Meddwl am ganslo eich debyd uniongyrchol bil ynni i ond talu’r hyn sy’n ddyledus gennych? Darllenwch hwn yn gyntaf
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
26 Awst 2022
Mae yna lawer o banig am brisiau biliau ynni cynyddol, a gyda’r gaeaf yn dod, mae’n amser pryderus iawn i lawer o bobl.
Mae strategaeth arall i ‘Don’t Pay UK’ ar y cyfryngau cymdeithasol
Ar y cyfryngau cymdeithasol yn enwedig, mae yna lawer o gyngor yn cael ei rhoi gan ddylanwadwyr nad ydynt yn deall, neu nad ydynt yn rhannu, goblygiadau llawn canslo eich Debyd Uniongyrchol. Gallai dilyn cyngor gan bobl nad ydynt yn arbenigwyr ar y we (ar unrhyw bwnc!) o bosib eich niweidio os nad oes gennych y ffeithiau llawn.
Maent yn awgrymu, yn hytrach na gwrthod talu’n llwyr (fel y mae ymgyrch ‘Don’t Pay UK’ yn awgrymu), eich bod yn canslo eich debyd uniongyrchol yn lle hynny, nodi’r manylion bancio a’r rhif cyfeirnod a sefydlu archeb sefydlog ar gyfer yr ynni rydych yn ei ddefnyddio.
Ydy hyn yn syniad da?
Dim ond talu am yr ynni rydych yn ei ddefnyddio sy’n ymddangos fel y peth rhesymegol i’w wneud. Ond mewn gwirionedd, mae gan dalu trwy ddebyd uniongyrchol lawer o fanteision a fydd yn ei wneud yn rhatach ac yn fwy fforddiadwy i chi dalu yn y tymor hir.
Mae debydau uniongyrchol yn gwneud eich bil yn rhatach
Mae llawer o ddarparwyr ynni’n cynnig gostyngiadau bach os ydych yn talu drwy ddebyd uniongyrcholYn agor mewn ffenestr newydd y gallech eu colli os byddwch yn canslo ac yn talu gyda cherdyn credyd neu ddebyd pan ddaw eich bil.
Mae cael debyd uniongyrchol hefyd yn ei gwneud hi’n haws i gwmnïau ynni ad-dalu unrhyw ordaliadau a wneir - gan y bydd ganddynt fanylion eich cyfrif banc ar eu systemau.
Yna rydych yn defnyddio’r credyd hwn i leihau taliadau yn y dyfodol neu dalu costau yn ystod misoedd oerach pan fydd angen i chi ddefnyddio mwy o ynni.
Rydym hefyd wedi gweld pobl sydd eisoes wedi canslo eu debyd uniongyrchol yn gorfod talu ffi weinyddol o £4 bob mis am yr anghyfleustra o beidio â thalu fel hyn.
Mae’n gwneud eich biliau’n fwy fforddiadwy
Efallai eich bod yn meddwl eich bod chi prin wedi defnyddio unrhyw ynni yn ystod yr haf hyfryd hwn rydyn ni wedi’i gael, felly pam ydych chi’n talu’r un swm ag y byddech chi’n ei dalu ym mis Rhagfyr?
Mae yna lawer o ddryswch ynglŷn â sut mae talu gyda debyd uniongyrchol yn gweithio - mae’n fyth cyffredin bod cwmnïau ynni’n dyfalu faint y byddwch chi’n ei ddefnyddio, ond maent ond yn amcangyfrif os nad ydynt wedi derbyn darlleniad mesurydd gennych (felly gwnewch yn siŵr eich bod yn parhau i’w hanfon drwodd!) . A phan maent yn ‘dyfalu’, maent yn ystyried pethau fel:
- faint o ynni rydych wedi’i ddefnyddio y llynedd
- faint o bobl sy’n byw yn eich cartref
- pa mor dda y mae eich cartref wedi’i inswleiddio
- pa amser o’r flwyddyn yw hi.
Y syniad o dalu trwy ddebyd uniongyrchol yw eich bod yn talu’r un faint o arian ar gyfer eich ynni drwy’r flwyddyn. Mae hyn yn golygu eich bod chi’n talu mwy na’r hyn rydych yn ei ddefnyddio yn yr haf, ac yna’n talu llai yn y gaeaf gan eich bod wedi cronni balans.
Bydd y swm y byddwch yn ei dalu yn cael ei amcangyfrif gan eich cyflenwr ac yna’n cael ei rannu â 12 i weithio allan eich tâl misol. Mae hyn yn golygu y gallech naill ai bod yn dan-dalu neu’n gordalu a byddwch naill ai’n cronni dyled neu gredyd.
Os byddech yn canslo a dim ond yn talu’r hyn rydych yn ei ddefnyddio bob mis oherwydd eich bod yn cael trafferthion, mae’n debyg y byddwch yn talu llai yn yr haf, ond yn mynd i wynebu her go iawn gyda biliau’r gaeaf oni bai eich bod chi'n cyllidebu ar eu cyfer eich hun.
A yw’n syniad da i ganslo fy nebyd uniongyrchol ac yna cwyno i’r Ombwdsmon Ynni am fod fy mil i mor uchel?
Tacteg arall sydd ar y cyfryngau cymdeithasol yw canslo eich debyd uniongyrchol ac yna gwneud cwyn am swm eich bil i’ch Ombwdsman Ynni oherwydd ni allant eich gorfodi i dalu tra bod y gwyn ar y gweill ac ni fydd yn niweidio’ch sgôr credyd - er efallai nad yw hyn bob amser yn wir.
Os oes gennych gwyn dilys - dylech gwyno. Fodd bynnag, mae’n annhebygol y bydd cael bil sy’n rhy uchel yn cael ei gadarnhau gan yr Ombwdsmon Ynni a bydd yn rhaid i chi dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych o hyd.
Ond beth os nad ydw i’n gallu fforddio talu?
Mae’n gwbl hanfodol eich bod yn cysylltu â’ch cyflenwr yn syth pan rydych yn dechrau cael trafferthion talu a thrafod cynllun talu er mwyn gwneud pethau’n haws.
Mae cwmnïau ynni hefyd yn cynnig amrywiaeth o grantiau i helpu pobl i dalu eu dyledion.
Gallwn eich helpu i benderfynu’r hyn rydych yn mynd i’w ddweud wrthynt, eich cynorthwyo i ddod o hyd i ba opsiynau y gallent eu cynnig i chi, yn ogystal â dweud wrthych beth i’w wneud os nad ydych yn hoffi’r canlyniad.
Os ydych yn poeni, y peth gwaethaf allwch ei wneud i’ch waled a’ch iechyd meddwl yw aros nes bod y sefyllfa’n wael iawn. Gweithredwch nawr, ac ewch i’n tudalen Rheoli eich arian mewn cyfnod ansicr, a fydd yn mynd â chi gam wrth gam drwy’r hyn y mae angen i chi fod yn ei wneud i wella eich sefyllfa.
Efallai bod rhai pobl yn ystyried ymuno ag ymgyrch ‘Don’t Pay UK’. Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau, mae angen i chi ddarllen y blog hwn a deall y peryglon o ganslo'ch debyd uniongyrchol, a allai effeithio ar eich sgôr credyd a'ch rhoi mewn dyled.
Mae llawer o elusennau ac arbenigwyr arian wedi ysgrifennu erthyglau ac wedi bod ar y teledu i rybuddio pobl am ba mor niweidiol y gallai ymgyrch ‘Don't Pay UK’ fod i rai pobl. Nid yw'n opsiwn da yn enwedig os mai eich pryder mwyaf yw peidio â gallu talu eich biliau.