Cyn i chi ddychwelyd i'r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth, mae'n bwysig gwybod eich hawliau am eich swydd, tâl, gwyliau a gweithio'n hyblyg.
Pryd i ddweud wrth eich cyflogwr
Mae rhaid i chi roi wyth wythnos o rybudd i’ch cyflogwr os ydych yn dymuno dychwelyd i’r gwaith yn gynharach neu’n hwyrach na’r dyddiad rydych wedi cytuno arno.
Yr un swydd, yr un telerau ac amodau
Mae’n hawdd tybio y bydd popeth yn ôl fel yr oedd pan fyddwch yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl lwfans mamolaeth.
Ond mae chwe mis neu flwyddyn yn amser hir, ac mae’n bosibl bod newidiadau mawr wedi digwydd yn y gwaith - heb sôn am y newidiadau anferth yn eich bywyd eich hun.
Felly, mae’n bwysig gwybod beth yw’ch sefyllfa.
Yn gyffredinol, mae gennych hawl i ddychwelyd i’r un swydd ar yr un telerau ac amodau ar ôl absenoldeb mamolaeth.
Ond weithiau ni fydd yn ymarferol i fynd yn ôl i union yr un swydd - er enghraifft, os oedd eich rôl yn cynnwys gweithio shifftiau nos ac nad ydych yn gallu eu gwneud mwyach.
Os yw hyn yn wir, mae hawl gennych gael cynnig swydd debyg ar delerau ac amodau sydd o leiaf gystal â’ch rôl flaenorol.
Os yw’ch rôl wedi cael ei dileu, dylech gael cynnig swydd arall addas.
Os nad oes un, efallai y bydd gennych hawl i dâl diswyddo.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Tâl dileu swydd
Cyflog ac amodau
Mae gennych hawl i gael unrhyw godiadau cyflog neu welliannau o ran telerau ac amodau eich swydd a ddigwyddodd yn ystod eich cyfnod o absenoldeb.
Gwyliau
Mae’ch hawl i wyliau’n cynyddu tra rydych ar absenoldeb mamolaeth yn yr un modd ag y byddai pe byddech wedi bod yn y gwaith.
Felly os nad ydych wedi ychwanegu hyn at eich absenoldeb mamolaeth, yn aml mae gennych hawl i gymryd yr hyn sydd ar ôl. Ond holwch eich cyflogwr yn gyntaf.
Gweithio hyblyg
Efallai yr hoffech ystyried gofyn am drefniant gweithio hyblyg i wella’ch cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Bydd hyn yn cynnwys:
- rhannu swydd
- gweithio o gartref
- oriau cyfnodol
- gwaith rhan amser.
Ond cofiwch, dim ond yr hawl i ofyn am weithio hyblyg sydd gennych – nid yr hawl i’w gael.
Os yw’ch cyflogwr yn cytuno, cofiwch y bydd fel arfer yn cymryd tua 14 wythnos o’ch cais am weithio hyblyg i weithredu’r trefniant newydd.
Darganfyddwch fwy am weithio’n hyblyg ar wefan GOV.UK
Absenoldeb a thâl gofal newyddenedigol
Os ydych chi’n rhiant sy’n gweithio a bod angen gofal newyddenedigol ar eich babi ar ôl ei eni, efallai y gallwch gael absenoldeb â thâl ychwanegol, ar ben unrhyw absenoldeb arall y mae gennych hawl iddo eisoes, fel absenoldeb mamolaeth neu dadolaeth. Dim ond yng Nghymru, Lloegr a'r Alban y mae Absenoldeb Gofal Newyddenedigol ar gael.
I fod yn gymwys ar gyfer Absenoldeb Gofal Newyddenedigol, mae angen i chi fodloni'r gofynion hyn:
- Rhaid i chi fod yn gyflogai.
- Rhaid i'ch babi gael ei eni ar 6 Ebrill 2025 neu ar ôl y dyddiad hwn.
- Ar adeg geni eich babi, rhaid i chi fod yn un o'r canlynol: rhiant y babi, darpar riant (yn achos benthyg croth), neu bartner mam y babi. Mae'n rhaid i chi hefyd fod â chyfrifoldeb neu ddisgwyl bod yn gyfrifol am fagu'r plentyn. Mae rheolau tebyg yn berthnasol os ydych yn mabwysiadu.
- Rhaid i'ch babi gael ei dderbyn i ofal newyddenedigol o fewn 28 diwrnod i'w eni a rhaid iddo aros mewn gofal newyddenedigol am o leiaf saith diwrnod parhaus. Mae'r cyfnod hwn o saith diwrnod yn dechrau'r diwrnod ar ôl i'ch babi gael gofal newyddenedigol am y tro cyntaf.
- Rhaid defnyddio Absenoldeb Gofal Newyddenedigol i ofalu am eich babi.
- Rhaid cymryd y gwyliau mewn blociau o wythnos
Darganfyddwch fwy am absenoldeb a thâl newyddenedigol ar Working FamiliesYn agor mewn ffenestr newydd
Absenoldeb rhiant
Oeddech chi’n gwybod?
Nid yw absenoldeb rhiant yr un peth â'ch hawl i gymryd amser i ffwrdd di-dâl i ymdopi ag argyfwng. Gallwch gymryd absenoldeb di-dâl am argyfwng - er enghraifft, os bydd eich plentyn yn mynd yn sâl - waeth pa mor hir rydych wedi bod gyda'ch cyflogai.
A ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr am fwy na blwyddyn? Yna mae gennych yr hawl i gymryd hyd at 18 wythnos o absenoldeb rhiant di-dâl ar gyfer pob plentyn - hyd at ei ben-blwydd yn 18 oed yn y rhan fwyaf o achosion.
Efallai y byddwch yn cymryd absenoldeb rhiant i:
- edrych ar ysgolion newydd
- treulio mwy o amser gyda'ch plentyn
- treulio mwy o amser gyda theulu sy'n ymweld
- setlo plant i drefniadau gofal plant newydd.
Nid oes yn rhaid cymryd absenoldeb rhiant i gyd gyda’i gilydd - ond mae’n rhaid ei gymryd fesul wythnos o hyd (oni bai fod gan eich plentyn anabledd).
Y mwyaf y gall pob rhiant gymryd pob blwyddyn yw pedair wythnos ar gyfer pob plentyn, oni bai bod eich cyflogwr wedi cytuno fel arall.
Darganfyddwch fwy am absenoldeb rhiant ar wefan GOV.UK
Cadw mewn cysylltiad
Mae gan eich cyflogwr hawl i gysylltu'n rhesymol â chi yn ystod eich absenoldeb mamolaeth - er enghraifft, i ddweud wrthych am:
- swyddi gwag
- newidiadau yn y gwaith, neu
- cyfleoedd ar gyfer dyrchafiad neu swyddi gwag.
Gallwch hefyd weithio hyd at ddeg diwrnod yn ystod eich absenoldeb mamolaeth heb golli tâl mamolaeth neu fudd-daliadau, neu dod â'ch absenoldeb i ben.
Gelwir y rhain yn ddyddiau ‘cadw mewn cysylltiad’ a dim ond os ydych chi a'ch cyflogwr yn cytuno y gellir eu gweithio.
Os ydych chi’n meddwl nad yw’ch cyflogwr yn bod yn deg
Os nad ydych yn credu bod eich cyflogwr yn eich trin yn gywir neu'n cydnabod eich hawliau pan ewch yn ôl i'r gwaith, mae rhai pethau y gallwch eu gwneud.
- Darganfyddwch ai gwahaniaethu yw'r hyn sy'n digwydd. Darllenwch fwy am wahaniaethu ar wefan Cyngor ar Bopeth Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â'r ECNI am gyngorYn agor mewn ffenestr newydd
- Siaradwch â'ch cyflogwr - yr adran Adnoddau Dynol efallai. Efallai y gallwch ddatrys y mater yn anffurfiol. Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau, ceisiwch siarad â'ch undeb llafur neu gynrychiolydd gweithwyr os oes gennych un. Neu efallai y bydd Acas yn gallu helpu - darganfyddwch fwy ar y wefan Acas
- Os na allwch ddatrys y mater, gallwch wneud cwyn ysgrifenedig. Darganfyddwch fwy ar y wefan.
Gall y gwefannau hyn gynnig mwy o help a chyngor i chi: