy gael mynediad at neu ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, neu trwy ddefnyddio unrhyw wasanaethau a ddarperir trwyddo, rydych yn cytuno i'r amodau a thelerau a gynhwysir isod (y mae pob un ohonynt yn cael eu galw yn y "Cytundeb"). Gwneir y Cytundeb hwn rhyngoch chi a ni.

Rydych yn darllen dogfen gyfreithiol sydd yn gytundeb rhyngoch chi, y Defnyddiwr, a ni. Mae "Defnyddiwr", "chi" ac "eich" oll yn golygu'r unigolyn dynol sy'n darllen yr amodau a thelerau hyn neu'n cael mynediad at y gwasanaeth.

Ni yw'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau("MaPS"), Defaqto Limited ("Defaqto") ac IRESS (UK) Limited ("IRESS") yn gyfunol ac rydym yn cyfeirio at ein hunain fel "ni" neu "ninnau" neu "ein" yn y ddogfen hon.

Rydych yn cytuno nad ydym yn gyfrifol am unrhyw iawndal na cholledion yn deillio o unrhyw ddefnydd o'r Gwasanaeth hwn ac na ddylech chi, y defnyddiwr, ddibynnu ar y Gwasanaeth hwn heb wiriad priodol. Ni ddylid gwneud unrhyw benderfyniad buddsoddi parthed unrhyw wybodaeth a ddarparwyd oni bai ei fod yn dilyn cyngor gan gynghorydd ariannol proffesiynol.

1. Eich defnydd o'r gwasanaeth

  1. 1.1. Trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth, rydych drwy hyn yn cadarnhau:
    1. 1.1.1. eich bod wedi cael eich darparu gyda’n Hysbysiad Preifatrwydd sy'n darparu gwybodaeth am sut bydd eich data personol yn cael ei brosesu gennym;
    2. 1.1.2. eich bod wedi ac y byddwch yn darparu Data sy'n gywir cyn belled ag sy'n rhesymol bosibl ac yn ein hysbysu os ydych yn dod yn ymwybodol bod unrhyw Ddata a ddarparwyd yn anghywir;
    3. 1.1.3. bod gennych yr holl gofrestriadau, caniatadau neu awdurdodiadau angenrheidiol dan unrhyw Ddeddfau ac/neu Reoliadau i ddarparu'r Data i ni ac i ganiatáu i ni neu unrhyw Ddarparwr Trydydd Parti i storio a phrosesu'r Data er mwyn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau dan y Cytundeb hwn;
    4. 1.1.4. eich bod yn cydnabod y byddwn yn creu Data Dienw o'r Data rydych yn ei ddarparu na fydd bellach yn bosib o gael ei gysylltu â chi fel unigolyn adnabyddadwy ,a'i ddarparu i drydydd partïon;
    5. 1.1.5. eich bod yn cydnabod y gallwn gadw cofnodion o'r holl wybodaeth a ddarparwyd gennych trwy'r Gwasanaeth i'r diben o ddarparu'r Gwasanaethau, ac unrhyw ddiben arall a nodir yn ein Hysbysiad Preifatrwydd, ac y bydd cofnodion o'r fath yn cael eu hystyried i fod yn dystiolaeth ddiffiniol o drafodion neu gyfarwyddiadau o'r fath. Rydym yn cadw'r hawl i gofnodi pob trafodyn a chyfathrebiad electronig gyda chi yn unol â'r Cytundeb hwn;
    6. 1.1.6. na fyddwch yn defnyddio'r gwasanaeth:
      1. 1.1.6.1. i drosglwyddo, lawrlwytho na chael mynediad at Gynnwys Annerbyniol;
      2. 1.1.6.2. ar gyfer unrhyw ddiben heblaw eich defnydd personol;
      3. 1.1.6.3. ar gyfer unrhyw ddibenion masnachol neu fusnes; neu
      4. 1.1.6.4. mewn modd anghyfreithlon, twyllodrus neu fasnachol.
      5. 1.1.6.5. i niweidio, bygwth, cam-drin, codi cywilydd, difenwi, enllibio, dychrynu nac aflonyddu unrhyw berson, neu mewn modd sy'n ymosod ar breifatrwydd rhywun arall neu sy'n aflan, ffiaidd, atgas, anweddus, amhriodol, annymunol, annerbyniol, gwahaniaethol neu niweidiol fel y pennir gennym ni.
      6. 1.1.6.6. i greu, gwirio, cadarnhau, diweddaru, addasu neu newid eich cronfeydd data, cofnodion neu gyfeirlyfrau chi neu rywun arall.
      7. 1.1.6.7. i ymyrryd ag, addasu, ôl beiriannu neu addasu unrhyw ran o'r Wefan hon.
      8. 1.1.6.8. mewn modd sy'n ymyrryd ag, amharu ar neu'n gosod baich afresymol neu anghymesur o fawr ar ein systemau cyfathrebu a thechnegol fel y pennir gennym ni.
    7. 1.1.7. ni fyddwch yn defnyddio unrhyw feddalwedd, proses, rhaglen, robot, ymlusgwr gwe, pry cop, mwyngloddio data, treillio neu feddalwedd 'crafu sgrin' arall, proses, rhaglen neu system awtomataidd.
    8. 1.1.8. ni fyddwch yn (i) rhentu, prydlesu, is drwyddedu, benthyg, uno, amrywio, addasu, newid, cyfieithu, ôl beiriannu, dadgrynhoi, dadgydosod, ailfformatio, addasu, newid na golygu (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) y Gwasanaeth nac unrhyw ran ohono nac yn (ii) caniatáu i'r Gwasanaeth nac unrhyw ran ohono gael ei gyfuno gyda neu gael ei ymgorffori yn, unrhyw raglen neu greu gweithiau deilliadol yn seiliedig arno, (yn gyfan gwbl neu'n rhannol); ac
    9. 1.1.9. ni fyddwch yn addasu na dileu unrhyw hawlfraint, nod masnach, hysbysiad o Hawliau Eiddo Deallusol ac/neu unrhyw hysbysiadau amddiffynnol eraill a gynhwysir yn y Gwasanaeth neu unrhyw ran ohono.
    10. 1.1.10. eich bod yn ymwybodol bod unrhyw wasanaethau a gyflenwir gan Ddarparwyr Trydydd Parti trwy'r Gwasanaeth yn amodol i amodau a thelerau'r Darparwr Trydydd Parti perthnasol; ac
    11. 1.1.11. eich bod yn ymwybodol os yw'r Gwasanaeth yn darparu unrhyw wasanaeth gan Ddarparwyr Trydydd Parti neu ddolenni hyperdestun i wefannau, allrwydi neu byrth eraill yn cyfateb i ardystiad o hyn a bod mynediad at a defnydd o'r blaenorol yn gyfan gwbl dan eich menter eich hun. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golledion sy'n gysylltiedig â mynediad a defnydd o'r fath; ac
    12. 1.1.12. eich bod yn ymwybodol nad ydym wedi ceisio gwirio'r gwir, cywirdeb neu gyfanrwydd unrhyw ddarluniau, data neu wybodaeth a ddarperir i ni gan unrhyw Ddarparwyr Trydydd Parti ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd o ran gwirionedd, cywirdeb neu gyflawnrwydd hyn.
  2. 1.2. Rydych yn cydnabod mai chi sy'n gyfrifol am ddefnyddio unrhyw wybodaeth neu ddata yn deillio o neu yn y Gwasanaeth. Ni ddylid dehongli unrhyw beth sy'n codi o neu yn y Gwasanaeth fel cyngor.
  3. 1.3. Rydych yn cydnabod nad yw'r data o fewn ac/neu a gaffaelwyd trwy'r Gwasanaeth wedi ei gyflenwi gan Defaqto nac IRESS ac nad oes gan Defaqto nac IRESS unrhyw Atebolrwydd dros unrhyw wallau neu hepgorion mewn data o'r fath o gwbl.
  4. 1.4. Ni roddir unrhyw ymrwymiad, sylw, gwarant na sicrwydd arall gennym ni nac ar ein rhan na chan unrhyw un o'n partneriaid, cyflogeion, asiantau neu gynghorwyr nac unrhyw berson arall ynghylch dibynadwyedd, cywirdeb neu gyflawnrwydd yr wybodaeth, safbwyntiau, hysbysebion, data na deunyddiau a gynhwysir trwy'r Gwasanaeth na'r cyngor a roddir gan unrhyw gynghorwyr, ac nid yw unrhyw un ohonynt yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am unrhyw wybodaeth, safbwyntiau, hysbysebion na data o'r fath.
  5. 1.5. Nid ydym yn eithrio nac yn cyfyngu mewn unrhyw ffordd ein hatebolrwydd i chi lle byddai'n anghyfreithlon gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod neu esgeulustod ein gweithwyr, asiantau neu isgontractwyr ac am dwyll neu gamliwio twyllodrus. Noder mai dim ond at ddefnydd domestig a phreifat rydym yn darparu ein gwefan. Rydych yn cytuno i beidio â defnyddio ein gwefan at unrhyw ddibenion masnachol neu fusnes, ac nid oes gennym unrhyw gyfrifoldeb i chi am unrhyw golled elw, colli busnes, ymyrraeth busnes, neu golli cyfle busnes. I'r graddau a ganiateir gan y gyfraith nid ydym yn atebol am unrhyw iawndal yn codi mewn contract, camwedd na fel arall o ddefnydd neu anallu i ddefnyddio'r Gwasanaeth.

2. Gofynion Diogelu Data

Yn y Cymal hwn, bydd gan "Rheolydd Data", "Prosesydd Data", "Testun Data", "Data Personol", "prosesau" a "phrosesu" yr ystyr a sefydlir yn y Ddeddf.

  1. 2.1. Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yw’r Rheolydd Data ac IRESS a Defaqto yw'r Proseswyr Data parthed Data Personol y mae angen i bawb ohonom brosesu er mwyn cyflawni'r Gwasanaethau.
  2. 2.2. Bydd Data Personol yn cael eu prosesu fel â nodir yn ein Hysbysiad Preifatrwydd.
  3. 2.3. Byddwn yn dilyn mesurau technegol a sefydliadol priodol i gadw'r Data Personol yn ddiogel rhag prosesu heb awdurdod neu anghyfreithiol ac yn erbyn colli damweiniol neu ddinistrio, neu ddifrodi, y Data Personol.
  4. 2.4. Ni fyddwn yn trosglwyddo Data Trwyddedai na Data Personol y tu allan i'r DU oni bai bod camau diogelwch priodol mewn lle yn unol a Chyfreithiau Diogelu Data.

Diffiniadau

Data
Unrhyw ddata, gwybodaeth neu ddeunydd arall yn ymwneud â, cynnwys neu gydag unrhyw fanylion amdanoch (yn cynnwys Data Personol) sydd: i) wedi ei gaffael gennym neu ein personél i ddibenion galluogi darparu ein Gwasanaethau, neu sydd fel arall yn ein meddiant, ddaliadaeth neu reolaeth ni neu ein personél; neu ii) a grëwyd, a gynhyrchwyd, a drosglwyddwyd, a storiwyd neu a broseswyd gennym ni neu ein personél fel rhan o, neu o ganlyniad i, ddarparu'r Gwasanaethau.
Cyfreithiau Diogelu Data
Y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, Deddf Diogelu Data 2018 ac unrhyw gyfreithiau neu reoliadau eraill sy'n ymwneud â diogelu data neu breifatrwydd sy'n berthnasol i chi, ni neu'r Gwasanaeth, fel y'u diwygir neu a ddisodlir o bryd i'w gilydd.
Cyfreithiau a/neu Reoliadau
Mae parthed unrhyw barti yn golygu pob cyfraith neu reoliad sy'n berthnasol i'r parti hwnnw, yn cynnwys, heb gyfyngiad, reolau'r FCA a gofynion yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant neu unrhyw reoliadau, gofynion, amodiad neu amod arall a wneir gan unrhyw sefydliad proffesiynol neu reoleiddio neu gymdeithas y bydd y parti hwnnw yn aelod ohono o bryd i'w gilydd neu y gall y parti hwnnw fod yn amodol iddo o bryd i'w gilydd.
Data Dienw
Data a gedwir ar sail gronedig, heb enwau a generig fel bod unrhyw fanylion sy'n datgelu'ch hunaniaeth chi fel unigolion (p'un ai'n fyw neu'n farw) wedi eu dileu mewn modd sy'n sicrhau na pheryglir eich preifatrwydd.
Data Dienw
Darpariaeth gennym ni i chi o wasanaeth sy'n eich hysbysu ynglyn â'r farchnad blwydd-daliadau yn y Deyrnas Unedig ac sy'n eich galluogi i gael dyfynbrisiau dangosol ar gyfer blwydd-dal.
Cynnwys Annerbyniol
Unrhyw ddeunydd o unrhyw natur (i) sy'n anghyfreithlon, difenwol, anweddus, aflan, ymosodol, bygythiol neu aflonyddus mewn natur, (ii) a fyddai'n cyfateb (os y'i cyhoeddir) i ddirmyg llys; (iii) sy'n hyrwyddo trais neu weithgareddau anghyfreithlon neu'n hyrwyddo gwahaniaethu ar sail hil, rhyw, crefydd, tarddiad cenedlaethol, anabledd corfforol neu oed; neu (iv) sy'n cynnwys unrhyw firysau, mwydod, Ceffylau Pren Troea neu lygryddion neu ddyfeisiau analluogi eraill allai addasu, dileu, analluogi neu ddifrodi unrhyw ddata, ffeiliau, meddalwedd neu systemau.
Hawliau Eiddo Deallusol
Unrhyw batent, hawlfraint, hawl cronfa ddata, topograffi lled-ddargludyddion, hawl dylunio (cofrestredig ac/neu anghofrestredig), nod masnach (cofrestredig ac/neu anghofrestredig), dealltwriaeth neu hawliau perchnogaeth diwydiannol neu ddeallusol arall sy'n bodoli unrhyw le yn y byd, p'un a yw yn bodoli ar ddyddiad y Cytundeb hwn neu'n codi wedi dyddiad y Cytundeb hwn ac unrhyw raglenni ar gyfer diogelu neu gofrestru'r hawliau hyn a phob adnewyddiad ac estyniad o hyn.
Darparwyr Trydydd Parti
Bydd cwmni sy'n darparu gwybodaeth neu ddata i Defaqto neu IRESS i'w gynnwys yn y Gwasanaeth, gan gynnwys y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, darparwyr gwasanaethau blwydd-daliadau a darparwyr graddio credyd yn ogystal ag unrhyw ddarparwr trydydd parti a nodir yn yr Hysbysiad Preifatrwydd.
Atebolrwydd
Gweithredoedd, dyfarniadau, costau, hawliadau, iawndal, colledion (yn cynnwys heb gyfyngiad unrhyw golledion uniongyrchol neu anuniongyrchol), galwadau, costau, colli elw, colli enw da, dyfarniadau, cosbau ac achosion ac unrhyw golledion ac/neu atebolrwydd.
Hysbysiad Preifatrwydd
Mae'r hysbysiad preifatrwydd rhoi manylion am sut mae data personol yn cael ei brosesu ac yn nodi'ch hawliau mewn perthynas â'r prosesu hwnnw ar gael yn: https://www.moneyhelper.org.uk/cy/about-us/privacy-notice

Arweiniad pensiynau am ddim

Mae help gan ein harbenigwyr pensiwn yn ddiduedd ac am ddim i'w ddefnyddio, p'un ai yw hynny ar-lein neu dros y ffôn.

Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.