Os oes gennych broblem gyda’ch darparwr banc neu gynilion, gofynnwch iddynt unioni pethau. Os ydych dal yn anhapus, gallwch gwyno. Dyma sut i ddatrys problemau cyffredin.
Ar gyfer y mwyafrif o broblemau, siaradwch â’ch banc yn gyntaf
Os oes gennych broblem, fel derbyn gwasanaeth cwsmeriaid gwael neu gael tâl annheg, rhowch gyfle i’ch banc drwsio pethau.
Dyma sut:
- gofynnwch i wasanaethau cwsmeriaid eich banc unioni pethau – os na allwch gytuno ar benderfyniad, yna
- gwnewch gwyn ffurfiol – mae ganddynt wyth wythnos i ymchwilio a rhoi ymateb terfynol. Os nad ydych yn cytuno o hyd, neu os yw'r amserlen wedi mynd heibio, gallwch
- mynd â’ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon AriannolYn agor mewn ffenestr newydd am ddim – byddwch yn cael penderfyniad annibynnol ynghylch a oedd ymateb eich banc yn deg neu a oes angen iddynt wneud mwy.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw sut i gwyno.
Cyfrifon banc wedi’i rhewi
Mae’n bosibl y bydd eich banc yn rhewi’ch cyfrif os ydyn nhw’n sylwi ar weithgarwch anarferol a allai fod yn dwyll. Neu, os yw telerau ac amodau wedi'u torri, fel peidio â defnyddio'r cyfrif am amser hir.
Fel arfer, byddwch yn cael gwybod bod hyn wedi digwydd, gyda ffordd uniongyrchol o gysylltu â’ch banc – fel ateb neges destun neu hysbysiad ap i gymeradwyo neu wrthod taliad.
Os ydych yn poeni y gallai’r negeseuon hyn fod yn sgam, cysylltwch â’ch banc mewn ffordd wahanol – gallwch siarad â’r rhan fwyaf o fanciau drwy ddeialu 159.
Yna gallwch ofyn i wasanaethau cwsmeriaid eich banc i gael eich cyfrif ar waith eto. Os ydych dal yn anhapus, gallwch wneud cwyn ffurfiol.
Gweler help cam wrth gam yn ein canllaw sut i gwyno.
Anghydfodau cyfrif ar y cyd
Gall unrhyw gyd-ddeiliad cyfrif ofyn i rewi'r cyfrif. Mae hyn yn golygu na all neb gael mynediad iddo.
Dim ond pan fydd pawb yn cytuno sut i rannu'r arian y bydd y cyfrif yn cael ei ddatgloi. Os na allwch chi gytuno, efallai y bydd yn rhaid i chi adael i’r llysoedd benderfynu pwy sy’n cael beth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Trefnu eich arian gyda chyn bartner.
Cyfrifon banc, pensiynau a Bondiau Premiwm coll
Cyfrif coll yw lle:
- mae'r banc yn colli cysylltiad â chi
- nad ydych yn ei ddefnyddio mwyach, fel arfer heb unrhyw weithgaredd am dair blynedd neu fwy.
Os bydd hyn yn digwydd, caiff y cyfrif ei farcio'n anactif neu'n segur a gallai gael ei gau. Byddwch dal yn berchen ar unrhyw arian sydd yn y cyfrif, ond fel arfer bydd angen i chi wneud cais i’w gael yn ôl.
Defnyddiwch wasanaeth olrhain cyfrifon am ddim
Os ydych chi'n gwybod ble roedd y cyfrif yn cael ei gadw, cysylltwch â'r banc neu'r darparwr yn uniongyrchol. Os na, mae yna wasanaethau am ddim y gallwch eu defnyddio.
Mae'r rhain yn defnyddio'ch manylion i olrhain unrhyw gyfrifon coll ar eich rhan. Os deuir o hyd i gyfrif, fel arfer bydd angen ID arnoch i adennill yr arian ac unrhyw log sy’n ddyledus.
Bondiau Premiwm, cyfrifon banc a chynilo yn y DU
Gwnewch gais ar-lein neu drwy'r post. Gall canlyniadau gymryd hyd at dri mis. |
|
Gwnewch gais ar-lein. Mae'r canlyniadau fel arfer yn syth. Mae Gretel yn ychwanegu mwy o gwmnïau felly bydd yn ailadrodd y chwiliad bob pythefnos. |
|
Yn lleoli Tystysgrifau Cynilion Ulster a gollwyd. |
Os dewch o hyd i Fond Premiwm coll, defnyddiwch wiriwr gwobrau NS&IYn agor mewn ffenestr newydd i weld a oes gennych unrhyw enillion heb eu hawlio.
Pensiynau gweithle neu breifat coll
Gwnewch gais ar-lein. Mae'r canlyniadau fel arfer yn syth ac yn cael eu diweddaru bob pythefnos. |
|
Gwnewch gais ar-lein. Mae'r canlyniadau fel arfer yn syth ac yn cael eu diweddaru bob pythefnos. |
Buddsoddiadau
Apply online. Results are usually instant and updated every two weeks. |
|
Ar gyfer cronfeydd ymddiriedolaeth buddsoddi. Gwnewch gais ar-lein neu drwy'r post. Gall canlyniadau gymryd hyd at dri mis. |
Os bydd eich banc yn mynd i'r wal
Pe bai’ch banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd yn methu, sy’n annhebygol o ddigwydd, byddai banc arall yn debygol o gymryd drosodd – gyda’ch arian yn cael ei symud drosodd yn awtomatig.
Os na fydd hyn yn digwydd, bydd Cynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (FSCS) yn rhoi eich arian yn ôl yn awtomatig o fewn saith diwrnod. Mae hyn yn cynnwys hyd at £85,000 sydd gennych gyda phob grŵp bancio (£170,000 mewn cyfrif ar y cyd).
Mae gwiriwr amddiffyn FSCS yn dangos a yw eichYn agor mewn ffenestr newydd banc wedi'i ddiogelu.
Os nad ydyw, mae'n debygol o fod yn gyfrif rhithwir wedi'i gwmpasu gan reolau e-arian. Mae hyn yn golygu bod eich arian yn cael ei gadw’n ddiogel mewn banc gwahanol, ond byddai angen i chi wneud hawliad i’r gweinyddwr os bydd eich darparwr yn methu.