Cymharu cynnyrch incwm gwarantedig am oes (blwydd-daliadau oes)

Dyma rai cwestiynau i'ch rhoi ar ben ffordd

Pryd gawsoch chi'ch geni?

Mae oed yn un ffactor ar gyfer cyfrifo incwm ymddeol. Po hynaf y byddwch, yr uchaf fydd y dyfynbrisiau incwm a gewch. Os ydych chi'n iau na 55 oed, nid yw fel arfer yn syniad da i gael mynediad at eich cronfa bensiwn ac ni fydd ein tablau yn darparu dyfynbrisiau. Rydym yn awgrymu eich bod yn siarad gyda chynghorydd ariannol wedi'i reoleiddio cyn bwrw ymlaen os ydych yn iau na 55 oed.

Pryd fyddech chi'n hoffi i'ch incwm ddechrau?

Byddwch yn {0} mlwydd oed

Byddwch yn {0} mlwydd oed. Nid yw'n tablau yn darparu dyfynbrisiau os ydych yn ymddeol cyn 55 oed - os felly dylech geisio cyngor

Manylion eich cynllun ymddeol

Gallech gael cyfradd well ac arbed ar gostau gweinyddol drwy gyfuno cronfeydd pensiwn er mwyn prynu un blwydd-dal mwy. Fodd bynnag, os yw unrhyw un o'ch cynlluniau yn cynnig bonysau ffyddlondeb neu ‘gyfradd blwydd-dal a warantir' gallech golli allan drwy gyfuno - gwiriwch y ffeithiau a cheisio cyngor os ydych yn ansicr. Dylech ddim ond gynnwys cronfeydd pensiwn o gynllun cyfraniad diffiniedig neu gynllun pensiwn personol (yn cynnwys pensiwn rhanddeiliad). Peidiwch â chynnwys Pensiwn y Wladwriaeth na phensiwn yn seiliedig ar gyflog terfynol neu enillion cyfartalog dros yrfa.

£

Mae'n debyg nad yw maint eich cronfa bensiwn yn ddigon mawr i gael gwerth da am arian o flwydd-dal. Os oes gennych chi gronfeydd eraill y gallech ystyried eu cyfuno. Gweler Opsiynau ar gyfer defnyddio eich cronfa bensiwn i ddeall eich dewisiadau eraill ac i ganfod ble i gael help neu gyngor.

Gallwch ddewis cael eich incwm wedi ei dalu o flaen llaw neu fel ôl-daliad. Efallai na fydd hyn yn gwneud cymaint â hynny o wahaniaeth i'r incwm a gewch. Rydym yn awgrymu eich bod yn rhedeg ambell gymhariaeth i weld pa effaith allai hyn ei gael.

Gall eich cod post effeithio ar eich incwm

Manylion personol

Arweiniad pensiynau am ddim

Mae help gan ein harbenigwyr pensiwn yn ddiduedd ac am ddim i'w ddefnyddio, p'un ai yw hynny ar-lein neu dros y ffôn.