Cyllid i addasu’ch cartref i’w wneud yn hygyrch

Os oes angen i chi wneud eich cartref yn fwy hygyrch, neu os ydych angen cyfarpar arbenigol i’ch helpu i ymdopi â thasgau rheolaidd yn fwy diogel a rhwydd, yna efallai fod gennych yr hawl i dderbyn cymorth ariannol. 

Cael asesiad o anghenion gofal

Mae gennych yr hawl i gael asesiad gan eich awdurdod lleol os ydych angen cymorth gyda bywyd dyddiol oherwydd eich bod yn

  • hŷn
  • anabl, neu
  • mae gennych gyflwr iechyd hirdymor.

Os nad ydych wedi’i wneud eisoes, cysylltwch â’ch adran gwasanaethau cymdeithasol lleol i drefnu asesiad o’ch anghenion.

Yng Nghymru a Lloegr, darganfyddwch eich cyngor lleol ar wefan GOV.UK

Yn yr Alban, darganfyddwch eich cyngor lleol ar wefan mygov.scot

Yng Ngogledd Iwerddon, cynhelir asesiadau gan eich ymddiriedolaeth leol. Gallwch ddod o hyd i’ch ymddiriedolaeth agosaf ar wefan nidirect

Addasiadau mawr neu fach

Mae’r cymorth ariannol sydd ar gael yn dibynnu ar a yw’r addasiadau mae angen i chi eu gwneud i’ch cartref yn rhai mân neu fawr.

  • Mae enghreifftiau o fân addasiadau yn cynnwys gosod tapiau lifer yn y gegin, neu reiliau llaw o gwmpas y cartref.
  • Mae enghreifftiau o addasiadau mawr yn cynnwys, er enghraifft, gosod ystafell gawod ar y llawr gwaelod, lledu drysau, neu wneud arwynebau gwaith yn eich cegin yn is.

Mân addasiadau a chyfarpar - pa help sydd ar gael?

Os ydych yn byw yn Lloegr

Fel arfer bydd eich awdurdod lleol yn darparu cyfarpar a mân addasiadau sy’n costio’n llai na £1,000 i chi am ddim. Mae hyn cyhyd â’ch bod wedi’ch asesu fel rhywun sydd ei angen a’ch bod yn gymwys.

Os ydych yn byw yng Nghymru

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu tuag at gyfarpar a mân addasiadau. Ond mae’n rhaid i’r swm y gofynnir i chi ei dalu fod yn rhesymol ac yn seiliedig ar eich amgylchiadau ariannol.

Os ydych yn byw yn yr Alban

Fel arfer bydd eich cyngor lleol yn darparu cyfarpar neu addasiadau angenrheidiol sy’n costio’n llai na £1,500 i chi am ddim.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon

Bydd eich ymddiriedolaeth leol yn penderfynu a fyddant yn ariannu’r cyfarpar neu fân addasiad neu a fydd yn rhaid ichi dalu amdano’ch hunan.

 

Ariannu addasiadau mawr – Grant Cyfleusterau i’r Anabl

Ar gyfer addasiadau mwy i wneud eich cartref yn hygyrch, fel arfer bydd yn rhaid i chi wneud cais am Grant Cyfleusterau i’r Anabl.

Telir y rhain gan eich awdurdod lleol - neu’r ‘Local Housing Executive’ os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.

Ydych chi’n gymwys i gael Grant Cyfleusterau i’r Anabl?

Gallwch wneud cais i gael Grant Cyfleusterau i’r Anabl os yw’ch awdurdod lleol yn fodlon bod angen y gwaith rydych yn trefnu ei wneud ac os yw’n briodol ar gyfer eich anghenion.

Fel arfer mae hyn yn golygu cael asesiad gan therapydd galwedigaethol.

Mae’r grantiau’n ddibynnol ar brawf modd - oni bai eich bod yn gwneud cais ar ran plentyn anabl dan 17 oed. Felly bydd yr awdurdod lleol yn ystyried unrhyw incwm a chynilion sydd gennych chi a’ch partner.

 

Faint allwch chi ei gael?

Mae’r uchafswm y gallwch ei gael ar gyfer Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn dibynnu ymhle yn y DU rydych yn byw.

Uchafswm y Grant Cyfleusterau i’r Anabl sy’n daladwy

Lloegr

£30,000

Cymru

£36,000

Yr Alban

Nid yw’r grant yma ar gael. Darganfyddwch fwy ar Disability Rights UK

Gogledd Iwerddon

£25,000

 

Sut i wneud cais am Grant Cyfleusterau i’r Anabl

Darganfyddwch sut i wneud cais am Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl ar y wefan GOV.UK

Yng Ngogledd Iwerddon , darganfyddwch fwy Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl ar wefan nidirect

Help gan eich Asiantaeth Gwella Cartrefi leol

Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau o ran cael cyllid, cynllunio’r gwaith a chyflogi crefftwyr - gall Asiantaethau Gwella Cartrefi leddfu llawer o’r gofid.

Gallant helpu mewn llawer o ffyrdd gan gynnwys:

  • cael dyfynbrisiau
  • trefnu cynlluniau ar gyfer y gwaith
  • ymweld â’ch cartref a darparu cyngor
  • gwirio pa gymorth ariannol y gallech fod yn gymwys i’w gael.

Maent hefyd yn cyhoeddi rhestr o fasnachwyr dibynadwy ar eu gwefan.

Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i ddod o hyd i’ch Asiantaeth Gwella Cartrefi leol, ewch i wefan Foundations

Grantiau yng Ngogledd Iwerddon

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, mae nifer o grantiau ar gael i wella neu addasu’ch cartref.

Am fanylion o’r cyllid sydd ar gael gweler gwefan yr Housing Executive

Cymorth gan elusennau

Os na allwch sicrhau cyllid yn rhywle arall, mae’n syndod faint o elusennau a all eich helpu.

Er enghraifft am gymorth gyda gwaith adeiladu a chyfarpar i bobl anabl, ewch i wefan Edward Gostling Foundation.

Gwiriwch wefan Turn2Us - gwasanaeth am ddim sy’n helpu pobl i gael mynediad i fudd-daliadau lles, grantiau a chymorth arall.

Peidiwch ag anghofio hawlio rhyddhad TAW

Os ydych yn anabl, gallai unrhyw waith adeiladu a wnewch i addasu’ch cartref fod â chyfradd o ddim ar gyfer TAW.

Darganfyddwch fwy am eithriadau TAW ar waith adeiladu ar wefan GOV.UK

Gostyngiad Treth Cyngor

Os yw’r addasiadau rydych yn trefnu eu gwneud i’ch cartref yn gwthio’ch eiddo i fand Treth Cyngor uwch, efallai y bydd gennych hawl i dderbyn gostyngiad ar eich Treth Gyngor.

Gelwir hyn yn ‘Cynllun Gostyngiad Band i’r Anabl’.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.