Mae llawer ohonom bellach yn dibynnu ar wasanaethau digidol, ar-lein a symudol i fyw ein bywydau. Maent yn ein cadw yn gysylltiedig a gallant ein helpu i gael bargeinion gwell, arbed arian a chadw ar ben ein cyllid. Os ydych yn cael trafferth talu unrhyw un o'r biliau hyn, mae yna bethau y gallwch eu gwneud i aros yn gysylltiedig.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth i'w wneud os ydych yn cael trafferth talu'ch bil ffôn symudol
- Newid i dariff rhatach
- Cefnogaeth os ydych yn cael trafferth talu biliau ffôn
- Beth i'w wneud os ydych yn cael trafferth talu'ch bil band eang
- Tariffau cymdeithasol band eang a ffônau symudol
- Darparwyr tariff band eang a chymdeithasol
- Os na chadwch i fyny â thaliadau
- Beth i'w wneud os ydych yn cael trafferth talu gwasanaethau tanysgrifio eraill
- Y camau nesaf os ydych wedi methu taliad
- Pryd i gael cyngor ar ddyledion
- Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn cael trafferthion ariannol a â'ch lles meddyliol
Beth i'w wneud os ydych yn cael trafferth talu'ch bil ffôn symudol
Os nad oes gennych linell dir neu fand eang, mae eich ffôn symudol yn gysylltiad hanfodol â gwasanaethau eraill felly mae'n bwysig ei gadw os gallwch.
Efallai mai dyma'ch profiad cyntaf o gael trafferth i dalu bil.. Cofiwch ei bod yn bwysig cadw i fyny â'ch taliadau. Nid yw hyn mond fel na fyddwch yn colli'ch cysylltiad, ond hefyd oherwydd gallai effeithio ar eich sgôr credyd os na wnewch hynny.
Os oes angen help arnoch, cysylltwch â'ch darparwr cyn gynted â phosibl i esbonio'r sefyllfa.
Mae gan lawer o ddarparwyr gefnogaeth ar waith i'ch helpu, gan gynnwys:
- newid dyddiad eich bil
- sefydlu cynllun ad-dalu fforddiadwy
- symud i dariff gwahanol
- gostwng eich cap gwariant.
Y peth gorau yw defnyddio'ch ffôn dim ond pan fydd angen.
Am awgrymiadau defnyddiol ar gyfer arbed arian, gwelwch ein canllawiau
Sut i arbed arian ar eich biliau ffôn symudol
Newid i dariff rhatach
Os ydych chi ar gontract ffôn symudol, efallai y gallwch chi symud i dariff talu rhatach wrth fynd neu fargen sim yn unig. Ond darganfyddwch yn gyntaf a oes rhaid i chi dalu ffi i ddod â'ch contract i ben yn gynnar.
Mae canllaw defnyddiol ar ganslo contract ffôn, teledu, rhyngrwyd neu symudol ar wefan Citizens Advice
Cefnogaeth os ydych yn cael trafferth talu biliau ffôn
Os yw'ch incwm wedi gostwng yn ystod tymor y contract, efallai na fyddwch yn gallu fforddio'ch bil ffôn symudol.
Darganfyddwch wybodaeth am ganslo contract ffôn, teledu, rhyngrwyd neu ffôn symudol, ar wefan Cyngor ar Bopeth
Mae gan y gwefannau hyn fwy o wybodaeth ar beth i'w wneud nesaf:
Os na allwch fforddio talu'ch bil, gwelwch wefan StepChange
Os oes gennych ddyled ffôn symudol, gwelwch wefan National Debtline
Os ydych chi'n cael trafferth talu eich bil ffôn symudol, ffôn, rhyngrwyd neu deledu, gwelwch wefan Cyngor ar Bopeth
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Beth i'w wneud os ydych yn cael trafferth talu'ch bil band eang
Os oes angen help arnoch, cysylltwch â'ch darparwr cyn gynted â phosibl ac esboniwch eich sefyllfa. Efallai y byddant yn gallu'ch helpu, fel:
- newid dyddiad eich bil
- sefydlu cynllun ad-dalu fforddiadwy
- symud i dariff gwahanol
- cael gwared ar gapiau data ar wasanaethau band eang sefydlog.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu prynu pecynnau sy'n cynnwys hwb data am brisiau isel, neu alwadau ffôn llinell daear am ddim.
Os ydych yn agored i niwed neu'n hunanynysu, ac ni all eich darparwr wneud atgyweiriadau blaenoriaethol yn eich cartref? Dylent sicrhau bod gennych ddewisiadau amgen i fand eang neu linell dir.
Darganfyddwch fwy am gael bargen well ar eich bil ffôn symudol, ffôn, rhyngrwyd neu deledu ar wefan Cyngor ar Bopeth
Tariffau cymdeithasol band eang a ffônau symudol
Mae rhai darparwyr yn cynnig cynlluniau cost isel i'ch helpu i wneud galwadau ffôn symudol a mynd ar-lein os ydych yn cael budd-daliadau penodol, gan gynnwys:
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Ceisio Gwaith,
- Credyd Pensiwn
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan Ofcom
Darparwyr tariff band eang a chymdeithasol
Darparwr | Ardaloedd a wasanaethir | Pris | Cyflymder | Ar gyfer pwy? |
---|---|---|---|---|
ledled y DU |
£15 y mis |
Tua 36 Mbit yr eiliad |
Budd-daliadau amrywiol (i mewn ac allan o waith) |
|
ledled y DU |
£20 y mis |
Tua 67Mbit yr eiliad |
Budd-daliadau amrywiol (i mewn ac allan o waith) |
|
Ardal Llundain |
£10 y mis |
10Mbit yr eiliad |
Budd-daliadau amrywiol (i mewn ac allan o waith) |
|
Gwiriwch am signal yn eich ardal chi |
£15 y mis |
50Mbit yr eiliad |
Budd-daliadau amrywiol (i mewn ac allan o waith) |
|
Gwiriwch am signal yn eich ardal chi |
£25 y mis |
150Mbit yr eiliad |
Budd-daliadau amrywiol (i mewn ac allan o waith) |
|
Swydd Efrog a Swydd Lincoln |
£19.99 y mis |
30 Mbit yr eiliad |
Budd-daliadau amrywiol (i mewn ac allan o waith) |
|
ledled y DU |
£15 y mis |
15/Mbit yr eiliad |
Credyd Cynhwysol |
Os na chadwch i fyny â thaliadau
Os na allwch gadw i fyny â thaliadau ac anwybyddwch y broblem, mae sawl ffordd y gall darparwyr ffonau symudol adennill yr arian. Efallai y byddant yn:
- datgysylltu eich ffôn
- trosglwyddo'ch dyled i asiantaeth casglu dyledion
- cyhoeddi Dyfarniad Llys Sirol (mae hyn yn rhoi mwy o opsiynau i'ch darparwr orfodi ad-daliad o'r ddyled)
- fel dewis olaf, gwneud cais i'ch gwneud yn fethdalwr (yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn unig).
Bydd siarad â'ch darparwr cyn gynted ag y gwyddoch fod gennych broblem yn lleihau'r risg y bydd unrhyw un o'r rhain yn digwydd.
Roedd y tabl uchod yn gywir ym mis Hydref 2021. Ffynhonnell: Ofc
Band eang am ddim os ydych yn chwilio am waith
Os ydych yn chwilio am waith, gallwch wneud cais trwy'ch anogwr gwaith am daleb i gyfnewid am fand eang am ddim gan y darparwr cysylltedd Talk Talk.
Mae'r daleb hon yn eich caniatáu i gael chwe mis o wasanaeth band eang Talk Talk Ffibr 35 heb unrhyw wiriad contract na chredyd. Mae terfynau defnyddio data heb eu capio (o fewn y terfynau defnydd data teg).
Ar ôl chwe mis, gallwch ddewis fynd ar gontract gyda Talk Talk neu ganslo'r gwasanaeth. Beth bynnag y dewiswch ei wneud, ni fydd unrhyw gostau canslo na ffioedd cofrestru.
Siopa o gwmpas am wasanaethau band eang
Wrth siopa o gwmpas am dariffau cost isel, mae'n werth cymharu cyflymder y rhyngrwyd yn erbyn cost y tariff. Efallai y bydd tariffau rhatach yn golygu ei bod yn cymryd mwy o amser i lawrlwytho dogfennau, fideos, gemau neu ffilmiau.
Gallwch hefyd gymharu'r costau hyn â'r bargeinion rhatach sim-yn-unig neu dalu wrth fynd a fydd yn rhoi mwy o ddata a chysylltiadau cyflymach i chi. Neu gallwch ddefnyddio llecyn eich ffôn symudol i drosglwyddo data i gyfrifiadur neu lechen os oes angen i chi gyrchu'r rhyngrwyd.
Beth i'w wneud os ydych yn cael trafferth talu gwasanaethau tanysgrifio eraill
Os na allwch fforddio gwasanaethau fel Netflix neu Spotify, efallai y gallwch eu canslo heb orfod talu cosb. Gwiriwch delerau eich contract.
Darganfyddwch sut i arbed arian a chynyddu incwm i'ch helpu i ddal i fyny â'ch taliadau ar wefan StepChange
Mae llythyrau enghreifftiol y gallwch eu defnyddio i ysgrifennu at eich credydwyr ar wefan Cyngor ar Bopeth
Gallai eich amgylchiadau olygu y gallwch gael pris is gan eich darparwr teledu.
Am awgrymiadau ar gael gwell pris am eich Sky a thanysgrifiadau teledu eraill, gweler gwefan MoneySavingExpert
Y camau nesaf os ydych wedi methu taliad
Os ydych wedi methu taliad ar eich tanysgrifiad band eang, ffôn neu deledu, cysylltwch â'ch benthyciwr i egluro'ch sefyllfa
Darganfyddwch fwy am beth i'w wneud os ydych yn cael trafferth talu'ch bil ffôn symudol ar wefan StepChange
Darganfyddwch fwy am gael bargen well ar eich bil ffôn symudol, ffôn, rhyngrwyd neu deledu ar wefan Cyngor ar Bopeth
Darganfyddwch fwy am ddelio â dyled contract ar wefan StepChange
Darganfyddwch fwy am dyled ffôn symudol ar wefan National Debtline
Pryd i gael cyngor ar ddyledion
A ydych eisoes wedi colli mwy nag un taliad, neu'n poeni gallech colli taliad ac yn methu â dod i gytundeb â'ch darparwr? Yna y peth gorau yw cael cyngor cyn gynted ag y gallwch, yn enwedig os oes gennych ddyledion eraill hefyd.
Er mwyn eich helpu i weithio allan pa filiau i'w talu yn gyntaf, gwelwch ein canllaw Sut i flaenoriaethu'ch dyledion
Darganfyddwch fwy am sut mae dyledion yn cael eu casglu pan fyddwch chi mewn ôl-ddyledion ar wefan StepChange
I gael gwybod mwy am sut i wneud cynllun i dalu'ch dyledion, gwelwch wefan Cyngor ar Bopeth
Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn cael trafferthion ariannol a â'ch lles meddyliol
Gallai profi problemau iechyd meddwl ei wneud yn anodd i chi rheoli eich arian.
Darganfyddwch awgrymiadau ymarferol ar sut i ymdopi’n ariannol a ble i gael cymorth arbenigol am ddim yn ein canllaw Problemau ariannol a lles meddyliol gwael
Cofiwch, os ydych yn cael trafferthion ariannol ac â'ch lles meddyliol, mae'n werth cysylltu â'ch banc, cymdeithas adeiladu, benthyciwr neu bwy bynnag mae gennych arian yn ddyledus iddynt, i drafod eich opsiynau.
Fodd bynnag, yn aml mae'n haws dweud na chodi'r ffôn a siarad am eich problemau pan rydych yn cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl.
Gwiriwch ein canllaw Sut i gael sgwrs am arian i gael awgrymiadau ymarferol ar sut y gallwch siarad â'r rhai y mae arnoch arian iddynt.
Mae gan y rhan fwyaf o leoedd y mae gennych arian yn ddyledus iddynt bolisïau ynglŷn â'ch cefnogi os ydych yn fregus. Ond ni allant eich helpu oni bai eich bod yn gofyn.
I gael rhai awgrymiadau cyffredinol ar sut y gallwch reoli eich iechyd meddwl, edrychwch ar ganllaw Rethink. Mae'n cynnwys popeth o osod cyllideb i gael help os ydych chi, neu rywun rydych chi'n poeni amdano, yn cael argyfwng iechyd meddwl.