Cael help anffurfiol i reoli’ch arian

Os ydych yn teimlo bod angen help llaw arnoch i ddatrys eich cyllid, nid oes rheswm na allwch ofyn i ffrind neu aelod o'r teulu am help. Mae llawer o bobl yn gwneud hyn a gall fod yn bwysau go iawn oddi ar eich meddwl. 

Pan fydd angen help arnoch gyda’ch arian

Os ydych yn cael trafferth gyda dyled mae llawer o wasanaethau cymorth a chyngor cyfrinachol am ddim ledled y DU. 

Mae cael help yn golygu nad oes rhaid i chi gael trafferth ar eich pen eich hun a gallwch ddechrau datrys neu atal problemau arian fel:

  • cynyddu dyledion – os ydych yn ei chael yn anodd cyllidebu a rheoli'ch gwariant
  • byw ar lai na bod rhaid i chi – os nad ydych yn hawlio budd-daliadau mae gennych hawl iddynt
  • caledi i bartner neu aelodau eraill o'r teulu – os ydynt yn dibynnu arnoch i redeg cyllid yr aelwyd
  • biliau heb eu talu – a allai olygu bod gwasanaethau fel eich ffôn yn cael eu torri i ffwrdd neu eich bod dan fygythiad o gael eich cludo i'r llys.

Dewis rhywun i’ch helpu â’ch arian

Mae rhaid i unrhyw un rydych yn dewis i weithredu ar eich rhan fod yn rhywun y gallwch ymddiried yn llwyr ynddo, ac efallai y byddai'n syniad da gwirio eu bod yn hapus i'w wneud.

Pan fyddwch yn gwybod pwy rydych am eich helpu, gallwch benderfynu pa help sydd ei angen arnoch.

Mae gwahanol opsiynau i ddewis ohonynt, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

  • A ydych yn cael anhawster â rhai tasgau arian ond nid eraill?
  • A ydych yn mynd trwy gyfnodau pan fyddwch yn ei chael yn anodd rheoli, ond yn gallu ymdopi ar adegau eraill?

Gweithiwch allan beth sy'n fwyaf addas i chi a'ch sefyllfa.

Ymhlith y pethau y gall rhywun eich helpu â hwy mae:

  • Help â gwaith papur – efallai y bydd angen rhywfaint o gefnogaeth arnoch i lenwi dogfennau pwysig neu ddeall rhai termau. Er enghraifft, gwybodaeth am eich cyfrif banc, treth neu daliadau budd-dal.
  • Help â chyfarfodydd - efallai y byddwch chi'n gofyn i rywun fynd i gyfarfodydd pwysig â chi. Er enghraifft â chyfreithiwr, cynghorydd ariannol, neu gynghorydd budd-daliadau.
  • Cymorth â gwario o ddydd i ddydd - efallai y byddwch yn siarad â rhywun i gael help i reoli'ch arian yn ddyddiol. 

Help â chyfrifon banc

Mae nifer o ffyrdd y gallwch gael help â'ch bancio.

Mae gan bob un ohonynt fanteision ac anfanteision, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis yr un sy'n gweddu orau i'ch anghenion. 

Mandadau trydydd parti

Mae mandad trydydd parti yn ddogfen sy'n dweud wrth eich banc, cymdeithas adeiladu neu ddarparwr cyfrifon arall y gallant dderbyn cyfarwyddiadau am eich arian gan berson penodol a enwir.

Mae'n rhoi'r awdurdod i'r unigolyn hwnnw redeg eich cyfrif banc (ond dim trefniadau ariannol eraill) ar eich rhan.

Fel arfer mae rhai cyfyngiadau ar yr hyn y gallant ei wneud, megis peidio â chaniatáu i orddrafft ffurfiol neu agor neu gau cyfrif i chi.

Gall fod yn opsiwn da os ydych:

  • yn mynd dramor am amser hir
  • dros 18 oed ac yn mynd i'r brifysgol
  • angen rhywfaint o help i reoli eich bancio o ddydd i ddydd.

Siaradwch â'ch banc neu'ch darparwr cyfrif i ofyn am drefniant mandad trydydd parti.

Caniateir iddynt wrthod eich cais.

Cyfrifon ar y cyd

Gallwch agor cyfrif ar y cyd â rhywun arall, neu newid cyfrif sydd gennych eisoes fel ei fod yn cael ei gadw mewn enwau ar y cyd.

Yn yr achos hwn, nid yw'r arian yn y cyfrif yn eiddo i chi yn unig mwyach.

Rydych chi a'r person arall yn dod yn gydberchnogion.

 chyfrif ar y cyd, gallwch chi'ch dau dynnu arian yn ôl a gwneud penderfyniadau eraill heb ofyn i'ch gilydd.

Os byddwch yn sefydlu cyfrif ar y cyd fel y gall rhywun eich helpu i dalu biliau a threuliau eraill, meddyliwch am gadw cyfrif personol ar wahân am arian nad yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer biliau.

Os bydd y naill neu'r llall ohonoch farw, gallai'r person arall etifeddu'r holl arian yn y cyfrif yn awtomatig a gallu ei wario.

A phetai bod un ohonoch yn cynyddu dyledion ar y cyfrif, byddai'r llall yn atebol hefyd.

Felly mae'n bwysig sicrhau eich bod yn agor cyfrif ar y cyd â rhywun rydych yn ymddiried yn llwyr ynddynt.

Ystyriwch agor cyfrif banc sylfaenol

Efallai y bydd cyfrif banc sylfaenol di-ffi yn opsiwn da os ydych wedi cael eich gwrthod am gyfrif cyfredol.

Gallwch ddefnyddio cyfrif banc sylfaenol i dderbyn arian a thalu biliau.

Nid oes gan y cyfrifon hyn gyfleuster gorddrafft, felly ni fyddwch yn gallu mynd i ddyled trwy wario mwy nag sydd gennych.

Cyfrif Cerdyn Gofalwr

Os yw salwch neu anabledd yn golygu eich bod yn dibynnu ar ffrindiau neu deulu i wneud eich siopa, tynnu arian parod allan i chi neu dalu eich biliau, yna gallai cyfrif Cerdyn Gofalwr fod yn ddefnyddiol i chi.

Sefydlu atwrneiaeth gyffredin

Mae atwrneiaeth yn drefniant cyfreithiol sy'n rhoi pŵer i rywun arall wneud penderfyniadau ar eich rhan.

Mae rhai atwrneiaethau wedi'u cynllunio i bara am gyfnod amhenodol.

Ond gallwch sefydlu trefniant o’r enw ‘atwrneiaeth gyffredin’.

Dyluniwyd hwn i'w ddefnyddio – yn aml am gyfnod penodol, byr neu ar gyfer tasg benodol pan fyddwch yn gallu gwneud eich penderfyniadau eich hun ond mae'n gyfleus gofyn i rywun arall gymryd yr awenau.

Gall atwrneiaeth gyffredin fod yn ddefnyddiol os:

  • byddwch i ffwrdd ar wyliau neu yn yr ysbyty am gyfnod, neu
  • ydych yn gallu gwneud eich penderfyniadau eich hun ond eisiau i rywun arall allu camu i mewn â chymorth o bryd i'w gilydd.

Gall atwrneiaeth gyffredin gwmpasu:

  • eich holl faterion ariannol – a elwir yn ‘bŵer cyffredinol’, neu
  • ddim ond rhai meysydd rydych yn eu nodi, fel delio â'r swyddfa dreth neu werthu tŷ.

Gallwch ganslo'r trefniant ar unrhyw adeg. Mae atwrneiaeth gyffredin yn annilys yn awtomatig os byddwch yn colli'r gallu i wneud eich penderfyniadau eich hun.

Os ydych eisiau atwrneiaeth a fydd yn parhau hyd yn oed os byddwch yn colli'r gallu i wneud eich penderfyniadau eich hun, bydd angen i chi wneud atwrneiaeth barhaol (a elwir yn ‘continuing power of attorney’ yn yr Alban ac ‘enduring power of attorney’ yng Ngogledd Iwerddon).

I sefydlu atwrneiaeth gyffredin, gallwch gysylltu â chyfreithiwr.

Ond cyn i chi wario unrhyw arian, gwiriwch y bydd eich banc ac unrhyw ddarparwyr eraill yn cydnabod yr atwrneiaeth ac yn derbyn cyfarwyddiadau eich atwrnai.

Efallai y bydd swyddfa Cyngor ar Bopeth hefyd yn gallu helpu.

Cynllunio Ymlaen Llaw – talu am ofal

Mae'n bwysig cynllunio o flaen llaw. Er enghraifft, efallai y byddwch eisiau neu angen cymorth gofal rywbryd – boed gartref neu mewn cartref gofal. Darganfyddwch am y gefnogaeth am ddim sydd ar gael yn ein canllaw Sut i ariannu eich gofal tymor hir: canllaw i ddechreuwr

Os yw ffrind neu aelod o'r teulu eisoes yn rhoi cymorth gofal i chi, mae'n bosib y bydd hawl ganddynt i wneud cais am fudd-daliadau ychwanegol.

Pan na fyddwch yn gallu gwneud penderfyniadau yn y dyfodol

Os ydych yn gwybod eich bod yn mynd i'w chael yn anodd gwneud penderfyniadau yn y dyfodol, gallwch sefydlu atwrneiaeth barhaol, a elwir yn bwer atwrniaeth barhaol yn Yr Alban.

Bydd hyn yn caniatáu i rywun rydych yn ymddiried ynddynt wneud penderfyniadau ariannol ar eich rhan yn y tymor hir.

Gall hyn fod yn wir, er enghraifft, oherwydd cyflwr meddygol blaengar.

Amddiffyn eich hun rhag cam-drin ariannol

Mae gan bawb yr hawl i annibyniaeth ariannol. Gall cam-drin ariannol gan aelod o’r teulu, ffrind, partner neu ofalwr fod pan fydd rhywun:

  • yn cymryd arian neu'n cael credyd yn eich enw heb yn wybod i chi na'ch caniatâd
  • gwneud i chi drosglwyddo rheolaeth dros eich cyfrifon
  • cyfnewid eich pensiwn neu sieciau eraill heb eich caniatâd
  • yn ychwanegu eu henw at eich cyfrif
  • yn gofyn i chi newid eich ewyllys
  • wedi cynnig prynu siopa neu dalu biliau gyda'ch arian, ond nid ydych yn gweld hyn yn digwydd
  • yn eich atal rhag gweld ffrindiau a theulu eraill.

Mae cymryd y camau cyntaf i dorri’n rhydd o gam-drin ariannol yn anhygoel o ddewr. Gall ymddangos yn frawychus, ond nid oes rhaid i chi ei wneud ar eich pen eich hun.

Mae yna ffyrdd y gall eich banc, cymdeithas adeiladu, benthyciwr neu ddarparwr gwasanaethau ariannol arall eich helpu. Mae’n bwysig siarad â rhywun.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.